Ddydd Llun, 13 Chwefror, cafodd Ysgrifennydd yr Economi, y cyfle i weld cam olaf rhaglen ehangu Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone wedi'i gwblhau.
Roedd y cam olaf yn cynnwys ychwanegu 64 caban gwyliau newydd, datblygiad a gefnogwyd gan arian Llywodraeth Cymru ac a greodd 115 o swyddi yn yr ardal leol. Mae gan y pentref gwyliau bellach dros 300 o gabannau, bythynnod a fflatiau stiwdio 5* ac mae'r parc yn croesawu 140,000 o westeion y flwyddyn sy'n aros dros nos a 120,000 o ymwelwyr dydd eraill â Pharc Dŵr Blue Lagoon.
Cefnogwyd y datblygiad gan £1.5 miliwn o gyllid y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth drwy Croeso Cymru. Cymerodd y rhaglen ehangu uchelgeisiol 18 mis i'w chwblhau a'r gost oedd £8.5 miliwn.
Mae Bluestone bellach yn un o'r 10 cyflogwr mwyaf yn y sector preifat yng Nghymru, ac mae'n cyflogi 700 o bobl.
Mae'r datblygiad yn dod ar ôl cyfnod o dwf parhaus i'r parc 5* sydd ar safle 500 erw o barc cenedlaethol ger Arberth yn Sir Benfro. Yn ystod ymweliad a arweiniwyd gan y Prif Weithredwr, William McNamara, cafodd Ysgrifennydd yr Economi flas o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy'n cynnwys datblygu Melin Blackpool gerllaw a chreu 'Skydome' yn y parc.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Hoffwn longyfarch y tîm yn Bluestone am y cynnyrch gwych o safon uchel maent wedi’i ddatblygu. Mae'n boblogaidd iawn ymysg gwesteion newydd a rhai sy'n dychwelyd ac mae hyn yn amlwg wrth edrych ar y nifer uchel o westeion. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu chwarae rhan drwy osod sylfaen a chynnal twf y busnes - sy'n gyflogwr mor bwysig yng nghefn gwlad Cymru. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r tîm gyda'u syniadau arloesol ar gyfer datblygu'r parc gwyliau yn y dyfodol."
Dywedodd Prif Weithredwr Bluestone, William McNamara:
"Twristiaeth yw bywoliaeth Sir Benfro ac rydym yn hynod o falch o'r ffordd y mae Bluestone wedi sefydlu ei hun fel atyniad unigryw i dwristiaid yng Nghymru.
"Yn amlwg, gyda diwydiant sy'n ffynnu, mae cyfleoedd mawr i'r sector ac i ni fel busnes. Mae ein hymchwil yn dangos nad yw 50% o'n gwesteion wedi ymweld â Sir Benfro o'r blaen felly mae cyfle go iawn yma i arddangos yr hyn rydym yn ei gynnig i ymwelwyr newydd.
"Rwy'n falch fod gennym y cyfle i arddangos popeth rydym wedi'i gyflawni yn Bluestone hyd yn hyn ac i rannu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol gydag Ysgrifennydd yr Economi."
Mae'r 115 o swyddi newydd yn Bluestone yn ychwanegol at y 696 o swyddi newydd sydd wedi'u creu a 787 arall wedi'u diogelu o ganlyniad uniongyrchol i gymorth y Llywodraeth fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.