Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i roi pwerau disgresiynol i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Yn benodol, mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich adborth ar yr opsiynau dylunio posibl ar gyfer ardoll ymwelwyr er mwyn helpu i wneud penderfyniadau. Byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd os byddant yn dewis gwneud hynny.

Rhagair

Yn dilyn etholiadau'r Senedd yn 2021, cyhoeddodd y Prif Weinidog Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu, sy'n uchelgeisiol ac yn radical, yn cydnabod faint o weithgarwch sydd ei angen wrth inni adfer yn sgil pandemig y coronafeirws a dechrau edrych y tu hwnt i'w effaith ddigynsail, yn ogystal â'n lle newydd yn y byd ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Un o'n hymrwymiadau allweddol yw ‘cyflwyno deddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth’,  sydd hefyd yn un o'r meysydd y cyfeirir atynt yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Treth leol newydd a gaiff ei dylunio mewn ffordd sy'n gweithio i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr â Chymru fyddai ardoll ymwelwyr. Refeniw o drethi lleol sy'n ariannu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru. Maent yn ffrydiau refeniw pwysig sy'n sicrhau cynaliadwyedd parhaus y gwasanaethau lleol a ddarperir i'n cymunedau – gwasanaethau sydd o fudd enfawr i bob un ohonom. Maent hefyd yn gwneud cyfraniadau allweddol at gyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer Cymru gryfach, decach a mwy gwyrdd. Byddai'r ardoll rydym yn ei gynnig yn ddewisol ei natur, gan mai awdurdodau lleol fyddai'n penderfynu a fyddant yn ei gyflwyno ai peidio.

Mae Cymru'n gyrchfan twristiaeth o'r radd flaenaf sy'n gwneud cyfraniad economaidd sylweddol at economi Cymru ac yn cysylltu ein gwlad â phobl o bob cwr o'r byd. Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Bydd ymwelwyr â Chymru yn archwilio ein harlwy unigryw, ein tirweddau hardd a'n treftadaeth gyfoethog. Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn parhau i fwynhau'r cyfan sydd gennym i'w gynnig – nawr ac yn y dyfodol. Mae ardoll ymwelwyr, wedi'i ddylunio ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysol, yn gyfle i gefnogi llwyddiant parhaus twristiaeth ledled ein gwlad. Bydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lunio treth sy'n gweithio i Gymru.

Mae busnesau'n chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi ein diwydiant twristiaeth, gan weithredu fel cenhadon sy'n croesawu ymwelwyr i Gymru ac yn darparu nwyddau a gwasanaethau sy'n galluogi twristiaeth i ffynnu.  Yn fwy cyffredinol, mae busnesau wedi cael effaith gadarnhaol o ran hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru ei gynnig i dwristiaid yn ehangach, a'u cyfraniad economaidd sylweddol at economïau lleol.

Rydym yn ymwybodol o'r heriau sydd wedi wynebu busnesau drwy gydol pandemig y coronafeirws, ac y bydd gan lawer ohonynt bryderon dealladwy am effaith bosibl ardoll wrth iddynt geisio codi'n ôl ar eu traed.  Er ein bod yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth o safbwyntiau sydd wedi'u mynegi hyd yma ar yr ardoll, rydym yn ddiolchgar am gyfraniad busnesau unigol a grwpiau sy'n eu cynrychioli hyd yma o ran deall yr heriau sy'n eu hwynebu.  O hyn ymlaen, rydym yn awyddus i barhau â'r ymgysylltu cadarnhaol hwn, drwy'r cyfnod ymgynghori ffurfiol a thu hwnt wrth inni barhau i ddatblygu'r polisi.

