Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Hydref 2017 i Medi 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 72.6% o'i gymharu â 75.0% yn y DU. Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd yn 71.0%, tra bod y gyfradd ar gyfer Dwyrain Cymru yn 75.2%.
- Ers 2001, cynyddodd y gyfradd cyflogaeth 5.4 pwynt canran yng Nghymru a 2.7 pwynt canran yn y DU. Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth i fyny 6.0 pwynt canran o'i gymharu â chynnydd o 4.4 pwynt canran ar gyfer Dwyrain Cymru.
- Powys (79.4%), Wrecsam (78.5%) a Sir Fynwy (77.9%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf. Roedd y cyfraddau isaf yn Abertawe (66.0%), Ceredigion (67.6%), ac yng Nghastell-nedd Port Talbot (67.7%).
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.