Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cofnodi’r data ar gyfer Cymru a ddeilliodd o Arolwg Hydredol o Fusnesau Bach (yr Arolwg) 2019. Gyda diolch i Thao Nguyen o’r Ganolfan Arloesi Genedlaethol ar gyfer Mentergarwch Wledig ac Ian Drummond a Stephen Roper o’r Ganolfan Ymchwil Mentergarwch am ddadansoddi’r data a pharatoi’r adroddiad. Nid yw’r dadansoddiad hwn yn rhan o gyhoeddiad rheolaidd arfaethedig. Fodd bynnag, bydd dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â defnyddwyr mewnol ac allanol drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 er mwyn gweld a fyddai’n ddefnyddiol dadansoddi’r Arolwg ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Cysylltwch â ystadegau.masnach@llyw.cymru os hoffech fod yn rhan o’r trafodaethau hynny.

Cyflwyniad

Mae Arolwg Hydredol o Fusnesau Bach yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (yr Arolwg) yn darparu ystod eang o ddata dibynadwy ynghylch perfformiad busnesau bach a chanolig (BBaChau) ac ynghylch y ffactorau sy’n gysylltiedig â hynny. Nid yw llawer o’r data a ddarperir gan yr Arolwg ar gael mewn unrhyw setiau data eraill gan y llywodraeth.

Cyflawnwyd y gwaith maes ar gyfer Arolwg 2019 rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Chwefror 2020. Mae hynny’n golygu bod gwaith maes yr Arolwg wedi’i gwblhau erbyn dechrau’r pandemig Covid ac nad yw’r heriau a grëwyd gan hynny’n effeithio ar y canfyddiadau. Felly, gall canfyddiadau Arolwg 2019 gynnig meincnod pwysig ar gyfer mesur effeithiau’r pandemig ynghyd ag unrhyw adferiad sy’n dilyn. 

Mae data ychwanegol ar gael yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn.

Y boblogaeth o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru

Mae Tabl 1 yn dangos strwythur y boblogaeth o fusnesau yng Nghymru yn 2019. Fel sy’n wir am y DU gyfan, BBaChau (0 – 249 o weithwyr) sydd fwyaf amlwg yn y strwythur hwn, gan fod dros 99% o’r boblogaeth o fusnesau sydd yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig. O fewn y boblogaeth honno, mae 22.9% (tua 61,000) yn BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (busnesau sydd ag 1 i 249 o weithwyr). Mae’r busnesau hynny’n gyfrifol am 43.5% o gyflogaeth a 35.0% o drosiant yng Nghymru.

Tabl 1a: Strwythur y boblogaeth o fusnesau yng Nghymru yn 2019 yn ôl nifer
  Nifer y mentrau Cyflogaeth Trosiant (£m)
Nifer y gweithwyr 204,350 224,700 3,431
Micro (1 i 9) 49,285 187,700 12,526
Bach (10 i 49) 9,485 179,500 13,624
Canolig (50 i 249) 2,215 146,300 16,795
Mawr (250+) 1,705 444,600 76,125
BBaChau sy’n gyflogwyr  60,985 513,500 42,945

Ffynhonnell: Strwythur busnesau yng Nghymru yn ôl band maint a mesur ar StatsCymru

Nodyn: Caiff data ynghylch BBaChau sy’n gyflogwyr ei gyfrifo o ffigurau crwn sydd wedi’u cyhoeddi. Mentrau yw cyfrif o’r mentrau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys mentrau sy’n gweithredu mewn sawl rhanbarth ac sydd wedi’u cofrestru y tu allan i Gymru. Nid yw’r ffigurau trosiant yn cynnwys trosiant yn y sector gwasanaethau ariannol a busnes).

Tabl 1b: Strwythur y boblogaeth o fusnesau yng Nghymru yn 2019 yn ôl canran
  Mentrau Cyflogaeth Trosiant (£m)
Nifer y gweithwyr 76.5% 19.0% 2.8%
Micro (1 i 9) 18.5% 15.9% 10.2%
Bach (10 i 49) 3.6% 15.2% 11.1%
Canolig (50 i 249) 0.8% 12.4% 13.7%
Mawr (250+) 0.6% 37.6% 62.1%
BBaChau sy’n gyflogwyr  22.9% 43.5% 35.0%

Ffynhonnell: Strwythur busnesau yng Nghymru yn ôl band maint a mesur ar StatsCymru

Yr Arolwg Hydredol o Fusnesau Bach

Trosolwg o’r fethodoleg

Caiff yr Arolwg ei gynnal bob blwyddyn ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac mae’n arolwg ar raddfa fawr a gynhelir dros y ffôn gyda busnesau o’r sector preifat yn y DU sy’n cyflogi llai na 250 o weithwyr. Mae’r Arolwg yn bodoli mewn gwahanol ffurfiau ers 2003. Ers 2015, bwriad yr Arolwg yw darparu data trawstoriadol a data hydredol. Mae’r data trawstoriadol yn rhoi darlun sydyn o berfformiad busnesau a’r ffactorau sy’n effeithio ar hynny adeg yr Arolwg. Mae’r data hydredol, a ddarperir gan banelau o ymatebwyr a gaiff eu cyfweld bob blwyddyn, yn disgrifio sut y mae’r ffactorau hynny’n newid gydag amser. Oherwydd bod y panelau’n colli aelodau, caiff aelodau newydd eu hychwanegu bob blwyddyn er mwyn cynnal samplau sy’n ddigon mawr i’w dadansoddi’n ddibynadwy. Mantais ychwanegol hynny yw bod y sampl gyffredinol – drawstoriadol – yn fwy nag y byddai fel arall efallai.

