Neidio i'r prif gynnwy

Wrth inni ddod yn nes at benwythnos y Pasg, mae’r neges gan Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru yn glir – arhoswch gartref a byddwch yn ddiogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Meddai:

“Bydd y Pasg hwn yn wahanol iawn i’r penwythnosau gwyliau yr ydym wedi’u mwynhau yn y gorffennol. Fel arfer byddai Gogledd Cymru yn paratoi i groesawu ymwelwyr o bell ac agos, ond eleni rydym yn delio gyda’r pandemig COVID-19 ac mae’r neges  yn glir – arhoswch gartref. 

“Mae llety, tafarnadai, bwytai ac atyniadau twristaidd ar draws y rhanbarth wedi cau. Rydym wedi cymryd camau i gau parciau carafanau, gwyliau a gwersylloedd pebyll, ac wedi rhoi pwerau i’r parciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol i gau llwybrau troed.

“Mae’r camau hyn nas gwelwyd erioed o’r  blaen wedi’u cymryd i achub bywydau. Bydd y mesurau hyn yn gweithio ar yr amod ein bod i gyd yn dilyn y canllawiau ac yn aros gartref. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i wneud yn siŵr nad ydym yn lledaenu’r feirws ac yn peryglu bywydau pobl.

“Efallai ei bod yn anodd ond mae’n rhaid inni barhau i gydymffurfio yn ystod penwythnos y Pasg ac aros gartref.

“Dyma’r ffordd orau inni ddangos ein cefnogaeth i’r GIG, y gwasanaethau brys a gweithwyr allweddol eraill. Dyma’r neges glir ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

“Diolch am aros gartref. 

Dywedodd Michael Bewick, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru bod yn rhaid inni gydymffurfio gyda rheoliadau’r Llywodraeth.

“Fel Cyfarwyddwr atyniad a Chadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru, mae’n anhygoel ein bod yn gofyn i bobl beidio ag ymweld, ond rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. 

“Mae pob atyniad yn y gogledd wedi cau, a’n mynyddoedd a’n traethau wedi cau a’n trefi a’n pentrefi wedi cau mwy neu lai. Bydd hwn yn gyfnod hynod heriol i’r sector twristiaeth.

“Dwi’n siŵr y gallaf siarad ar ran yr holl sector wrth ddiolch i bobl am gadw draw, aros yn eu cartrefi a dweud ein bod yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu yn ôl i Ogledd Cymru – yn y dyfodol.