Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn falch o gyhoeddi bod cystadleuaeth yn null Dragons Den, sy'n cynnig cyfle i arloeswyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach, sy'n cael ei chefnogi gan dros £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg ar y cyd ag Innovate UK, wedi ennyn diddordeb gwledydd datganoledig eraill y DU, yn ogystal â dal sylw yn Iwerddon, Sweden ac Awstralia.

Cafodd y Fenter ei lansio yng Nghymru yn 2013, ac mae'n cynnig cyfleoedd i fusnesau - gan gynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig (SMEs) - wneud ceisiadau am gyllid ymchwil a datblygu, i ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg er mwyn datrys heriau penodol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu. 

Gan redeg yr heriau fel cystadlaethau, mae pob her yn canolbwyntio ar faes yn y gwasanaethau cyhoeddus lle nad yw'r atebion i heriau penodol yn bodoli ar hyn o bryd, neu lle y gellid gwella'r atebion rhannol sydd ar gael eisoes.

Mae’r meysydd lle y mae atebion yn cael eu datblygu eisoes yn cynnwys gwella gofal iechyd a gofal cleifion, triniaethau meddygol, diogelwch ar y ffyrdd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli'r amgylchedd.

Hyd yn hyn, mae 14 o gystadlaethau wedi cael eu rhedeg yng Nghymru gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach, gan arwain at ddyfarnu 66 o gontractau gwerth tua £5 miliwn i gwmnïau, er mwyn datblygu atebion ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru: 44 o gontractau Cam 1 (datblygu'r cynnig) a 22 o gontractau Cam 2 (creu prototeip gyda'r bwriad o'i gyflwyno i'r farchnad). 

Un o heriau cyntaf y Fenter i gael ei rhedeg fel cystadleuaeth yng Nghymru oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Roedd y Bwrdd Iechyd am wella gofal cleifion drwy helpu nyrsys a gofalwyr i leihau dyletswyddau gweinyddol, fel y gallent dreulio rhagor o amser gyda chleifion.

Nod yr her hon oedd galluogi nyrsys i dreulio 10% yn fwy o amser gyda chleifion. Ar ôl dwy flynedd o gydweithredu ymarferol rhwng nyrsys y Bwrdd Iechyd a chwmni bach newydd o Fangor, Elidir Health, mae meddalwedd wedi cael ei datblygu sy'n addo cynyddu'r amser y mae nyrsys yn ei dreulio gyda chleifion nid dim ond 10% ond, o bosibl, hyd at 23%. Mewn gwirionedd, mae'r her hon wedi bod mor llwyddiannus fel bod Elidir Health yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf erbyn hyn, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ystyried sut y gall y feddalwedd hon gael ei mabwysiadu ar draws unedau pediatrig y byrddau iechyd hyn.

Hefyd, mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi defnyddio heriau'r Fenter i ddatblygu atebion i faterion sydd wedi'u nodi, er enghraifft gwella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru.

O'r cynigion a gyflwynwyd ar gyfer yr her hon, cafodd dau brosiect eu dewis, ac roedd yr enghraifft gyntaf eisoes wedi'i chwblhau.

Mae Armourgel Ltd wedi datblygu leinin ar gyfer helmedau beicwyr modur, a fydd yn lleihau'r ardrawiad i ben y beiciwr modur yn sylweddol yn ystod gwrthdrawiad. Gall hyn wneud y gwahaniaeth rhwng anafiad difrifol i'r ymennydd a mân anafiad.

Mae'r ail brosiect wedi datblygu system ar gyfer hysbysu pobl ynghylch cyffyrdd, a fydd yn cael ei threialu yn fuan ar ffyrdd yng Nghymru. Bydd y prosiect yn gallu profi'r system yn ystod y tymor brig ar gyfer beiciau modur, ac erbyn mis Medi bydd y cwmni wedi profi'r system yn llawn yn ystod pob tywydd, fel y gall adrodd ar ei photensial yn y farchnad. 

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod gan y ddau brosiect hyn botensial i arbed bywydau beicwyr modur, nid yn unig ar ffyrdd yng Nghymru ond ar draws y byd, gan ddweud: 

“Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach yn enghraifft dda o'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn gallu cydweithio i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mewn ffyrdd arloesol, gan ddod â manteision i gyrff yn y sector cyhoeddus a diwydiannau fel ei gilydd, yn ogystal ag i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.

“Fy nod erbyn hyn yw sicrhau y bydd ein rhaglen Menter Ymchwil Busnesau Bach yn datblygu i fod yn adnodd prif ffrwd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a fydd yn hyrwyddo arloesi ac yn gwella ein potensial technolegol.

“Gall y Fenter greu cyfleoedd enfawr i fusnesau yng Nghymru a helpu i ddatrys rhai o'r heriau mwyaf cymhleth rydyn ni i gyd yn mynd i'w hwynebu yn y dyfodol.  Ein bwriad felly yw manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”