Caiff ardollau ymwelwyr eu defnyddio ledled y byd er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr. Cânt eu defnyddio ar lefelau daearyddol amrywiol, o ardaloedd trefol mawr i ranbarthau llawer llai, gan gynnwys rhannau o Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen. Maent yn sicrhau y bydd ymwelwyr yn talu cyfraniad bach ond cymesur y gellir ei ailfuddsoddi yn yr ardaloedd lleol hyn wedyn. Mae egwyddor tegwch yn sail i ardollau ymwelwyr ac yn sicrhau y caiff y costau eu rhannu'n fwy cyfartal rhwng trigolion ac ymwelwyr. Mae nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o'r profiad cyffredinol i ymwelwyr, a gall ardoll ymwelwyr helpu i'w hariannu, gan annog ffordd fwy cynaliadwy o ymdrin â thwristiaeth. Gallai ardoll gefnogi a gwella cyrchfannau ymwelwyr er mwyn eu hannog i ddychwelyd dro ar ôl tro. Byddai'r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn rhoi pwerau disgresiynol i awdurdodau lleol godi ardoll ar dwristiaeth, er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol wneud eu penderfyniadau eu hunain yn unol ag anghenion cymunedau lleol, gan roi awdurdod i wneud penderfyniadau yn lleol.

Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth cyn yr ymgynghoriad hwn er mwyn helpu i lywio ein ffordd o feddwl a deall rhai o'r effeithiau posibl y gallai ardoll eu cael. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn fodd i ystyried amrywiaeth ehangach o ymatebion cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynglŷn â'r ffordd y caiff y dreth ei dylunio a'i rhoi ar waith. Drwy'r broses hon, rydym am ddylunio treth sy'n gyson â'n hegwyddorion treth craidd; un sydd:

  • Yn codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl.
  • Yn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
  • Yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
  • Yn cael ei datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl.
  • Yn cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agored ac yn helaeth wrth inni ystyried amrywiaeth o opsiynau posibl wrth ddylunio'r ardoll. Rwy'n croesawu pob barn ac yn edrych ymlaen at ddarllen eich ymatebion a fydd yn helpu i lunio ardoll ymwelwyr i Gymru.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

Cefndir

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi yng Nghymru. Gwnaed mwy na 90 miliwn o ymweliadau â Chymru yn 2019, gan arwain at gyfanswm gwariant o £5.9 biliwn. Roedd 10 miliwn o'r ymweliadau hyn yn cynnwys aros dros nos, gan arwain at wariant o fwy na £2 biliwn (Perfformiad Twristiaeth yng Nghymru, rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2019 ar LLYW.CYMRU). Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bob rhan o gymdeithas, yn enwedig y sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ymyriadau sylweddol i gefnogi'r sector yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r argyfwng costau byw presennol yn rhoi llawer o bwysau ar bobl a busnesau ledled Cymru ac yn cyflwyno rhagolwg economaidd heriol. Rydym am helpu'r diwydiant i godi'n ôl ar ei draed er mwyn sicrhau y bydd yr economi ymwelwyr yn ffynnu unwaith eto.

Gall ymwelwyr â Chymru fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, o gerdded mynyddoedd a threulio diwrnod ar y traeth, i fwynhau ein dinasoedd a'n trefi bywiog. Mae gennym arlwy cyfoethog o dirweddau unigryw a phrydferth ac amrywiaeth o atyniadau i ymwelwyr sy'n parhau i ddenu miliynau o ymwelwyr i'n gwlad bob blwyddyn. Mae'r ymweliadau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at economïau lleol, ac mae twristiaeth yn cyflogi 149,600 o bobl yng Nghymru, sef cyfanswm o 11.8% o'r gweithlu. Mae'r economi ymwelwyr yn amrywio o ran maint ledled Cymru ac, felly, mae cyfran lawer uwch o'r gweithlu yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth mewn rhai ardaloedd. Felly, mae'r ardaloedd hyn cael llawer mwy o fudd o dwristiaeth o gymharu ag ardaloedd ag economïau ymwelwyr llai (a niferoedd llai o ymwelwyr). Fodd bynnag, mae cost yn gysylltiedig â thwristiaeth i'r cymunedau lleol hynny sy'n derbyn ein hymwelwyr. Gall ymwelwyr roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau a seilwaith lleol sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan drigolion. Mewn ardaloedd â llawer o ymwelwyr, mae'r pwysau cysylltiedig yn fwy ac felly mae'r costau'n uwch. Byddai ardoll yn cynnig dull o sicrhau cyfraniad gan ymwelwyr tuag at wasanaethau a seilwaith lleol yn yr ardaloedd hynny (y maent yn cael budd ohonynt ac yn dibynnu arnynt fel rhan o'u hymweliad).

