Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i edrych ar ffyrdd arloesol i ddod â band eang dibynadwy i ardaloedd gwledig iawn gan dargedu gweddill y pump y cant o adeiladau sydd heb fynediad iddo ar hyn o bryd, meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi ar ôl ymweld â dau gynllun gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ei bod mor anodd cyrraedd rhai ardaloedd, ni fydd modd cyrraedd yr holl eiddo sy’n weddill. I helpu gyda hyn, efallai y bydd angen i gymunedau ddod ynghyd gyda chymorth talebau Allwedd Band Eang Llywodraeth Cymru a defnyddio technoleg wahanol ac arloesol.

Roedd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â chynllun yn Llanddewi Rhydderch, ger y Fenni, sy'n darparu band eang cyflymach i drigolion yn ogystal â dangos ei botensial ar gyfer ardaloedd eraill. Mae'n defnyddio gofod gwyn ar y teledu, sef sianeli teledu sydd heb eu defnyddio sydd ar gael yn dilyn y newid i system ddigidol.

Mae gan ofod gwyn y potensial i gysylltu’r “rhyngrwyd pethau”, gan gysylltu amryfal ddyfeisiau yn y cartref a’r gwaith drwy signal band eang.

Mae’r cynllun hwn, sy'n cael ei reoli gan Gyngor Sir Fynwy, wedi elwa ar  Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Roedd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymweld â Llanfihangel-y-Fedw, sydd bellach â rhai o'r cyflymderau band eang uchaf yn y DU, ar ôl manteisio ar gynlluniau talebau band eang Llywodraeth Cymru.

Bu’r prosiect hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru yn ôl pob sôn, yn llwyddiannus yn y Gwobrau Band Eang Ewropeaidd yn 2018.

Dywedodd Lee Waters:

"Rydym wedi dod yn bell yng Nghymru, gyda thros 95 y cant o'n hadeiladau bellach yn gallu derbyn band eang cyflym iawn, o gymharu ag o dan 50 y cant pan ddechreuwyd gyda Cyflymu Cymru. Mae'r datblygiad hwn yn bennaf o ganlyniad i'n hymyrraeth gan nad oedd gan y cwmnïau preifat gynlluniau i gyflwyno'r seilwaith mewn rhannau helaeth o Gymru.

"Er gwaethaf y datblygiadau hyn rydym am gyrraedd y pump y cant sy'n weddill.  Bydd nifer o'r rhain mewn ardaloedd gwledig iawn ac er ein bod yn buddsoddi dros £22 miliwn i gyflwyno mwy o fand eang ffeibr ni fydd yn bosibl eu cyrraedd i gyd drwy’r dechnoleg hon yn unig. Mae angen inni edrych ar atebion arloesol, fel rhan o becyn o fesurau sy'n cynnwys ffibr, i wneud gwahaniaeth ym mhob cymuned.

"Bydd gan dechnoleg wahanol fel gofod gwyn ar y teledu a datblygiadau diwifr newydd eraill fwy o ran i'w chwarae yn y broses o gynnig cyflymder gwell yn yr ardaloedd gwledig iawn hynny, ac mae'r cynllun ger y Fenni yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni.

"Mae cymuned Llanfihangel-y-Fedw hefyd wedi dangos sut y mae ymdrech cymunedol gyda chymorth ein talebau yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, gyda’r gymuned bellach yn mwynhau cyflymderau o 900Mbps.

“Nid oes ateb sy'n addas i bawb er mwyn cyrraedd yr adeiladau sy'n weddill, a chan nad oes cyflwyniad masnachol ar y gweill, rydym yn defnyddio ac yn asesu dulliau amrywiol o gyrraedd ardaloedd gwledig iawn."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £22.5 miliwn i gyrraedd 26,000 o’r adeiladau sy’n weddill fel rhan o gyfres o fesurau. Mae hyn ar ben y £200 mil sydd wedi’i fuddsoddi yng nghynllun Cyflymu Cymru sydd wedi cysylltu mwy na 733,000 o adeiladau mewn ardaloedd lle nad oedd cwmnïau  masnachol wedi bwriadu eu cyrraedd.