Neidio i'r prif gynnwy

Yn agored i geisiadau o 14 Mehefin ymlaen, gan ganolbwyntio ar wariant erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac yn ymrwymo i sicrhau ‘cysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE’. Mae cydweithredu â chenhedloedd a rhanbarthau eraill yn ychwanegu gwerth at ddatblygu economaidd yng Nghymru drwy alluogi partneriaid i gynyddu gweithgarwch, cyflawni màs critigol a chynyddu proffil. Mae cydweithio yn rhoi cyfle i gyfnewid syniadau ac arferion gorau, i ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld "Cymru ystwyth" sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â'n heriau cyffredin.

Mae cymryd rhan yn Horizon Europe yn gyfle pwysig i Gymru barhau i fod yn weithgar ac yn ddylanwadol fel partner rhyngwladol, gan wneud ein gwaith yn fwy deniadol i dalent a chynyddu effeithiolrwydd ein hymchwil.

Mae Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn tynnu sylw at sut y dylem adeiladu ar y gweithgarwch a'r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn amrywiaeth o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).

Mae’r Strategaeth Ryngwladol a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Perthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol sy’n cael Blaenoriaeth yn nodi'r angen i dargedu sectorau, rhanbarthau a rhwydweithiau pwysig.

Y Fenter

Mae'r ddogfen hon yn annog ceisiadau i gynllun grant SCoRE Cymru Llywodraeth Cymru gan sefydliadau yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu cydweithrediad economaidd â rhanbarthau Baden Württemberg, Llydaw a Fflandrys, gan ganolbwyntio ar wariant erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:

  • Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol rhwng Cymru a'r rhanbarth(au) targed.
  • Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n gyfoethog o ran arloesedd, gydag arwyddocâd i economi Cymru. Yn Baden Württemberg, gallai hyn fod mewn Batris, Symudedd, Lled-ddargludyddion, Iechyd, Solar, Diwydiannau Creadigol neu'r Economi Gylchol sy’n seiliedig ar ddefnyddio biodechnoleg. Yn Llydaw, gallai hyn fod mewn Ynni’r Môr, Bwyd, Technoleg Seiber, Iechyd neu Ddiwylliant a'r Cyfryngau.  Yn Fflandrys, gallai hyn fod yn Dechnoleg Seiber, Iechyd, Awyrofod neu'r Economi Gylchol. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
  • Cynnwys sefydliad neu rwydwaith pwysig yn y rhanbarth(au) targed.
  • Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru i effeithio ar flaenoriaethau polisi Cymru.
  • Adeiladu ar y cysylltiadau presennol a ddatblygwyd drwy raglenni Horizon a/neu’r rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.
  • Dangos eu bod yn berthnasol i agendâu arloesi Cymru a'r UE/DU, gan gynnwys drwy ysgogi cyllid arall.
  • Bod â llwybr clir i ddod â chyllid cystadleuol yr UE/DU i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.

Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian yn unol â chanllaw SCoRE Cymru.

Gall ymgeiswyr gyflwyno prosiectau sy'n sicrhau cydweithrediad economaidd ac effaith fuddiol i Gymru gydag un neu fwy o'r rhanbarthau a enwir; nid oes angen cyflwyno nifer o geisiadau. Yn gyffredinol, rhaid i'r gweithgaredd arfaethedig dargedu cydweithredu'n glir â'r rhanbarth(au) a enwir ond i gydnabod y ffaith nad yw'r consortia gorau o bosibl yn dod o'r rhanbarthau hynny'n unig, bydd rhanbarthau eraill yn cael eu hystyried lle bo angen i gyflawni'r prosiect.

Gall y fenter hon gefnogi 100% o'r costau cymwys. Nid oes uchafswm cost prosiect, ond dylai ymgeiswyr gofio y bydd llai na £5,000 fesul cais yn ddigonol ar gyfer llawer o brosiectau.  Fodd bynnag, caiff cynigion strategol mwy eu croesawu.

Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £120,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad. Nid oes dyraniad fesul rhanbarth. Os bydd y galw'n fwy na'r arian sydd ar gael yn ystod 2022-23, defnyddir 'rhestr wrth gefn' a chaiff ymgeiswyr eu hannog i nodi a ellir cynnal eu gweithgarwch ar ôl mis Mawrth 2023.

Costau Cymwys

Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau SCoRE Cymru yn berthnasol.

Gall gweithgarwch gynnwys partneriaid perthnasol o'r rhanbarth(au) perthnasol, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo'r costau a hawlir.

Rhaid gwario'r grant ar gyfer 2022-23 cyn 31 Mawrth 2023. Lle y rhagwelir gweithgarwch blynyddol neu hirdymor yn ddiweddarach, gellir rhoi'r gweithgaredd perthnasol ar y 'rhestr wrth gefn' i'w ystyried yn y dyfodol.

Er mwyn annog arloesi, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy ac yn cael eu gwario gan yr ymgeisydd. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Teithio, llety a chynhaliaeth.
  • Ymgynghoriaeth (wedi'i gontractio yn unol â chanllaw SCoRE Cymru). Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau posibl, megis datblygu ceisiadau, paru, cydgysylltu consortiwm, cyfieithu, cadeirio a chynnal gweminarau, lledaenu a deunyddiau cyfathrebu.
  • Ffioedd neu chostau angenrheidiol er mwyn gweithredu’r prosiect, ee mynediad i Eiddo Deallusol, aelod o grwpiau buddiant.
  • Costau staff mewnol. Gallai'r rhain ganiatáu i staff neilltuo amser i ddechrau ymchwil neu beilot ar y cyd, i ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar y cyd neu i drafod perthynas strategol rhwng sefydliadau. Bydd angen sail resymegol ynghylch pam na fyddai'r gweithgarwch yn cael ei gyflawni heb grant. Bydd angen cyfrifiadau dosrannu ar gyfer y gyfradd fesul awr. Rhaid i'r hawliad gael ei ategu gan daflenni amser a bod modd ei ddilysu drwy gofnodion talu a chyflogres. Mewn achosion nad ydynt yn dod o dan ganllaw presennol SCoRE Cymru, byddwn yn ceisio cymhwyso rheolau'r cronfeydd strwythurol mewn modd cymesur.

Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig. Mae'r costau yr eir iddynt yn ymrwymiadau i'w talu, megis archebion hedfan ac ystafelloedd na ellir eu hawlio'n ôl yn llawn ar ôl canslo.

Nodwch unrhyw risgiau a nodwyd a allai gael effaith andwyol ar gyflawni'r prosiect a chynnwys "Plan B" lle bo angen. Er enghraifft, cyfyngiadau teithio COVID.

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau o ddydd Mawrth 14 Mehefin ond anogir ymgeiswyr i drafod eu cynigion gyda Thîm Horizon Europe cyn eu cyflwyno (ebost: HorizonEurope@llyw.cymru). Efallai y bydd cyllid SCoRE Cymru hefyd ar gael ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyd-fynd â nodau'r fenter hon

Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ariannu yn unol â chanllaw SCoRE Cymru. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor cydweithwyr polisi perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail 'y cyntaf i'r felin' ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar y 'rhestr wrth gefn' i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried lledaeniad gweithgareddau ar draws meysydd, daearyddiaeth a sectorau lle bydd yn cryfhau canlyniadau cyffredinol y fenter hon.