Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir i’r prosiect

Pridd yw’r haen hindreuliedig ar wyneb y ddaear lle mae organebau pridd yn byw a lle mae planhigion yn gwreiddio. Mae’n ymestyn hyd at un neu ddau metr o ddyfnder, a hwn yw’r rhyngwyneb rhwng ecosystemau byw a chreigiau mwynol a’r parth lle maent yn cymysgu gyda’i gilydd.
Mae pridd yn un o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru a thrwy ei weithgareddau naturiol mae’n gosod sylfaen i, ac yn cefnogi, rannau pwysig o economi Cymru. Hefyd, pridd yw’r sylfaen ar gyfer amgylchedd, tirwedd a bywyd gwyllt Cymru. Heb bridd, mae’r tir yn anffrwythlon ac yn ddiffrwyth. Mae cyflwr ac felly perfformiad priddoedd Cymru yn allweddol i lwyddiant polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â ffermio, yr economi yn fwy eang, datblygiad gwledig a datblygiad cynaliadwy.
Mae diogelu pridd yn cael ei ystyried erbyn hyn fel rhan allweddol o bolisi nad oedd yn cael digon o adnoddau o’r blaen. Yn dilyn Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol, mae Lloegr yn datblygu strategaeth diogelu pridd, ac ar ôl arweinyddiaeth flaenorol o Gyngor Ewrop, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn awr yn cymryd yr awennau wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth ddrafft ar gyfer Ewrop yn gyfan. Y targedau allweddol fydd rheoli gwastraff i dir, colli defnydd organig pridd, prosesau erydu a chreu diffeithiwch a chael y gwledydd sy’n aelodau o’r Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno rhwydweithiau digonol i fonitro pridd yn genedlaethol. Bydd rheoli pridd yn fwy cynaliadwy, ac yn cael ei yrru gan strategaeth diogelu pridd Cymru. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â llawer o gyfarwyddebau amgylcheddol ac allweddol Ewrop, er enghraifft y Fframwaith Dŵr, a’r Cyfarwyddebau Atebolrwydd Dŵr Daear ac Amgylcheddol.
Nod y prosiect hwn yw rhoi gwybodaeth i Staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â’r cydrannau a’r targedau sydd eu hangen ar gyfer strategaeth diogelu pridd cenedlaethol i Gymru.

Amcanion y prosiect

Comisiynwyd y prosiect hwn gan Gynulliad Llywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd ac fe’i rheolwyd gan Adran Ansawdd Tir Asiantaeth yr Amgylchedd. Dyma’r amcanion:

  • Darparu dogfen i’w defnyddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth gynhyrchu eu strategaeth ar ddefnyddio pridd yn gynaliadwy, fydd yn crynhoi cyflwr pridd Cymru, y pwysau presennol ar bridd a’r pwysau tebygol yn y dyfodol, ac a fydd yn adolygu’r ymateb ar hyn o bryd ac yn argymell ffyrdd newydd o ymateb.
  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o’r ansawdd presennol, y defnydd a’r amrywiaeth o bridd Cymru gan nodi’r pwysau, y gwrthdaro a’r polisïau a’r canllawiau perthnasol. Bydd y gwaith yn dynodi bylchau yn y rheoliadau presennol, ac yn ystyried opsiynau ar gyfer defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy gan gynghori ar sut y gellid cyflawni hyn.

Tîm y prosiect

Rheolwyd y prosiect gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), Bangor ac fe’i gynhaliwyd gan CEH, y Sefydliad Cenedlaethol Adnoddau Pridd, Sefydliad ar gyfer Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol, Gogledd Wyke gyda chymorth arbenigol oddi wrth y Ganolfan Ymchwil Daearamgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymgynghorwyr Cynefin.

Dull o weithredu

Gofynnwyd i’r contractwyr:

  • Adrodd ar natur a gweithgaredd priddoedd Cymru;
  • Nodi’r prif ystyriaethau sy’n bygwth adnoddau pridd Cymru;
  • Ystyried opsiynau ar gyfer gwell cadwraeth pridd.

