Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae data gwrthgyrff ar gyfer Cymru ymhellach yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos mewn datganiad gwahanol.

Mae Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19)  yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth gymunedol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd COVID-19

Ar gyfer yr wythnos 27 Mawrth i 2 Ebrill 2022 amcangyfrifir bod gan 7.59% o'r boblogaeth gymunedol COVID-19 (cyfwng credadwy o 95%: 6.87% to 8.33%).

Mae hyn yn gyfwerth i tua 1 o bob 13 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 o bob 15 i 1 o bob 12), neu amcangyfrif o 230,800 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 208,900 i 253,100). Dyma’r amcangyfrifon uchaf a gofnodwyd ar gyfer Cymru o’r Arolwg Heintiau COVID-19.

Mae canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi parhau i gynyddu dros yr wythnos ddiweddaraf.

Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, dylid bod yn ofalus wrth orddehongli unrhyw symudiadau bach yn y duedd ddiweddaraf.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dosbarthiad o achosion positif ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Sylwer bod yr oediad yn fwy mewn data o'r arolwg heintiadau nag o ffynonellau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 20 Chwefror i 2 Ebrill 2022. Mae'r tuedd wedi cynyddu yng Nghymru yn yr wythnos ddiweddaraf.

Mae heintiadau sy'n gydweddu â'r amrywiolyn Omicron (ac is-amrywiolion Omicron) yw’r rhai mwyaf cyffredin ar draws pedair gwlad y DU. Mae achosion sy’n gydweddu ag amrywiolyn Omicron BA.2 wedi cynyddu yn yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru ac yn aros yn uchel yn Lloegr. Mae’r tuedd yn ansicr yn yr wythnos diweddaraf yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae achosion sy’n gydweddu ag amrywiolyn Omicron BA.1 wedi gostwng yn Lloegr ac yn yr Alban yn yr wythnos diweddaraf, ond wedi dangos mynegiad gynnar o gynnydd yng Nghymru ac mae’r tuedd yn ansicr yng Nghogledd Iwerddon. Mae achosion hefyd lle mae'r feirws yn rhy isel i'r amrywiolyn fod yn adnabyddadwy ac mae’r rheiny yn debygol o fod oherwydd bod unigolion wedi cael y feirws am gyfnod hwy.

Image
Siart yn dangos amcangyfrifon o ganran yr achosion bositif sy’n gydweddu â'r amrywiolyn Omicron BA.1 a BA.2.

Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn ôl blwyddyn unigol o oed ers 20 Chwefror 2022 ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i’w gael yn set ddata'r SYG.

Canran y bobl sy'n profi'n bositif yn ôl rhanbarth

Darperir amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer rhanbarthau yng Nghymru. Darperir amcangyfrifon ar gyfer y saith diwrnod hyd at 2 Ebrill 2022 yn seiliedig ar fodelu'r holl cyfnod saith diwrnod.

Ymddengys bod cyfraddau o achosion positif ar eu huchaf yn y rhanbarth sy'n cwmpasu Pen-y-Bont Ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, er bod gwahaniaethau rhwng y rhanbarthau yn fach. Mae’r rhanbarth sy'n cwmpasu Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys gyda cyfraddau o achosion positif sydd yn is.

Mae angen cymryd gofal wrth gymharu amcangyfrifon rhanbarthol yn erbyn yr amcangyfrif cenedlaethol cyffredinol. Mae'r amcangyfrifon rhanbarthol yn seiliedig ar fodel gwahanol ac ni ddylid eu cymharu â'r amcangyfrif positifedd cenedlaethol. Oherwydd meintiau sampl llai, mae mwy o ansicrwydd mewn amcangyfrifon ar gyfer rhanbarthau unigol, fel y dangosir gan gyfyngau credadwy mwy. Sylwer fod yr amrediadau a ddefnyddir yn y map wedi'u diweddaru yn y datganiad hwn i adlewyrchu'r cyfraddau positifrwydd uchel mewn rhanbarthau.

Image
Ffigur yn dangos yr amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 27 i 2 Ebrill 2022
Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 27 Mawrth i 2 Ebrill 2022.

Amcangyfrifon o ddigwyddedd yng Nghymru

Mae amcangyfrifon ddigwyddedd o achosion PCR-positif wedi'u cynhyrchu ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban ac maen nhw ar gael yn y tablau data ar wefan y SYG.

Mae digwyddedd heintiau newydd (nifer yr heintiau newydd mewn cyfnod penodol o amser) yn ein helpu i ddeall pa mor gyflym y mae heintiau yn cynyddu yn y boblogaeth. Mae hefyd yn cefnogi’r prif fesur o bositifedd (faint o bobl sy’n profi’n bositif unrhyw bryd) i roi dealltwriaeth fwy trylwyr o bandemig y coronafeirws (COVID-19).

I gael rhagor o wybodaeth am y dull newydd o amcangyfrif digwyddedd, gweler yr erthygl dulliau wedi’u diweddaru ar wefan y SYG.

Yng Nghymru, ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2022, amcangyfrifir bod 93.00 o achosion newydd o brofion positif o’r coronafeirws (COVID-19) fesul 10,000 o bobl y dydd (cyfwng credadwy o 95%: 81.71 i 106.11).

Mae hyn yn gyfwerth â 28,300 o achosion positif newydd yng Nghymru y dydd (cyfwng credadwy o 95%: 24,800 to 32,300).

Parhaodd y gyfradd digwyddedd i gynyddu yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2022.

