Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o gyfran y bobl sy'n profi'n bositif, cyfradd yr heintiau newydd a chyfran y bobl â gwrthgyrff ar gyfer COVID-19 ar gyfer 29 Mehefin i 2 Awst 2020.

Nod Arolwg Heintiadau COVID-19 yw darganfod:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol
  • faint o bobl sy'n debygol o fod wedi'u heintio ar ryw adeg neu'i gilydd

Bydd yr arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith y boblogaeth gyfan ar hyn o bryd. Yn ogystal ag edrych ar nifer yr achosion yn gyffredinol, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau.

Dechreuodd y gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020 ac mae'r canlyniadau cyntaf ar gael yn awr. Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, bod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill.

Mae'r canlyniadau cyntaf ar gyfer Cymru yn dangos, ar gyfer yr wythnos o 27 Gorffennaf i 02 Awst 2020, yr amcangyfrifir bod cyfartaledd o 0.05% o'r boblogaeth wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 95%: 0.01% i 0.11%).

Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 2,200 o unigolion o fewn y boblogaeth gymunedol yng Nghymru (cyfwng credadwy o 95%: 1 mewn 7,800 i 1 mewn 900), neu amcangyfrif o 1,400 o bobl yng Nghymru i gyd (cyfwng credadwy: 4001 i 3,400).

Bydd rhagor o ddadansoddi yn bosibl wrth i'r arolwg fynd rhagddo ac wrth i fwy o ddata fod ar gael. Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon ar gyfer mynychder (nifer yr heintiau newydd fesul 10,000 o bobl) a chyfran y bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19 pan fydd data ar gael i gynnal y lefel hon o ddadansoddi.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.