Mae’r Arolwg bob amser wedi ceisio osgoi newid y cwestiynau a ofynnir. Mae hynny wedi bod yn arbennig o wir ers i’r Arolwg droi’n Arolwg hydredol, gan y byddai newid y cwestiynau’n tanseilio defnyddioldeb data’r panel. Mae holiadur llawn yr Arolwg i’w weld yn adroddiad technegol Arolwg 2019. Nid yw pob cwestiwn, er enghraifft y cwestiynau’n ymwneud â mentrau cymdeithasol, yn cael eu gofyn bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod y baich ar ymatebwyr mor fach ag sy’n bosibl. At hynny, dim ond i gyfran o’r sampl lawn y caiff rhai cwestiynau eu gofyn. Er enghraifft, yn 2019, dim ond i draean o’r busnesau a gafodd eu cyfweld y gofynnwyd y cwestiynau ynghylch arloesi o ran prosesau, ymchwil a datblygu, gweithio i’r sector cyhoeddus a rhwystrau i lwyddiant busnesau.

Samplu

Mae’r boblogaeth o fusnesau yn y DU yn cynnwys nifer fawr o fusnesau sy’n fach iawn, ac yn gyfatebol nifer fach iawn o fusnesau sy’n ganolig eu maint. Mae’r Arolwg yn ymdrin â’r strwythur anghytbwys hwn trwy samplu gormod o fusnesau canolig eu maint ac yna pwysoli’r data er mwyn rhoi canfyddiadau cynrychioliadol. Mae angen gwneud hynny oherwydd, fel arall, byddai sampl gynrychioliadol o fusnesau’r DU yn cynnwys nifer rhy fach o fusnesau canolig eu maint i roi canlyniadau dibynadwy. Er enghraifft, mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond 0.64% o’r holl fusnesau yng Nghymru oedd yn fusnesau canolig eu maint ddechrau 2019. Felly, gyda sampl gyffredinol o 400 o fusnesau yng Nghymru, heb samplu gormod, dim ond tri o fusnesau canolig eu maint fyddai’n rhan o’r sampl a gyflawnir.

Er bod sampl yr Arolwg yn ddigon mawr at ei gilydd i gynnig data dibynadwy iawn ar gyfer y DU gyfan, mae’r samplau a gyflawnir ar gyfer gwledydd y DU yn llai, ac mewn rhai achosion mae angen ymdrin yn ofalus â’r canfyddiadau. Mae hynny’n arbennig o wir os yw’r dadansoddi’n ymwneud ag is-setiau o’r boblogaeth gyffredinol o fusnesau. Er enghraifft, gellir dadansoddi data’r Arolwg yn ôl sector, ond nid oes dadansoddiadau o’r fath wedi’u cynnwys yma oherwydd bod y samplau ar gyfer Cymru yn rhy fach i’w dadansoddi’n ddibynadwy.

Tabl 2: Cyfanswm y sampl a gyflawnwyd yn ôl gwledydd y DU, 2019
  Pob BBaCh - samplau heb eu pwysoli Pob BBaCh - samplau wedi’u pwysoli Pob BBaCh sy’n gyflogwr - samplau heb eu pwysoli  Pob BBaCh sy’n gyflogwr - samplau wedi’u pwysoli 
Lloegr 9,026 9,686 6,878 2,302
Yr Alban (a) 1,099 626 849 184
Cymru 391 406 298 107
Gogledd Iwerddon (a) 485 251 381 67
Cyfanswm 11,002 11,000 8,406 2,660

Ffynhonnell: Arolwg Hydredol o Fusnesau Bach

(a) Cynyddwyd y samplau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon

Tabl 3: Y sampl a gyflawnwyd yn ôl band maint yng Nghymru a’r DU, 2019
  Cymru – samplau heb eu pwysoli  Cymru – samplau wedi’u pwysoli  Y DU – samplau heb eu pwysoli  Y DU – samplau wedi’u pwysoli 
Dim gweithwyr 93 299 2,563 8,309
Micro (1 i 9) 147 89 3,774 2,192
Bach (10 i 49) 94 16 2,988 402
Canolig (50 i 249) 57 2 1,644 66
Mawr (250+) (a) - - 33* -
Cyfanswm 391 406 11,002 11,000
BBaChau sy’n gyflogwyr 298 107 8,406 2,660

Ffynhonnell: Arolwg Hydredol o Fusnesau Bach

- = Nid yw’r eitem o ddata yn sero yn union, ond amcangyfrifir ei bod yn sero neu’n llai na hanner y digid olaf a ddangosir.

(a) Roedd y busnesau mawr yn BBaChau mewn panel hydredol, sydd bellach wedi tyfu i 250+ o weithwyr

Mae esboniad mwy manwl o fethodoleg yr Arolwg i’w gael yn adroddiad technoleg yr Arolwg (2019).

Dadansoddi ac adrodd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddata 2019 ar gyfer busnesau sydd â rhwng 1 a 249 o weithwyr (‘BBaChau sy’n gyflogwyr’). Nid yw’r canfyddiadau ar gyfer busnesau sydd heb weithwyr wedi’u cynnwys oherwydd bod eu hymddygiad a’u perfformiad yn dueddol o fod yn wahanol iawn i’r hyn a nodir gan fusnesau sydd â gweithwyr. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hefyd yn cyhoeddi adroddiad ar wahân sy’n rhoi canfyddiadau’r Arolwg ar gyfer busnesau sydd heb weithwyr.

Er mwyn hwyluso’r gallu i gymharu, caiff y data ar gyfer Cymru ei gyflwyno at ei gilydd yn ôl maint busnesau, gan gymharu Cymru wedyn â phob un o wledydd y DU.  

Drwy’r adroddiad i gyd, os yw’r ffigurau yn ymdrin â’r holl bosibiliadau ond heb ddod i gyfanswm o 100, mae’r diffyg oherwydd bod busnesau wedi dweud nad oeddent yn gwybod yr ateb neu wedi gwrthod rhoi ateb neu gallai fod oherwydd bod amcangyfrifon wedi’u talgrynnu i’r ganran gyfan agosaf. Drwy’r adroddiad i gyd, nid ydym wedi cynnwys atebion ‘ddim yn gwybod’ neu achosion o wrthod ateb yn y data a gyflwynir. Caiff yr ystadegau eu cyfrifo ar sail samplau wedi’u pwysoli er mwyn addasu ar gyfer y fethodoleg samplu a chyflwyno data sy’n fwy cynrychioliadol. Fodd bynnag, caiff y samplau wedi’u pwysoli a heb eu pwysoli ar gyfer yr ystadegau eu cyflwyno ar gyfer pob siart.

Mae’n bwysig nodi mai nifer fach iawn o ymatebwyr oedd yn rhan o’r samplau ar gyfer rhai cwestiynau. Mewn achosion o’r fath, dylid dehongli’r canfyddiadau’n ofalus ac mae nodyn wedi’i roi dan y siartiau perthnasol i ddangos ble mae angen cymryd gofal arbennig.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno canfyddiadau Arolwg 2019 ar gyfer Cymru dan dri phennawd.

  1. Demograffeg busnesau: nodweddion sylfaenol BBaChau sy’n gyflogwyr.
  2. Perfformiad busnesau a’u rhagolygon: y data am berfformiad busnesau o safbwynt cyflogaeth a throsiant, proffidioldeb ac uchelgais i dyfu.
  3. Ymddygiad ac arferion busnesau: canfyddiadau sy’n ymwneud ag ystod o wahanol fathau o ymddygiad gan fusnesau, a gaiff eu cysylltu’n aml â pherfformiad busnesau.

Demograffeg busnesau

Oed

Mae bron hanner y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (48.8%) wedi’u sefydlu ers dros ugain mlynedd. Mae un o bob saith (14.4%) wedi’u sefydlu ers llai na phum mlynedd. Mae Siart 1 yn dangos bod cysylltiad cadarnhaol rhwng maint cwmni a’i oed; dim ond 1.1% o fusnesau canolig eu maint sydd wedi’u sefydlu ers pum mlynedd neu lai tra mae 80.3% o fusnesau canolig eu maint yng Nghymru wedi’u sefydlu ers dros 20 mlynedd.

Image
Siart bar 1 yn dangos oed busnesau yng Nghymru. Mae mwyafrif y busnesau wedi'u sefydlu ers dros 20 mlynedd.

Mae Siart 2 yn dangos bod strwythur oed BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn debyg at ei gilydd i’r strwythur a welir yng ngwledydd eraill y DU.

Image
Siart bar 2 yn dangos nad yw oed busnesau'n amrywio ryw lawer rhwng gwledydd y DU.

Statws cyfreithiol

Yn ymarferol, gall fod gan fusnesau ystod o ffurfiau cyfreithiol sy’n cynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a sefydliadau corfforedig elusennol. Fodd bynnag, un o dair ffurf gyfreithiol sydd gan dros 95% o fusnesau’r DU, sef unig berchnogion, cwmnïau neu bartneriaethau.

Mae Siart 3 yn dangos bod mwyafrif y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (58.1%) yn gwmnïau cyfyngedig preifat. Ceir cysylltiad cadarnhaol rhwng y tebygolrwydd o fod yn gwmni o’r fath a maint y cwmni: 53.3% o fusnesau micro, 79.3% o fusnesau bach a 90.7% o fusnesau canolig eu maint. I’r gwrthwyneb, mae’n fwy cyffredin i fusnesau micro a busnesau bach fod yn unig berchnogion ac yn bartneriaethau.

Image
Siart bar 3 yn dangos bod mwyafrif y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru (58.1 y cant) yn gwmnïau cyfyngedig preifat.

Mae Siart 4 yn dangos bod BBaChau sy’n gyflogwyr yn fwy tebygol o fod yn gwmnïau cyfyngedig preifat yng ngwledydd eraill y DU (er enghraifft 73.5% yn Lloegr) nag yng Nghymru (58.1%). Mae unig berchnogion a phartneriaethau’n fwy cyffredin yng Nghymru.

Image
Siart bar 4 yn dangos bod busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yn fwy tebygol o fod yn gwmnïau cyfyngedig preifat yn y DU gyfan (71.7 y cant) nag yng Nghymru (58.1 y cant).

Lleoliad trefol/gwledig

Mae’r dosbarthiad gwledig a threfol a ddefnyddir yn yr Arolwg yn seiliedig ar y diffiniad o wledig a gyhoeddwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Mae hanner (49.5%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig. Mae’r gyfran yn is (29.4%) ar gyfer busnesau canolig eu maint (gweler Siart 5).

Image
Siart bar 5 yn dangos bod hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi'u lleoli mewn ardaloedd gwledig.

Yn y DU gyfan, mae llai nag un o bob tri (31.4%) o BBaChau sy’n gyflogwyr wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig. Mae data’r Arolwg yn dangos bod nifer amlwg uwch o fusnesau yng Nghymru wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig nag sy’n wir am y DU gyfan (gweler Siart 6).

Image
Siart bar 6 yn dangos bod llai nag un o bob tri (31.4 y cant) o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yn y DU gyfan wedi'u lleoli mewn ardaloedd gwledig.

Safle’r busnes

Mae gan ychydig yn llai nag un o bob pump (18.9%) o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru safle busnes sydd yng nghartref perchennog y busnes neu unigolyn arall.

Mae’r gyfran honno’n gostwng yn eithaf amlwg gyda maint y cwmni, o 21.3% o fusnesau micro i 1.1% o fusnesau canolig eu maint (gweler Siart 7).

Image
Siart bar 7 yn dangos bod gan 18.9 y cant o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru safle sydd yn eu cartref neu yng nghartref perchennog y busnes.

Mae cyfran y busnesau sy’n gweithredu o’r cartref yn eithaf cyson ar draws pedair gwlad y DU (gweler Siart 8).

Image
Siart bar 8 yn dangos nad yw cyfran y busnesau sy'n gweithredu o'r cartref yn amrywio ryw lawer ar draws pedair gwlad y DU.

Perchnogaeth teuluol

Mae’r Arolwg yn diffinio busnesau teuluol fel rhai y mae aelodau o’r un teulu yn berchen ar y rhan fwyaf o’r cwmni. Roedd busnesau ag un perchennog neu bartner hefyd yn cael eu hystyried yn fusnesau teuluol.

Mae bron dri chwarter (73.7%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn fusnesau teuluol (gweler Siart 9). Fodd bynnag, mae’r gyfran honno’n gostwng gyda maint y cwmni. Mae 75.8% o fusnesau micro, 64.8% o fusnesau bach a 55.0% yn unig o fusnesau canolig eu maint yn fusnesau teuluol.

Image
Siart bar 9 yn dangos bod bron dri chwarter y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn fusnesau teuluol.

Fel y gwelir yn Siart 10, mae cyfran y BBaChau sy’n gyflogwyr ac sy’n fusnesau teuluol yn eithaf cyson ar draws gwledydd y DU.

Image
Siart bar 10 yn dangos bod cyfran y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr ac sy'n fusnesau teuluol yn eithaf cyson ar draws gwledydd y DU.

Busnesau a gaiff eu harwain gan fenywod

Mae’r Arolwg yn diffinio busnesau a gaiff eu harwain gan fenywod fel busnesau a gaiff eu harwain gan fwyafrif o fenywod, hynny yw sy’n cael eu harwain gan un fenyw neu sydd â thîm o reolwyr y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fenywod.

At ei gilydd, mae 13.5% o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn rhai a gaiff eu harwain gan fenywod (gweler Siart 11). Mae’r gyfran ar ei huchaf ymhlith busnesau bach (18.2%), mae ychydig yn is ymhlith busnesau micro (12.8%) ac yn is eto ymhlith busnesau canolig eu maint (8.4%).

Image
Siart bar 11 yn dangos bod 13.5 y cant o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn rhai a gaiff eu harwain gan fenywod.

Fel y gwelir yn Siart 12, nid yw cyfran y BBaChau sy’n gyflogwyr ar draws gwledydd y DU ac a gaiff eu harwain gan fenywod yn amrywio ryw lawer.

Image
Siart bar 12 yn dangos nad yw cyfran y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr ar draws gwledydd y DU ac a gaiff eu harwain gan fenywod yn amrywio ryw lawer.

Busnesau a gaiff eu harwain gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig

Mae’r Arolwg yn diffinio busnesau a gaiff eu harwain gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig fel busnesau y mae gan unigolyn o leiafrif ethnig reolaeth lwyr drostynt neu fusnesau y mae o leiaf hanner eu tîm rheoli yn dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

At ei gilydd 1.5% o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru oedd yn fusnesau a gaiff eu harwain gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn ôl diffiniad yr Arolwg (gweler Siart 13). Mae’r gyfran ar ei hisaf ymhlith busnesau micro (1.2%) ac ar ei huchaf ymhlith busnesau canolig eu maint (3.4%).

Image
Siart bar 13 yn dangos mai un a hanner y cant o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru oedd yn fusnesau a gaiff eu harwain gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig

Y gyfran yng Nghymru yw’r isaf ymhlith pedair gwlad y DU. Mae’r ffigur ar gyfer y DU gyfan yn 5.1% (gweler Siart 14).

Image
Siart bar 14 yn dangos mai cyfran Cymru o fusnesau a gaiff eu harwain gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yw'r isaf ymhlith pedair gwlad y DU.

Mentrau cymdeithasol a BBaChau sydd â gogwydd cymdeithasol

Mae’r meini prawf a ddefnyddir gan yr Arolwg i ddiffinio mentrau cymdeithasol wedi newid sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019, roedd y categoreiddio’n dibynnu ar bwysigrwydd cymharol nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol – mae disgrifiad manwl o’r meini prawf a ddefnyddiwyd wedi’i gynnwys yn adran D adroddiad technegol yr Arolwg

Fel y gwelir yn Siart 15, roedd 12.7% o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn bodloni diffiniad yr Arolwg o fenter gymdeithasol. Roedd busnesau bach a chanolig yn fwy tebygol na busnesau micro o gael eu cynnwys yn y categori mentrau cymdeithasol. Ychydig dan un o bob pump o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (19.7%) a nododd rai nodau cymdeithasol neu amgylcheddol perthnasol ac a gafodd eu hystyried yn gwmnïau sydd “â gogwydd cymdeithasol” ond nid oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys yn y categori menter gymdeithasol. Gwelwyd nifer fach iawn o sefydliadau nid-er-elw traddodiadol hefyd.

Image
Siart bar 15 yn dangos bod 12.7 y cant o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn bodloni diffiniad yr Arolwg o fenter gymdeithasol.

Nid oedd cyfran y mentrau cymdeithasol yn amrywio’n fawr iawn rhwng gwledydd y DU (gweler Siart 16).

Image
Siart bar 16 yn dangos nad oedd cyfran y mentrau cymdeithasol yn amrywio'n fawr iawn rhwng gwledydd y DU.

Perfformiad busnesau a’u rhagolygon

Newidiadau o ran cyflogaeth yn ystod y 12 mis cyn y gwaith maes

Dywedodd dros hanner y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (52.0%) nad oeddent wedi gweld unrhyw newid o ran cyflogaeth yn ystod y flwyddyn cyn yr Arolwg. Fel y dangosir yn Siart 17, roedd busnesau canolig eu maint yng Nghymru (50.2%) dipyn yn fwy tebygol o fod wedi gweld cynnydd mewn cyflogaeth na busnesau llai (busnesau micro 25.2% a busnesau bach 26.2%).

Image
Siart bar 17 yn dangos bod busnesau canolig eu maint yng Nghymru dipyn yn fwy tebygol o fod wedi gweld cynnydd mewn cyflogaeth na busnesau llai.

Roedd busnesau yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol na busnesau yng ngwledydd eraill y DU o fod wedi gweld gostyngiad neu gynnydd mewn cyflogaeth (gweler Siart 18).

Image
Siart bar 18 yn dangos bod busnesau yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol na busnesau yn y DU gyfan o fod wedi gweld gostyngiad neu gynnydd mewn cyflogaeth.

Newidiadau o ran trosiant yn ystod y 12 mis cyn y gwaith maes

Yn ystod y flwyddyn cyn i’r busnes gael ei gyfweld, roedd 18.6% o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn eu trosiant a dywedodd un o bob tri (33.3%) fod eu trosiant wedi cynyddu. Fodd bynnag, y profiad mwyaf cyffredin oedd bod trosiant wedi aros yr un fath (44.2%).

Roedd cysylltiad cryf rhwng y tebygolrwydd o weld trosiant yn cynyddu a maint y cwmni. Dywedodd 31.8% o’r busnesau micro ac ychydig dan hanner (49.9%) y busnesau canolig eu maint fod eu trosiant wedi cynyddu (gweler Siart 19).

Image
Siart bar 19 yn dangos bod 18.6 y cant o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn eu trosiant.

Roedd y patrymau o ran trosiant dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru bron yn union yr un fath â’r patrymau a nodwyd ar gyfer y DU gyfan (gweler Siart 20).

Image
Siart bar 20 yn dangos bod patrymau o ran trosiant dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru bron yn union yr un fath â'r patrymau a nodwyd ar gyfer y DU gyfan.

Disgwyliadau ynghylch cynnydd mewn cyflogaeth yn ystod y 12 mis yn dilyn yr arolwg

Roedd dros hanner y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (58.0%) yn disgwyl i nifer y bobl a gâi eu cyflogi ganddynt aros yr un fath yn ystod y flwyddyn yn dilyn y cyfweliad (gweler Siart 21). Roedd mwy o ymatebwyr yn disgwyl i’w busnesau weld cynnydd yn nifer eu gweithwyr (28.5%) nag a oedd yn rhagweld gostyngiad yn nifer eu gweithwyr (13.6%).

Roedd cysylltiad cadarnhaol rhwng disgwyliadau ynghylch cynnydd mewn cyflogaeth a maint y cwmni; roedd y ganran yn codi o 25.8% ymhlith busnesau micro i 48.7% ymhlith busnesau canolig eu maint.

Image
Siart bar 21 yn dangos bod dros hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru (58.0 y cant) yn disgwyl i nifer y bobl a gâi eu cyflogi ganddynt aros yr un fath yn ystod y flwyddyn oedd i ddod.

Mae Siart 22 yn dangos bod BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yr un mor debygol o ddweud eu bod yn disgwyl y byddai ganddynt fwy o weithwyr ymhen blwyddyn (28.5%) ag yr oedd busnesau cyfatebol yn y DU gyfan (27.9%). Roedd BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn llai tebygol o ddweud eu bod yn disgwyl gweld gostyngiad mewn cyflogaeth.

Image
Siart bar 22 yn dangos bod busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yr un mor debygol o ddweud eu bod yn disgwyl y byddai ganddynt fwy o weithwyr ymhen blwyddyn (28.5 y cant) ag yr oedd busnesau cyfatebol yn y DU gyfan (27.9 y cant).

Disgwyliadau newid trosiant yn ystod y blwyddyn nesaf

Mae Siart 23 yn dangos bod dau o bob pump o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (40.3%) yn disgwyl gweld cynnydd yn eu trosiant yn ystod y flwyddyn yn dilyn eu cyfweliad. Dim ond 6.7% oedd yn disgwyl i’w trosiant ostwng. Roedd hanner (49.9%) yn disgwyl i’w trosiant aros yr un fath. Roedd y disgwyliadau ynghylch cynnydd mewn trosiant yn amlwg uwch ymhlith busnesau canolig eu maint (65.7%) nag yr oeddent ymhlith busnesau micro (38.8%) a busnesau bach (44.5%).

Image
Siart bar 23 yn dangos bod dau o bob pump o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn disgwyl gweld cynnydd yn eu trosiant yn ystod y flwyddyn oedd i ddod.

Roedd BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o ddisgwyl gweld cynnydd yn eu trosiant ac ychydig yn llai tebygol o ragweld y byddai eu trosiant yn gostwng, o gymharu â busnesau cyfatebol yn y DU gyfan (Siart 24).

Image
Siart bar 24 yn dangos bod busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o ddisgwyl gweld cynnydd yn eu trosiant

Elw

Dywedodd pedwar o bob pump o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (80.4%) eu bod wedi gwneud elw yn ystod y flwyddyn cyn eu cyfweliad ar gyfer Arolwg 2019 (gweler Siart 25). Roedd busnesau canolig eu maint (89.0%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud elw nag yr oedd busnesau bach (82.0%) a busnesau micro (79.8%).

Image
Siart bar 25 yn dangos bod pedwar o bob pump o fusnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod wedi gwneud elw yn ystod y flwyddyn cyn yr arolwg hwn.

Fel y dangosir yn Siart 26, roedd cyfran y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru a ddywedodd eu bod wedi gwneud elw bron yn union yr un fath â’r gyfran yng ngwledydd eraill y DU.

Image
Siart bar 26 yn dangos bod cyfran y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru a ddywedodd eu bod wedi gwneud elw bron yn union yr un fath â'r gyfran ar gyfer y DU gyfan.

Uchelgais i dyfu

Dywedodd ychydig yn llai nag un o bob tri (32.3%) o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw uchelgais i weld gwerthiant eu busnes yn tyfu dros y ddwy i dair blynedd nesaf (gweler Siart 27). Mae lefelau uchelgais yn amlwg yn is ymhlith busnesau micro; dywedodd 36.7% o’r busnesau hynny nad oedd ganddynt unrhyw uchelgais i dyfu, o gymharu ag ychydig dros 10% o fusnesau bach a chanolig.  

Image
Siart bar 27 yn dangos bod ychydig yn llai nag un o bob tri o'r busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi dweud nad oedd ganddynt unrhyw uchelgais i weld eu busnes yn tyfu dros y ddwy i dair blynedd nesaf.

Mae’r lefelau uchelgais a nodwyd yng Nghymru yn debyg i’r lefelau ar gyfer y DU gyfan (gweler Siart 28).

Image
Siart bar 28 yn dangos bod y lefelau uchelgais a nodwyd yng Nghymru yn debyg i'r lefelau ar gyfer y DU gyfan.

Ymddygiad ac arferion busnesau

Arloesi

Mae Siart 29 yn dangos bod ychydig yn llai nag un o bob pump (18.7%) o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi cyflwyno cynnyrch newydd a bod bron un o bob tri (29.3%) wedi cyflwyno gwasanaethau newydd yn ystod y tair blynedd cyn y cyfweliad. Mae arloesi o ran cymorth yn fwy tebygol ymhlith busnesau canolig eu maint, ac mae cyflwyno gwasanaethau newydd yn fwy cyffredin ymhlith busnesau bach.

Image
Siart bar 29 yn dangos bod arloesi o ran cynnyrch a gwasanaethau ar ei fwyaf cyffredin ymhlith busnesau canolig eu maint.

Mae Siart 30 yn dangos bod lefelau arloesi o ran cynnyrch a gwasanaethau’n ychydig mwy gyffredin yng Nghymru (arloesi cynnyrch 18.7% ac arloesi gwasanaethau 29.2%) nag yn y DU cyfan (15.2% a 25.7% yn y drefn honno).

Image
Siart bar 30 yn dangos bod arloesi o ran cynnyrch neu wasanaethau ymhlith busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn fwy cyffredin nag arloesi o ran prosesau.

Yn rhan o Arolwg 2019, dim ond i draean o sampl gyffredinol yr Arolwg y gofynnwyd y cwestiwn ynghylch buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Felly, mae’r samplau perthnasol ar gyfer Cymru yn fach iawn a nid yw’r data yn ôl maint busnes yn dibynadwy.  

Mae Siart 31 yn dangos bod ychydig yn llai na chwarter (22.8%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi dweud iddynt arloesi o ran eu prosesau yn ystod y tair blynedd cyn eu cyfweliad. Roedd BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o nodi iddynt arloesi o ran prosesau na busnesau cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill: 14.9% yn yr Alban a dim ond 13.7% yng Ngogledd Iwerddon (gweler Siart 31).

Image
Siart bar 31 yn dangos bod cyfraddau arloesi o ran prosesau ychydig yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU.

Buddsoddi mewn ymchwil a datblygu

Yn rhan o Arolwg 2019, dim ond i draean o sampl gyffredinol yr Arolwg y gofynnwyd y cwestiwn ynghylch buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Felly, mae’r samplau perthnasol ar gyfer Cymru yn fach iawn a nid yw’n bosib edrych ar y data yn ôl maint busnes.  bydd angen ymdrin yn ofalus iawn â’r data a gyflwynir yma.

Mae canfyddiadau Arolwg 2019 yn awgrymu bod tua chwarter (21.3%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn ystod y tair blynedd cyn eu cyfweliad.

Mae’r data yn dangos bod lefelau buddsoddi’n amrywio rhywfaint ar draws y gweinyddiaethau datganoledig a bod buddsoddi ar ei fwyaf cyffredin yng Nghymru a’r Alban ac ar ei leiaf cyffredin yng Ngogledd Iwerddon (gweler Siart 32).

Image
Siart bar 32 yn dangos bod lefelau buddsoddi mewn ymchwil a datblygu'n amrywio rhywfaint ar draws y gweinyddiaethau datganoledig a bod buddsoddi ar ei fwyaf cyffredin yng Nghymru ac ar ei leiaf cyffredin yng Ngogledd Iwerddon.

Allforion rhyngwladol

Mae Siart 33 yn dangos bod 12.8% o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i’r DU yn ystod y flwyddyn cyn iddynt gael eu cyfweld. Ceir cysylltiad cadarnhaol rhwng allforio a maint y cwmni, ac mae’r ganran yn codi o 12.0% ymhlith busnesau micro i 30.0% ymhlith busnesau canolig eu maint. 

Image
Siart bar 33 yn dangos bod 12.8 y cant o'r busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi allforio nwyddau neu wasanaethau y tu allan i'r DU yn  y flwyddyn flaenorol.

Mae Siart 34 yn dangos, ar gyfer BBaChau sy’n gyflogwyr, bod allforio’n llai cyffredin yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU – 12.8% yng Nghymru o gymharu ag 20.0% yn y DU gyfan.

Mae’r gyfran gymharol uchel o fusnesau sy’n allforio yng Ngogledd Iwerddon (30.4%) yn adlewyrchu’r ffaith bod ffin rhyngddo a Gweriniaeth Iwerddon.

Image
Siart bar 34 yn dangos bod allforio'n llai cyffredin yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU - 12.8 y cant yng Nghymru o gymharu ag 20.0 y cant yn y DU gyfan.

Mewnforion rhyngwladol

Fel y dangosir yn Siart 35, roedd 17.1% o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yn mewnforio o wledydd yn Ardal yr Ewro ac roedd 9.4% yn mewnforio o wledydd y tu allan i Ardal yr Ewro.

Mae’r tebygolrwydd o fewnforio o ffynonellau rhyngwladol yn cynyddu gyda maint y cwmni. Roedd mwy na dau o bob pump (42.3%) o fusnesau canolig eu maint yn cael gafael ar nwyddau neu wasanaethau o ffynonellau rhyngwladol, o gymharu â dim ond chwarter (17.9%) y busnesau micro.

DS Roedd rhai busnesau’n cael gafael ar nwyddau neu wasanaethau o wledydd sydd yn Ardal yr Ewro ac o wledydd sydd y tu allan i Ardal yr Ewro. Nid yw’r cyfansymiau’n dod i 100, gan nad yw’r rhan fwyaf o fusnesau’n mewnforio.

Image
Siart bar 35 yn dangos mai busnesau canolig eu maint sydd fwyaf tebygol o fewnforio o wledydd sydd yn Ardal yr Ewro ac o wledydd sydd y tu allan i Ardal yr Ewro.

Masnachu â gwledydd eraill y DU

Mae ychydig dros hanner (51.3%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i wledydd eraill y DU (gweler Siart 36). Mae hynny’n fwyaf tebygol ymhlith busnesau canolig eu maint (66.8%) ac yn lleiaf tebygol ymhlith busnesau bach (41.3%).