Gyda pob un o’r penawdau hyn ceir disgrifiad o’r cefndir gwyddonol, dynodir y ffynonellau gwybodaeth, a rhoi disgrifiad o’r cyflwr presennol a’r sefyllfaoedd tebygol yn y dyfodol. Caiff yr effeithiau eu disgrifio ar sail y ffordd y maent wedi effeithio ar weithgareddau allweddol pridd. Ceir disgrifiad hefyd o’r ymatebion i’r polisïau presennol ac i’r polisïau tebygol yn y dyfodol.

Casgliadau

Adnodd priddoedd yng Nghymru

Ag eithrio creigiau folcanig Eryri a’r creigiau ieuengach ar gyrion arfordirol y de a’r gogledd, mae gan Gymru haen waelodol o greigiau gwaddod caled sydd wedi eu gorchuddio gan gyfres nodweddiadol o briddoedd asid. Felly, mae oddeutu chwarter Cymru gyda haen waelodol o briddoedd anathraidd nad ydynt wedi eu draenio’n dda. Tra bod haenau arwynebol mawnog tenau yn nodweddiadol o briddoedd ar frig y prif fryniau, mae mawn mwy trwchus yn gorchuddio llai na 5 y cant o arwynebedd tir Cymru.
Mae natur datblygiad pridd a llawer o briodweddau priddoedd Cymru wedi ei achosi gan feddiannaeth dynol dros sawl mileniwm. Cafodd clirio’r goedwig wreiddiol effaith sylweddol ac arweiniodd at asideiddio helaeth a waethygwyd gan ddyddodiad asid. Mae gorffennol diwydiannol Cymru wedi gadael etifeddiaeth o halogiad cronig helaeth a mwy eang o’r pridd. Nid oes llawer o wybodaeth ynglŷn â phriodweddau biolegol priddoedd Cymru.
Mae yna fap pridd cenedlaethol ar gyfer Cymru ar raddfa addas i ddod o hyd i wahanol fathau o bridd, ond tenau iawn yw’r wybodaeth fanwl sydd ei hangen i roi gwybodaeth ar gyfer cynlluniau a phenderfyniadau ynglŷn â rheoli tir. Mae amryw o gynlluniau monitro pridd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chyflwr priddoedd yng Nghymru. Y mwyaf yw’r Rhestr Bridd Genedlaethol a gynhaliwyd gan Arolwg Pridd Cymru a Lloegr yn y 1980au cynnar. Mae nifer y gwyddonwyr pridd gyda phrofiad ymarferol o briddoedd Cymru yn fychan iawn (llai na 10) ac mae llai fyth ohonynt un yn weithredol yng Nghymru. Felly mae addysg a hyfforddiant yn ystyriaeth sydd angen ei wynebu yn fuan.
Nodwyd y bygythiadau canlynol i bridd:

Colli pridd i ddatblygiadau

Mae llai na 5 y cant o arwynebedd tir Cymru wedi ei ddatblygu ac mae y rhan fwyaf ohono wedi ei leoli yn ardal arfordirol y de a’r gogledd-ddwyrain. Nid yw gwybodaeth yn cael ei casglu ar lefel cenedlaethol ynglŷn â graddfa datblygiadau newydd ac mae’r dulliau a ddefnyddir yn lleol yn anghyson. Yr unig weithgaredd sy’n cael ei ddiogelu’n ffurfiol o dan gyfraith a chanllawiau cynllunio yw gallu cynhyrchiol y pridd. Mae deddfwriaeth yn parhau i fod mewn grym i ddiogelu’r tir amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas yng Nghymru. Ond, oherwydd prinder tir graddfa 1, 2 a 3a yng Nghymru, ar y cyfan nid yw’r dulliau hyn yn ffyrdd mor effeithiol o ddiogelu pridd fel adnodd o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol. Nid yw priddoedd sydd yn werthfawr o ran ecoleg ac yn isel o ran cynhyrchedd amaethyddol yn cael eu diogelu’n benodol gan y ddeddfwriaeth, ac mae llawer o’r priddoedd hyn yng Nghymru. Byddai addasu’r dulliau hyn i gynnwys amrywiaeth ehangach o briddoedd yn diogelu tir cynhyrchu Cymru yn well pe byddid yn ystyried datblygiadau Caeaeu Gwyrdd yn risg. Mae gan un awdurdod cynllunio lleol, yng Nghynllun Datblygu Unedol Conwy, bolisi cydnabyddedig o ddiogelu ansawdd y priddoedd trwy reoli datblygiadau.
Mae canllawiau i’r diwydiant echdynnu mwynau ynglŷn â sut i drin defnyddiau pridd sydd wedi eu stripio. Ond ni roddir canllawiau o’r fath i’r diwydiant adeiladu ac adeiladwaith. Byddai ymddangos yn synhwyrol ymestyn y canllawiau i’r perwyl hwnnw.

Colli pridd o ganlyniad i echdynnu mwynau a mawn

Er bod yna ddiwydiant mwynau gweithredol yng Nghymru, nid oes mawn wedi cael ei gymryd yn y blynyddoedd diweddaraf. Mae canllawiau cynllunio yn nodi y dylid adfer safleoedd mwynau yn gynyddol os yn bosib, gan felly gostwng yr amser storio pridd. Mae’r profiad o stripio tywyrch cyfan o lastir yn llawn perlysiau wedi bod yn un cymysg o bosib, oherwydd y methiant i ailgreu dŵr pridd priodol a phatrymedd mwynau priodol yn y safle newydd.

Colli pridd trwy erydiad

Mae’r diffiniad o erydu pridd yn gallu achosi dryswch. Mae ei ystyr yn y fan hon yn cynnwys pob math o golled ronynnol a phob mater sy’n gysylltiedig â’r gwaddodion a enillir o ganlyniad gan rannau eraill o’r amgylchedd. Mae erydiad pridd yn digwydd ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i’r defnydd o’r tir ac arferion rheoli. Mae’r rhan fwyaf o erydiad pridd tir uchel yn digwydd oherwydd cadw gormod o stoc o ddefaid a gorddefnyddio llwybrau ar briddoedd sy’n agored i niwed. O ran effaith, mae effeithiau gwaddodion “oddi ar y safle” ar ansawdd dwr, a’r ewtroffeiddio sy’n digwydd i ecosystemau dwr croyw yn sgil hynny, yn llawer mwy nag unrhyw golled yng ngallu cynhyrchiol y pridd gwreiddiol. Nid oes digon o wybodaeth yn bodoli i asesu’n gywir a yw erydiad yn broblem sy’n tyfu ac os yw’n cael ei brysuro gan arferion penodol.
Mae Codau Ymarfer yn bodoli ond dim ond y diwydiannau coedwigaeth ac adeiladu sy’n talu sylw i'r rhain. Nid yw’r ymateb presennol i erydiad pridd o diroedd ffermio a gweundir pori yn ddigonol. Mae’n rhaid cael gwell addysg yn ogystal â gwasanaethau estyniad. Dylai cadwraeth pridd fod yn un o ofynion sylfaenol cynlluniau amaeth-amgylcheddol megis Tir Gofal. Dylai isafswm safonau hwsmonaeth pridd a chadwraeth gael eu gosod i’r rhai sy’n derbyn cymorthdaliadau. Dylai erydiad pridd fod yn darged allweddol ar gyfer Strategaeth Diogelu Pridd Cymru, ond mae angen gwneud mwy o ymchwil a monitro i ddeall natur, maint a gyrwyr penodol y broses hon yn well.

Strwythur y Pridd

Mae strwythur ffisegol y pridd yn bwysig i’w berfformiad gweithredol. Mae’n cael effaith ar gynhyrchedd yn y cyd-destun amaethyddol, mae’n ffactor mewn bioamrywiaeth pridd ac mae’n dylanwadu ar hydroleg pridd. Mae diraddiad strwythur y pridd yn fwy tebygol o fod yn ystyriaeth mewn priddoedd amaethyddol. Serch hynny, nid oes nemor ddim data yn bodoli ar gyflwr strwythurol priddoedd Cymru ac ni ellir dod i unrhyw gasgliad dibynadwy i ddweud a oes angen gweithredu. Mae gwybodaeth ar lafar, yn bennaf o Loegr, yn awgrymu y gall priddoedd fod yn mynd yn llai athraidd oherwydd cyfuniad o gapio arwyneb priddoedd âr, cymryd priddoedd glastir a chywasgu’r uwchbridd yn y ddau achos.
Y prif argymhelliad yw cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwr strwythurol pridd Cymru. Mae taflenni ymgynghorol ar reoli pridd yn bodoli ond mae angen gweithdrefnau a fydd yn annog ffermwyr i fabwysiadu gwell arfer, os bydd monitro yn dangos bod angen hynny. Mae cynnwys ymrwymiadau rheoli pridd yn Tir Gofal yn cael ei nodi fel un dewis, ynghyd â chreu rhwydwaith o ffermydd arddangos yn dangos gwahanol briddoedd a mathau o dir i weithredu fel ffermydd disglair o arfer dda.

Defnydd organig pridd

Mae’r croniad graddol o ddefnydd organig yn haenau arwyneb y pridd yn un o’r prosesau sy’n ffurfio pridd. Mewn newidiadau yn yr hinsawdd, gall y pridd fod yn ffynhonnell ac yn suddfan i garbon. Nid ydym yn gwybod beth yw holl gynnwys defnydd organig priddoedd Cymru, ond mae’r uwchbridd yn cynnwys 37Mt o garbon organig. Y Rhestr Bridd Genedlaethol yw’r ffynhonnell orau o wybodaeth yngln â defnydd organig. Mae’r crynodiad cymedr o 10.8 y cant o garbon organig yn adlewyrchu pa mor eang yw haenau arwyneb mawnog mewn priddoedd gweundirol. Mae gwahaniaethau o bwys mewn priddoedd cyffelyb ar dir sy’n cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Yn y cyfnod 1980 i 1996 collodd priddoedd fferm oedd ddim yn fawnog 0.5 y cant o’u cynnwys carbon organig, ac roedd hyn yn cynnwys tir dan laswellt parhaol. Mae gan hynny oblygiadau i gyfraniad Cymru at Brotocol Kyoto ynglŷn â rheoli nwyon tŷ gwydr. Mae gostyngiad yn y carbon organig yn effeithio hefyd ar sefydlogrwydd strwythurol, a natur erydol y pridd, yn ogystal a’i allu i arsugno halogion organig ac anorganig. Gellir colli peth deunydd organig o’r pridd mewn dŵr. Mae’r cynnydd mewn ‘dŵr tywyll’ yn broblem i gwmnïau cyflenwi dŵr.
Mae angen brys i ragor o wybodaeth gael ei chasglu ynglŷn â deunydd organig pridd yng Nghymru. Mae’r data presennol yn hen ac yn annigonol.

Maetholion y Pridd

Mae statws maetholion y pridd yn gleddyf deufin. Mae colli maetholion o briddoedd fferm yn arwain at gnydau llai ac mae colli nitradau yn ddireolaeth trwy drwytholchiad, a cholli ffosfforws, yn bennaf trwy erydiad gronynnau, yn fygythiad i amgylchedd y dŵr lle maent yn achosi ewtroffigedd (cyfoethogiad maetholion). Bydd rheolaeth ar Nitrogen (N) a ffosfforws (P) yn cael ei gryfhau gan y Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sydd ar y gweill. Ond yn gyffredinol mae hinsawdd gwlyb Cymru yn golchi’r maetholion allan o afonydd y wlad ac mae hynny yn arwain at ddŵr o ansawdd uchel. Mae tystiolaeth bod cyfoethogiad graddol ond cynyddol yn digwydd yn y llynnoedd. Mae llawer o ddyfroedd croyw Cymru yn dlawd mewn maetholion o ran natur; maent felly yn arbennig o agored i niwed trwy golli maetholion o’r pridd.
Cynhyrchwyd amryw god ymarfer sy’n mynd i’r afael â rheoli maetholion, ond mae angen gwell trefniadau ymgynghorol a gwell dulliau o drosglwyddo technoleg.

Halogiad pridd tryledol

Mae halogiad tryledol yn wahanol i safleoedd tir sydd wedi eu halogi. Nid yw’n golygu dim llai o halogion penodol mewn crynodiadau tryledol ond mae ffynonellau’r halogiad yn wahanol, yn bennaf maent yn cael eu dyddodi o’r awyr, o wasgaru gwastraff ar y tir, o waith cloddio a mwyndoddi ac o ddefnyddio gwrtaith graddfa isel. Yng Nghymru mae halogiad tryledol yn eithaf amlwg ar hyd a lled y wlad. Y prif halogion yw’r metelau trwm (plwm, sinc, cadmiwm, copr, cromiwm), cyfansoddion organig o waith dyn (PCBs, PAHs a diocsins), gwrthfiotigau, radiocaesium ac amrywiaeth o wahanol bathogenau a gronynnau is-firal o wastraff carthion a gwastraff bwyd a wasgerir ar y tir. Mae maint yr halogiad trwm yn cael ei guddio gan y ffaith bod y lefelau cefndir yn amrywio yn naturiol.
Mae gwybodaeth resymol am fetelau trymion ar lefel genedlaethol ar gael o’r Rhestr Briddoedd Cenedlaethol (National Soil Inventory) ond does dim, neu fawr ddim gwybodaeth am halogion organig. Mae’r gwaddodiad radiocaesium o Chernobyl yn dal i fod mor uchel fel bod cyfyngiadau ar dda byw mewn 360 o ffermydd yng Ngogledd Cymru.
Mae halogion anorganig yn wael iawn am hydoddi ac ni ellir eu dinistrio. Maent felly yn para yn eithriadol o hir tra bod halogion organaidd yn amrywio o ran eu diraddiad a’u hirhoedledd. Mae mwy o sinc wedi cael ei golli na’i ennill ers 1980 ac mae lefelau crynodiad ohono wedi gostwng. Mae gwenwyndra halogion yn beth cymhleth ond yn ôl un amcangyfrif mae crynodiad Plwm ym mhriddoedd yr ucheldir yn uwch na’r cyfyngiadau critigol ar gyfer y biota pridd. Mae cyflwr y pridd yn dylanwadu ar benderfynu bio-argaeledd metelau, cyfradd diraddiad sylweddau organig a dichonoldeb gronynnau pathogenig. Mae asidrwydd y pridd yn dylanwadu’n gryf ar hydoddiad metelau. Mae radiocaesiwm wedi cylchu rhwng pridd a llystyfiant mewn pridd mawnog yn yr ucheldir ac felly wedi bod ar gael i stoc fferm. Mae lleithder parhaus yn ffafrio goroesiad bacteria yn y pridd. Does dim digon o wybodaeth ar gael yngln a gwydnwch a pharhad gronynnau megis prionau (BSE a Chlefyd y Crafu (scrapie)).
Mae mesurau rheoli mewn perthynas â gwasgaru defnyddiau gwastraff sy’n cynnwys halogion a pathogenau yn cynyddu. Mae cyfyngiadau cyfreithiol ond does dim digon o ddealltwriaeth yngln â thynged y sylweddau a’r organebau hyn ac am y ffordd y maent yn ymddwyn yn y pridd, na digon o wybodaeth am grynodiad presennol y rhan fwyaf ohonynt.

Halogi pridd yn ddifrifol

Yn sgil gweithgarwch diwydiannol y gorffennol yng ngogledd a de Cymru mae llawer o dir wedi cael ei halogi yn ddifrifol. Mae cloddio a mwyndoddi mwynau metel wedi cyfrannu at hyn ym mhob ran o Gymru. Erbyn hyn mae yna fframwaith reolaethiol newydd i ddelio gyda thir wedi ei halogi ac mae’r awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrannog yn y broses.
Ym 1988 awgrymodd adroddiad gan y Swyddfa Gymreig bod 749 o safleoedd halogedig posib yng Nghymru, mwy na 40,000 hectar. Ers hynny mae peth o’r tir wedi cael ei adfer. Nid oedd yr arolwg hwnnw yn cynnwys safleoedd a oedd yn dal i gael eu defnyddio ar y pryd na safleoedd bychan o lai na 0.5 hectar. Nid oes neb yn gwybod yn iawn faint o dir sydd wedi ei halogi.
Yn y dyfodol bydd tri dull o weithredu mewn perthynas â halogiad tir, sef cynllunio datblygu, rheoli diwydiant sydd â’r potensial o lygru trwy gynllun integredig rheoli ac atal llygredd (IPC), a glanhau tir halogedig ar sail y risg. Yn y dyfodol dylai maint y tir sydd wedi cael ei halogi leihau. Bydd yr halogiad presennol yn cael ei lanhau ar sail bod yn ‘ffit i’r pwrpas’.

Asideiddio

Mae asidedd pridd yn adlewyrchiad o’r cydbwysedd sydd o fewn cymhlyg cyfnewid catïon rhwng ionau hydrogen a ffurfiau asidig o alwminiwm ar yr un llaw ac ionau metel sylfaenol ar y llaw arall. Oni ddefnyddir mesurau megis calchu i wrthweithio’r broses, y broses naturiol fydd i’r pridd ddod yn fwy asidig dros amser gan bod glaw ei hun yn asid gwan iawn. Mae uwchbriddoedd Cymru yn asidig gyda gwerthoedd cymedrig, yn ôl gwahanol raglenni sampl, yn amrywio rhwng pH 5.0 a 5.5. Mae’r defnydd a wneir o’r tir yn ddylanwad mawr ac mae’r pridd yn fwy asidig o dan goed conwydd sef pH 4.2.
Daeth asideiddio pridd ac yn sgil hynny rhyddhau alwminiwm i afonydd Cymru yn fater llosg oherwydd dyddodiad asid swlffwr a nitrogen ocsid o safleoedd cynhyrchu diwydiannol ac oherwydd llosgi tanwydd ffosil. Mae amonia sy’n cael ei ryddhau o wastraff da byw yn ychwanegu at y broblem yn lleol. Mae’r cynnydd yn asideiddiad y pridd wedi cael effaith fawr ar lystyfiant gweundir ac ar ecosystemau dŵr croyw ac ar y stoc pysgod. Mae strategaethau rhyngwladol i reoli allyriad wedi ceisio sicrhau gostyngiad mewn allyriant.
Gwnaethpwyd llawer o ymchwil yng Nghymru ac yr oedd y modelau yn rhagweld na fyddai priddoedd yn gallu niwtraleiddio cymaint â hynny o asid yn ystod y 1990au. Mae’r gostyngiad diweddar mewn dyddodiad asid, gostyngiad sy’n parhau, yn awgrymu peth adferiad o’r sefyllfa honno er y bydd lefelau asid sy’n cael ei fewnbynnu i briddoedd gweundir yn ormodol am ran fawr o’r mileniwm presennol. Mae effaith rhai mathau o nitrogen (NHx) ar y llwyth asid yn gritigol i ganlyniad hynny. Os ydynt hwy yn cael eu cynnwys mae’r dyfodol yn edrych yn llawer mwy llwm.
Bydd gweithredu protocol Gothenburg yn achosi gostyngiadau pellach yn y llwyth asid a ddyddodir yn y dyfodol, fydd yn achosi gostyngiad yn y gorfewnbwn critigol ar gyfer priddoedd. Ychydig iawn sy’n fodlon proffwydo ynglŷn â ffrâm amser a graddfa adferiad o asideiddio o ganlyniad i leihau allyriant.

Newid hinsawdd

Mae tystiolaeth gynyddol fod hinsawdd y Deyrnas Gyfunol yn cael ei newid oherwydd cynnydd yn allyriant nwyon tŷ gwydr. Yng Nghymru mae’r tymheredd cymhedrig wedi cynyddu ar gyfradd o 0.3 oC dros y ganrif ddiwethaf, tra bod y dyddodiad blynyddol wedi codi o 3%. Disgwylir y bydd y tueddiadau hyn yn parhau a phroffwydir y bydd y tymheredd yn uwch o 2 - 4 oC erbyn 2080 ynghyd â chynnydd yn natur dymhorol glawiad a newid net yng nghyfnewidiad lefel y môr o 11 – 71cm. Mae asesu effaith y newidiadau hyn ar y pridd yn llawn problemau, gan nad yw’r hinsawdd ond yn un ffactor anthropogenig sy’n effeithio ar gyflwr a gweithgaredd priddoedd. Mae’r ffactorau eraill fydd wedi cael effaith fawr ar bridd yn ystod y ganrif ddiwethaf yn cynnwys arferion coedwigaeth a ffermio, isadeiledd a’r amgylchedd naturiol. Ond mae cyfeiriad a maint y newid yn ansicr yn aml, a chymhlethdod y cydberthynas rhwng planhigion, pridd a’r awyrgylch heb eu mesur yn dda. Mae’r enghreifftiau o newidiadau arfaethedig yn cynnwys cyfraddau newydd o allyriant nwyon tŷ gwydr o briddoedd ac o storfeydd carbon y pridd, a chynnydd yn y risg o erydu a chipio (poaching), gostyngiad yn sefydlogrwydd isadeiledd goleddfau a chynnydd yn y risg bod halogion yn cael eu trosglwyddo i nentydd ac afonydd. Yr hyn sy’n gyrru’r polisi presennol yw protocol Kyoto a fabwysiadwyd gan Fframwaith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Yr oedd hyn yn gosod targedau newydd ar gyfer gostwng allyriant nwyon tŷ gwydr. Mae’r Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i ostwng 12.5% ar allyriant erbyn 2010 ac mae ganddo nod domestig o dorri 20% ar allyriant carbon deuocsid erbyn 2010. Gan bod modd defnyddio sinciau carbon fel un rhan o dargedau Kyoto, gwnaethpwyd amcangyfrif o stociau a sinciau carbon pridd yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r rhestr ar gyfer nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys amcangyfrifon penodol am sinciau carbon deuocsid yng Nghymru. Ond mae llawer o ansicrwydd ynglŷn â’r rhestrau hyn ac mae angen gwelliant sylweddol mewn monitro ac arolygu priddoedd yng Nghymru ac angen gwella ein dealltwriaeth o’r ffactorau gwaelodol sy’n rheoli gweithgareddau allweddol y pridd os ydym am wneud asesiadau mwy dibynadwy yn y dyfodol.