Byddai'r ardoll yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy, fel y'i diffinnir gan Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig: twristiaeth sy'n ystyried ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y presennol a'r dyfodol yn llawn, gan fynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau sy'n derbyn ymwelwyr (Sustainable tourism: Sustainable Development Knowledge Platform). Byddai ardoll yn galluogi awdurdodau lleol i gefnogi ymweliadau cynaliadwy am fod gwasanaethau lleol yn rhan annatod o'r profiad cyffredinol i ymwelwyr.

Mae ardoll ymwelwyr, wedi'i ddylunio drwy gydweithio ac ymgynghori, yn gyfle i awdurdodau lleol gael cyllid ychwanegol a fyddai'n eu galluogi i fuddsoddi ymhellach a gwella'r gwasanaethau hyn. Byddai hyn o fudd i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr. Byddai ardoll a gaiff ei ddylunio a'i roi ar waith yn effeithiol yn cynnal ac yn annog ymwelwyr â Chymru.

Cyd-destun ardoll ymwelwyr

Mae'r trafodaethau ynglŷn ag ardoll ymwelwyr yn deillio o'r Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru (Comisiwn Holtham) a sefydlwyd yn 2008 i adolygu'r ffordd roedd Cynulliad Cymru ar y pryd yn cael ei ariannu ac i ystyried datganoli pwerau ariannol ymhellach. Asesodd Comisiwn Holtham yr achos o blaid cynyddu pwerau trethu a benthyca Cymru (Tegwch ac atebolrwydd: setliad ariannu newydd i Gymru). Un o'r trethi a ystyriwyd gan Gomisiwn Holtham oedd treth dwristiaeth. Mae adroddiad Comisiwn Holtham yn enwi'r dreth hon fel un o lawer o drethi y gellid eu cyflwyno yng Nghymru o bosibl, gan nodi y byddai'n gyfle i wrthbwyso'r costau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â thwristiaeth.

Mae rhai trethi eraill a nodwyd gan Gomisiwn Holtham wedi cael eu cyflwyno ers hynny. Rhoddodd Deddf Cymru 2014 a 2017 bwerau trethu i Gymru sydd wedi arwain at greu'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a datganoli treth incwm yn rhannol. Ailddechreuodd y sgyrsiau ynglŷn â ‘threth dwristiaeth’ yn 2017 pan wnaed cais cyhoeddus am syniadau ar gyfer trethi newydd i Gymru a gafodd ymateb cadarn. Rhoddwyd ‘treth dwristiaeth’ ar restr fer fel treth i'w chyflwyno o'r rhestr hon o syniadau a luniwyd gan y cyhoedd yng Nghymru ac, yn dilyn hynny, cafwyd trafodaeth yn y Senedd i ystyried y syniad ymhellach.

Mae'r awgrymiadau ar gyfer ‘treth dwristiaeth’ wedi cael eu datblygu'n gynigion a gyflwynir yn yr ymgynghoriad hwn fel ardoll dewisol i awdurdodau lleol ei godi yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio'r term ‘ardoll ymwelwyr’ am ein bod yn cydnabod y gellir dehongli'r term ‘twristiaeth’ mewn ffordd gul i olygu pobl ar wyliau, ond mae ‘ymwelwyr’ yn derm ehangach. Mae hyn er mwyn cydnabod bod amrywiaeth eang o resymau dros ymweld ag ardal leol heblaw at ddibenion ‘gwyliau’ ac, felly, caiff y posibilrwydd o godi ardoll ar gyfer yr ymweliadau ehangach hyn eu ystyried yn yr ymgynghoriad hwn. Mae'r gwaith o gyflwyno ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol yn seiliedig ar ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu (Rhaglen lywodraethu: diweddariad) yn dilyn ffurfio Llywodraeth newydd Cymru yn 2021. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i Gytundeb Cydweithio er mwyn cyflwyno ymrwymiadau polisi wedi'u diffinio sy'n cyd-fynd â'u buddiannau cyffredin (Y Cytundeb Cydweithio). Mae'r gwaith hwn ar yr ardoll ymwelwyr wedi mynd rhagddo drwy'r Cytundeb Cydweithio.

Rydym yn cydnabod y bydd y manteision a'r costau sy'n gysylltiedig â derbyn ymwelwyr yn amrywio ledled Cymru. Bydd llawer iawn o ymwelwyr yn ymweld â rhai rhannau o Gymru ar adegau prysur (h.y. yn ystod yr haf) sy'n peri straen i wasanaethau a seilwaith lleol. Yr ardaloedd hynny a fyddai'n cael y budd mwyaf o ardoll. Felly, byddai'r ardoll hwn yn ddewisol ei natur, gan alluogi'r 22 o brif awdurdodau (cynghorau sir a bwrdeistref sirol) yng Nghymru i arfer eu barn eu hunain ynghylch ei gyflwyno ai peidio. Ein nod yw rhoi'r awdurdod i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau yn unol ag anghenion eu cymunedau. Mae hyn yn cyd-fynd â dull polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi lleol.

Strategaeth a chyd-destun twristiaeth

Fel yr amlinellwyd yn ‘Croeso i Gymru: blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020–2025’ (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025), mae ein strategaeth twristiaeth yn canolbwyntio ar dwf cynaliadwy'r diwydiant. Rhaid i adnoddau gael eu rheoli er budd pawb a'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae amrywiaeth o gyrchfannau ymwelwyr o'r radd flaenaf yn defnyddio ardoll ymwelwyr, gan alluogi cyrchfannau i fuddsoddi mwy o arian yn y seilwaith a'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n cefnogi ymwelwyr. Byddai cyflwyno ardoll ymwelwyr i Gymru yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol yng Nghymru gefnogi a gwella ein cyrchfannau ymwelwyr o'r radd flaenaf ein hunain drwy gyllid a buddsoddiad ychwanegol. Byddai hyn yn helpu i hybu cynaliadwyedd parhaus cyrchfannau ymwelwyr ledled Cymru.

Dull trethu Llywodraeth Cymru

Mae'r gwaith o ddatblygu polisi ar gyfer ardoll ymwelwyr yn cyd-fynd â'n ffordd o weithredu mewn perthynas â threthi lleol a threthi datganoledig yng Nghymru (Y diweddariad ar y fframwaith polisi trethi). Mae cydweithio a chynnwys pobl wrth wraidd ein dull o ddatblygu polisi trethi. Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth cyn yr ymgynghoriad hwn er mwyn helpu i lywio ein ffordd o feddwl a datblygu'r cynnig ar gyfer ardoll ymwelwyr. Rydym wedi cael sgyrsiau strwythuredig ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys:

  • Cyfarfod â'r pedwar Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol a sefydlwyd gan Croeso Cymru ac sy'n cynnwys partneriaid a busnesau lleol o bob rhanbarth
  • Trafodaeth yn Fforwm yr Economi Ymwelwyr gyda busnesau a sefydliadau sy'n eu cynrychioli, dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Economi
  • Cyfarfod ag amrywiaeth o ddarparwyr llety ymwelwyr o bob cwr o Gymru
  • Cyfarfod â sefydliadau cynrychiadol
  • Trafod cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr gyda sefydliadau'r trydydd sector
  • Gweithdai rheolaidd gyda swyddogion awdurdodau lleol

Mae rhestr lawn o'r gweithgarwch ymgysylltu ar gael drwy'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn. Ni ddylid ystyried bod cyfarfod â swyddogion neu Weinidogion yn arwydd o gefnogaeth i'r ardoll gan y blaid honno. Dylid nodi y cafodd amrywiaeth eang o safbwyntiau eu mynegi ar y syniad o ardoll mewn egwyddor a chaiff y safbwyntiau hyn eu hystyried yn fanylach drwy'r ymgynghoriad hwn a'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol.

Mae ein dull trethu yn ceisio cydbwyso angen uniongyrchol ag ystyriaethau tymor hwy er mwyn osgoi unrhyw niwed i'n heconomi, ein cymdeithas, ein cymunedau a'r byd naturiol yn y dyfodol. Mae ardoll ymwelwyr yn seiliedig ar egwyddor tegwch, er mwyn i'n hymwelwyr wneud cyfraniad bach a chymesur drwy dreth er mwyn helpu i dalu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'u hymweliad.  Hefyd, mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o'n dull trethu, a byddai ardoll ymwelwyr yn helpu i godi refeniw ychwanegol i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Canran fach o gyfanswm gwariant ymwelwyr fyddai'r ardoll, a byddai'n rhoi ffrwd refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol allu buddsoddi'n lleol.

Treth leol a fyddai'n cael ei chodi o fewn ardal awdurdod lleol fyddai'r ardoll, a byddai'n ariannu gwariant awdurdodau lleol. Rydym yn cynnig y byddai awdurdodau lleol yn gallu dewis p'un a fyddant yn cyflwyno'r ardoll ai peidio, yn unol ag anghenion eu cymunedau.

Nodau ac amcanion ardoll ymwelwyr

Mae ardoll ymwelwyr yn cael ei ddylunio gyda'r nodau canlynol:

  • Sicrhau y bydd costau ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol sydd o fudd i ymwelwyr yn cael eu rhannu'n fwy cyfartal rhwng poblogaethau trigolion ac ymwelwyr
  • Galluogi awdurdodau lleol i gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi'n ôl mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n gallu cefnogi twristiaeth.
  • Helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025)

Mae cysylltiad rhwng cyflawni'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ‘gyflwyno deddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth’ a'n huchelgeisiau ehangach a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu  i wneud y canlynol (Rhaglen lywodraethu: diweddariad):

  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu
  • Datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol pellach i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.
  • Cryfhau ymreolaeth ac effeithiolrwydd llywodraeth leol i sicrhau ei bod yn llwyddo'n well i ddarparu gwasanaethau.

Rydym yn bwriadu dylunio ardoll ymwelwyr gyda'r nodau a'r amcanion ehangach hyn mewn cof.

Dibenion yr ymgynghoriad hwn

Er ein bod wedi nodi yn yr ymgynghoriad hwn (lle y bo'n berthnasol) i ba gyfeiriad yr hoffem fynd â’r polisi, caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu darllen a'u hystyried yn llawn cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud ynghylch dyluniad yr ardoll, gan gynnwys yr ardaloedd hynny lle rydym wedi nodi opsiwn a ffefrir.

Nodyn ar derminoleg

Ardoll – Caiff y termau ‘ardoll’ a ‘treth’ eu defnyddio'n gyfnewidiol drwy'r ddogfen hon. Rydym yn cynnig cyflwyno treth leol newydd y cyfeiriwn ati fel ‘ardoll ymwelwyr’. Diffiniad Geiriadur Caergrawnt o'r term Saesneg ‘levy’ yw:

‘an amount of money, such as a tax, that you have to pay to a government or organization:’

(Levy | ystyr yng Ngeiriadur Saesneg Caergrawnt)

Diffiniadau

Drwy'r ddogfen hon, cyfeiriwn at grwpiau neu eiriau amrywiol y gall y sawl sy'n darllen eu dehongli'n wahanol. Mae'r diffiniadau o'r geiriau hyn wedi'u gosod yng nghyd-destun y ddogfen ymgynghori hon a'r ardoll ymwelwyr arfaethedig. Dylid eu dehongli yn y modd hwn. At ddibenion eglurder, rydym wedi nodi rhai diffiniadau allweddol a ddefnyddir yn y ddogfen hon:

Ardoll Ymwelwyr

Treth leol ddewisol arfaethedig i'w codi ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr.

Awdurdodau Lleol

Y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru (cynghorau sir a bwrdeistref sirol – a elwir hefyd yn ‘brif gynghorau’).

Awdurdod Treth

Y corff cyhoeddus sy'n casglu ac yn gweinyddu'r ardoll ymwelwyr.

Cap

Nifer y nosweithiau a drefnir lle na chaiff yr ardoll ei godi mwyach ar unrhyw nosweithiau dilynol a drefnir.

