Mae Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol yn asesu perfformiad busnesau, hyder busnesau a’r bwlch sgiliau yn niwydiannau creadigol Cymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau Arolwg Diwydiant Cymru Creadigol 2022. Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ym mis Ebrill 2022 ac mae’n cynnwys sampl o fusnesau a gweithwyr llawrydd o’r sectorau sgrin, cerddoriaeth, digidol a chyhoeddi yng Nghymru.
Prif ganlyniadau
- Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan 344 o ymatebwyr o’r sectorau cyhoeddi (51%), sgrin (19%), cerddoriaeth (16%) a digidol (14%), ac roedd tua thraean o’r ymatebwyr yn hunangyflogedig neu’n weithwyr llawrydd.
- Roedd y sectorau yn nodi profiadau cymysg mewn perthynas â pherfformiad busnes a throsiant, gan ddangos bod effeithiau COVID-19 wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer rhai ac yn negyddol ar gyfer eraill.
- Gwella proffidioldeb, gwella cyfleoedd marchnata a thyfu’r gweithlu yw’r tair prif flaenoriaeth ymhlith y sectorau.
- Ar y cyfan mae busnesau yn fwy hyderus y bydd eu busnesau yn broffidiol y flwyddyn ariannol nesaf nag fel arall.
- Mae tua un busnes o bob pump wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y flwyddyn diwethaf, gyda’r rhan fwyaf yn priodoli hyn i’r bwlch sgiliau yn y gweithlu neu ymhlith ymgeiswyr.
- Byddai’r diwydiant ar ei ennill o ragor o gymorth ariannol, rhagor o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, a chymorth a chyngor busnes mwy hygyrch.
Adroddiadau

Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol, 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.