Arolwg canfyddiadau a chamau gweithredu newid hinsawdd: ton 1 a 2 (crynodeb)
Nod yr Arolwg Canfyddiadau a Gweithredoedd Newid Hinsawdd yw deall agweddau ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig â lleihau allyriadau carbon.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben a chefndir
Comisiynwyd yr arolwg Canfyddiadau a Chamau Gweithredu Newid Hinsawdd gan Lywodraeth Cymru i ddeall agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd yn gysylltiedig â mynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd yn cael ei gynnal mewn chwe cham chwe-misol â hyd at 1,000 o gyfweliadau yr un. Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno canlyniadau dau gam cyntaf yr arolwg. Roedd canfyddiadau rhwng y ddau gam yn debyg i raddau helaeth, ond lle mae gwahaniaethau amlwg yn bodoli, amlinellwyd y rhain yn y paragraff perthnasol. Mae’r holiadur wedi’i ddylunio i drafod chwe phwnc sy’n gysylltiedig â lleihau allyriadau carbon: demograffeg, canfyddiadau ac agweddau, ynni cartref, bwyd, bywyd beunyddiol, a theithio.
Nodweddion sampl a dull
Roedd samplau dau gam yr arolwg yn gyffredinol gynrychiadol o boblogaeth Cymru yn seiliedig ar oedran, gwrywod a benywod, ethnigrwydd, statws gwaith, ac incwm aelwyd. Gwelwyd mân amrywiadau ar gyfer lleoliad, galwedigaeth, deiliadaeth, a math o eiddo. Gwnaed y gwaith maes ar gyfer Cam 1 ym mis Awst a mis Medi 2023, â chyfradd ymateb o 6.9%. Gwnaed y gwaith maes ar gyfer Cam 2 ym mis Chwefror a mis Mawrth 2024, â chyfradd ymateb o 6.0%. Casglwyd y data ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Canfyddiadau allweddol ar batrymau demograffig
Roedd ymatebwyr benywaidd i’r arolwg yn iau nag ymatebwyr gwrywaidd i’r arolwg. Roedd ymatebwyr iau yn dueddol o fyw yng nghanol dinas neu dref fawr, tra bod ymatebwyr hŷn yn dueddol o fyw ym maestrefi dinas neu dref fawr, neu yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach.
Roedd ymatebwyr a oedd â galwedigaeth crefft fedrus yn fwy tebygol o fod yn byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach.
Ni wnaeth cyfran fawr o’r ymatebwyr ddatgan incwm eu haelwyd. Roedd y grŵp hwn yn dueddol o fod yn hŷn, o fyw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach, yn aml â chrefft fedrus, ac yn dueddol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl.
Canfyddiadau allweddol ar ganfyddiadau ac agweddau
Roedd cytundeb cyffredinol ar draws yr holl ymatebwyr bod newid hinsawdd yn digwydd ac mai’r prif achos oedd gweithgarwch dynol.
Roedd ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o gredu nad yw newid hinsawdd yn digwydd, neu ei fod wedi’i achosi gan brosesau naturiol, nag ymatebwyr benywaidd. Roedd ymatebwyr gwrywaidd hefyd yn poeni llai am effeithiau newid hinsawdd nag ymatebwyr benywaidd. Dywedodd ymatebwyr gwrywaidd hefyd bod ganddynt fwy o wybodaeth am Sero Net, targedau Sero Net, a Dewisiadau Gwyrdd Llywodraeth Cymru nag ymatebwyr benywaidd.
Yn ôl math o ardal, dywedodd y rhai mewn mathau o ardaloedd mwy gwledig bod gan y cyhoedd yn gyffredinol a grwpiau lleol lai o gyfrifoldeb am fynd i’r afael â newid hinsawdd nag ymatebwyr sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd.
Roedd ymatebwyr iau yn poeni mwy am newid hinsawdd nag ymatebwyr o grwpiau oedran eraill. Roeddent hefyd yn neilltuo lefelau uwch o gyfrifoldeb ar draws gwahanol grwpiau cymdeithasol na grwpiau oedran eraill, gan awgrymu safbwynt y dylai fod cyfrifoldeb mwy cyfunol am fynd i’r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, nodwyd mân wahaniaethau rhwng Camau 1 a 2, wrth i ymatebwyr iau yng Ngham 1 neilltuo lefelau uwch o gyfrifoldeb am fynd i’r afael â newid hinsawdd i’r cyhoedd yn gyffredinol, i’r gymuned leol ac i’w Cyngor, na’r rhai yng Ngham 2.
