Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, heddiw fod rhagor na £2 miliwn yn cael ei neilltuo i helpu i leihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol i gartrefi a busnesau yn Nhraeth Tref Porthcawl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr amddiffynfeydd môr presennol eu hadeiladu ym 1984 a gwelwyd mewn archwiliad diweddar eu bod yn dirywio ac yn dod i ddiwedd eu hoes. 

Maen nhw'n amddiffyn gwerth miliynau o bunnau o gartrefi a busnesau ar hyd yr Esplanade, gan gynnwys y Pafiliwn Mawr. Ar ôl cryfhau'r amddiffynfeydd, bydd 260 o adeiladau'n cael eu hamddiffyn rhag y perygl o lifogydd ac erydu o'r môr. 

Bydd y £2,299,146 a gyhoeddwyd heddiw yn talu am waith i wella'r amddiffynfeydd, gan gynnwys: 

  • dymchwel rhan o'r amddiffynfeydd presennol
  • cael gwared ar yr adeiladwaith asffalt presennol a gosod amddiffynfeydd terasog yn eu lle a'u lliwio'n lliw tywod yn unol â barn y bobl yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Rwy'n falch o gael darparu'r arian hanfodol hwn i gryfhau'r amddiffynfeydd môr ym Mhorthcawl.  Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yno ac i'r ymwelwyr hefyd. 

"Rydyn ni wedi buddsoddi mwy o arian nag erioed yn y blynyddoedd diwethaf a thros oes y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £144 miliwn  o arian cyfalaf mewn cynlluniau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol o gwmpas Cymru." 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: 

"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn newyddion rhagorol i Borthcawl a bydd yn rhoi'r modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr amddiffyn canol y dref a'r glan-môr rhag llifogydd a harddu'r amddiffynfeydd môr hefyd. 

"Mae'r contract ar gyfer y gwaith wrthi'n cael ei baratoi ac rwy'n disgwyl ymlaen at fedru datgelu mwy o fanylion am y prosiect cyn hir."