Neidio i'r prif gynnwy

Mae Is-grŵp Cymunedau Cyngor Partneriaeth y Gymraeg wedi comisiynu’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg o'r grwpiau cymunedol yng Nghymru sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Nod yr arolwg yw deall pa effaith y mae’r pandemig COVID-19 wedi'i chael ar y ffordd y mae grwpiau cymunedol yn gweithredu. Y gobaith yw y bydd yr arolwg hwn yn nodi'r hyn y gellid ei wneud i ddiogelu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel gymunedol.

Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd Tîm Dadansoddi'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth gan grwpiau cymunedol drwy arolwg ar-lein a ddosbarthwyd gan y Mentrau Iaith.

Mae 22 o Fentrau Iaith yng Nghymru, pob un yn gyfrifol am gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yn eu hardaloedd.  

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil; ond bydd y Mentrau Iaith yn helpu Llywodraeth Cymru i weinyddu'r arolwg, ac yn derbyn yr ymatebion i'r arolwg gan y grwpiau cymunedol sy'n cyfarfod ac yn gweithredu yn eu hardaloedd.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad ymchwil a fydd o bosib yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn enwi unrhyw grwpiau cymunedol nac unigolion sy'n ymateb i'r arolwg yn eu hadroddiad.

Bydd y Mentrau Iaith yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir gan yr arolwg hwn i ddiweddaru proffiliau iaith ar gyfer eu hardaloedd yn ogystal â'u helpu i nodi blaenoriaethau newydd yn sgil pandemig COVID-19 a datblygu eu rhaglenni gwaith ar gyfer y dyfodol. Ni fydd y Mentrau Iaith ychwaith yn enwi unrhyw grwpiau cymunedol nac unigolion mewn unrhyw gyhoeddiad sy'n cynnwys canlyniadau'r arolwg hwn, heb gael caniatâd penodol yr unigolyn neu'r grwpiau.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt perthnasol ar gyfer grwpiau cymunedol. Gofynnwyd i Fenter Iaith yr ardal rydych chi'n gweithredu ynddi gysylltu â chi i roi gwybod i chi am yr arolwg hwn a rhoi dolen i chi gymryd rhan os hoffech wneud hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn pasio eich ymatebion i'r arolwg ymlaen i’ch Menter Iaith leol.

Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan, mae cwestiynau yn yr arolwg yn gofyn am enw eich grŵp cymunedol ac am fanylion cyswllt y grŵp. Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon. Mae'n bosibl gadael y cwestiynau hyn yn wag os dymunwch.

Gofynnwn am enw'r grŵp fel bod eich Menter Iaith leol yn gwybod bod eich grŵp wedi darparu ymateb. Os na ddarperir enw’r grŵp, efallai y bydd eich Menter Iaith leol yn cysylltu â chi eto i'ch atgoffa i ymateb, neu i gynnig eich helpu i gwblhau'r arolwg.

Gofynnwn am eich manylion cyswllt fel y gall Llywodraeth Cymru (neu drydydd parti dan gontract ar ei rhan) gysylltu â chi i ofyn cwestiynau pellach am yr atebion yr ydych wedi'u darparu yn yr arolwg hwn neu ofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwil bellach am grwpiau cymunedol sy'n gweithredu yn Gymraeg. Os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt, nid oes rheidrwydd arnoch i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil bellach, ond efallai y gofynnir i chi a hoffech wneud hynny.   

Nid yw'r ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol casglu data personol oddi wrthych. Ni fydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu drwy gwblhau'r arolwg.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol wrth ateb cwestiynau'r arolwg, ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw ymateb a fydd yn golygu bod modd eich adnabod. Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac os byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein gorchwyl cyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth.

Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:

  • deall yn well effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol a'r hyn sydd angen digwydd i ddiogelu cyfleoedd i bobl sgwrsio yn Gymraeg
  • datblygu ffrydiau gwaith y gellid eu cyflwyno i'r rhaglen waith 5 mlynedd (2021 i 2026) ar gyfer Cymraeg 2050

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y prosiect hwn a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hwn sydd â mynediad ati. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn dewis eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon.

Gweinyddir yr arolwg hwn gan ddefnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â'r GDPR. Mae hefyd yn bodloni'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. mae’r data yn cael eu prosesu o fewn yr DU).

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd tîm dadansoddi’r Gymraeg yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a allai gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Yn ystod yr arolwg, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhestr o enwau'r grwpiau sydd wedi cwblhau'r arolwg i’r Mentrau Iaith lleol. Mae hyn er mwyn i'r Mentrau Iaith allu croesgyfeirio'r rhestr o ymatebwyr i’r arolwg gyda'r rhestr o grwpiau cymunedol yn eu hardaloedd, er mwyn atgoffa'r rhai nad ydynt wedi ymateb, neu gynnig cymorth iddynt i gwblhau'r arolwg.  

Unwaith y bydd yr holl ymatebion i'r arolwg wedi dod i law, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu ymatebion y grwpiau cymunedol i’r Mentrau Iaith yn eu hardaloedd. 

Bydd y Mentrau Iaith yn sicrhau y bydd yr holl ddata personol a ddarperir gan yr arolwg yn cael eu storio'n ddiogel mewn ffolder gyfyngedig. Bydd y Mentrau Iaith yn sicrhau na fydd unrhyw un o ganfyddiadau’r arolwg yn datgelu manylion cyswllt y grwpiau nac enwau unigolion. Efallai yr y byddant am gyfeirio at grŵp penodol yn eu hadroddiadau; fodd bynnag, byddant ond yn gwneud hynny gyda chydsyniad y grŵp hwnnw ymlaen llaw.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a gesglir gan yr arolwg hwn yn cael eu dileu gan dîm ymchwil Llywodraeth Cymru a'r Mentrau Iaith ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi canfyddiadau'r arolwg.

Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyflawni unrhyw ymchwil ddilynol ar ôl dehongli canlyniadau'r arolwg hwn. 

Hawliau unigolion

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw fanylion anghywir yn y data hynny
  • o dan amgylchiadau penodol, wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu
  • mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol)
  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich atebion arolwg, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Lisa Walters (Llywodraeth Cymru)
Rhif ffôn: 0300 025 6682 (rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg)
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru