Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yn rhoi gwybodaeth am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith ar gyfer 2013 i 2015.

Arolwg Defnydd Iaith 2013-14: Dwy siart doesen yn dangos bod 47% siaradwyr Cymraeg yn rhugl a 53% o siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd.

Gofynnwyd i ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru nodi pob aelod ar eu haelwyd oedd yn gallu siarad Cymraeg. Gadewid holiadur Defnydd Iaith i bob siaradwr Cymraeg ei lenwi eu hunain a’i ddychwelyd drwy’r post rhwng Ebrill 2013 a Mawrth 2015.

Mae’r arolwg yma yn galluogi i ni gymharu a chanlyniadau Arolygon Defnydd Iaith 2004-06.

Mae Defnydd y Gymraeg yng Nghymru, 2013-15 yn cynnwys canlyniadau llawn yr arolwg ar gyfer 2013-15 ac yn diweddaru’r adroddiad interim Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2013-14: Arolwg Defnydd Iaith a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2015.

Prif bwyntiau

  • Mae canran a nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn eithaf cyson â’r ganran a’r nifer yn Arolygon Defnydd Iaith 2004-06, ond mae 130,700 yn fwy o bobl yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl erbyn hyn.
  • Mae bron i hanner o holl siaradwyr Cymraeg yn ystyried eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl a 21% yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg. Yn 2004-06, dywedodd 58% o siaradwyr Cymraeg eu bod yn rhugl a 21% eu bod yn siarad cryn dipyn o Gymraeg.
  • Mae crynodiad uchaf y siaradwyr Cymraeg rhugl yn ardaloedd awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, mae rhai o’r gostyngiadau mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl ers 2004-06 i’w gweld yn yr ardaloedd hyn o ran y nifer sydd yn rhugl. I’r gwrthwyneb gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl ers 2004-06 yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf.
  • Mae ychydig dros hanner y siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg bob dydd; mae bron i un ymhob pump yn siarad Cymraeg bob wythnos.
  • Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn fwy tebygol o fod wedi dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol nag yn unrhyw le arall. Mae siaradwyr Cymraeg hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dysgu’r Gymraeg gartref pan oeddent yn blant ifanc nag yn unrhyw le arall.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol na phobl hŷn o fod wedi derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob amser, neu bron bob amser, yn yr ysgol nag ydynt o wneud hynny gyda’u ffrindiau neu gartref.
  • Mae ychydig dros hanner siaradwyr Cymraeg yn ceisio defnyddio’r Gymraeg, yn achlysurol man lleiaf, wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus.

Adroddiadau

Defnydd y Gymraeg yng Nghymru, 2013 i 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB

PDF
6 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Infograffeg, 2013 i 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 337 KB

PDF
337 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ystadegydd: Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.