Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mwy na 650 o bobl ym Mhowys yn elwa ar sgiliau newydd a chymorth i ddychwelyd i fyd gwaith, diolch i hwb ariannol gwerth £350,000 gan yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cefnogi prosiect newydd Gweithffyrdd+ Powys, a fydd yn cael ei redeg gan Gyngor Powys a PRIME Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar bobl ddi-waith sy'n 54 oed a hŷn.

Y bwriad yw cynnal Gweithffyrdd+ Powys am dair blynedd i helpu pobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain, dychwelyd i'r gwaith neu fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli er mwyn gwella eu sgiliau a magu hyder.

Bydd yn helpu’r unigolion i ddatblygu sgiliau chwilio am swydd a chyfweliad, yn cynnig cymorth wrth ysgrifennu CV ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ennill cymwysterau galwedigaethol a chymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith.

Bydd tua 50 o fentoriaid gwirfoddol yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi i fentora unigolion sy'n dymuno dychwelyd i fyd gwaith ym Mhowys ar sail un i un fel rhan o'r prosiect.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

"Mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu'n helaeth at wella sgiliau a dyfodol pobl Cymru drwy brosiectau fel Gweithffyrdd, ar ben y prentisiaethau, hyfforddiant, rhaglenni ôl-radd a chynlluniau i helpu pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn diwydiannau STEM.

"Mae'n bleser cyhoeddi'r buddsoddiad pellach hwn. Bydd yn ariannu gwasanaethau pwysig a chyfleoedd newydd i bobl Powys ddychwelyd i fyd gwaith a datblygu gyrfaoedd newydd."

Dywedodd David Pugh, prif weithredwr PRIME Cymru: 

"Ry'n ni'n falch o gael gweithio gyda Chyngor Powys i wireddu'r dull arloesol hwn o gefnogi unigolion hŷn sydd â chymaint i'w gynnig i Bowys, ynghyd ag economi Cymru yn ei chyfanrwydd. 

"Y prosiect hwn fydd un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i gefnogi'r grŵp oedran hwn i barhau i fod yn weithgar yn economaidd."