Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach yn cyhoeddi prif ganlyniadau cynnar am 2yp ar ddydd Mercher. Felly, bydd yr adroddiad hwn yn peidio â chael ei gyhoeddi. Bydd y bwletin rheolaidd ar amcangyfrifon o’r Arolwg Heintiadau Covid-19yn cael ei gyhoeddi'n wythnosol ar ddydd Gwener am hanner dydd.

Cyflwyniad

Yn ystod y cyfnod hwn o heintiadau uchel, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi canlyniadau pennawd cynnar o’r arolwg heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar ddydd Mercher. Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â set ddata gyfyngedig sy'n cynnwys amcangyfrifon o bositifrwydd yn ôl gwlad a dadansoddiad amrywiaeth yn ôl gwlad. Dyma grynodeb o'r amcangyfrifon pennawd ar gyfer Cymru. Nid yw hyn yn disodli datganiad llawn yr arolwg heintiadau a gyhoeddir bob dydd Gwener am 12pm. Mae SYG wedi cynhyrchu datganiad sy’n egluro'r angen am yr amcangyfrifon pennawd ychwanegol.

Heddiw, mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon o nifer y bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer COVID-19 yn yr wythnos yn diweddu 19 Chwefror 2022.

Prif bwyntiau

  • Yng Nghymru, mae canran y bobl sy’n profi’n bositif wedi gostwng dros bythefnos hyd at 19 Chwefror 2022, ond roedd y duedd yn ansicr yn ystod yr wythnos ddiweddaraf. Amcangyfrifir bod gan 98,200 o bobl yng Nghymru COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 83,100 i 114,900), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 30 o bobl (cyfwng credadwy 95%: 1 o bob 35 i 1 o bob 25).
  • Mae heintiau COVID-19 sy'n gydweddu â'r Omicron yn parhau i fod yr amrywiad mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Mae canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiweddaraf yn Lloegr. Yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon, mae canran y bobl sy’n profi’n bositif wedi gostwng dros bythefnos hyd at 19 Chwefror 2022, ond roedd y duedd yn ansicr yn ystod yr wythnos ddiweddaraf. Yn yr Alban, mae canran y bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 wedi cynyddu yn yr wythnos yn diweddu 20 Chwefror 2022.

Cymhariaeth y DU

  • Yn Lloegr, mae canran y bobl sy’n profi’n bositif wedi gostwng yn yr wythnos yn diweddu 19 Chwefror 2022. Amcangyfrifir bod gan 2,096,200 o bobl yn Lloegr COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 2,015,100 i 2,175,600), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 25 o bobl (cyfwng credadwy 95%: 1 o bob 25 i 1 o bob 25).
  • Yng Ngogledd Iwerddon, gostwngodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn y pythefnos yn diweddu 19 Chwefror 2022, ond roedd y duedd yn ansicr yn yr wythnos ddiweddaraf. Amcangyfrifir bod gan 132,700 o bobl yng Ngogledd Iwerddon COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 115,900 i 150,900), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 14 o bobl (cyfwng credadwy 95%: 1 o bob 16 i 1 o bob 12).
  • Yn yr Alban, mae canran y bobl sy’n profi’n bositif wedi cynyddu yn yr wythnos yn diweddu 20 Chwefror 2022. Amcangyfrifir bod gan 240,700 o bobl yn yr Alban COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 215,100 to 269,400), sy'n cyfwerth i oddeutu 1 o bob 20 o bobl (cyfwng credadwy 95%: 1 o bob 25 i 1 o bob 20).
Image
Mae'r siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 9 Ionawr i 19 Chwefror 2022 ar gyfer pedair gwlad y DU.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl ganlyniadau yn rhai dros dro ac fallai bydd yn cael eu adolygu.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiau sy'n digwydd mewn cartrefi preifat, ac nid ydynt yn cynnwys heintiau a adroddir mewn ysbytai, cartrefi gofal a / neu sefydliadau cymunedol eraill.

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Nodwyd bod achosion yn cyfweld ag amrywiolion hysbys o Covid-19 yn seiliedig ar eu patrymau genetig. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ail-labelu Amrywiolion o Bryder ac Amrywiolion o Ddiddordeb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am nodi amrywiolion yn yr arolwg ar wefan y SYG

Mae'r rhan fwyaf o heintiau'n gydweddu â'r amrywiolyn Omicron BA.1, felly rydym yn cyflwyno cyfanswm yr heintiau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ni fydd SYG bellach yn cyhoeddi prif ganlyniadau cynnar am 2yp ar ddydd Mercher. Bydd y bwletin rheolaidd ar amcangyfrifon o’r Arolwg Heintiadau COVID-19 yn cael ei gyhoeddi'n wythnosol ar ddydd Gwener am hanner dydd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sean White
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 64/2022