Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.1% o’i chymharu â 75.2% yn y DU.
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.0 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.0 pwynt canran yn y DU.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf oedd Bro Morgannwg (80.4%), Sir Fynwy (77.7%) a Wrecsam (77.3%). Roedd y cyfraddau isaf yn Abertawe (67.3%), Caerphilly (68.4%) a Cheredigion (69.0%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5%, o’i chymharu â 4.1% yn y DU.
  • Ers 2001, mae cwymp o 0.9 pwynt canran wedi bod yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn y DU.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf oedd Bro Morgannwg (2.1%), Powys (2.1%) a Sir Ddinbych (2.2%). Roedd y cyfraddau uchaf yn Rhondda Cynon Taf (7.2%), Caerphilly (6.9%) ac Abertawe (6.7%).

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 14.2%, sy’n uwch na chyfradd y DU sef 11.5%.
  • Roedd cyfradd diweithdra ieuenctid yr un fath ag yr oedd yn 2001, er bu'n gyfnewidiol dros y cyfnod hwnnw. Roedd y DU cyfan 0.3 pwynt canran yn is yn y flwyddyn ddiweddaraf nag ydoedd yn 2001.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 27.3% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 25.4% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 23.3% o’i chymharu â 21.5% yn y DU.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio o 5.7 pwynt canran yng Nghymru a 2.4 pwynt canran yn y DU.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf oedd Bro Morgannwg (16.6%), Wrecsam (18.8%) ac Ynys Môn (19.3%). Roedd y cyfraddau uchaf yng Ngheredigion (29.3%), Abertawe (27.6%) a Blaenau Gwent (26.5%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.