Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cwmni Road Safety Designs o Gymru wedi sicrhau archebion sylweddol am ei drionglau rhybuddio LED BriteAngle yn Awstralia yn dilyn taith fasnach ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Road Safety Designs wedi arwyddo contract a allai fod werth gymaint â chwarter  miliwn o bunnau'r flwyddyn gyda'r cwmni dosbarthu yn Awstralia Dometic yn sgil eu cyfarfod  yn Sydney ym mis Ebrill ac yn awr bydd bywydau gyrwyr, teithwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn Awstralia yn fwy diogel o ganlyniad. Mae triongl rhybuddio LED BriteAngle yn gwneud y gyrrwr lawer yn fwy gweladwy os bydd yn rhaid stopio'n annisgwyl, a gall ddefnyddio goleuadau LED cryf sy'n fflachio i rybuddio gyrwyr o'i bresenoldeb hyd at 300 metr i ffwrdd.

Y sbardun i'r galw yn Awstralia yw bod yna gymaint o dryciau a cherbydau RV yn cael eu gyrru mewn rhannau anghysbell o'r 'outback' a bod perygl byw y gallai gyrrwr farw o sychder neu ei ladd gan grocodeil hyd yn oed pe bai'n torri i lawr. Bydd triongl BriteAngle yn ei wneud lawer yn fwy amlwg o'r awyr, gan gynyddu'r gobaith y gallai oroesi'n llwyddiannus.

Dywedodd sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Road Safety Designs Steve Wornham:

"Gwnaethon ni gwrdd ag Is-Lywydd rhanbarth Asia a'r Môr Tawel Dometic yn ystod taith fasnach i Sydney ac roedd cael y cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb a dangos ein cynnyrch iddo wedi gwneud pethau lawer yn haws. Gwnaethon ni anfon y llwyth cyntaf gwerth £20k i Awstralia wythnos ddiwethaf, ac mae gobaith i hyn dyfu'n archeb flynyddol o £250,000.

"Rydyn ni wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio gydag arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd ac mae gennym gynnyrch bellach sy'n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bob gyrrwr, gan gynnwys unrhyw un sy'n teithio yn yr 'outback'."

Profiad a fu bron ei ladd yn y tywyllwch un noson oedd y sbardun i Steve, dyfeisydd triongl rhybuddio LED BriteAngle. Un noson yn y gaeaf, ar ei ffordd adref o'r gwaith, bu bron iddo daro gyrrwr a oedd ar ei gwrcwd ar ochr y ffordd yn newid olwyn ei gar. Roedd ganddo fflachlamp yn ei geg a digwyddod droi ei ben tuag at Steve wrth iddo yrru tuag ato. Heb hynny ni fyddai wedi'i weld.

Mae Dometic yn gwmni sy'n gwasanaethu pobl sy'n teithio - 'mobile living made easy' yw ei slogan - ac mae'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch i yrwyr cerbydau RV, tryciau a champervans drwy'r byd.

Ychwanegodd Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan:

"Mae'n wych gweld cwmni o Gymru'n ennill archebion yn Awstralia, diolch i daith fasnach gan Lywodraeth Cymru i'r wlad.  Mae Road Safety Designs yn esiampl ardderchog o arloesedd Cymru ar ei gorau!

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau o Gymru sy'n allforio. Dyma ran o'n hymdrechion i helpu'r economi i dyfu a chreu swyddi newydd ar gyfer pobl yng Nghymru."