Data yn dangos gweithgaredd y rhai sy'n cymhwyso yn ôl dull, lefel, rhanbarth cyflogaeth a boddhad gyda'r dewis astudio dair blynedd a hanner ar ôl graddio ar gyfer Medi 2012 i Awst 2013.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r data hyn yn darparu gwybodaeth o’r arolwg Hydredol o Gyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch ar gyfer y rheini a adawodd Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn y DU a gymhwysodd yn 2012/13. Holwyd y myfyrwyr hyn am eu prif weithgareddau fel ag yr oeddynt yng ngaeaf 2016/17. Mae’r pennawd yn canolbwyntio ar y 5,160 o fyfyrwyr addysg uwch sy’n hanu o’r DU a gymhwysodd o SAUau yng Nghymru ac a ymatebodd i’r arolwg.
Dyma'r arolwg hydredol olaf o Gyrchfannau Ymadawyr. Bydd yr Arolwg Hynt Graddedigion yn cymryd ei le yn 2020. Bydd yr Arolwg Hynt Graddedigion yn cynnal arolwg o ymadawyr 15 mis ar ôl iddynt raddio.
Prif bwyntiau
- Dair blynedd a hanner wedi iddynt raddio, roedd 81 o bob 100 o raddedigion o SAUau yng Nghymru a ymatebodd i’r arolwg mewn swyddi, sy'n debyg i'r cyfrannau ymhlith graddedigion blaenorol ar y pwynt hwn.
- O blith y graddedigion o SAUau yng Nghymru a oedd mewn swyddi amser llawn â thâl, roedd 68 o bob 100 yn ennill dros £21,000. Dyma'r gyfran isaf yn unrhyw ranbarth o'r DU.
- O ran y rhai sydd mewn swyddi, roedd 69 o bob 100 o bobl a oedd yn hanu'n wreiddiol o Gymru yn gweithio yng Nghymru dair blynedd a hanner yn ddiweddarach. Mewn cymhariaeth, dim ond 55 o bob 100 myfyriwr a astudiodd yng Nghymru a oedd yn gweithio yno dair blynedd a hanner yn ddiweddarach.
- O blith y rhai a gafodd swydd yng Nghymru o fewn chwe mis i raddio yn unrhyw fan yn y DU, roedd 81 o bob 100 yn dal i fod yng Nghymru dair blynedd a hanner yn ddiweddarach.
Cyfraddau ymateb
Mae'r 5,160 o ymatebwyr o SAUau yng Nghymru'n rhan o boblogaeth bosibl o 15,340, sy'n rhoi cyfradd ymateb o 39.4%. Ar draws pob haniad daearyddol, lefel a dull astudio, roedd 42,300 o bobl wedi cymhwyso o SAUau yng Nghymru yn 2012/13.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.