Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae 38% o bobl wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ers mis Ebrill 2020. Roedd 51% o'r apwyntiadau hyn dros y ffôn, o gymharu â 48% wyneb yn wyneb. Yn gyffredinol, roedd 87% o bobl yn fodlon â'r gofal a dderbyniwyd yn eu hapwyntiad diwethaf, ond dywedodd 81% a oedd ag apwyntiadau ffôn eu bod yn fodlon, o gymharu â 92% o'r rhai a gafodd apwyntiadau wyneb yn wyneb.

Dangosodd apwyntiadau ysbyty batrwm tebyg. Ymhlith y rhai a gafodd apwyntiad claf allanol wyneb yn wyneb, roedd 93% yn fodlon, o gymharu â 78% o'r rhai a gafodd apwyntiadau dros y ffôn.

Dywed 16% o bobl eu bod wedi cael, neu'n meddwl eu bod wedi cael, COVID-19. Mae hyn yn ganlyniad tebyg i'r hyn a ddeilliodd o arolwg misol mis Medi 2020.

Ysgolion cynradd

Mae 88% o rieni sydd â phlentyn oedran ysgol gynradd yn dweud bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda dysgu, ac mae 95% yn dweud bod yr ysgol wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ei chynlluniau mewn perthynas â sefyllfa'r coronafeirws.

Dywedodd 93% eu bod yn fodlon ag ysgol gynradd eu plentyn. Nid yw'r lefel hon o foddhad wedi newid ers 2019-20, cyn y pandemig.

Dywed 43% o rieni eu bod wedi helpu eu plentyn bob dydd gyda llythrennau, darllen neu ysgrifennu, a 20% gyda mathemateg. Mae dros 90% o rieni yn dweud eu bod yn teimlo'n hyderus wrth helpu eu plentyn gyda darllen ac ysgrifennu yn Saesneg a gyda mathemateg. Mae rhieni'n llai tebygol o deimlo'n hyderus wrth helpu eu plentyn gyda darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg, gyda thua thraean o rieni yn dweud eu bod yn teimlo'n weddol hyderus neu'n hyderus iawn wrth wneud hynny.

Image
Siart 1: Canran y rhieni sy'n teimlo'n hyderus yn helpu eu plentyn oedran ysgol gynradd gyda gwaith ysgol. Mae’r siart far yma yn dangos bod hyder rhieni wrth helpu eu plant gyda’u gwaith ysgol yn amrywio o 30% ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg i 96% ar gyfer darllen Saesneg.

 

Dywedir bod gan 53% o blant oedran ysgol gynradd eu cyfrifiadur, gliniadur neu dabled eu hunain ar gyfer gwaith ysgol, ac mae 40% yn defnyddio dyfais a rennir.

Ysgolion uwchradd

Dywedodd 78% o rieni sydd â phlentyn oed uwchradd fod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi plant gyda'u dysgu. Dywed 89% eu bod yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plant; fel gydag ysgolion cynradd, nid yw hyn yn wahanol i lefelau boddhad cyn y pandemig.

Dywed 74% o rieni â phlentyn oedran ysgol uwchradd eu bod yn cefnogi eu plentyn gyda'i waith ysgol o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae gan 74% o blant oedran ysgol uwchradd eu cyfrifiadur, gliniadur neu dabled eu hunain ar gyfer gwaith ysgol, ac mae 25% yn defnyddio dyfais a rennir.

Diogelwch plant ar-lein

Dywed rhieni fod 97% o blant rhwng 5 a 15 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref, yn yr ysgol neu rywle arall. Dywed 94% o rieni fod athrawon y plentyn wedi siarad am ddiogelwch ar-lein. O'r rhain, mae 46% yn dweud bod athrawon yn siarad am hyn yn aml, a 50% yn achlysurol.

Gofynnwyd i rieni sydd â phlentyn 5 i 15 oed pa ddulliau y maent yn eu defnyddio i reoli defnydd y plentyn o'r rhyngrwyd (gweler Siart 2). Y dulliau mwyaf cyffredin oedd siarad â nhw am ddiogelwch ar y rhyngrwyd (79%), cadw golwg ar yr hyn y maent yn ei wneud ar-lein (73%) a blocio rhai gwefannau (70%). Gofynnwyd iddynt hefyd o ble maent yn cael gwybodaeth neu gyngor ar ddiogelwch plant ar-lein. Y ffynonellau mwyaf poblogaidd oedd defnyddio Google neu beiriant chwilio arall ar y rhyngrwyd (50%), rhieni a ffrindiau eraill (18%), ac ysgol y plentyn (18%).

