Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £16,000 o arian i gefnogi gwaith elusen addysg flaenllaw sy'n defnyddio chwaraeon i fynd i'r afael â hiliaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn galluogi i'r ymgyrch gynnal 10 digwyddiad addysgol mewn clybiau pêl-droed, rygbi a chriced ar hyd a lled Cymru. Bydd tua 600 o bobl ifanc yn elwa ar y digwyddiadau hyn a fydd yn hyrwyddo negeseuon gwrth-hiliaeth ac yn mynd i'r afael â bwlio homoffobig. 

Bydd y sesiynau hefyd yn pwysleisio sut y gall chwaraeon helpu pobl i oresgyn anawsterau personol a chefnogi'u lles, gan ddefnyddio straeon sêr y byd chwaraeon i ysbrydoli. 

Bydd yr arian hefyd yn rhoi'r cyfle i tua 200 o ymarferwyr addysg ddysgu am ffyrdd i hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion. Bydd yr hyfforddiant yn helpu athrawon i fagu hyder yn eu gallu i adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Rwy'n credu yng ngrym chwaraeon i newid bywydau pobl ac i'n haddysgu am werthoedd allweddol a gwella ein lles. Dyma pam rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r prosiectau hyn. 

“Drwy chwaraeon, bydd yr ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gallu cysylltu â phobl ifanc ar hyd a lled y wlad, gan hyrwyddo negeseuon gwrth-hiliaeth pwysig a mynd i'r afael â bwlio homoffobig.” 


Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Rwyf am i ysgolion fod yn amgylcheddau cadarnhaol a chynhwysol lle gall ein pobl ifanc ddysgu a datblygu. 

“Bydd yr arian hwn yn helpu i roi'r sgiliau a'r hyder i athrawon ac ymarferwyr addysg eraill adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob rhan o gymuned yr ysgol.” 


Dywedodd Sunil Patel, Rheolwr Ymgyrch, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: 

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol sy'n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian hwn yn galluogi pobl ifanc i archwilio'r materion sensitif a phwysig hyn yn ein cymdeithas. Bydd defnyddio esiamplau o'r byd chwaraeon yn datblygu eu profiad dysgu ymhellach a bydd yn rhoi'r cyfle iddynt drafod y pynciau hyn ar adeg pan fo troseddau casineb yn parhau'n broblem yng Nghymru. 

“Bydd yr hyfforddiant i athrawon ac ymarferwyr addysg eraill yn datblygu'u hyder wrth amlygu'r pwysigrwydd o fynd i'r afael â bwlio a chofnodi digwyddiadau yn briodol ac yn effeithiol”.