Mae nifer yr achosion positif newydd yng Nghymru bellach ar y lefel uchaf erioed yn dilyn y cwymp ym mis Chwefror. Yn flaenorol, roedd uchafbwynt ddiwedd mis Rhagfyr 2021 yn dilyn cyfnod o gyfradd digwyddedd is trwy’r gwanwyn a dechrau’r haf. Mae cyfyngau credadwy yn eang oherwydd maint llai y sampl, a dylid cymryd gofal wrth ddehongli canlyniadau.

Pan fydd nifer yr achosion yn isel iawn, efallai na fydd yn bosibl i gynhyrchu amcangyfrif dibynadwy.

Darperir amcangyfrifon dangosol gan fynd yn ôl i 28 Hydref 2020.

Image
Mae'r siart yn dangos amcangyfrifon dangosol a swyddogol ar gyfer y gyfradd digwyddedd fesul 10,000 o bobl y dydd yng Nghymru ers 28 Hydref 2020. Cynyddodd y gyfradd digwyddedd o achosion newydd yn gyflym yn yr wythnos hyd at 19 Mawrth 2022.

Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU

Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (27 Mawrth i 2 Ebrill 2022*), roedd canran amcangyfrifedig y boblogaeth gymunedol â COVID-19 ledled y DU, yn amrywio o 6.21% yng Ngogledd Iwerddon i 7.60% yn Lloegr.

Mae canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi parhau i gynyddu yn ystod yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru ac yn aros yn uchel yn Lloegr, gyda gostyngiad yn yr Alban. Mae’r tuedd yn ansicr yng Ngogledd Iwerddon yn yr wythnos ddiweddaraf. Fodd bynnag, mae tueddiadau yn amrywio yn ôl yr amrywiad.

* Yr wythnos gyfeirio ar gyfer yr Alban yw 28 Mawrth i 3 Ebrill 2022.

Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.

Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 20 Chwefror i 2 Ebrill 2022 ar gyfer pedair gwlad y DU.

Mae'r tablau canlynol yn crynhoi cyfraddau positifedd a chyfraddau digwyddedd ledled gwledydd y DU.

Tabl 1: Cyfraddau positifedd profion ar draws gwledydd y DU ar gyfer yr wythnos o 27 Mawrth i 2 April 2022
  Cyfraddau positifedd
(Cyfyngau Credadwy 95%)
Cymru  7.59%
(6.87 i 8.33)
1 o bob 13 o bobl
(1 o bob 15 i 1 o bob 12)
230,800 o bobl
(208,900 i 253,100)
Lloegr 7.60%
(7.40 i 7.79)
1 o bob 13 o bobl
(1 o bob 14 i 1 o bob 13)
4,141,600 o bobl
(4,033,600 i 4,249,500)
Yr Alban* 7.54%
(6.83 i 8.25)
1 o bob 13 o bobl
(1 o bob 15 i 1 o bob 12)
396,800 o bobl
(359,800 i 434,200)
Gogledd Iwerddon 6.21%
(5.29 i 7.17)
1 o bob 16 o bobl
(1 o bob 19 i 1 o bob 14)
113,900 o bobl
(97,100 i 131,500)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

* Yr wythnos gyfeirio ar gyfer yr Alban yw 28 Mawrth i 3 Ebrill 2022.

Tabl 2: Amcangyfrifon swyddogol o gyfraddau digwyddedd ledled gwledydd y DU, 13 i 19 Mawrth 2022
  Digwyddedd
(Cyfyngau Credadwy 95%)
Cymru  93.00 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(81.71 i 106.11)
28,300 o achosion newydd y dydd
(24,800 i 32,300)
Lloegr 100.41 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(96.88 i 103.87)
547,500 o achosion newydd y dydd
(528,200 i 566,400)
Yr Alban 124.90 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(111.77 i 138.31)
65,800 o achosion newydd y dydd
(58,800 i 72,800)
Gogledd Iwerddon 76.56 o achosion i bob 10,000 o bobl y dydd
(62.82 i 92.07)
14,000 o achosion newydd y dydd
(11,500 i 16,900)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Diffiniadau

Achosion sy'n cytûn ag amrywiolion

Achosion y nodwyd eu bod yn cytûn ag amrywiolion hysbys o Covid-19 yn seiliedig ar eu patrymau genetig. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ail-labelu Amrywiolion o Bryder ac Amrywiolion o Ddiddordeb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am nodi amrywiolion yn yr arolwg ar wefan y SYG.

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Digwyddedd

Nifer yr heintiadau newydd dros gyfnod penodol.

Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol

Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data gwaelodol. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.

Amcangyfrifon pwynt

Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw.

Y gyfradd positifedd

Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.

Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth gymunedol.

Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan.

Wrth gymharu Test and Trace (T&T) ac amcangyfrifon o’r Arolwg Heintiau COVID-19 mae'n bwysig i nodi bod T&T yn darparu gwybodaeth am nifer y bobl sydd wedi'u profi yn bositif, tra bod yr amcangyfrifon yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfanswm y bobl sydd ar hyn o bryd wedi'u heintio ar adeg benodol (mynychder). Mae amcangyfrifon o'r arolwg hwn hefyd yn seiliedig ar sampl ar hap o'r boblogaeth, gan gynnwys pobl sy'n anghymesur. Mae unigolion anghymesur yn llai tebygol o fynd am brawf ac felly'n ymddangos yn y data T&T.

Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill 2020. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf 2020 ac yn yr Alban ar 21 Medi 2020.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.

Mae’r SYG yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y SYG.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

14 Ebrill 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sean White
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 111/2022