Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Arolwg Gweithlu Natur Cymru.
Cynnwys
Pa ddata personol rydym yn eu cadw ac o ble rydym yn cael yr wybodaeth honno?
Mae data personol yn cael eu diffinio o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig ag unigolyn sy’n golygu y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at y dynodwr’.
Byddwch wedi derbyn neu ddefnyddio dolen i’r arolwg gwreiddiol am un o’r rhesymau canlynol:
- Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) am eich bod yn ymdrin yn rheolaidd â ni ar feysydd polisi sy’n gysylltiedig â natur. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r ddolen i’r arolwg hwn ichi yn uniongyrchol.
- Nid oes gan Lywodraeth Cymru gofnod o’ch manylion cyswllt. Mae mudiad natur, grŵp cynrychioli rhanddeiliaid neu unigolyn rydyn ni’n ymwneud yn rheolaidd ag ef, wedi cytuno i rannu dolen yr arolwg â’i gysylltiadau ar ran Llywodraeth Cymru. Efallai eich bod yn gweithio iddo neu ei fod yn fudiad rydych yn gwirfoddoli iddo neu’n grŵp sy’n gwybod amdanoch. Bydd wedi rhoi dolen i’r arolwg i chi am eich bod eisoes wedi rhoi’ch cyfeiriad e-bost iddo a’i fod yn credu’ch bod yn meddwl eich bod yn rhan o weithlu natur Cymru.
- Rydych wedi mynd i’r arolwg drwy ddolen ar wefannau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
- Drwy gydweithiwr neu gymar – mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i rannu’r ddolen i’r arolwg â’u cydweithwyr a’u cysylltiadau a’r rheini sydd efallai yn rhan o’r gweithlu natur ac a allai fod â diddordeb mewn ateb yr arolwg.
Dim ond Llywodraeth Cymru sy’n cael gweld data’r arolwg. Ni fydd y corff neu’r unigolyn sydd wedi anfon y ddolen atoch na’ch cyflogwr yn cael eu gweld.
Ni fydd yn ofynnol rhoi unrhyw ddata personol ar gyfer yr arolwg. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost na’ch cyfeiriad IP yn cael ei gofnodi wrth ichi gwblhau’r arolwg, ac felly bydd yr ymatebion i’r arolwg yn ddienw. Fodd bynnag, os ydych yn dewis rhoi data personol ychwanegol wrth ymateb i’r arolwg yn y cwestiynau penagored, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei dileu gan y tîm ymchwil yn Llywodraeth Cymru cyn i’r data gael eu dadansoddi. Ni fyddwn yn ceisio eich adnabod o’r ymatebion rydych yn eu rhoi na’ch cysylltu â’r ymatebion a roddir gennych.
Ar ddiwedd yr arolwg, bydd cyfle ichi ymuno â chronfa ddata manylion cyswllt y ‘gweithlu natur’. Os byddwch yn dymuno bod ar y gronfa ddata hon bydd angen ichi roi’r wybodaeth bersonol a ganlyn:
- Enw
- Teitl swydd
- Cyfeiriad e-bost
Cronfa Ddata Manylion Cyswllt y Gweithlu Natur
Os byddwch yn dewis rhoi eich manylon cyswllt ar gyfer Cronfa Ddata Manylion Cyswllt y Gweithlu Natur, yna bydd eich manylion yn cael eu defnyddio at y dibenion canlynol:
- Er mwyn ichi dderbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am ddatblygu polisïau a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r gweithlu natur.
- Er mwyn ichi dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau.
- Er mwyn ichi gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil ddilynol a/neu weithgareddau ymgysylltu i helpu Llywodraeth Cymru i gael dealltwriaeth o faterion pwysig gan aelodau o’r gweithlu natur.
- Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cysylltu â’ch ymatebion i’r arolwg mewn unrhyw ffordd. Mae rhoi eich manylion ar gyfer y rhestr o gysylltiadau’n gwbl wirfoddol, ac nid oes rhaid gwneud hyn er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg o’r gweithlu natur ei hun.
- Os gofynnir ichi gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil yn y dyfodol, yna byddwch yn derbyn hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr ymchwil honno, ac mae cymryd rhan bob amser yn wirfoddol.
Cewch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg i ofyn i’ch manylion gael eu dileu o’r rhestr o gysylltiadau, drwy ddefnyddio’r manylion a roddwyd.
Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio’ch data?
Y sail gyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth yn yr arolwg hwn yw ein tasg gyhoeddus, sef, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol.
Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth.
Mae Cronfa Ddata Manylion Cyswllt y Gweithlu yn fecanwaith defnyddiol ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn cysylltu ag aelodau o’r gweithlu natur, er enghraifft, i rannu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau, yn ogystal â chael dealltwriaeth gan aelodau o’r gweithlu ynghylch materion pwysig drwy ymchwil ac ymgysylltu pellach.
Pa mor ddiogel yw’ch data personol?
Mae data a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi cael ei chreu y mae mynediad ati wedi cael ei chyfyngu i’r tîm uniongyrchol yn unig.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â Rheoliad GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau mewn perthynas ag unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd).
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i fynd i’r afael ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod toriad wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fydd y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol inni wneud hynny.
Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich data personol?
Bydd unrhyw ddata personol a roddwyd yng nghwestiynau penagored yr arolwg yn cael eu dileu yn rhan o’n proses dadansoddi data.
Os ydych yn rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer Cronfa Ddata Manylion Cyswllt y Gweithlu, yna bydd y gronfa ddata’n cael ei hadolygu bob pum mlynedd. Bydd yr adolygiad yn cadarnhau’r angen parhaus am y Gronfa Ddata Manylion Cyswllt, a phan fydd hynny’n cael ei gadarnhau, gofynnir ichi a ydych am barhau i fod ar y gronfa ddata. Cewch ofyn i’ch manylion gael eu dileu o’r gronfa ddata ar unrhyw adeg drwy e-bostio Llywodraeth Cymru yn climatechange@llyw.cymru.
Os bydd eich manylion cyswllt gan Lywodraeth Cymru eisoes, bydd y rhain yn cael eu cadw yn unol â’r bwriad gwreiddiol.
Hawliau unigolion
O dan Reoliad GDPR y DU mae gennych hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o’r Arolwg Defnyddwyr hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- Gweld copi o'ch data eich hun;
- Gofyn inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan rai amgylchiadau);
- Gofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a ddarperir ar gyfer yr astudiaeth hon, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.