Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hyd at £2,500 o arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau yng Nghymru gafodd eu taro gan y llifogydd diweddar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn dilyn y gofid a’r difrod a achoswyd gan Storm Bella ym mis Rhagfyr llynedd a Storm Christoph ym mis Ionawr.

Busnes Cymru fydd yn gyfrifol am drefnu’r arian a bydd yn helpu busnesau â’u costau trwsio ac adfer, a hefyd â chost rhentu lle newydd a chadw staff.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:

“Fel y deallwn, dioddefodd rhyw 45 o fusnesau yn sgil y llifogydd diweddar yng Nghymru. Felly, ar ben popeth arall y maen nhw’n ei wynebu, mae’r busnesau hyn yn gorfod dygymod â difrod i’w heiddo, eu stoc a’u hoffer ac yn aml yn gorfod delio hefyd â phroses yswiriant gymhleth.

“Mae ein Cynllun Grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi teimlo effeithiau llifogydd y stormydd enbyd diweddar.

“Rydym am helpu busnesau sydd wedi dioddef i godi yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl a dyna pam rydym wedi ymateb yn gyflym gyda thaliad o hyd at £2,500 i bob busnes.  Mae hyn yn efelychu’r hyn wnaethom ni adeg y llifogydd mawr llynedd ac y mae’n ychwanegol at y pecyn coronafeirws ehangach.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths:

“Fel y gwelon ni pwy ddiwrnod, mae llifogydd yn gallu achosi poen enbyd i deuluoedd a busnesau ledled Cymru. Rwy’n falch iawn felly o weld cyhoeddi’r grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau. Yn dilyn llifogydd llynedd, gwnaethon ni neilltuo rhagor na £5 miliwn i awdurdodau lleol allu trwsio amddiffynfeydd rhag llifogydd. Bydd y grant hwn yn rhoi’r help sydd ei angen ar fusnesau i’w helpu i godi yn ôl ar eu traed.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Busnes Cymru.

Gwneud cais am gyllid ar wefan Busnes Cymru.

Bydd yn agored i fusnesau y gallai unrhyw stormydd eraill hyd at ddiwedd mis Mawrth effeithio arnyn nhw, os bydd digon o arian. Bydd yn rhaid bodloni’r amodau.