Mae’r cais hwn am gyllid yn cefnogi datblygiad trefniadau cyfnewid hirdymor a chydweithio rhwng Cymru a Quebec.
Dogfennau
Ffurflen gais , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 162 KB
Manylion
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec wedi lansio cais am gyllid i helpu mudiadau yng Nghymru a Quebec, Canada, er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaethau.
Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen ganllaw.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 29 Gorffennaf 2024.
Cysylltwch â QuebecWalesProjects@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad ariannu hon.