Neidio i'r prif gynnwy

RPW Ar-lein: hafan

Yn RPW Ar-lein

  • cliciwch ar y tab Hafan i fynd i’r sgrin Hafan
  • yn yr adran Dechrau Ffurflen ar waelod y sgrin Hafan, cliciwch ar y ddolen i Arolwg Amaethyddol a Garddwrol 2024

Dechrau cais

Mae’r dudalen hon yn rhoi peth gwybodaeth i chi cyn dechrau’r arolwg. Mae’n cynnwys dolen i’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid, a hefyd eich Manylion Cwsmer a’ch Dewisiadau Ar-lein. Edrychwch a yw'r manylion sydd gennym amdanoch yn gywir ac os oes angen, cywirwch nhw. Pwysig: Os ydych yn cael unrhyw drafferth i ddefnyddio RPW Ar-lein dylech gysylltu â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cwblhau’r arolwg nad yw’r canllawiau hyn yn eu hateb, darllenwch y Cyflwyniad i’r canllawiau hyn neu yr arolwg ei hun.

Parhau â chais / dechrau eto

Pan fyddwch wedi dechrau llenwi’ch cais bydd gennych yr opsiwn i’w adael a mynd yn ôl ato nes ymlaen. Os ydych yn mynd yn ôl i arolwg rydych eisoes wedi’i ddechrau, ar y sgrin hon byddwch yn gallu:

  • dewis Parhau

    neu

  • dewis Dechrau Eto

Pwysig – os ydych yn dewis Dechrau Eto, bydd hyn yn ailosod yr holl gwestiynau ac yn dileu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi. Os ydych yn siŵr eich bod am ddechrau eto cliciwch ar Ydw, os nad ydych, cliciwch ar Na.

Cyflwyniad

Rydych bellach wedi cyrraedd yr arolwg, a’r Cyflwyniad i’r ffurflen ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr holl nodiadau yn yr adran hon.

Pwysig: Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cwblhau’r arolwg nad ydynt yn cael eu hateb yn y canllawiau hyn, cysylltwch â Llinell Gymorth yr Arolwg Amaethyddol ar 03000 252244 neu e-bostiwch stats.agric@llyw.cymru

Os na fyddwn yn dweud yn wahanol, wrth ateb pob cwestiwn dangoswch sut y mae pethau ar eich daliad ar 3 Mehefin 2024.

Mae’r adran hon yn rhestru’r Daliadau (CPHs) sydd wedi’u cynnwys yn yr arolwg hwn. Dylai’ch atebion ymwneud â’r daliadau hyn yn unig. Os oes angen gwneud unrhyw gywiriadau i fanylion y daliadau a ddangosir, gallwch wneud hynny yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol.

Mae dolen i’r Canllaw hwn ar Gwblhau’r Arolwg ar y gornel chwith uchaf. Hefyd, bydd symbol help glas a gwyn yn ymddangos mewn rhai adrannau – cliciwch ar y symbol hwn i gael cymorth ychwanegol gyda’r arolwg.

Ar y chwith fe welwch yr adrannau gwahanol. Mae croes goch yn golygu nad ydych chi wedi bod yn yr adran honno eto, neu fod camgymeriad yn yr adran. Bydd tic gwyrdd yn dangos eich bod wedi cwblhau’r adran ac nad ydym yn gallu gweld unrhyw gamgymeriadau. Mae botymau llywio amrywiol ar waelod ac ar frig yr arolwg. Hefyd os ydych am newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg mae botwm i wneud hynny ar waelod y sgrin ar y chwith.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r adran hon, cliciwch ar Nesaf.

Hysbysiad preifatrwydd

Nesaf, fe welwch yr Hysbysiad Preifatrwydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr adran hon, sy’n esbonio beth fydd yn cael ei wneud i’ch data. Mae dolen i fynd â chi i hysbysiad preifatrwydd llawn yr Arolwg Amaethyddol a Garddwrol os oes angen.

