Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagymadrodd

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) i’r Senedd ar 25 Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS.

Cefndir

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn fater sydd wedi ei ystyried ers sawl blwyddyn. Cafodd y syniad ei awgrymu gan bobl Cymru fel maes posibl ar gyfer creu refeniw yn dilyn galwad gyhoeddus am syniadau yn 2017.

Yn dilyn dadl yn y Senedd ar 4 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Alwad am Syniadau am drethi newydd drwy hysbysiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.

Fe gawsom dros 35 o lythyrau a thros 270 o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd treth dwristiaeth yn un o’r trethi a awgrymwyd gan aelodau’r cyhoedd inni ei hystyried.

Dyma linell amser y digwyddiadau:

2014

  • Rhoddodd Deddf Cymru 2014 bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) gyflwyno trethi datganoledig newydd yng Nghymru.

2016

  • Gwnaeth adroddiad Trethi er Lles Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd yn 2016 argymhellion ar gyfer wyth treth newydd yng Nghymru, ac un ohonynt oedd yr Ardoll Ymwelwyr.

2017

  • Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Mark Drakeford AS ar y pryd) arwain dadl yn y Cynulliad i ddechrau trafodaeth am y cyfleoedd y gallai trethi newydd eu darparu i Gymru.
  • Yna, cyhoeddodd alwad gyhoeddus am syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru.
  • Cyflwynwyd dros 300 o ymatebion gan aelodau’r cyhoedd drwy lythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

2018

Ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid drwy Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Drethi a’r Fforwm Trethi ar lefel swyddogol i fesur barn cyrff cynrychiadol ac arbenigwyr cyn llunio rhestr fer o bedair treth newydd bosibl i Gymru. Cyhoeddwyd y rhestr hon yn 2018 ac roedd yn cynnwys:

  • Treth gofal cymdeithasol
  • Treth ar dir gwag
  • Treth plastigau untro
  • Treth Dwristiaeth

Yn ei Chynllun Gwaith Polisi Trethi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried ffyrdd y gellid rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth dwristiaeth.

2020 i heddiw

  • Roedd disgwyl i alwad gyhoeddus am dystiolaeth ddilyn yn 2020 ond bu oedi oherwydd y pandemig.
  • Ailgychwynnodd y gwaith ar y cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn hydref 2021 fel ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac yna fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
  • Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022 a oedd yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru ac un digwyddiad ar-lein.
  • Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ei bwriad i fwrw ati â chynlluniau i ddatblygu deddfwriaeth ardoll ymwelwyr.
  • Cyflwynwyd deddfwriaeth ddrafft gerbron y Senedd er mwyn craffi arni fis Tachwedd 2024.

Byddai ardoll ymwelwyr yn dilyn egwyddorion treth Llywodraeth Cymru:

  • codi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl
  • cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf
  • bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
  • cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud
  • cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal

Twristiaeth gynaliadwy

Diben yr ardoll yw creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddo. Ceir nifer fawr o ymwelwyr tymhorol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae ymwelwyr yn defnyddio nwyddau a seilwaith cyhoeddus, fel ffyrdd, yn helaeth. Byddai ardoll ymwelwyr yn helpu i dalu costau lleol sy’n deillio o gynnal ymwelwyr ac yn galluogi mwy o fuddsoddi cyhoeddus yn y seilwaith sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Gallai hyn gynnwys cynnal llwybrau, glanhau traethau, cefnogi canolfannau ymwelwyr a hyrwyddo ein treftadaeth Gymreig.

Rydym am wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy yng Nghymru Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.

Mae defnyddio ardoll ymwelwyr yn ategu’r nod o sicrhau ‘twristiaeth gynaliadwy’, fel y’i diffinnir gan Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO):

‘Tourism that takes full account of its current and future economic, social and environmental impacts, addressing the needs of visitors, the industry, the environment and host communities.’

Datblygu cynaliadwy ar UNWTO

Bydd pob awdurdod lleol yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ar sut caiff y refeniw ei wario er mwyn datblygu twristiaeth gynaliadwy yn eu hardaloedd lleol.

Polisi sydd wedi’i ddylunio ar y cyd yng Nghymru, ar gyfer pobl Cymru

Mae’n hanfodol ymgysylltu’n helaeth wrth ddatblygu polisi newydd. Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid, er enghraifft awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr y trydydd sector, cyrff y diwydiant, parciau cenedlaethol, Awdurdod Cyllid Cymru, llwyfannau archebu ar-lein, a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr ar waith ers amser bellach.

Un o egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yw y dylid datblygu ein trethi drwy gydweithredu ac ymwneud. Drwy ymgynghori, ymgysylltu parhaus a'r gwaith darganfod a arweinir gan Awdurdod Cyllid Cymru, rydym wedi cael adborth cyson bod angen cael math o gofrestru ar waith i gefnogi'r ardoll.

