Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid datblygu cod ymarfer niwrowahaniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Daeth y cod ymarfer statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth i rym ar 1 Medi 2021. Rydym ni’n parhau â'n gwaith gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod y cod yn helpu i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau awtistiaeth cyson a chynaliadwy i blant, pobl ifanc ac oedolion. Fodd bynnag, nododd adborth yn ystod yr ymgynghoriad ar gyfer y cod fod angen ehangu'r cod i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill sy'n aml yn cyd-ddigwydd ag awtistiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein i adeiladu ar y cod ymarfer cyfredol ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth ac i ddatblygu cod ymarfer niwrowahaniaeth. Mae'r cwestiynau canlynol wedi'u cynllunio i helpu i nodi'r meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt a'u datblygu, er mwyn sicrhau bod y cod ymarfer niwrowahaniaeth newydd yn diwallu anghenion pawb.

Ar ôl cael yr wybodaeth o'r arolwg, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer. Bydd yr wybodaeth a gesglir o'r arolwg at ddefnydd mewnol Llywodraeth Cymru yn unig ac ni chaiff ei chyhoeddi.

Eich dewis chi yn llwyr yw p'un ai i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio meddylfryd Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r cod ymarfer niwrowahaniaeth a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni.

Cysylltwch â ni drwy niwroamrywiaeth@llyw.cymru.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel "unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod".

Mae'r arolwg yn cael ei hyrwyddo drwy e-bost a thrwy amrywiol sianelau cyfathrebu, mae hyn yn cynnwys trwy grwpiau ymgysylltu â rhanddeiliaid a chan y rhai sy'n gyfrifol am wasanaethau y gallech fod wedi'u defnyddio yn y gorffennol. Mae'r e-bost yn cynnwys dolen i'r arolwg ar-lein. Bydd opsiwn i ymateb drwy e-bost os yw hynny'n well gennych. Dim ond Llywodraeth Cymru sydd â mynediad at eich ymatebion i'r arolwg.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Ni fydd yr holiadur yn gofyn ichi roi eich enw na gwybodaeth bersonol arall ac ni fyddwn yn casglu eich e-bost na'ch cyfeiriad IP fel rhan o lenwi'r holiadur. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol yn eich ymatebion i gwestiynau agored, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, na'ch cysylltu â nhw, a bydd yr wybodaeth bersonol hon yn cael ei dileu o ddata dienw'r arolwg.

Bydd yr arolwg yn cynnwys gwybodaeth ddemograffig fel ethnigrwydd neu hunaniaeth rhywedd. Efallai y bydd yn bosibl adnabod rhai unigolion oherwydd cyfuniadau unigryw o nodweddion. Rydym ond yn casglu'r wybodaeth hon i'n galluogi i roi cyd-destun i sylwadau a gafwyd i sicrhau ein bod yn eu deall o ran eu hanghenion. Bydd hyn hefyd yn rhoi gwybod i ni pa mor eang fu ein cyswllt, er enghraifft, a ydym wedi clywed barn unigolion niwrowahanol o leiafrifoedd ethnig? Ydyn ni wedi clywed barn unigolion niwrowahanol o'r gymuned LHDTC+?  Fodd bynnag, nid ydym yn bwriadu cyhoeddi'r wybodaeth hon.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb ac yn dileu'r holl ohebiaeth o'n systemau wedi hynny ond yn cofnodi cynnwys yr ymholiad neu'r gŵyn.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr arolwg hwn drwy anfon e-bost a rhannu gwybodaeth bersonol i dderbyn ymateb, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r ymateb ar ôl ei anfon, ac yna'n dileu'r e-byst gyda data personol o'n cofnodion.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus. Hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn fater cwbl wirfoddol. Mae arolygon ymgysylltu â rhanddeiliaid fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg hwn yn cael ei defnyddio i nodi'r meysydd sydd angen rhoi sylw iddynt a'u datblygu, er mwyn sicrhau bod y cod ymarfer niwrowahaniaeth newydd yn diwallu anghenion pawb.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw SmartSurvey ar gyfer yr arolwg. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn llywio datblygiad y cod ymarfer niwrowahaniaeth newydd ac ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. Ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi.

Am faint rydym yn cadw eich data personol?

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cadw unrhyw ddata personol mewn perthynas â'r arolwg hwn.

Os gwnaethoch ddarparu unrhyw ddata personol mewn unrhyw ymatebion testun agored, caiff y data hyn eu dileu cyn y bydd eich ymateb yn cael ei gadw gyda'r data dienw arall.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr arolwg hwn drwy anfon e-bost a rhannu gwybodaeth bersonol i dderbyn ymateb, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r ymateb ar ôl ei anfon, ac yna'n dileu'r e-byst gyda data personol o'n cofnodion.

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth chi?

Yn rhan o'n cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gafwyd yn yr arolwg:

  • at ddibenion ystadegol ac ymchwil
  • i hysbysu, dylanwadu a datblygu polisi cod ymarfer niwrowahaniaeth

 phwy ydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth?

Ar ôl cael yr wybodaeth o'r arolwg, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer. Bydd yr wybodaeth a gesglir o'r arolwg at ddefnydd mewnol Llywodraeth Cymru yn unig ac ni chaiff ei chyhoeddi. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu cadw na'u rhannu.

Bydd yr ymatebion dienw yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r cod ymarfer niwrowahaniaeth a fydd yn destun ymgynghoriad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn, yn benodol mae gennych hawl i ofyn am y canlynol:

  • cael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael ei "ddileu" (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â ni drwy niwroamrywiaeth@llyw.cymru.

Manylion cysylltu Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: 

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru