Neidio i'r prif gynnwy

Detholiad yn unig o'r canlyniadau sydd yn y datganiad hwn ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Ceir canlyniadau llawer mwy o bynciau, ynghyd â rhagor o fanylion, yn ein dangosydd canlyniadau. Bydd rhagor o adroddiadau byr ar bynciau penodol yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn.

Prif bwyntiau

  • 93% o bobl yn credu bod hinsawdd y byd yn newid. O'r rhain, mae 37% yn dweud eu bod yn teimlo'n bryderus iawn am y newid yn yr hinsawdd.
  • 81% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plant.
  • 93% yn fodlon â'r gofal a dderbyniwyd gan eu meddyg teulu, ond dywedodd 40% o'r bobl eu bod yn ei chael yn anodd trefnu apwyntiad cyfleus gyda'r feddygfa.
  • 76% yn teimlo bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu'n dda yn eu hardal leol.
  • 17% yn smygu ar hyn o bryd, a 18% yn yfed mwy na'r canllawiau wythnosol o alcohol.
  • 32% yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon neu ymarfer corff o leiaf tair gwaith yr wythnos.
  • 85% yn cytuno bod y celfyddydau a diwylliant yn gwneud Cymru'n well lle i fyw.
  • 11% yn dweud eu bod yn siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, a'u bod yn ei siarad bob dydd.
  • 87% o aelwydydd â mynediad at y rhyngrwyd yn y cartref. 89% o'r oedolion 16 oed ac yn hŷn yn dweud eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Adroddiadau

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau, Ebrill 2018 i Mawrth 2019: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.