Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer 2018.

Mae'r Annual Population Survey (ABB) yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o’r Arolwg o'r Llafurlu, ac yn darparu data treigl dros bedwar chwarter o'r flwyddyn ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU, a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r ABB yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.1% o’i chymharu â 75.0% yn y DU.
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.0 pwynt canran yng Nghymru ac o 2.7 pwynt canran yn y DU.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf oedd Wrecsam (78.6%), Bro Morgannwg (78.5%) a Sir Fynwy (78.0%). Roedd y cyfraddau isaf yn Abertawe (66.5%), Ceredigion (69.6%) a Thorfaen (70.5%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5%, o’i chymharu â 4.2% yn y DU. 
  • Ers 2001, mae cwymp o 0.9 pwynt canran wedi bod yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn y DU.
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf oedd Powys (2.0%), Ceredigion (2.2%) a Sir Ddinbych (2.3%). Roedd y cyfraddau uchaf yn Rhondda Cynon Taf (7.1%), Abertawe (6.2%) a Merthyr Tudful (6.0%).

Diweithdra ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 14.0%, sy’n uwch na chyfradd y DU sef 11.6%.
  • Ers 2001, mae cwymp o 0.2 pwynt canran wedi bod yn y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru a chwymp o 0.1 pwynt canran wedi bod yn y DU.

Diweithdra hirdymor

  • Roedd 25.0% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 25.1% yn y DU.

Anweithgarwch economaidd

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 23.3% o’i chymharu â 21.7% yn y DU.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio o 5.6 pwynt canran yng Nghymru a 2.2 pwynt canran yn y DU. 
  • Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf oedd Wrecsam (18.5%), Bro Morgannwg (18.5%) a Sir Fynwy (19.5%). Roedd y cyfraddau uchaf yn Abertawe (28.9%), Ceredigion (28.9%) a Phen-y-bont ar Ogwr (25.9%).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.