Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am gael eich barn i ehangu'r cod ymarfer ar gyfer awtistiaeth i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Daeth y cod ymarfer statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth i rym ar 1 Medi 2021.

Rydym ni’n parhau â'n gwaith gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod y cod yn helpu i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau awtistiaeth cyson a chynaliadwy i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Fodd bynnag, roedd yr adborth yn ystod yr ymgynghoriad ar gyfer y cod yn nodi bod angen ehangu'r cod i gynnwys cyflyrau niwrowahaniaeth eraill.

Pwrpas yr arolwg

Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn holiadur cyn ymgynghori ar gyfer datblygu cod ymarfer niwrowahaniaeth. Ni fyddwn yn cyhoeddi eich barn ond bydd yn cael ei defnyddio i lywio ein syniadau wrth ddatblygu'r cod ymarfer niwrowahaniaeth a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

Nod y cwestiynau canlynol yw helpu i nodi'r meysydd sydd angen rhoi sylw iddynt a'u datblygu, er mwyn sicrhau bod y cod ymarfer niwrowahaniaeth newydd yn diwallu anghenion pob person niwrowahanol a'u teuluoedd ledled Cymru.

Mae'n gyfle i'r holl randdeiliaid effeithio'n uniongyrchol ar gyfeiriad a datblygiad y cod niwrowahaniaeth, a byddwn yn gwerthfawrogi ac yn ystyried pob cyfraniad.

Cwblhau'r arolwg

Mae casglu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi gwneud yr arolwg yn eithaf hir, gyda dros 53 o gwestiynau, ond mae llawer ohonynt yn atebion ticio blwch. Rydym hefyd wedi darparu blychau testun agored lle gallai fod angen sylwadau manylach.

Os nad ydych chi'n teimlo bod cwestiwn yn berthnasol, does dim rhaid i chi ateb.

Rydym hefyd wedi adeiladu mewn opsiwn arbed a dychwelyd fel y gallwch adael yr arolwg a dychwelyd i'r un cwestiwn os oes angen seibiant arnoch.

Os byddai'n well gennych lawrlwytho ffurflen ymateb dogfen Word a'i dychwelyd atom drwy e-bost, cysylltwch â niwroamrywiaeth@llyw.cymru.

Bydd yr arolwg ar agor am 1 mis a bydd yn cau ddydd Llun 15 Gorffennaf 2024.

Cwblhewch yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid datblygu cod ymarfer niwrowahaniaeth.

Hysbysiad preifatrwydd

Mae hysbysiad preifatrwydd ar gael i chi ei ddarllen ar gyfer yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid datblygu cod ymarfer niwrowahaniaeth.

Cysylltu â ni

Os hoffech fwy o wybodaeth am ddatblygu’r cod ymarfer niwrowahaniaeth, cysylltwch â niwroamrywiaeth@llyw.cymru.