Arolwg heintiadau coronafeirws (COVID-19): 22 i 28 Tachwedd 2020
Dadansoddiad o gyfran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 ar gyfer 22 i 28 Tachwedd 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae Arolwg Heintiadau COVID-19 yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:
- faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
- faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
- faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19
Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth y gymuned.
Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â COVID-19
Ar gyfer yr wythnos rhwng 22 i 28 Tachwedd, amcangyfrifir bod cyfartaledd o 0.60% o boblogaeth y gymuned wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 0.40% i 0.84%).
Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 170 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 mewn 250 i 1 mewn 120), neu amcangyfrif o 18,100 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 12,100 i 25,500).
Mae’r gyfradd positifedd wedi lefelu yn yr wythnos diwethaf, ar ôl disgyn o frig ar ddiwedd mis Hydref. Mae positifedd wedi lleihau yn yr wythnosau diwethaf, ar ôl i’r gyfradd gyrraedd brig tua diwedd Hydref. Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, mae rhywfaint o ansicrwydd a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau.
Gwrthgyrff (yn cael ei ddiweddaru’n fisol)
Fel rhan o’r arolwg rydym yn mesur presenoldeb gwrthgyrff i wybod pwy sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol.
Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.
Mae’r amcangyfrifon gwrthgyrff yn cael eu diweddaru unwaith y mis.
Ym mis Hydref, cafodd 4.1% (cyfwng hyder o 95%: 2.4% i 6.5%) o bobl 16 oed a hŷn ganlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19). Mae’r amcangyfrif wedi’i bwysoli er mwyn iddo fod yn gynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan, ac mae’n cyfateb i oddeutu 1 o bob 24 person (cyfwng hyder o 95%: 1 o bob 41, i 1 o bob 15), neu oddeutu 104,000 o unigolion i gyd (cyfwng hyder o 95%: 62,000 i 164,000).
Dros gyfnod llawn yr arolwg, rhwng mis Gorffennaf a 19 Hydref, cafodd amcangyfrif o 3.75% (cyfwng hyder o 95%: 2.1% i 6.1%) ganlyniad prawf positif am wrthgyrff COVID-19. Mae Siart 2 yn rhoi amcangyfrif misol o fis Gorffennaf ymlaen (pan fu amcangyfrifon gwrthgyrff ar gael yng Nghymru am y tro cyntaf), ond gan fod y cyfyngau hyder yn eang, nid oes tystiolaeth o duedd dros amser ar hyn o bryd. Gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy’n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol gael canlyniad prawf negatif. Oherwydd hyn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrif o gyffredinrwydd gwrthgyrff bob mis ac nid fel ffigurau cronnol.
Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU
Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (22 i 28 Tachwedd) roedd canran amcangyfrifol uchaf poblogaeth y gymuned yr oedd COVID-19 arnynt ymysg gwledydd y DU yn Lloegr (0.96%), er bod y cyfraddau wedi disgyn yn y pythefnos diweddaraf.
Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.
Cyfraddau positifedd (Cyfwng Hyder o 95%) |
|||
---|---|---|---|
Cymru | 0.60% (0.40 i 0.84) |
1 mewn 170 o bobl (1 mewn 250 i 1 mewn 120) |
18,100 o bobl (12,100 i 25,500) |
Lloegr | 0.96% (0.90 i 1.01) |
1 mewn 105 o bobl (1 mewn 110 i 1 mewn 100) |
521,300 o bobl (490,600 i 552,600) |
Yr Alban | 0.78% (0.60 i 0.98) |
1 mewn 130 o bobl (1 mewn 165 i 1 mewn 100) |
40,900 o bobl (31,500 i 51,800) |
Gogledd Iwerddon | 0.52% (0.33% i 0.77%) |
1 mewn 190 o bobl (1 mewn 305 i 1 mewn 130) |
9,500 o bobl (6,000 i 14,100) |
Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau COVID-19, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Diffiniadau
Poblogaeth y gymuned
Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth y gymuned. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.
Cyfyngau hyder
Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.
Cyfwng Credadwy
Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.
Digwyddedd
Nifer yr heintiau newydd dros gyfnod penodol.
Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol
Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data sy’n sail iddo. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.
Amcangyfrifon pwynt
Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw.
Y gyfradd positifedd
Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.
Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth y gymuned.
Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan. Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf ac yn yr Alban ar 21 Medi.
Nid yw’r sampl ar gyfer Cymru yn ddigon mawr eto i gynnal dadansoddiad mwy manwl na’r hyn a roddir yma (ffigurau pennawd ar gyfer positifedd a gwrthgyrff) Mae’r gwaith maes yn cael ei gynyddu gyda’r bwriad o sicrhau tua 9 mil o gyfranogwyr bob pythefnos erbyn canol mis Rhagfyr. Bydd hyn yn caniatáu gwaith dadansoddi mwy manwl, a allai gynnwys dadansoddi digwyddedd (nifer yr heintiau newydd dros gyfnod penodol) a dadansoddi nodweddion pobl sy’n cael canlyniadau prawf positif. Bydd y math o ddadansoddiad a fydd yn bosibl hefyd yn dibynnu ar nifer sylfaenol yr achosion o’r feirws, gyda chyfraddau heintio uwch yn caniatáu mwy o waith dadansoddi a chyfraddau heintio llai yn caniatáu llai.
Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.
Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 224/2020