Gwarchod systemau pridd cynrychioliadol

Mae cynsail i hyn yn y dyletswyddau cyfreithiol sydd i ddynodi y systemau sy’n cynrychioli orau yr holl amrediad o nodweddion ffawna, fflora, daeareg a ffisiograffig yng Nghymru - nid yn unig y rhai sydd fwyaf prin neu sydd wedi cael eu styrbio leiaf. Mae rhesymau da dros ymestyn yr egwyddor o ddynodi safleoedd fel bod safleoedd yn cael eu dynodi ar gyfer pridd hefyd, hyd yn oed os bydd hynny’n wirfoddol a heb statws cyfreithiol. Er bod y safleoedd biolegol presennol (SoDDGA a gwarchodfeydd natur) yn cynnwys amrediad eang o wahanol fathau o briddoedd sy’n cael eu dangos ar fap cenedlaethol Priddoedd Cymru, ni chredir bod hyn yn ddigonol. Yr ydym yn dod i’r casgliad bod tiroedd mewn rhai mathau o berchenogaeth ac mewn cynlluniau megis Tir Gofal yn cynnig cyfleoedd i warchod systemau cynrychioladol ar draws yr amrediad llawn o systemau tirwedd pridd sy’n ymgorffori gwahanol fathau o bridd, cymunedau biolegol pridd, safleoedd treftadaeth pridd a nodweddion pridd. Argymhellir sefydlu rhwydwaith gydnabyddedig dan reolaeth Comisiwn Cefn Gwlad Cymru gyda dulliau safonol o gofnodi ond bydd angen astudiaeth gynhwysfawr o’r dilyniant yr anelir ato, ac o’r mathau a’r priodeoleddau fydd yn cael eu cynnwys.
Mae priddoedd yr ymyrrwyd llai â nhw yn fwy tebygol o gynnal ecosystemau sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau, ac felly y maent yn werthfawr o safbwynt cadwraeth natur. Serch hynny mae hyn yn beth gwahanol i’r diddordeb gwyddonol ac addysgol, ac i’r gwerth a welir mewn dynodi a gwarchod amrediad cynrychioliadol o bob system tirwedd pridd a’u rhannau cyfansoddol, nid yn unig y rhai sy’n brin neu heb gael eu hymyrryd lawer. Dylid cydnabod bod gan bob pridd ei werth cynhenid nid yn unig y priddoedd sy’n cael eu hystyried yn brin neu sy’n cynnal llystyfiant semi naturiol.

Casgliadau cyffredinol ynglŷn â pholisi gwarchod priddoedd Cymru

Mae nifer o gasgliadau cyffredinol.