Image
Siart bar 36 yn dangos bod ychydig dros hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i wledydd eraill y DU.

Mae dros hanner y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (54.8%) yn prynu nwyddau neu wasanaethau o wledydd eraill y DU (gweler Siart 37). Mae’r gyfran sy’n gwneud hynny ar ei huchaf ymhlith busnesau canolig eu maint (73.2%) ac ar ei hisaf ymhlith busnesau micro (54.1%).

Image
Siart bar 37 yn dangos bod 54.8 y cant busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn prynu nwyddau neu wasanaethau o wledydd eraill y DU.

Hyfforddiant

Mae Siart 38 yn dangos nad yw dros hanner y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (51.9%) yn cynnig unrhyw hyfforddiant i’w gweithwyr. Ceir cysylltiad cryf rhwng cynnig hyfforddiant o’r fath a maint y cwmni; ni chaiff hyfforddiant ei ddarparu gan 57.3% o fusnesau micro, o gymharu â dim ond 11.2% o fusnesau canolig eu maint. Ymhlith y busnesau sy’n cynnig hyfforddiant, mae’r rhan fwyaf yn cynnig hyfforddiant ffurfiol i ffwrdd o’r gwaith a hyfforddiant anffurfiol yn y gwaith.

Image
Siart bar 38 yn dangos mai ychydig yn llai na hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru sy'n cynnig hyfforddiant i'w gweithwyr.

Mae cyfran y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru sy’n cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr yn debyg at ei gilydd i’r gyfran a nodwyd ar gyfer gwledydd eraill y DU (gweler Siart 39).

Image
Siart bar 39 yn dangos bod cyfran y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru sy'n cynnig hyfforddiant i'w gweithwyr yn debyg at ei gilydd i'r gyfran a nodwyd ar gyfer gwledydd eraill y DU.

Mae Siart 40 yn dangos nad yw dros ddau o bob pump o BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru (41.2%) yn cynnig hyfforddiant i reolwyr yn y busnes. Mae hyfforddiant ar gyfer rheolwyr dipyn yn fwy cyffredin ymhlith busnesau canolig eu maint (85.8%) nag ymhlith busnesau micro (54.3%) a busnesau bach (68.5%).

Image
Siart bar 40 yn dangos bod dros hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant i reolwyr yn y busnes.

Mae busnesau yng Nghymru yn llai tebygol o ddarparu hyfforddiant i reolwyr na busnesau cyfatebol yng ngwledydd eraill y DU (gweler Siart 41).

Image
Siart bar 41 yn dangos bod busnesau yng Nghymru yn llai tebygol o ddarparu hyfforddiant i reolwyr na busnesau cyfatebol yng ngwledydd eraill y DU.

Mae Siart 42 yn dangos y mathau o hyfforddiant, ffurfiol ac anffurfiol, a gynigir i reolwyr mewn BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru. Yr hyfforddiant a ddarperir amlaf yw hyfforddiant yn ymwneud â sgiliau technegol ac ymarferol. Dim ond 29.4% sy’n darparu hyfforddiant ym maes arweinyddiaeth.

Image
Siart bar 42 yn dangos bod y mathau o hyfforddiant a gynigir i reolwyr mewn busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru yn ymwneud â sgiliau technegol ac ymarferol.

Cynlluniau busnes

Nid oes gan dros hanner (57.3%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru gynllun busnes ysgrifenedig. Mae’r gyfran hon yn codi i bron ddwy ran o dair (61.7%) ymhlith busnesau micro (gweler Siart 43). Mae’r rhan fwyaf o fusnesau sydd â chynllun yn sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru. Mae cysylltiad cadarnhaol rhwng y tebygolrwydd o fod â chynllun busnes cyfredol a maint y busnes; mae’r ganran yn codi o chwarter (25.4%) ymhlith busnesau micro i ddwy ran o dair (67.6%) ymhlith busnesau canolig eu maint.

Image
Siart bar 43 yn dangos nad oes gan dros hanner y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru gynllun busnes ysgrifenedig.

Mae Siart 44 yn dangos bod BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn llai tebygol o fod â chynllun busnes na busnesau cyfatebol yng ngwledydd eraill y DU.

Image
Siart bar 44 yn dangos bod busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn llai tebygol o fod â chynllun busnes na busnesau cyfatebol yng ngwledydd eraill y DU.

Gweithio i’r sector cyhoeddus

Yn rhan o Arolwg 2019, dim ond i draean o’r sampl gyffredinol y gofynnwyd y cwestiwn ynghylch gweithio i’r sector cyhoeddus. Felly, mae’r sampl a gyflawnwyd ar gyfer Cymru yn fach iawn a dylid ymdrin yn ofalus â’r data hwn.

Ychydig yn llai na chwarter (24.2%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru oedd wedi gweithio’n uniongyrchol i’r sector cyhoeddus yn ystod y flwyddyn cyn iddynt gael eu cyfweld. Roedd cysylltiad cadarnhaol rhwng y gyfran hon a maint y cwmni; roedd y ganran yn codi o 20.9% ymhlith busnesau micro i 47.0% ymhlith busnesau canolig eu maint (gweler Siart 45).

Image
Siart bar 45 yn dangos bod ychydig yn llai na chwarter y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi gweithio i'r sector cyhoeddus yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Fel y mae Siart 46 yn dangos, mae cyfran y busnesau sy’n gweithio i’r sector cyhoeddus yn uwch yng Ngogledd Iwerddon (31.5%) nag yng ngwledydd eraill y DU (21.9% ar gyfer y DU gyfan).

Image
Siart bar 46 yn dangos nad yw cyfran y busnesau sy'n gweithio i'r sector cyhoeddus yn amrywio fawr ddim rhwng pedair gwlad y DU.

Defnyddio cymorth busnes

Dim ond chwarter (25.6%) y BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru oedd wedi ceisio gwybodaeth neu gyngor allanol (gan y llywodraeth neu’r sector preifat) yn ystod y flwyddyn cyn eu cyfweliad (gweler Siart 47). Mae’r defnydd a wneir o gymorth o’r fath ar ei uchaf ymhlith busnesau canolig eu maint (34.7%) ac ar ei isaf ymhlith busnesau bach (23.2%).

