Argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer hylosgi a systemau storio tanwydd) sy'n ymgorffori newidiadau a wnaed yn 2010 a 2024 (WGC 004/2024)
Cylchlythyr i gyhoeddi bod y diwygiadau i ddogfen gymeradwy J perthynas â larymau carbon monocsid wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y Cylchlythyr: WGC 004/2024
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2024
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer hylosgi a systemau storio tanwydd) sy'n ymgorffori newidiadau a wnaed yn 2010 a 2024
Cyhoeddwyd gan: Mark Tambini, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd
Crynodeb:
Cylchlythyr yw hwn i gyhoeddi bod y newidiadau mewn perthynas â larymau carbon monocsid i Ddogfen Gymeradwy J wedi'u cymeradwyo a'u cyhoeddi, ac i dynnu sylw at y darpariaethau trosiannol ar gyfer y newidiadau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
Deddf Adeiladu 1984
Rheoliadau Adeiladu 2010
Newidiadau i Ddogfen Gymeradwy
Cyflwyniad
- Ar ran Gweinidogion Cymru, rwy'n tynnu'ch sylw at y newidiadau i argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (offer hylosgi a systemau storio tanwydd) sy'n ymgorffori newidiadau 2010 a 2024.
- Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu'ch sylw at arweiniad newydd i gefnogi paragraff J3 o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 - "Rhybudd bod carbon monocsid wed gollwng".
Cymhwyso'r ddeddf
- Mae'r newidiadau a wnaed i'r Ddogfen Gymeradwy yn ymwneud ag adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.
Newidiadau i'r Ddogfen Gymeradwy
- Mae Dogfen Gymeradwy J wedi'i newid i gynnwys arweiniad sef lle gosodir offer hylosgi sefydlog newydd neu gyfnewid sydd â ffliw, o fath sy'n defnyddio unrhyw danwydd (olew, nwy (gan gynnwys LPG) a solet) mewn annedd (gan gynnwys ffyrnau sefydlog â ffliw), dylid darparu larwm carbon monocsid.
- Adran 1: Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud yn gyffredinol â gosodiadau hylosgi, bellach yn cynnwys arweiniad ym mharagraffau newydd 1.24 i 1.30 sy'n ymdrin â darparu larymau carbon monocsid lle gosodir offer hylosgi sefydlog â ffliw o fath sy'n defnyddio unrhyw danwydd.
- Mae hyn yn golygu bod paragraffau 2.34 i 2.36 o argraffiad blaenorol Dogfen J gyda newidiadau 2010, wedi'u dileu. Roeddynt yn delio â larymau carbon monocsid ar gyfer offer sy'n llosgi tanwydd solet yn unig, felly mae'r paragraffau newydd wedi'u disodli.
- I grynhoi, mae angen larwm carbon monocsid i rybuddio preswylwyr am bresenoldeb carbon monocsid yn y canlynol:
(i) Ym mhob man (gan gynnwys mannau cysylltiedig er enghraifft garejis ac atigau) lle ceir offer hylosgi sefydlog (gan gynnwys offer hylosgi sefydlog â ffliw a ddefnyddir ar gyfer coginio), ac
(ii) mewn llety risg uchel, hynny yw, ystafell wely neu brif ystafell fyw lle ceir ffliw sy'n gwasanaethu offer hylosgi yn mynd drwy'r ystafelloedd hynny.
- Dylai larymau carbon monocsid gydymffurfio â BS EN 50291-1:2018 ac ymgorffori seinydd a chael eu pweru gan fatri sydd wedi'i ddylunio i weithio am oes weithredol y larwm. Dylai'r larwm gynnwys dyfais rhybuddio i rybuddio defnyddwyr pan fydd oes y larwm ar fin dod i ben.
- Mae canllawiau ac argymhellion ar osod larymau carbon monocsid ar gael yn BS EN 50292:2023 ac yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
Newidiadau bychain
- Yn ogystal â'r ailrifo sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r newidiadau a ddisgrifir uchod, rydym hefyd yn gwneud newidiadau i gywiro mân wallau yn Nogfen Gymeradwy J i gynnwys rhif OS cywir a darn o baragraff J3 o Atodlen 1 yr OS hwnnw.
Dogfennau cymeradwy
- Mae Atodiadau B ac C i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth i'r Ddogfen Gymeradwy ddiwygiedig a Hysbysiad Tynnu Cymeradwyaeth yn Ôl i argraffiadau blaenorol o'r Ddogfen Gymeradwy, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol.
Trefniadau trosiannol
- Daw'r newidiadau a wnaed i Ddogfen Gymeradwy J i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio fel a ganlyn.
- Bydd argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J sy'n ymgorffori rhagor o newidiadau a wnaed yn 2010, yn dal i fod yn berthnasol i'r gwaith adeiladu y mae'n ymwneud ag ef, ar yr amod:
a. bod y gwaith adeiladu wedi dechrau cyn 6 Ionawr 2025; neu
b. bod gwaith y mae -
(i) hysbysiad adeiladu ar ei gyfer wedi’i roi i awdurdod lleol cyn 6 Ionawr 2025,
(ii) hysbysiad cychwynnol ar ei gyfer wedi'i roi i awdurdod lleol ac nad yw'n ei wrthod cyn 6 Ionawr 2025,
(iii) hysbysiad diwygio ar ei gyfer wedi ei roi i awdurdod lleol ac nad yw'n ei wrthod cyn 6 Ionawr 2025, neu
(iv) cynlluniau llawn ar ei gyfer wedi'u hadneuo cyn 6 Ionawr 2025,
a bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025; neu
c. nad oes angen hysbysiad ar gyfer y gwaith (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) a bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025.
Sylwch fod gan "hysbysiad adeiladu", "hysbysiad cychwynnol", "hysbysiad diwygio" a "chynlluniau llawn" yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 2 o Reoliadau Adeiladu 2010.
Cyffredinol
- Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu. Yn unol ag adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo'r newidiadau.
- Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar y gofynion technegol yn Rheoliadau Adeiladu 2010. Ymdrinnir â'r materion hynny yn y Ddogfen Gymeradwy sy'n cael ei newid.
Ymholiadau
Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:
Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
Atodiad A
Deddf Adeiladu 1984
Hysbysiad cymeradwyo i newid dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer eu pwerau o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r newidiadau i'r ddogfen a enwir isod at ddiben rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a enwir isod.
Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio mewn perthynas â'r gwaith fydd eisoes wedi'i ddechrau cyn y dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad diwygio ar ei gyfer neu bod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo cyn y dyddiad hwnnw a chyn belled â bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith lle nad oes angen hysbysiad (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) ar yr amod bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw.
Dogfen
Argraffiad 10 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer Hylosgi a systemau storio tanwydd) yn ymgorffori newidiadau a wnaed yn 2010 a 2024.
GofynionvRheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy
Rhan J, Atodlen 1
Atodiad B
Deddf Adeiladu 1984
Hysbysiad tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion rheoliadau adeiladu 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer eu pwerau o dan adran 6(5) a 5(A), wedi tynnu yn ôl y gymeradwyaeth i'r ddogfen a enwir isod at ddiben rhoi arweiniad ymarferol ar y gofynion yn Rhan J o Atodlen 1 o Reoliadau Adeiladu 2010.
Daw'r hysbysiad tynnu cymeradwyaeth yn ôl i rym ar 6 Ionawr 2025 ac eithrio mewn perthynas â'r gwaith fydd eisoes wedi'i ddechrau cyn y dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad diwygio ar ei gyfer neu bod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo cyn y dyddiad hwnnw a chyn belled â bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw; neu mewn perthynas â gwaith lle nad oes angen hysbysiad (gweler rheoliad 12(6) o Reoliadau Adeiladu 2010) ar yr amod bod y gwaith yn dechrau o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw.
Dogfen
Argraffiad 2010 o Ddogfen Gymeradwy J (Offer Hylosgi a systemau storio tanwydd) yn ymgorffori newidiadau 2010.