Addysg yn y gymuned ehangach

Nid yw pwysigrwydd pridd a’i werth i’r economi ac i’r amgylchedd yn cael ei gydnabod yn eang hyd yn oed mewn cylchoedd proffesiynol. Mae nifer y gwyddonwyr pridd cymwysedig sy’n cael eu cyflogi gan y mudiadau perthnasol yn dyst i’r diffyg dealltwriaeth hwn.
Bydd lle hanfodol i reolaeth pridd yn nyfodol datblygiad cynaliadwy a bydd yn ffactor bwysig yn yr hyn fydd yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Bydd yn effeithio ar yr economi wledig, ar amaethyddiaeth, ar goedwigaeth, ar ddatblygiad tir, ar gadwraeth natur, ar reolaeth tirwedd, as warchod yr amgylchedd, ac ar reoli dŵr a gwastraff. Bydd angen defnyddiau a rhaglenni hyfforddi fydd yn ymwneud â phob un o’r proffesiynau hyn. Byddai hefyd yn werth gwneud yn siŵr bod gwell ddarpariaeth ar gyfer plant o oed ysgol, addysg drydyddol a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Bydd y rhwydwaith arfaethedig o safleoedd tirwedd pridd dynodedig yn adnodd addysgol gwerthfawr.

Gwell hysbysrwydd a mwy o wybodaeth

Trwy gydol yr adroddiad yr ydym wedi pwysleisio’r angen am fwy o wybodaeth, gwell gwybodaeth a gwybodaeth fwy cyfredol ynglŷn â natur a chyflwr y priddoedd yng Nghymru. Mae’r wybodaeth yn annigonol a nifer y gwyddonwyr pridd proffesiynol hyfforddedig a all ei dehongli, yn annigonol.
Byddai Uned Adnoddau Pridd bychan ar gyfer Cymru, wedi ei staffio gan wyddonwyr pridd yn y maes, ac a fydd yn prysur gasglu’r wybodaeth berthnasol am briddoedd Cymru, yn darparu’r wybodaeth a’r arbenigedd y mae cymaint o angen amdano.

Yr angen i integreiddio gwarchod pridd gyda pholisïau perthnasol eraill

Ynddo’i hun, ychydig effaith a gaiff Strategaeth Gwarchod Pridd Cymru oni fydd y Strategaeth wedi cael ei hintegreiddio yn amlwg gyda strategaethau a pholisïau eraill sy’n bodoli ac a fydd yn bodoli yn y dyfodol. Mae’n ymddangos yn hanfodol tanlinellu a datgan yn glir beth yw perthnasedd amcanion y strategaeth i’r polisi o blaid economi gynaliadwy, diwydiant ffermio, sector coedwigaeth, diwydiant twristiaeth a system o gynllunio datblygu. Mae rheoli amgylchedd Cymru, ei bywyd gwyllt a’i thirwedd, yn rhan hanfodol o ddatblygu cynaliadwy a bydd angen pwysleisio’r rôl allweddol sydd gan reoli pridd yn y gweithgareddau hyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r bygythiadau i ansawdd pridd yn cael eu hachosi yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol gan bolisïau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru (Datblygiad economaidd, buddsoddi economaidd a thwf). Mae’n bwysig bod y cysylltiadau hyn yn cael eu deall a bod eu paramedrau yn cael eu gosod yn sgil asesiad effaith amgylcheddol strategol priodol. Mae pridd yn fater o bolisi trawsdestunol a’r allwedd i lwyddiant polisi gwarchod pridd yn y dyfodol fydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â pholisïau eraill.

Cyfleoedd ar unwaith i wella gwarchod priddoedd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dilyn ac i wneud cynnydd buan o safbwynt rheolaeth gynaliadwy priddoedd Cymru.:

  • Byddai ymgorffori mesurau o hwsmonaeth bridd dda fel amod dyfarniadau o dan Tir Gofal yn gyson â’r syniadau sy’n deillio o Ewrop ynglŷn âg adolygiad canol tymor y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
  • Cynnig cyngor ynglŷn â rheolaeth pridd trwy Cyswllt Ffermio a datblygu cyfres o daflenni arfer dda yn benodol ar gyfer amgylchiadau a phriddoedd Cymru.
  • Datblygu rhwydwaith o gyfleusterau addysgol yn gysylltiedig â sefydlu cyfres o safleoedd tirwedd pridd mewn partneriaeth â thirfeddianwyr megis yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol, RSPB, y Fenter Goedwigaeth, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r cwmnïau dŵr.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 134 KB.

Maint Ffeil 134 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.