Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn ystod y cyfnod hwn o heintiadau uchel, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi canlyniadau pennawd cynnar o’r arolwg heintiadau Coronafeirws (COVID-19) am 2pm ar ddydd Mercher. Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â set ddata gyfyngedig sy'n cynnwys amcangyfrifon o bositifrwydd yn ôl gwlad a dadansoddiad amrywiaeth yn ôl gwlad. Dyma grynodeb o'r amcangyfrifon pennawd ar gyfer Cymru. Nid yw hyn yn disodli datganiad llawn yr arolwg heintiadau a gyhoeddir bob dydd Gwener am 12pm. Mae SYG wedi cynhyrchu datganiad sy’n egluro'r angen am yr amcangyfrifon pennawd ychwanegol.

Heddiw, mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon o nifer y bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer COVID-19 yn ystod yr wythnos 25 i 31 Rhagfyr 2021

Prif bwyntiau

  • Yng Nghymru, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 i gynyddu; amcangyfrifir bod gan 157,900 o bobl yng Nghymru COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 138,900 i 179,600), sy'n cyfateb i oddeutu 1 o bob 20 o bobl.
  • Parhaodd heintiau COVID-19 sy'n gydweddu â'r amrywiad Omicron i gynyddu'n gyflym ledled Cymru, ac mae Omicron bellach yw'r amrywiad mwyaf cyffredin o COVID-19 yng Nghymru.

Mae nifer y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 wedi parhau i gynyddu ar draws wledydd y DU yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.

Cymhariaeth y DU

  • Yn Lloegr, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 i gynyddu; amcangyfrifir bod gan 3,270,800 o bobl yn Lloegr COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 3,163,500 i 3,377,500), sy'n cywerth i oddeutu 1 o bob 15 o bobl.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 i gynyddu; amcangyfrifir bod gan 72,900 o bobl yng Ngogledd Iwerddon COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 56,800 i 90,100), sy'n cywerth i oddeutu 1 o bob 25 o bobl.
  • Yn yr Alban, parhaodd canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 i gynyddu; amcangyfrifir bod gan 238,000 o bobl yn yr Alban COVID-19 (cyfwng credadwy 95%: 209,300 i 268,000), sy'n cywerth i oddeutu 1 o bob 20 o bobl.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl ganlyniadau yn rhai dros dro ac fallai bydd yn cael eu adolygu.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiau sy'n digwydd mewn cartrefi preifat, ac nid ydynt yn cynnwys heintiau a adroddir mewn ysbytai, cartrefi gofal a / neu sefydliadau cymunedol eraill.

Diffinnir positifrwydd sy'n gydweddu ag amrywiad Omicron fel y rhai sy'n bositif ar y genyn-ORF1ab a'r genyn-N, ond nid y genyn-S. Yn bennaf, bydd positif sy’n gydweddu ag amrywiad Delta gyda phatrwm genynnau ORF1ab + N + S (neu weithiau S + ORF1ab & S + N), ac felly yn y dadansoddiad hwn fe'u diffinnir fel y rhai sy'n bositif ar yr ORF1ab, genyn-N a genyn-S, yn ogystal â phatrymau genynnau N + S ac ORF1ab + S.

Dylid trin data yn ofalus. Nid pob achos positif ar y genyn-S fydd yr amrywiad Delta, ond bydd rhai achosion â phatrwm ORF1ab + N yr amrywiad Delta hefyd lle na chanfuwyd y genyn-S am resymau eraill, megis llwyth firaol isel.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

12 Ionawr 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sean White
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 9/2022