Dywedodd ymatebwyr a oedd yn fyfyrwyr mai nhw oedd yn gwybod fwyaf am Sero Net, targedau Sero Net a Dewisiadau Gwyrdd Llywodraeth Cymru.
Canfyddiadau allweddol ar ddefnydd ac effeithlonrwydd ynni cartref
Roedd dros dri chwarter yr holl ymatebwyr yn talu eu bil ynni trwy ddebyd uniongyrchol. Roedd yr ymatebwyr hyn yn dueddol o fod yn gyflogedig ac yn berchen ar eu cartref eu hunain. Roedd ymatebwyr di-waith a’r rhai a oedd yn rhentu eu llety yn fwy tebygol o ddefnyddio mesurydd talu ymlaen llaw.
Dywedodd bron i bob ymatebwr eu bod wedi cymryd o leiaf un cam i arbed ynni, beth bynnag fo’r rheswm am wneud hynny. Roedd cyfran is o ymatebwyr sy’n byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach yn cymryd camau arbed ynni na’r rhai sy’n byw mewn mannau eraill, fel aros tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn i roi’r gwres ymlaen, neu leihau tymheredd llif boeleri. Roedd hyn hefyd yn wir ar gyfer ymatebwyr yr oedd yn well ganddynt beidio â rhannu incwm eu haelwyd, yr oedd dwy ran o bump ohonynt yn byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach. Roedd y gwahaniaeth hwn rhwng gweithredoedd arbed ynni fesul math o ardal yn dueddol o fod yn llai amlwg yng Ngham 2, h.y. roedd y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad yn debycach yn eu gweithredoedd arbed ynni i’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd, o’i gymharu â Cham 1.
Roedd gan gyfran fwy o ymatebwyr ag incymau aelwyd uwch fesurau effeithlonrwydd ynni yn eu cartref na’r rhai ag incymau aelwyd is, yn enwedig goleuadau clyfar a mesurau gwresogi.
Canfyddiadau allweddol ar fwyd sy’n cael ei fwyta a gwastraff
Cynhyrchion llaeth oedd y math o fwyd sy’n cael eu bwyta amlaf gan yr holl ymatebwyr a physgod a chig coch oedd y rhai sy’n cael eu bwyta leiaf aml. Roedd ymatebwyr ag incymau aelwyd uwch yn bwyta ffrwythau a llysiau yn amlach nag ymatebwyr o grwpiau incwm aelwyd eraill. Roedd ymatebwyr rhwng 18 a 34 oed yn bwyta cig gwyn yn amlach a chynhyrchion llaeth a ffrwythau a llysiau yn llai aml nag ymatebwyr hŷn.
Dywedodd ymatebwyr 65 oed a hŷn eu bod yn taflu llai o fwyd ac yn ailgylchu gwastraff bwyd yn fwy rheolaidd nag ymatebwyr o grwpiau oed eraill.
Ac eithrio compostio gwastraff bwyd, roedd ymatebwyr sy’n byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach yn ymgymryd â llai o arferion bwyd cynaliadwy na’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardal, fel cynllunio prydau bwyd ymlaen llaw, neu wirio bod bwyd wedi’i storio yn gywir i helpu iddo bara yn hwy. Roedd y gwahaniaeth hwn rhwng arferion bwyd cynaliadwy fesul math o ardal yn dueddol o fod yn llai amlwg yng Ngham 2, h.y. roedd y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad yn debycach yn eu harferion bwyd cynaliadwy i’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd, o’i gymharu â Cham 1.
Canfyddiadau allweddol ar fywyd beunyddiol
Y tri arfer cynaliadwy mwyaf cyffredin i’r holl ymatebwyr oedd rhoi neu werthu eitemau nad ydynt eu heisiau, ailgylchu eitemau nad ydynt eu heisiau, a defnyddio cynhyrchion amldro. Roedd ymatebwyr benywaidd yn ymgymryd â mwy o arferion cynaliadwy nag ymatebwyr gwrywaidd.
