Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi achub ar y cyfle hwn i ddefnyddio polisi caffael lle bynnag y bo'n bosibl i gefnogi ymddygiad busnes moesegol a chyfrifol er mwyn helpu i ddiogelu cyflenwyr a gweithwyr sy'n agored i niwed. Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru ar waith i sicrhau bod caffaelwyr yn ystyried arfer gorau wrth dendro contractau cyhoeddus. 
Ar ôl cyhoeddi canllawiau i sicrhau arferion cyflogaeth teg mewn prosiectau a ariennir yn gyhoeddus, rwyf wedi parhau i glywed yn uniongyrchol am achosion o arfer anfoesegol ledled Cymru. Fis diwethaf, ymrwymais i gymryd camau i hyrwyddo ein canllawiau pwysig ar y mater hwn. 
Heddiw, mewn partneriaeth â'r Undebau a chleientiaid yn y sector cyhoeddus, rwyf wedi nodi fy nisgwyliadau o ran y modd y dylid ymdrin â chyflogaeth yn achos pob prosiect seilwaith ac adeiladu a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Rwyf wedi cyfleu ein cynlluniau i annog arferion cyflogaeth moesegol trwy hyrwyddo ein Nodyn Cyngor Caffael, 'Arferion Cyflogaeth yn achos prosiectau a Ariennir yn Gyhoeddus', a sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu'n llawn. 
Ym mis Mai, cychwynnir rhaglen o ddigwyddiadau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar gyfer cleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector busnes i'w helpu i fabwysiadu arferion cyflogaeth moesegol a rhoi gwybodaeth a chanllawiau ynghylch sut i gyflawni'r mater pwysig hwn. Bydd Llywodraeth Cymru a'n hundebau partner, ochr yn ochr ag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a chyrff eraill yn y diwydiant, yn gweithio gyda chleientiaid a'r diwydiant i sicrhau bod prosiectau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn fannau teg i weithio. 
Byddaf yn parhau i ddangos sut y gellir defnyddio prosesau caffael i ddylanwadu ar ymddygiad busnes cyfrifol. Yn dilyn safbwynt Llywodraeth Cymru ar gosbrestru a'i chanllawiau a'r arferion cyflogaeth, bydd Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn cael ei ddatblygu. Bydd y Cod hwn yn fodd ychwanegol i fynd i'r afael â hunangyflogaeth ffug a chynlluniau ambarél annheg, yn ogystal â materion ehangach sy'n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys caethwasiaeth fodern, cosbrestru a chontractau dim oriau. 
Bydd disgwyl i gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, busnesau yng Nghymru a chyflenwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i'r Cod.