Ardystio bod gan berson amhariad ar y golwg mewn gofal sylfaenol a chymunedol (WHC/2024/029)
Sut mae newidiadau i'r ffurflen ardystio yn effeithio ar y broses ar gyfer ardystio cleifion fel rhai rhannol ddall neu ddall.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cydymffurfio.
Categori:
Polisi.
Teitl:
Ardystio bod gan berson amhariad ar y golwg mewn gofal sylfaenol a chymunedol.
Dyddiad dod i ben / adolygu:
Amherthnasol.
I’w weithredu gan:
Byrddau iechyd lleol.
Angen gweithredu erbyn:
Ar unwaith.
Anfonwr:
Sarah O’Sullivan-Adams, Pennaeth Optometreg ac Awdioleg, Yr Is-adran Gofal Sylfaenol.
Dogfennau amgaeedig:
Ffurflen Tystysgrif Amhariad ar y Golwg Cymru 2024 (CVIW 2024) a’r nodiadau esboniadol.
Ardystio bod gan berson amhariad ar y golwg
Mae cael ardystiad yn rhagamod ar gyfer cofrestru gydag amhariad ar y golwg. Mae pobl sydd ag amhariad ar y golwg sy'n bodloni meini prawf penodol[footnote 1], [footnote 2] yn gymwys i gael eu cofrestru gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eu hawdurdod lleol fel unigolion sydd ag amhariad ar y golwg (SI) neu sydd ag amhariad difrifol ar y golwg (SSI). Drwy gofrestru, bydd unigolion yn cael mynediad at wasanaethau a chymorth sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i aros yn annibynnol. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, Offthalmolegwyr Ymgynghorol sy’n llofnodi’r Tystysgrif Amhariad ar y Golwg (CVI). Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol yng Nghymru sy’n datgan mai dim ond Offthalmolegydd Ymgynghorol all lofnodi’r Tystysgrif Amhariad ar y Golwg.
Daeth ymchwil ddiweddar i'r casgliad, o safbwynt nodi cymhwystra unigolion i gael tystysgrif, fod cytundeb tebyg rhwng offthalmolegwyr a phanel consensws o’i gymharu â’r cytundeb rhwng optometryddion sydd wedi’u hyfforddi a’u hachredu i ddarparu gwasanaethau golwg gwan a’r panel consensws[footnote-3]. Yn unol â hynny, bydd llwybr cleifion newydd i Gymru gyfan yn cael ei gyflwyno a fydd yn galluogi cleifion i gael eu hardystio yn unigolion sydd ag amhariad ar y golwg gan optometryddion Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru sydd wedi'u hachredu i ddarparu gwasanaethau golwg gwan ac sydd wedi cwblhau modiwl hyfforddiant cymeradwy, fel y pennir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac fel yr amlinellir yng Ngweithdrefnau Gweithredu Safonol Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru. Bydd hyn yn ychwanegol at yr ardystiad ar gyfer cleifion a gynhelir gan Offthalmolegwyr Ymgynghorol. Mae'r dull newydd hwn yn gyson ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a'n hymrwymiadau yn Cymru Iachach a Gofal Iechyd Llygaid GIG Cymru: Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol.
Cyn diwygio’r contract optometreg, achrediad Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru ynghyd â Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru sy’n angenrheidiol.
Mae 4 newid wedi'u gwneud i’r ffurflen Tystysgrif Amhariad ar y Golwg Cymru (CVIW) bresennol er mwyn gallu rhoi’r drefn newydd ar waith:
- mae’r pennawd "i’w gwblhau gan yr Offthalmolegydd (ticiwch un)" wedi cael ei newid yn "i’w gwblhau gan yr Offthalmolegydd/Optometrydd (ticiwch un)"
- mae blychau dewis opsiwn wedi’u cynnwys i nodi p’un a ydy’r ymarferydd yn offthalmolegydd neu’n optometrydd
- mae blychau dewis opsiwn wedi’u cynnwys i nodi a gafodd yr ardystiad ei gynnal mewn gwasanaeth llygaid yn yr ysbyty, practis optometreg neu leoliad symudol
- mae’r label "cyfeiriad yr ysbyty" wedi cael ei newid yn "cyfeiriad prif weithle y sawl sy’n ardystio (ysbyty / practis optometreg)"
Bydd yr un ffurflen CVIW 2024 yn cael ei defnyddio ar gyfer ardystio mewn gofal sylfaenol a chymunedol a gofal eilaidd. Mae’r llwybr cleifion ar gyfer y gwasanaeth hwn i’w weld yn y llawlyfrau clinigol perthnasol.
Troednodiadau
[1] RNIB, the criteria for certification.
[2] Adran Iechyd Llywodraeth y DU (2017), Certificate of Vision Impairment: explanatory notes for consultant ophthalmologists and hospital eye clinic staff in England.
[3] Bartlett, R., Jones, H., Williams, G. et al. (2021), Agreement between ophthalmologists and optometrists in the certification of vision impairment. Eye 35, 433–440.