Tir ar y daliad

Mae’r adran Tir ar y daliad wedi’i rhannu’n ddwy:

Tir yn ôl deiliadaeth

  • os mai Nac ydw yw’ch ateb i’r cwestiwn Ydych chi’n cadw unrhyw dir ar gyfer ddibenion amaethyddol a garddwriaethol ar hyn o bryd?, bydd angen ichi ateb y cwestiynau ychwanegol fydd yn ymddangos i esbonio beth sydd wedi digwydd i’ch tir
  • bydd angen ichi hefyd ateb y cwestiwn Ydych chi’n cadw da byw?. Os nad ydych chi’n cadw da byw, gallwch fynd yn syth i’r adran Gwybodaeth Ychwanegol
  • os mai Ydw yw’ch ateb i’r cwestiwn Ydych chi’n cadw unrhyw dir ar gyfer ddibenion amaethyddol a garddwriaethol ar hyn o bryd?, bydd angen ichi ateb y cwestiynau ychwanegol a welwch

Dylech nodi pob arwynebedd yn yr adran hon mewn hectarau hyd at ddau le digidol Dangosir tabl trosi i’ch helpu i drosi o erwau i hectarau

  • nodwch yr arwynebedd sy’n Eiddo i chi, sy’n cael ei Rentu mewn ac sy’n cael ei Osod Allan ar 3 Mehefin 2024
  • yna caiff arwynebedd y Tir a Gedwir Gennych ei gyfrif yn awtomatig a’i ddangos

Tir yn ôl math

  • nodwch gyfanswm arwynebedd pob categori o dir. Os nad oes gennych dir yn un neu fwy o’r categorïau, gadewch nhw’n wag – nid oes angen rhoi sero
  • Tir pori garw ble mai chi yw’r unig borwr - peidiwch â chynnwys tir comin. Os ydych chi’n defnyddio tir comin i bori’ch da byw, gallwch ddweud hynny yn y cwestiwn nesaf
  • A ydych chi’n pori unrhyw anifeiliaid ar dir comin? – atebwch Ydw neu Nac ydw
  • Cnydau eraill nad ydyn nhw wedi’u henwi uchod – os ydych chi’n tyfu cnydau heblaw am y rheini sy’n cael eu henwi (ac eithrio porfa ar gyfer gwneud gwair a/neu silwair), dewiswch Ychwanegu Cnwd
  • Ychwanegu Cnwd – rhowch Enw’r Cnwd ac Arwynebedd y Cnwd. Os ydych yn ychwanegu un math o gnwd yn unig, cliciwch Cadw a Dychwelyd. Os oes gennych fwy i’w hychwanegu, cliciwch Safio ac Ychwanegu Un Arall ac ailadrodd y broses nes eich bod wedi nodi’r holl gnydau sydd eu hangen. Os ydych wedi gwneud camgymeriad, dewiswch Addasu neu Dileu i’w gywiro
  • A oes gennych unrhyw dai gwydr masnachol neu adeileddau tan orchudd o blastig? – atebwch Oes neu Nac oes. Os mai Oes yw’ch ateb, bydd angen ichi ychwanegu Cyfanswm arwynebedd y tai gwydr a strwythurau o dan blastig mewn metrau sgwâr
  • Yr holl dir arall – gan gynnwys tir anamaethyddol (e.e. adeiladau, buarthau) – os oes gennych dir o’r math hwn, bydd angen ichi roi mwy o fanylion yn y blwch ychwanegol fydd yn ymddangos

Pan fyddwch wedi dechrau cwblhau’r adran hon, fe welwch y neges Mae anghysondeb sylweddol rhwng yr arwynebedd datganedig yn yr adran ‘Tir yn ôl deiliadaeth’ a’r adran ‘Tir yn ôl Math’. Newidiwch y rhifau rydych wedi’u nodi neu eglurwch isod y rhesymau dros y gwahaniaeth. Pan fyddwch wedi gorffen ychwanegu arwynebedd eich mathau o dir, dylai’r neges ddiflannu. Os yw’r neges yn dal i fod yno a bod yr holl arwynebeddau rydych wedi’u nodi’n gywir, bydd rhaid ichi egluro’r gwahaniaeth yn y blwch.

Crynodeb – Bydd hwn yn dangos arwynebeddau’r gwahanol gategorïau o gnydau yn awtomatig.

Da byw ar y daliad

  • nodwch nifer yr anifeiliaid yr oeddech yn berchen arnynt ym mhob categori ar 3 Mehefin 2024
  • peidiwch â chynnwys anifeiliaid pobl eraill a oedd ar eich tir. Os nad oedd anifeiliaid ar eich daliad ar 3 Mehefin 2024 yn un neu fwy o’r categorïau dan sylw, gadewch nhw’n wag. Nid oes angen rhoi sero
  • os nad ydych yn gwybod yr union nifer, gwnaiff amcangyfrif da y tro
  • A yw’r rhan fwyaf neu’r cyfan o’ch ŵyn wedi’u gwerthu neu wedi mynd i’w lladd ar neu cyn 3 Mehefin 2024. Os nad ydych yn cadw ŵyn, atebwch ‘Na’ - atebwch Ydy neu Nac ydy
  • RHYBUDD: Mae nifer yr ŵyn o’i gymharu â nifer y mamogiaid yn edrych yn anarferol - bydd y neges hon yn ymddangos os bydd yn berthnasol. Os nad yw’n berthnasol, gofalwch fod y eich ffigurau’n gywir a’u newid os oes angen. Fel arall, rhowch esboniad yn y blwch
  • Sganio’ch diadell – A ydych chi neu gontractiwr yn cynnal archwiliad uwchsain (sganio) ar eich diadell ar hyn o bryd? - bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os oes gennych ŵyn neu ddefaid. Atebwch Ydw neu Nac ydw
  • Gwartheg – Rydym yn cael nifer y gwartheg o’r System Olrhain Gwartheg. Ydych chi’n cadw unrhyw wartheg? - atebwch Ydw neu Nac ydw
  • Rhifau CPH ychwanegol - os ydych chi'n ateb Ydw i gadw gwartheg, bydd y neges hon yn ymddangos. Dim ond os nad ydynt eisoes wedi'u rhestru y mae angen i chi ychwanegu CPHau ychwanegol a ddefnyddiwch i roi gwybod am wartheg i'r CTS
  • Ychwanegu CPH – rhowch y CPH yn y fformat 99/999/9999. Os ydych ond yn ychwanegu un CPH ychwanegol yma, cliciwch Cadw a Dychwelyd. Os oes gennych fwy i'w ychwanegu cliciwch Safio ac Ychwanegu un Arall, ac ailadroddwch nes eich bod wedi nodi'r holl CPHau ychwanegol. Os ydych wedi gwneud camgymeriad gallwch ddewis Addasu neu Dileu i gywiro hyn
  • Dofednod – Os ydych yn cadw dofednod fel arfer ond bod eich siediau yn wag ar 3 Mehefin 2024, ticiwch y blwch hwn - ticiwch os yw’n gymwys

