Dyma’r set cyntaf o ganlyniadau cyflwr tai ar gyfer Cymru ers yr arolwg diwethaf yn 2008. Cynhaliwyd y gwaith maes o Awst 2017 hyd at Ebrill 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Cyflwr Tai Cymru
Lluniwyd sampl o gyfeiriadau wedi’u codi o aelwydydd a fyddai’n gymwys i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Arweiniodd hyn at archwiliad ffisegol o 2,549 o gartrefi ledled Cymru, sy’n rhoi amcangyfrifon ar lefel cenedlaethol.
Mae’r canlyniadau pennawd yn cynnwys data ar nodweddion stoc dai, cyflwr tai a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
Mae yna hefyd dangosydd canlyniadau hawdd i’w ddefnyddio os hoffech chi archwilio’r canlyniadau ar ystod o bynciau.
Prif bwyntiau
- Ers yr arolwg diwethaf yn 2008, mae cyflwr tai ar draws pob deiliadaeth yng Nghymru wedi gwella.
- Mae gan Gymru'r stoc dai hynaf yn y DU, a rhychwant o fathau tebyg o dai.
- Mae cyfran yr anheddau yn y sector rhentu preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers 1981. Y sector rhentu preifat ar y cyfan sydd â'r stoc o dai hynaf gan gynnwys y gyfran uwch o dai o ansawdd gwael (e.e. sy'n cynnwys lleithder a pheryglon eraill).
- At ei gilydd, tai cymdeithasol sydd o ansawdd gwell na thai preifat (eiddo i berchen-feddianwyr ac eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat); yn ogystal â thai mwy newydd.
- Mae’r band effeithlonrwydd ynni cyfartalog wedi gwella o Fand E yn 2008 i Fand D yn 2017-18.
Adroddiadau
Adroddiad penawdau, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 (diweddaru) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 719 KB
Cynllun cyhoeddi , math o ffeil: , maint ffeil: 182 KB
Crynodeb o Adborth Defnyddwyr: Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 – Opsiynau ar gyfer Allbynnau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 682 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.