Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru, wedi comisiynu Strategic Research and Insight Ltd (SRI) i gynnal arolwg o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Nod yr arolwg hwn fydd casglu data sylfaenol a mewnwelediadau cyffredin ar draws sectorau, a fydd yn llywio'r ffordd orau o gefnogi sefydliadau ac unigolion yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol. Bydd SRI yn casglu gwybodaeth drwy holiaduron ar-lein yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2022. Disgwylir y bydd yr arolwg hefyd yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn yn y dyfodol.

Cymru Greadigol yw rheolydd data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd SRI yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolygon ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn ei rannu â Cymru Greadigol.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a ddarperir i Cymru Greadigol. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, diben yr arolwg hwn yw monitro tueddiadau ac anghenion y sector ar wahanol adegau er mwyn darparu gwell dealltwriaeth o'r sector a lledaenu'r canfyddiadau mewn ffordd ddefnyddiol a gwerthfawr i'r diwydiant ehangach.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Strategic Research & Insight yw:

Mrs Saadiah Hood
E-bost: saadiah@strategic-research.co.uk
Rhif ffôn: 029 2040 4044

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd'.

Nid yw eich manylion cyswllt wedi'u rhoi i SRI ond yn hytrach mae'r arolwg yn cael ei hyrwyddo drwy randdeiliaid allweddol tîm Cymru Greadigol yn Llywodraeth Cymru drwy e-bost. Mae'r e-bost yn cynnwys dolen i'r arolwg. Nid yw cwblhau'r arolwg yn cipio eich cyfeiriad e-bost na IP ac felly mae'r ymatebion yn ddienw. Bydd SRI yn cael mynediad i'r ymatebion i'r arolwg i gynnal dadansoddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Ni ofynnir i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol bellach fel rhan o'r arolwg.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a ddarperir gennych, neu gysylltu eich hunaniaeth â hwy, a chaiff hyn ei ddileu cyn i ddata gael ei ddarparu i Cymru Greadigol. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais yn ôl at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • ddarparu gwell dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru
  • nodi mewnwelediadau cyffredin ar draws sectorau i helpu Cymru Greadigol i gefnogi busnesau ac unigolion yn well

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i SRI bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael gafael ar y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd SRI yn defnyddio'r data hwn. Mae gan SRI ardystiad hanfodion seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae SRI yn defnyddio Google Docs/Sheets i brosesu data. Rydym wedi sicrhau bod Google Docs/Sheets yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata ei brosesu o fewn y DU).

Mae gan SRI weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri'r rheolau, bydd SRI yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd SRI yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Gall SRI gadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd SRI yn dileu unrhyw ddata personol o'r fath dri mis ar ôl diwedd y contract.

Bydd SRI yn rhoi copi dienw o ganlyniadau'r arolwg i Lywodraeth Cymru.

Hawliau unigolion

O dan y GDPR, mae gennych chi'r hawliau canlynol o ran yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn:

  • i weld copi o'ch data eich hun
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu gwaith prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef eich rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Cymru Greadigol neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Sophie Roberts

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 ENQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru