Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Awst 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 336 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad ar y cyd â'r Adran Addysg yw hwn ar argymhellion i ddiwygio'r gweithdrefnau ar gyfer diogelu plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 a thair set o reoliadau diwygio sy’n llywodraethu’r trefniadau diogelu ar gyfer plant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau. Amcan y ddeddfwriaeth yw diogelu iechyd lles ac addysg plant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau rhag mathau amrywiol o risg.
Fodd bynnag mae’r rheoliadau’n rhy fanwl a phenodol mewn rhai ffyrdd. Yn dilyn adolygiad annibynnol i ystyried y materion a’r heriau sy’n codi o’r ddeddfwriaeth bu swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried pa newidiadau sydd angen eu gwneud i’r gyfraith. Ein nod yw sicrhau bod mesurau diogelwch cadarn ar waith i ddiogelu plant ond bod y mesurau hyn yn gymesur ac yn gallu hwyluso cyfleoedd i blant gael perfformio.