Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Gorffennaf 2019 i Fehefin 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn cwmpasu rhan fer o'r pandemig coronafeirws (COVID-19), a bydd yn anodd pennu'r effaith lawn y mae'r pandemig wedi'i chael ar y farchnad lafur nes bydd mwy o ddata ar gael. Yn y adroddiad Ystadegau economaidd allweddol, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o ffynonellau data sy'n rhoi arwyddion mwy amserol ar sut mae'r pandemig yn effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Nodyn adolygu
Mae’r pennawd hwn wedi ei ddiwygio oherwydd ailbwysoli Arolwg o’r Llafurlu (LFS), sydd yn sail i Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae hyn wedi cael effaith ar ddau gyfnod o ddata’r APS: y flwyddyn sy’n dod i ben mis Mawrth 2020, a’r flwyddyn sy’n dod i ben mis Mehefin 2020.
Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi golygu bod cyfweliadau yr LFS wedi newid o fod wyneb yn wyneb yn bennaf i gyfweliadau ffôn yn gynharach eleni. Arweinodd hyn at newid yn y mathau o aelwydydd oedd yn ymateb i’r arolwg, ac i fod yn sampl llai cynrychioladol o bosibl o ran y ddeiladaeth dai. Mae’r arolwg felly wedi ei ailbwysoli fel bod dosbarthiad y ddeiliadaeth dai yr un â chyn y pandemig ym mis Mawrth. Caiff hyn ei egluro’n fanwl mewn blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Er nad yw’r ailbwysoli wedi newid tuedd gyffredinol y data, mae wedi gostwng y gyfradd gyflogi ar gyfer Cymru ychydig, ac wedi cynyddu’r cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd ychydig.
Cyflogaeth
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.8%, i fyny 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.8% (i fyny 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.6 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.6 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir Fynwy (81.0%), Sir y Fflint (80.2%) a Phowys (78.1%).
Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf ym Merthyr Tudful (68.8%), Abertawe (69.1%) a Blaenau Gwent (69.8%).
Diweithdra
Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 3.7% (i lawr 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 3.9% (i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio 1.8 pwynt canran yng Nghymru a 1.1 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yng Nghasnewydd (1.8%), Sir Fynwy (2.4%) a Sir y Fflint (2.5%).
Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf ym Merthyr Tudful (6.2%), Abertawe (5.4%) ac Ynys Môn (5.3%).
Diweithdra ieuenctid
Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 11.3%, sy’n llai na chyfradd y DU sef 11.7%.
Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio 2.9 pwynt canran yng Nghymru a 0.1 pwynt canran yn y DU.
Diweithdra hirdymor
Roedd 24.3% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 21.4% yn y DU.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 19.7% (i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.3% (i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio 6.7 pwynt canran yng Nghymru a 4.1 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (13.1%), Caerdydd (15.0%) a Sir y Fflint (15.2%).
Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf ym Mlaenau Gwent (24.9%), Castell-nedd Port Talbot (23.3%) ac Abertawe (23.2%).
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.