Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Hydref 2019 i Fedi 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o’r Arolwg o'r Llafurlu (LFS), ac yn darparu data treigl dros bedwar chwarter o'r flwyddyn ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.
Mae’r LFS yn parhau i fod y brif ffynhonnell ar gyfer prif ddangosyddion am y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae maint sampl mwy’r APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth.
Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu chwe mis o'r pandemig coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â chwe mis cyn dechrau’r pandemig, ac felly dylid bod yn ofalus. Yn y datganiad Ystadegau Economaidd Allweddol, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o ffynonellau data sy'n rhoi arwyddion mwy amserol ar sut mae'r pandemig yn effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Cyflogaeth
- Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.3%, i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.5% (sydd heb newid yn ystod y flwyddyn).
- Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.2 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.6 pwynt canran yn y DU.
- Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir Fynwy (80.6%), Sir y Fflint (78.9%) a Chasnewydd (76.8%).
- Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf ym Merthyr Tudful (68.1%), Rhondda Cynon Taf (68.5%) ac Abertawe (69.7%).
Diweithdra
- Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 3.6% (i lawr 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 4.1% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
- Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio 1.8 pwynt canran yng Nghymru a 0.9 pwynt canran yn y DU.
- Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yng Nghasnewydd (2.0%), Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd (y ddau yn 2.7%).
- Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf ym Merthyr Tudful (6.5%), Rhondda Cynon Taf (5.7%) ac Abertawe (5.6%).
- Noder nad yw y data ar gyfer Castell-nedd Porth Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro yn cael ei gyhoeddi oherwydd maint y sampl.
Diweithdra ieuenctid
- Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 10.4%, sy’n llai na chyfradd y DU sef 12.4%.
- Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio 3.8 pwynt canran yng Nghymru, ond cododd 0.6 pwynt canran yn y DU.
Diweithdra hirdymor
- Roedd 24.7% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 21.0% yn y DU.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
- Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 19.9% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.2% (i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
- Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio 6.5 pwynt canran yng Nghymru a 4.2 pwynt canran yn y DU.
- Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (13.3%), Caerdydd (14.5%) a Sir y Fflint (15.8%).
- Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf ym Castell-nedd Port Talbot (23.8%), Blaenau Gwent (23.5%) a Merthyr Tudful (23.0%).
Nodweddion gwarchodedig
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn caniatáu dadansoddi data'r farchnad lafur wedi'i rannu yn ôl nodweddion gwarchodedig. Cyhoeddir y data hyn ar StatsCymru. Mae ffigurau'n awgrymu bod rhai grwpiau gwarchodedig o bobl wedi cael eu heffeithio'n fwy andwyol o ran y farchnad lafur gan y pandemig. Byddwn yn parhau i archwilio hyn wrth i ddata mwy amserol ddod ar gael.
- Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (gan gynnwys myfyrwyr) ar gyfer pobl sy'n anabl o dan ddiffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl o dan ddiffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb, cynyddodd 0.7 pwynt canran dros yr un cyfnod.
- Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (gan gynnwys myfyrwyr) 2.7 pwynt canran ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru dros y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, cynyddodd 0.4 pwynt canran ar gyfer pobl sy'n wyn.
- Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru 1.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Arhosodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl wyn yn ddigyfnewid.
- Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer dynion yng Nghymru 1.5 pwynt canran. Ar gyfer menywod, gostyngodd 1.1 pwynt canran dros yr un cyfnod.
- Gostyngodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer dynion yng Nghymru 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Ar gyfer menywod, cynyddodd 0.6 pwynt canran dros yr un cyfnod.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.