Image
Siart bar 47 yn dangos mai dim ond chwarter y busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru oedd wedi ceisio gwybodaeth neu gyngor allanol yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Mae Siart 48 yn dangos bod y defnydd a wneir o gymorth busnes yn eithaf cyson ar draws gwledydd y DU.

Image
Siart bar 48 yn dangos bod y defnydd a wneir o gymorth busnes yn eithaf cyson ar draws gwledydd y DU.

Rhwystrau mawr i lwyddiant y busnes

Yn rhan o Arolwg 2019, dim ond i draean o’r sampl gyffredinol o fusnesau y gofynnwyd y cwestiwn ynghylch rhwystrau i lwyddiant y busnes. Felly, mae’r sampl a gyflawnwyd ar gyfer Cymru yn fach iawn a dylid ymdrin yn ofalus â’r data hwn.

Mae Arolwg 2019 yn dangos bod BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi sôn am ystod o ffactorau yr oeddent yn eu hystyried yn rhwystrau mawr i lwyddiant eu busnesau (gweler Siart 49). Y ffactorau y cyfeiriwyd atynt amlaf oedd: rheoleiddio a biwrocratiaeth (51.4% o’r ymatebwyr), taliadau hwyr (45.1%) a threthi (44.4%).

Image
Siart bar 49 yn dangos mai'r rhwystrau i lwyddiant busnes y cyfeiriwyd atynt amlaf oedd: rheoleiddio a biwrocratiaeth, taliadau hwyr a threthi.

Mae Siart 50 yn dangos y chwe ffactor a nodwyd amlaf yng ngwledydd y DU. Mae’r rhain yn weddol gyson ar draws y DU.

Image
Siart bar 50 yn dangos bod y graddau y cafodd y ffactorau hyn eu nodi'n weddol gyson ar draws gwledydd y DU.

Mynediad i gyllid

Mae’r Arolwg yn gofyn nifer o gwestiynau am fynediad i gyllid. Fodd bynnag, gan gofio bod y sampl yn fach, dim ond y prif ddata a gyflwynir isod y gellir ei ystyried yn ddata dibynadwy.

Mae Siart 51 yn dangos bod un o bob pump o’r BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru wedi ceisio cyllid allanol yn ystod y flwyddyn cyn eu cyfweliad. Mae’r tebygolrwydd bod busnes yn ceisio cyllid yn cynyddu gyda maint y cwmni; llai nag un o bob pump o fusnesau micro o gymharu â mwy na dau o bob pump o fusnesau canolig eu maint.

Image
Siart bar 51 yn dangos bod un o bob pump (19.6 y cant) o'r busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru wedi ceisio am gyllid allanol yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Fel y dangosir yn Siart 52, mae BBaChau sy’n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn llai tebygol na busnesau o’r fath yng ngwledydd eraill y DU o geisio cyllid allanol.

Image
Siart bar 52 yn dangos bod busnesau bach a chanolig sy'n gyflogwyr yng Nghymru ychydig yn llai tebygol na busnesau yng ngwledydd eraill y DU o geisio cyllid allanol.

Cymharedd a Chydlyniad

Gellir ystyried y canlyniadau ochr yn ochr â ffynonellau data eraill ar BBaChau yng Nghymru fel Effaith Busnes Arolwg COVID-19 (BICS), Dadansoddiad o ymddygiad allforio Cymru o Fentrau Bach a Chanolig (BBaCh), Arolwg Sgiliau Cyflogwyr ac adroddiadau Dirniad Economi Cymru.

Nodiadau ynghylch defnyddio erthyglau ystadegol

At ei gilydd mae erthyglau ystadegol yn ymwneud â dadansoddiadau a gyflawnir unwaith yn unig ac na fwriedir eu diweddaru, yn y tymor byr o leiaf, a’u diben yw sicrhau bod y dadansoddiadau hynny ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai’n bodoli fel arall efallai. Cânt eu defnyddio’n bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau sy’n archwiliadol mewn rhyw fodd neu’i gilydd, er enghraifft:

  • sy’n cyflwyno cyfres arbrofol newydd o ddata
  • sy’n cynnig dadansoddiad rhannol o fater sy’n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer ymchwil bellach ond sydd, er hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • sy’n tynnu sylw at ymchwil a gyflawnwyd gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, os yw’n ddefnyddiol tynnu sylw at y casgliadau, neu adeiladu ymhellach ar yr ymchwil
  • sy’n cynnig dadansoddiad nad yw ei ganlyniadau efallai o’r un ansawdd da â’r canlyniadau sydd yn ein datganiadau a’n bwletinau ystadegol rheolaidd, ond lle mae modd o hyd dod i gasgliadau ystyrlon o’r canlyniadau.

Os yw ansawdd yn broblem, gallai hynny godi mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • methu â nodi’n gywir yr amserlen a ddefnyddiwyd (fel sy’n gallu digwydd wrth ddefnyddio ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd ffynhonnell y data neu’r data a ddefnyddiwyd
  • rhesymau eraill a nodir.

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw’n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union amserlen yn ganolog i’r casgliadau y gellir dod iddynt, neu efallai mai trefn maint y canlyniadau yn hytrach na’r union ganlyniadau sydd o ddiddordeb i’r gynulleidfa.

Nid yw’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn Ystadegyn Gwladol, ond gallai fod yn seiliedig ar allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd er hynny wedi bod yn destun ystyriaeth ofalus a gwirio manwl cyn ei gyhoeddi. Caiff asesiad o gryfderau a gwendidau’r dadansoddiad ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ynghylch sut y gellid defnyddio’r dadansoddiad, a disgrifiad o’r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Mae arferion cyhoeddi ystadegau, fel y diffinnir gan y protocol arferion cyhoeddi ystadegau, yn berthnasol i erthyglau. Felly, er enghraifft, cânt eu cyhoeddi ar ddyddiad a nodir ymlaen llaw, yn yr un modd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099