Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cyhoeddi bod arian wedi'i neilltuo ar gyfer cam cyntaf Athrofa Ymchwil newydd i Weithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy a allai sicrhau cynnydd o £4bn yn GVA Cymru.
Bydd yr Athrofa Ymchwil yn canolbwyntio ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys awyrofod, modurol, niwclear a bwyd.
Bydd yn cynnig cefnogaeth weddnewidiol i gwmnïau gweithgynhyrchu blaenllaw yn ogystal ag i gwmnïau aml-sector yn y gadwyn gyflenwi a busnesau bach a chanolig. Ei nod fydd cynyddu cynhyrchiant, gweld mwy o fasnacheiddio ac arloesi a datblygu sgiliau.
Disgwylir i'r athrofa newydd ysgogi sylfaen ddiwydiannol gystadleuol a ffyniannus a fydd yn ei thro yn gatalydd ar gyfer twf a swyddi ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, y Gogledd, y Northern Powerhouse a thu hwnt.
Disgwylir i ran gyntaf yr Athrofa fod ar ei thraed erbyn 2020, wedi'i hadeiladu ar seilwaith sydd eisoes yn bod fel Canolfan Prifysgol Coleg Cambria.
Caiff y cyllid y cytunwyd arno ei ddefnyddio i ddechrau ar ddyluniad a manyleb lawn dau gyfleuster gwahanol, y naill ym Mrychdyn a'r llall ger Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae Airbus wedi cadarnhau mai nhw fydd aelod cyntaf safle Brychdyn.
Dywedodd Ken Skates:
"Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gadw at fy addewid i sefydlu Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20m yng Nglannau Dyfrdwy fydd yn ffocws ar gyfer masnacheiddio, hyfforddi a gwella cynhyrchiant.
"Os ydym am barhau i gystadlu trwy'r byd, rhaid i ddiwydiant Cymru barhau'n gystadleuol ac mae hyn yn golygu addasu i dechnegau modern a deall y cyfleoedd posib a ddaw trwy gydweithio a newidiadau yn yr economi, er enghraifft y pedwerydd chwyldro diwydiannol.
"Bydd yr athrofa newydd yn fawr ei chefnogaeth i'r uchelgeisiau hyn ac rwyf wir wedi fy nghyffroi gan yr effaith y gallai ei chael.
"Bydd dyluniad a lleoliad y ganolfan yn ddelfrydol ar gyfer dod â manteision i Gymru ac i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw gyda'r Northern Powerhouse. Yn wir, mae arbenigwyr allanol wedi rhagweld y gallai gynyddu ein GVA gymaint â £4bn, gan ddibynnu ar amodau economaidd allanol. Gallai hynny fod yn wir weddnewidiol i economi'r Gogledd a'n gwlad."
Mae'r Athrofa wedi'i datblygu gan Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a chafwyd cyfraniad manwl gan Brifysgol Abertawe, AMRC Sheffield, Airbus a Choleg Cambria mewn cydweithrediad â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mwy.