Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Gorffennaf 2018 i Mehefin 2019.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.2% o’i chymharu â 75.5% yn y DU. 
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.1 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.2 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf ym Mro Morgannwg (78.6%), Sir Fynwy (78.0%) a Sir y Fflint (77.0%).
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf yng Ngheredigion (66.8%), Abertawe (68.3%) a Rhondda Cynon Taf (69.5%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.2%, o’i chymharu â 4.0% yn y DU.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio gan 1.2 pwynt canran yng Nghymru a 1.0 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yn Sir Ddinbych (2.3%), Sir Fynwy (2.3%) a Phowys (2.6%).
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf yn Rhondda Cynon Taf (6.8%), Merthyr Tudful (5.7%) a Chaerffili (5.6%).

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 12.6%, sy’n uwch na chyfradd y DU sef 11.6%.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio gan 1.6 pwynt canran yng Nghymru a 0.2 pwynt canran yn y DU.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 27.2% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 25.2% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 23.5% o’i chymharu â 21.3% yn y DU.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio gan 5.5 pwynt canran yng Nghymru a 2.6 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf ym Mro Morgannwg (18.1%), Wrecsam (20.0%) ac Ynys Môn (20.0%).
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf yng Ngheredigion (31.0%), Abertawe (28.0%) a Blaenau Gwent (26.1%).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.