Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo rhagor na £10m eleni a’r flwyddyn nesaf i dri bwrdd iechyd i gynnal mesurau ynni haul ac arbed ynni newydd ar draws eu hystâd gan sicrhau arbedion ariannol a charbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r buddsoddiad hwn ar ben y £2m a neilltuwyd llynedd, ac yn rhan o raglen fwy gwerth £17m.

Bydd yr arian – sy’n rhan o gynllun Buddsoddi i Arbed – yn cefnogi prosiectau ynni gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r arian yn cynnwys £2m o arian adfer Covid a neilltuwyd ar gyfer prosiect fferm solar 4MW gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fydd yn helpu i bweru Ysbyty Treforys yn Abertawe.

O’i chyfuno â rhaglen Re:fit gwerth £7.7m, bydd y fferm solar yn arbed dros £1.6m y flwyddyn o ynni i’r bwrdd iechyd.

O gael caniatâd cynllunio, bydd y fferm solar yn cael ei hadeiladu ar fferm Brynwhilach a’i chysylltu ag ysbyty Treforys trwy wifren breifat 3km o hyd.

Cafodd y penderfyniad i roi’r grantiau ei gyhoeddi ddydd Mercher, 2 Rhagfyr, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

Dyma’r prosiectau ynni fydd yn cael eu cefnogi:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

  • Mwy na £5.7m yn 2020-21, fel rhan o raglen fwy gwerth £7.7m.  Neilltuodd Llywodraeth Cymru £2m ar gyfer rhan gynta’r prosiect yn 2019/20, i’r bwrdd iechyd allu cwblhau mesurau arbed ynni, gan gynnwys darparu goleuadau LED sydd eisoes yn arbed arian.
  • Ar ben y £2m o arian adfer Covid, caiff £3.8m arall ei fuddsoddi er mwyn i’r bwrdd iechyd allu adeiladu fferm solar erbyn diwedd 2022.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  • Bydd £600k ychwanegol yn helpu’r bwrdd iechyd i gynnal rhagor o fesurau arbed ynni ar draws yr ystâd. Bydd hyn yn ychwanegol i’r £1.4 y cytunwyd arno yn gynharach eleni.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

  • £1.7m er mwyn i’r Bwrdd Iechyd allu gosod paneli solar ar adeiladau ymhob rhan o’r ystâd, yn ogystal â mesurau arbed ynni eraill, gyda £250k yn cael ei neilltuo eleni ac £1.5m flwyddyn nesaf.

Mae pob un o’r byrddau iechyd wedi gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru – sy’n rhoi cyngor a help ar ynni i gymunedau a chyrff cyhoeddus – i nodi cyfleoedd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol a chynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy ar draws eu hystadau.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Ein GIG sydd wedi arwain ymateb Cymru i bandemig Covid-19 ac ni allwn orbwysleisio mor bwysig yw bod y gwasanaethau a ddarperir gan ein hysbytai yn gynaliadwy a chryf.

“Lle medrwn, rydym am helpu byrddau iechyd i wneud arbedion, a’u cefnogi yr un pryd i gynnal eu gwasanaethau hanfodol.  Mae mesurau fel y rhain sy’n helpu’n hysbytai i ddefnyddio llai o ynni yn aruthrol o bwysig ac mae’n dda gen i fod fy nghyd-weinidogion a finnau’n gallu cyhoeddi’r arian hwn heddiw.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Wrth i ni anelu at greu Cymru carbon niwtral, rydym am wneud popeth yn ein gallu i gefnogi cyrff cyhoeddus, fel byrddau iechyd, i leihau’u hallyriadau carbon trwy fesurau arbed ynni a defnyddio opsiynau adnewyddadwy lle medrir.

“Hoffwn ddiolch i bob un o’r byrddau iechyd am eu gwaith yn hyn o beth; gan ddiolch yn arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am eu huchelgais, wrth iddynt weithio at greu fferm solar newydd fydd yn helpu i bweru Ysbyty Treforys.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

“Rydym yn benderfynol bod Cymru’n parhau i fynd yn ei blaen yn unol â’n gwerthoedd wrth inni ymadfer gyda’n gilydd. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan bwysig o’n pecyn ailadeiladu Covid gwerth £320m ar gyfer cynnal swyddi a diogelu dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus a’n planed.”

Meddai Emma Wollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae ein bwrdd iechyd o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldebau am genedlaethau’r dyfodol trwy leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn arbennig trwy leihau ein hôl troed carbon.

“Rwyf wir wrth fy modd bod staff ein hystadau’n cael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad a’u gwaith caled trwy fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn wyrdd mewn ffordd mor arloesol ac ymarferol.

“Mae lleihau ein hôl troed carbon a thorri costau yn fuddugoliaeth ddwbl i’r bwrdd iechyd, i’n cleifion a’r trethdalwyr.”