Image
Siart 2: Dulliau a ddefnyddir gan rieni i reoli defnydd plant o'r rhyngrwyd. Mae’r siart far yma yn dangos yr amrywiol ddulliau a ddefnyddiwyd gan rieni i reoli defnydd eu plant o’r rhyngrwyd.

Cyflogaeth

Dywedodd 56% o bobl eu bod mewn cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth). Mae hyn yn cynnwys y 2% o bobl a ddywedodd eu bod ar ffyrlo. Dywedodd 4% o bobl eu bod yn ddi-waith.

Mae 21% o bobl wedi gweld newid yn eu statws cyflogaeth, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli gwaith neu wedi newid nifer yr oriau y maent yn gweithio, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Llesiant ac unigrwydd

Dywed 12% o bobl eu bod yn unig. Mae lefelau unigrwydd wedi aros yn gyson drwy gydol y pandemig, ond maent yn is nag yn 2019-20, pan oedd 15% o bobl yn unig. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod ymatebwyr yn 2019-20 wedi nodi’r atebion i’r cwestiynau hyn eu hunain, yn wahanol i'r ymatebwyr ffôn, ac efallai bod pobl wedi bod yn llai parod i roi gwybod i gyfwelydd am unigrwydd.

Mae 78% o bobl yn adrodd am foddhad uchel neu uchel iawn â bywyd. Mae hyn yn is nag yn 2019-20, pan ddywedodd 83% o bobl yr un peth. Dywed 85% o bobl eu bod yn teimlo bod y pethau maen nhw'n eu gwneud mewn bywyd yn werth chweil. Dywedodd 24% o bobl fod ganddynt lefelau uchel o bryder y diwrnod cynt, sy'n uwch nag yn 2019-20 pan oedd 20% o bobl yn teimlo hyn. Dywedodd 76% o bobl eu bod yn teimlo'n hapus y diwrnod cynt. Mae'r mesurau llesiant hyn wedi aros ar lefel debyg ers mis Mai 2020.

Tlodi bwyd

Dywedodd 1% o bobl eu bod wedi derbyn bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol oherwydd diffyg arian. Mae hyn yn is na phan ofynnwyd amdano ddiwethaf yn 2018-19 (pan ddywedodd 3% eu bod yn defnyddio banciau bwyd); fodd bynnag, yn 2018-19 nododd yr ymatebwyr yr atebion i’r cwestiwn hwn eu hunan. Efallai bod pobl wedi bod yn llai parod i roi gwybod am ddefnydd banc bwyd yn yr arolwg diweddaraf, pan ofynnwyd iddynt dros y ffôn. Dywedodd 1% arall o bobl y byddent wedi hoffi derbyn bwyd gan fanc bwyd ond nad ydynt wedi gwneud hynny.

Dywedodd 1% o bobl nad oeddent wedi cael pryd sylweddol o fwyd neu eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd oherwydd diffyg arian ar o leiaf un diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol.

Cyllid

Dywedodd 1% o bobl eu bod ar ei hôl hi ar rai biliau o leiaf, ac mae 3% arall yn llwyddo i’w talu ond yn ei chael hi'n frwydr gyson.

Dywedodd 12% o bobl eu bod wedi derbyn Credyd Cynhwysol yn ystod y 3 mis blaenorol, o gymharu â 9% yn 2019-20.

Gwirfoddoli a COVID-19

Dywedodd 5% o bobl eu bod wedi gwirfoddoli i helpu gyda sefyllfa COVID-19 yn ystod y 4 wythnos flaenorol. Mae hyn wedi gostwng ers rhan gyntaf y pandemig: yn ystod y cyfnod o fis Mai i fis Medi, dywedodd 8% o bobl eu bod wedi gwirfoddoli yn ystod y 4 wythnos flaenorol. O'r rhai a wirfoddolodd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, mae 81% yn bwriadu parhau i wirfoddoli am o leiaf 6 mis arall neu cyn belled â bod angen.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan o’r blaen yn Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn cyfweliad wyneb yn wyneb. Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alice Roebuck
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 7/2021