Neidio i'r prif gynnwy

Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer 2019.

Cyflogaeth

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 73.2%, sydd fwy neu lai yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gyfradd gyflogaeth yn y DU yn 75.6% (i fyny 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth o 6.1 pwynt canran yng Nghymru ac o 3.4 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig uchaf yn Sir y Fflint (79.4%), Sir Fynwy (77.6%)  ac Ynys Môn (77.1%).
  • Roedd y cyfraddau cyflogaeth amcangyfrifedig isaf yng Ngheredigion (65.1%), Rhondda Cynon Taf (67.9%) a Blaenau Gwent (68.7%).

Diweithdra

  • Roedd y gyfradd ddiweithdra ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.1% (i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd ddiweithdra yn y DU yn 3.9% (i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra wedi syrthio gan 1.4 pwynt canran yng Nghymru a 1.2 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig isaf yn Sir Fynwy (2.5%), Ceredigion (2.6%) a Sir y Fflint (2.7%).
  • Roedd y cyfraddau diweithdra amcangyfrifedig uchaf yn Rhondda Cynon Taf (6.0%), Wrecsam (6.0%) a Caerffili (5.6%).

Diweithdra Ieuenctid

  • Roedd y gyfradd diweithdra ieuenctid yng Nghymru yn 12.0%, sy’n uwch na chyfradd y DU sef 11.3%.
  • Ers 2001, mae’r gyfradd diweithdra ieuenctid wedi syrthio gan 2.2 pwynt canran yng Nghymru a 0.5 pwynt canran yn y DU.

Diweithdra Hirdymor

  • Roedd 25.9% o bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu ragor. Mae hyn yn cymharu â 24.3% yn y DU.

Anweithgarwch Economaidd (ac eithrio myfyrwyr)

  • Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 19.9% (i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt). Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y DU yn 17.4% (i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt).
  • Ers 2001, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi syrthio gan 6.4 pwynt canran yng Nghymru a 4.0 pwynt canran yn y DU.
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf yn Sir y Fflint (15.4%), Caerdydd (16.4%) a Sir Fynwy (16.6%).
  • Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig uchaf yn Flaenau Gwent (25.2%), Rhondda Cynon Taf (23.6%) a Chaerffili (22.8%).

Yn y datganiad hwn, rydym wedi newid ein prif ffigur ar gyfer anweithgarwch economaidd i eithrio myfyrwyr. Mae hyn oherwydd yr effaith anghymesur ar ardaloedd lle mae dwysedd uchel o ran myfyrwyr, sy’n fwy amlwg ar lefel islaw Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.