Mae hyn wedi llywio ein penderfyniad i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru yn y Bil Ardoll Ymwelwyr. Rydym eisoes wedi ymgynghori ar gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru fel ffordd o helpu i sefydlu chwarae teg a sicrhau bod gan ymwelwyr hyder yn y safonau uchel sydd ar gael ledled Cymru. Y cynllun cofrestru a gynigir yn y ‘Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)’ yw'r cam cyntaf tuag at y cynllun hwnnw.

Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth bellach er mwyn symud tuag at gynllun trwyddedu statudol ac i alluogi darparwyr llety ymwelwyr i ddangos sut mae eu llety yn bodloni amodau penodol. Drwy barhau i ymgysylltu, byddwn yn hyrwyddo ein trafodaethau â darparwyr llety a rhanddeiliaid twristiaeth eraill, wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynigion hyn ar gyfer rheoleiddio llety ymwelwyr.

Gwaith ymchwil ac asesu’r effaith

Wrth lunio deddfwriaeth, mae angen inni amlinellu’r effaith y mae ardoll yn debygol o’i chael. Gweler asesiadau effaith yma ac ar dudalennau’r Senedd.

Ynghyd ag asesiadau effaith ac ymchwil arall, darperir casgliad o ffynonellau data ynghylch nifer yr ymwelwyr a’r sefydliadau llety, a hynny ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau (Llety â gwasanaeth, Llety hunanddarpar, Gwersylla/Carafannau, Hostelau). Mae’r ffigurau hyn yn rhoi rhywfaint o gyd-destun defnyddiol ar gyfer dechrau amgyffred y refeniw posibl a gaiff ei greu, a chostau gweithredu.

Trosolwg o’r systemau trethiant sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr mewn gwledydd dethol

Yn ein gwaith o ymgysylltu â’r diwydiant twristiaeth, mae busnesau wedi amlygu pryderon am y baich treth y mae’r diwydiant yn ei wynebu. Mynegwyd pryderon ynghylch TAW yn benodol. Caiff cyfraddau TAW eu pennu gan Lywodraeth y DU. Cafodd y gyfradd TAW ei gosod yn 20% unwaith eto ar gyfer y sector lletygarwch gan Lywodraeth y DU o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn gynnydd o’r gyfradd o 12.5% a fu’n berthnasol i’r sector ers mis Hydref 2021.

Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall y gwahanol systemau trethiant sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr yn gyffredinol, a’r sector llety yn arbennig, mewn gwledydd sydd â nodweddion tebyg i Gymru o ran yr economi a thwristiaeth. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y beichiau treth cymharol a wynebir gan y diwydiant twristiaeth mewn gwledydd eraill, a sut y byddai’r ardoll arfaethedig yn rhyngweithio â’r rhain.

Gwaith ymchwil am yr elastigeddau sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru

Mae’r gwaith ymgysylltu hefyd wedi amlygu pryderon am sut y bydd ardoll yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr a chyflenwyr. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi comisiynu adolygiad o’r gwaith ymchwil presennol ar y pwnc hwn. Mae’r gwaith ymchwil yn archwilio’r dystiolaeth ynghylch pa mor ymatebol yw cyflenwyr a’r galw ymysg ymwelwyr i newidiadau ym mhris twristiaeth (‘yr elastigeddau pris’), a newidiadau yn y galw ymysg ymwelwyr yn sgil newidiadau i incwm ymwelwyr (‘elastigedd incwm y galw’).

Bydd y canfyddiadau cychwynnol yn cael eu defnyddio i lywio ein dealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll.

Dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru

Rydym hefyd wedi comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data i lywio’r ddealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwerthuso sy’n cael ei ddatblygu.

Ymchwil defnyddwyr

Cafodd yr ymchwil ei gynllunio i gasglu sylwadau gan drigolion Cymru ac ymwelwyr domestig o’r DU ynghylch yr ardoll ymwelwyr disgresiynol a allai gael ei gyflwyno. Mae wedi ystyried sylwadau ynghylch a ddylai ymwelwyr gyfrannu drwy ardoll, a yw ymwelwyr yn barod i dalu ardoll ac a fyddent yn newid eu hymddygiad petai ardoll yn cael ei gyflwyno.

