Neidio i'r prif gynnwy

Dros benwythnos Gŵyl y Banc, cofiwch aros gartref ac achub bywydau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, anogodd Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru bawb i barhau i gydymffurfio â’r cyfyngiadau i ddiogelu eu hunain ac eraill yn erbyn y coronafeirws.

Mae traffig ar draws y rhwydwaith yn y Gogledd wedi bod tua 70% yn is na’r lefelau normal, sy’n dangos bod y mwyafrif llethol o bobl yn aros gartref.

Wrth siarad cyn Gŵyl y Banc, dywedodd y Gweinidog:

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n dilyn y rheoliadau. Rydych i gyd yn chwarae eich rhan i arbed bywydau a diogelu’r GIG.

“Wrth inni agosáu at benwythnos Gŵyl y Banc, mae’r neges yn parhau – arhoswch gartref ac osgoi teithio diangen. Mae bywydau yn dibynnu ar hynny.

“Bydd modd mwynhau atyniadau’r Gogledd pan fydd hyn i gyd drosodd, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr pan, a dim ond pan, y byddwn yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.

“Mae yfory’n Ŵyl y Banc er mwyn nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Mae llawer o ffyrdd y gallwn ddathlu’r diwrnod arbennig hwn gartref drwy arsylwi 2 funud o ddistawrwydd a rhannu straeon ac atgofion ar y cyfryngau cymdeithasol.