Ar gyfer bron i bob arfer cynaliadwy, roedd cyfran fwy o ymatebwyr ag incwm aelwyd uwch yn ymgymryd â nhw o’u cymharu â’r rhai ag incwm aelwyd is. Ymatebwyr yr oedd yn well ganddynt beidio â datgan incwm eu haelwyd oedd â’r cyfrannau ymateb isaf ar gyfer pob arfer cynaliadwy. Roedd y grŵp hwn o ymatebwyr fel rheol yn hŷn, yn byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach, ac yn berchen ar eu llety eu hunain.
Canfyddiadau allweddol ar deithio
Roedd mwyafrif yr holl ymatebwyr yn byw ar aelwyd â mynediad at o leiaf un cerbyd. Roedd gan gyfran is o ymatebwyr a oedd ag incwm aelwyd o hyd at £19,999 neu’n ddi-waith fynediad at gerbyd o’u cymharu â grwpiau eraill. Roedd gan ymatebwyr ag incymau aelwyd uwch fynediad at fwy o gerbydau, at fwy o gerbydau hybrid a thrydan, yn teithio ar awyren yn amlach ac yn mynd ar fwy o wyliau nag ymatebwyr eraill.
Yng Ngham 2, dywedodd rhyw fymryn yn fwy o ymatebwyr o grwpiau incwm aelwyd is eu bod wedi teithio ar awyren nag yng Ngham 1.
Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng nghefn gwlad neu mewn pentref bach yn llai tebygol o fod wedi mabwysiadu arferion teithio cynaliadwy na’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo’n bosibl neu rannu car, na’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd, er bod y gwahaniaeth hwn yn llai amlwg yng Ngham 2, h.y. roedd y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad yn debycach yn eu harferion teithio cynaliadwy i’r rhai sy’n byw mewn mathau eraill o ardaloedd, o’i gymharu â Cham 1.
Cyfyngiadau a goblygiadau
Dylid cadw sawl cyfyngiad mewn cof wrth ystyried canlyniadau arolygon Camau 1 a 2.
Yn gyntaf, roedd y dadansoddiad o’r arolwg yn ddwyamryweb, sy’n golygu ei fod ond yn ystyried y berthynas rhwng dau newidyn ar y tro. Nid yw’r dull hwn yn nodi sut y gallai ffactorau lluosog ryngweithio i ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau unigolion o ran newid hinsawdd. Mae’n bosibl y gallai cysylltiadau a arsylwyd rhwng newidynnau demograffig ac agweddau neu ymddygiadau newid hinsawdd gael eu hesbonio gan newidynnau drysu.
Yn ail, ni phwysolwyd canlyniadau’r arolwg i adlewyrchu’r boblogaeth ehangach. Mae hyn yn golygu efallai nad yw’r canfyddiadau yn gynrychiadol o agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd yn gyffredinol.
Roedd yr arolwg hefyd yn dibynnu ar agweddau ac ymddygiadau a hunanadroddwyd gan yr ymatebwyr, a allai ddangos tuedd neu orliwio. Hefyd, gallai safbwyntiau a hunanadroddwyd fod wedi cael eu dylanwadu gan amgylchedd y cyfryngau ar adeg yr arolwg.
Ystyriaeth olaf yw’r ddibyniaeth ar y camau arolygu cynnar hyn i ddod i gasgliadau. Mae hyn yn cynyddu’r perygl y gallai unrhyw gysylltiadau a arsylwyd fod oherwydd siawns ac yn cyfyngu’r gallu i olrhain newidiadau dros amser neu i gadarnhau sefydlogrwydd yr agweddau a’r ymddygiadau a arsylwyd. Mae mesuriadau ailadroddus, fel y bydd yn cael eu darparu o gamau’r arolwg yn y dyfodol, yn ofynnol i ddarganfod a yw’r cysylltiadau a nodwyd yn sefydlog neu’n destun anwadalrwydd dros amser.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Colin Wright
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Laura Entwistle
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: YmchwilHinsawddAcAmgylchedd@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 12/2025
ISBN digidol 978-1-83715-191-2