Pobl sy’n gweithio ar y daliad

  • gofalwch eich bod yn darllen y canllawiau manwl yn y blychau glas, gan gynnwys pwy ddylai gael ei gynnwys a phwy na ddylech ei gynnwys
  • rhaid ichi ddatgan nifer y bobl ym mhob categori a oedd yn gweithio ar y daliad ar 3 Mehefin 2024. Cyfrifwch y bobl sy’n gweithio’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed os nad oeddent yn gweithio ar 3 Mehefin 2024. Dylech gynnwys gweithwyr achlysurol dim ond os oeddent yn gweithio ar 3 Mehefin 2024
  • dim ond unwaith y dylai pob person ar y fferm gael ei gynnwys
  • cofiwch gyfri’ch hun yn y categori perthnasol
  • Prif ffermwyr amser llawn – ystyr llawn amser yw gweithio ar gyfartaledd o leiaf 39 awr yr wythnos ar y fferm
  • Prif ffermwyr rhan-amser – ystyr rhan amser yw gweithio ar gyfartaledd lai na 39 awr yr wythnos ar y fferm
  • Gweithwyr amser llawn rheolaidd – ystyr amser llawn yw gweithio ar gyfartaledd o leiaf 39 awr yr wythnos ar y fferm
  • Gweithwyr rhan-amser rheolaidd – ystyr rhan amser yw gweithio ar gyfartaledd lai na 39 awr yr wythnos ar y fferm
  • Gweithwyr achlysurol ar 3 Mehefin 2024 – mae gweithwyr achlysurol yn bobl sy’n cael eu cyflogi am gyfnodau llai – fel arfer ar adegau pan fydd mwy o waith nag arfer (e.e. tymor wyna, cynaeafu)
  • Ni ddangosir bod unrhyw un yn gweithio ar y daliad – byddwch yn gweld y neges hon os na fyddwch wedi datgan unrhyw weithwyr. Cywirwch hyn os oes angen, neu esboniwch yn gryno yn y blwch pam nad oes gennych weithwyr

Gwybodaeth ychwanegol

  • Unrhyw sylwadau eraill – ychwanegwch unrhyw sylwadau eraill y carech eu cynnwys yma, gan gynnwys newid neu gywiro’r rhifau CPH sydd yn y Cyflwyniad
  • Nodwch faint o amser a gymerir i lenwi'r ffurflen hon (mewn munudau) – nodwch faint o funudau dreulioch chi’n llenwi’r ffurflen

Cyflwyno

Mae’r adran Cyflwyno wedi’i rhannu’n dair:

Camgymeriadau, Gwybodaeth a Chrynodeb

Bydd yr is-adran hon yn dangos unrhyw Gamgymeriadau neu Negeseuon Gwybodaeth yn eich arolwg, a Chrynodeb o’r arolwg.

Mae camgymeriadau ar eich ffurflen. Edrychwch eto a chywirwch unrhyw gamgymeriadau - byddwch yn gweld y neges hon os oes camgymeriadau ar eich ffurflen y mae’n rhaid eu cywiro. Ar y rhestr adrannau ar ochr chwith y ffurflen, bydd croes goch yn ymddangos wrth adrannau sydd â chamgymeriad. Bydd angen ichi fynd yn ôl i’r adrannau hyn i’w cywiro cyn cyflwyno’r arolwg.

Datganiadau ac ymrwymiadau

Yn yr is-adran hon:

  • darllenwch yr adran Datganiadau ac Ymrwymiadau
  • Rwyf yn cytuno i’r datganiadau a’r ymrwymiadau uchod – ar ôl ichi eu darllen, ticiwch y blwch i gadarnhau’ch bod yn cytuno â nhw

Cyflwyno

Bydd yr is-adran Cyflwyno yn caniatáu ichi gyflwyno’r arolwg i Lywodraeth Cymru.

Pan fyddwch wedi gorffen cwblhau’r arolwg, cliciwch ar y botwm Cyflwyno.

Cadarnhad eich bod wedi'i gyflwyno

Byddwch nawr yn gweld yr adran Cadarnhau eich bod wedi’i Gyflwyno.

  • dylech safio neu brintio’r adran Cadarnhau eich bod wedi’i Gyflwyno drwy ddewis y botwm Printio’r Sgrin hon
  • cliciwch ar y botwm Gadael i adael yr arolwg a mynd yn ôl i Hafan eich cyfrif RPW Ar-lein

Bydd copi o’ch arolwg yn ymddangos ar eich cyfrif RPW Ar-lein ymhen un diwrnod gwaith.