Bydd cymunedau a chanolfannau trefi arfordirol yn cael hwb o £6 miliwn, diolch i’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n werth £110 miliwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddarparu’r cymorth hollbwysig hwn sy’n dod drwy law Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â pharhau â Chronfa Cymunedau Arfordirol Lloegr. Roedd y penderfyniad hwn yn golygu na fyddai Llywodraeth Cymru, bellach, yn cael cyfran o refeniw morol Ystad y Goron sydd wedi’i ddefnyddio ers 2011 i gefnogi Cronfa Cymunedau Arfordirol Cymru.
Y gronfa hon o £6 miliwn yw’r chweched swm a roddwyd i Gronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi, i gefnogi datblygiad economaidd ardaloedd arfordirol, hyrwyddo swyddi cynaliadwy ac adfywio siopau a chanolfannau trefi arfordirol. Bydd y buddsoddiad hwn yn ei gwneud yn bosibl cyflwyno prosiectau gwerth £17 miliwn i gyd.
Gwahoddwyd ceisiadau yn ymwneud â chreu swyddi, gwarchod swyddi ac adfywio strydoedd a siopau mewn ardaloedd arfordirol. Am y tro cyntaf, mae hanner y cyllid wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer prosiectau canol trefi.
Bu 27 o brosiectau yn llwyddiannus o dan y cylch cyllid hwn, gan gynnwys: £223,300 ar gyfer Viva Port Talbot, £300,000 ar gyfer hyb celfyddydol a chymunedol Cwmni'r Frân Wen Cyf ym Mangor a £200,000 tuag at adfer Neuadd Marchnad Aberteifi.
Ers 2012, dyfarnwyd £16.1 miliwn i 74 o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys Halen Môn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Mae’r Gronfa Cymunedau Arfordirol yn hwb enfawr i drefi arfordirol drwy gefnogi canolfannau trefi fel rhan o’n hagenda Trawsnewid Trefi, a thrwy adfywio cymunedau arfordirol yn ehangach, yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Mae cefnogi cymunedau arfordirol, nid dim ond i oroesi, ond i ffynnu, wedi bod yn flaenoriaeth erioed i’r Llywodraeth hon. Dyna pam, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’i chymorth hi i ben, ein bod ni wedi camu i mewn i ddarparu’r cyllid hwn y mae ei angen yn fawr. O ystyried y flwyddyn gythryblus ddiwethaf i fusnesau a threfi ledled Cymru, mae’n wych ein bod ni wedi gallu parhau â’r gronfa, a fydd yn cefnogi ein trefi a’n cymunedau arfordirol pan fo’i hangen fwyaf arnynt.
David Lea-Wilson MBE, Perchennog a Chyfarwyddwr Halen Môn:
Mae’r Gronfa Cymunedau Arfordirol wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu ni i dreialu newidiadau a datblygu ein syniadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae amrywio ein ffrydiau incwm wedi bod yn gwbl amhrisiadwy mewn pandemig. Rydyn ni wedi gallu datblygu gwasanaeth arlwyo awyr agored gan gadw pellter rhwng pobl, drwy osod trelar arlwyo pwrpasol mewn dôl brydferth o flodau gwyllt.
Rydyn ni wedi buddsoddi mewn gwaith ymchwil i ddulliau sychu drwy fwg, ac erbyn hyn wedi gwneud cais cynllunio am safle sychu drwy fwg, i’w gyllido gennyn ni a’i adeiladu yn nes ymlaen eleni, cyn belled ag y cawn ganiatâd cynllunio.
Heb gymorth y Gronfa Cymunedau Arfordirol, fe fydden ni sawl blwyddyn ar ei hôl hi, ac mae bron yn sicr na fydden ni nawr mewn sefyllfa i fuddsoddi mewn syniadau newydd.