Gwnaeth dros 2,500 o ymatebwyr lenwi’r arolwg ac roedd 1,005 ohonynt yn byw yng Nghymru. Roedd y canlyniadau yn dangos cefnogaeth eang i egwyddor ardoll ymwelwyr. Dangosodd yr ymchwil fod ymatebwyr i’r arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol pan rannwyd â nhw y cysyniad o ardoll ymwelwyr mewn man lle y maen nhw’n mynd ar wyliau, neu yn eu hardal nhw. Roedd 45% yn gadarnhaol, a 25% yn negyddol. Gwelwyd canran uwch o agweddau cadarnhaol ymhlith pobl lle y mae llawer o dwristiaeth yn eu hardal.

Ar y cyfan, roedd y rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg yn cefnogi egwyddor ardoll ymwelwyr. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr (58%) yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maen nhw’n aros ynddynt. Roedd y ganran yn codi ymhlith pobl sydd â llawer o dwristiaeth yn eu hardal – yng Nghymru (66%) a'r Deyrnas Unedig (72%), gyda 13% yn anghytuno.

Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion

Ymgynhoriad

Mae manylion canlyniad yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 13 Rhagfyr 2022 i’w gweld yma. Yn rhan o’r ymgynghoriad, rhoddwyd sylw i ddyluniad arfaethedig yr ardoll ymwelwyr. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cynhaliwyd y gwaith hwn gan Alma Economics.

Ardollau ymwelwyr a gyflwynwyd dramor

Yn 2023, comisiynwyd Prifysgol Bangor i adolygu tystiolaeth ryngwladol ar effeithiau aneconomaidd ardoll ymwelwyr. Fel rhan o’r ymchwil hon, edrychwyd ar saith astudiaeth achos o gyrchfannau ledled y byd sy'n gweithredu ardollau ymwelwyr. Defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd o’r astudiaethau achos hyn i gyfrannu at argymhellion ar gyfer sefydlu ardoll ymwelwyr yng Nghymru.

Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, ac mae mwy o gyrchfannau twristiaid yn eu cyflwyno er mwyn helpu i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n rhan annatod o brofiad yr ymwelydd.

Yn yr enghreifftiau rhyngwladol, mae ardoll yn creu arian sy’n darparu cymorth yng nghyswllt mannau gwyrdd, strydoedd glân, cyfleusterau i ymwelwyr, cymunedau lleol, gwaith diogelu henebion, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhain yn elfennau annatod o brofiad ymwelydd.

Fersiwn o ardoll ymwelwyr a weithredir yn gyffredin yw ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety twristiaid. Mae dyluniad ardoll twristiaeth, ei gyfraddau, a’r dull o’i gymhwyso yn amrywio yn rhyngwladol. Mewn modelau rhyngwladol, mae’r ardoll yn amrywio o £0.50 i £5.00 y noson. Yn aml, caiff ei godi fesul person, ac mae’n tueddu i amrywio yn ôl y math o lety neu’r gost.

Prin yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod ardollau’n cael effaith economaidd negatif, pan fônt yn gymesur. Tystiolaeth gyfyngedig a geir hefyd ynghylch effeithiau dadleoli.

Mae llawer o gyrchfannau yn cyflwyno ardollau ymwelwyr i gefnogi mentrau seilwaith a thwristiaeth lleol. Dechreuodd Manceinion godi Tâl Ymweld â’r Ddinas o £1 y person y noson ym mis Ebrill 2023, gan gynhyrchu £2.8 miliwn yn ei flwyddyn gyntaf.

Mae Senedd yr Alban wedi pasio Deddf Ardoll Ymwelwyr (Yr Alban) 2024, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol bennu eu cyfraddau ardoll eu hunain. Mae Caeredin yn bwriadu codi ardoll o 5% ar ystafelloedd gan ddechrau yn 2026, ac mae dinasoedd eraill y DU fel Caerfaddon, Lerpwl, Birmingham a Llundain yn ystyried codi ardoll debyg.

Amserlenni

Nid oes dim byd yn digwydd dros nos. Mae'r Bil wedi'i gyflwyno i'r Senedd, a fydd yn awr yn craffu arno’n drylwyr; disgwylir penderfyniad ynghylch a fydd yn dod yn gyfraith yn 2025.

Os daw'r Bil yn gyfraith, yna bydd awdurdodau lleol yn gallu penderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd lleol, ar ôl ymgynghori â'u poblogaeth a'u busnesau lleol yn gyntaf. Y dyddiad cynharaf posibl ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr fyddai 2027.

Bydd pob awdurdod yn penderfynu sut i ddefnyddio'r refeniw a godir i gefnogi twristiaeth leol a bydd yn darparu adroddiadau blynyddol am sut mae'r arian hwn yn cael ei wario. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau ac Awdurdod Cyllid Cymru i greu canllawiau clir a syml ar gyfer gweithredu'r ardoll.

Bydd y broses gofrestru ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yn dechrau yn 2026.