Neidio i'r prif gynnwy

Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2019.

Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.

Enillion wythnosol amser llawn

Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £535.0 ym mis Ebrill 2019, sef 91.5% o gyfartaledd y DU cyfan (£584.9). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd trydydd leiaf o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Gwelwyd cynnydd o 5.1% yng nghanolrif enillion gweithio wythnosol gros yng Nghymru rhwng 2018 a 2019, o’i gymharu â chynnydd o 2.9% dros y DU yn gyfan. Cymru oedd cynnydd canrannol uchaf ar y cyd ymysg y 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Enillion fesul awr yn ôl rhyw

Ym mis Ebrill 2019 roedd yr enillion canolrif  fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn 93.7% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn uwch na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (91.1%) a’r ail cynnydd canrannol uchaf allan o'r gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon roedd canolrif enillion merched sy’n gweithio llawn amser yn uwch na dynion.

Ym mis Ebrill 2019 roedd yr enillion canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio rhan-amser yng Nghymru yn 101.4% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn is na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (103.1%) ac oedd y seithfed cynnydd canrannol uchaf ar y cyd allan o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Bwlch tâl rhyw

Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2019 yn 6.4% yng Nghymru ac 8.9% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau 0.9 pwynt canran, ac wedi lledu 0.3 pwynt canran yn y DU.

Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2019 yn -1.3% yng Nghymru a -3.1% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau gan 2.9 pwynt canran, ac wedi culhau gan 1.8 pwynt canran yn y DU. Gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol.

Roedd y bwlch cyflog canolrif yr awr (gan eithrio goramser) rhwng y rhywiau ar gyfer holl swyddi gweithwyr yn 14.5% yng Nghymru a 17.3% yn y DU ar gyfer Ebrill 2019. Yng Nghymru mae'r bwlch wedi lledu 0.8 pwynt canran ac wedi culhau 0.5 pwynt canran yn y DU.

Enillion yn seiliedig ar breswylfa

Bu cynnydd o 4.3% (i £540.7) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2019 roedd y lefel yn 92.4% o gyfartaledd y DU.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.