Cydnabyddiaeth

Unrhyw fath o werth a roddir, y deellir yn gyffredinol ei fod yn golygu ‘arian/arian parod’.

Cymesur

Tâl sy'n gysylltiedig o ran gwerth â chost gwasanaeth neu nwydd.

Darparwr llety ymwelwyr

Unigolyn neu fusnes sy'n gosod llety ymwelwyr yn fasnachol i ymwelwyr am gydnabyddiaeth.

Datblygu Cynaliadwy

Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu, a hynny'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd â'r nod o gyflawni'r nodau llesiant (Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol: yr hanfodion).

Elastigedd Pris y Galw

Mae elastigedd pris y galw yn mesur ymateb y galw am nwydd neu wasanaeth pan fydd ei bris yn newid.

Llety ymwelwyr

Ystafell, grŵp o ystafelloedd neu adeilad, llain o dir ar gyfer lleoli llety dros dro (carafán, cartref modur, pabell neu adeiledd dros dro arall), neu gwch preswyl (cwch cul), lle y gallai rhywun aros dros dro, nad yw'n gyfeiriad parhaol iddo, ac a osodir i ymwelwyr yn fasnachol.

Twristiaeth Gynaliadwy

Twristiaeth sy'n ystyried ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y presennol a'r dyfodol yn llawn, gan fynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau sy'n derbyn ymwelwyr.

Ymwelydd

Unigolyn y mae ei ymweliad yn un byrhoedlog ac sy'n aros dros dro mewn llety ymwelwyr. Yn y cyd-destun hwn, ystyr ymwelydd yw unrhyw un sy'n aros mewn llety ymwelwyr, ni waeth ble mae'n aros nac o ble y daeth.

Yn fasnachol

Yn cael ei hysbysebu a'i ddarparu yn gyfnewid am gydnabyddiaeth fel rhan o fusnes llety ymwelwyr.

Egwyddorion treth craidd

Gan mai ardoll newydd yw hwn, bydd angen i'r cynnig hwn fod yn gyson ag egwyddorion treth craidd Llywodraeth Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru bum egwyddor treth graidd sy'n sicrhau bod polisi trethi yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni mewn ffordd gyson a strategol yng Nghymru. Mae'r broses barhaus o asesu a chymhwyso'r egwyddorion hyn yn sicrhau bod polisïau trethi yn gyson ag amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Mae angen i'n trethi weithredu mewn ffordd gyson a chydlynol hefyd fel rhan o system trethi a budd-daliadau ehangach y DU. Drwy gysoni ein dull o ymdrin â threthi â'r egwyddorion craidd hyn, dylem fod mewn sefyllfa well i fynd i'r afael ag anghenion ehangach dinasyddion a busnesau Cymru.

Dylai trethi yng Nghymru:

  • Godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl.
  • Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
  • Cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl.
  • Cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Mae ein hegwyddorion treth yn adlewyrchu gwerthoedd ac amcanion Llywodraeth Cymru. Maent yn darparu llwyfan y gallwn ei ddefnyddio, wrth feddwl am syniadau a llunio polisïau, i gynnwys ystyriaethau o ran cynaliadwyedd; a phwysigrwydd sicrhau bod trethi Cymru yn parhau i fod yn gymesur ac yn flaengynyddol. Felly, ynghyd â'n dull o ymdrin â threthi, mae ein hegwyddorion treth yn cynnig cyfres glir o feini prawf ar gyfer asesu cyfraniad polisi trethi a'n system drethu ehangach at greu Cymru werdd, deg a chynhwysol.

Y camau nesaf

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y gwaith datblygu polisi yn parhau, yn seiliedig ar yr ymatebion a gafwyd.  Byddai'r broses ofalus o ddatblygu unrhyw gynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr a'u rhoi ar waith yn cymryd sawl blwyddyn. Caiff y camau nesaf eu cyhoeddi ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu hystyried yn llawn.

Fformat yr ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried y dewisiadau allweddol sy'n gysylltiedig â dylunio pwerau ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol yng Nghymru a'u rhoi ar waith. Rhoddir cyd-destun cyn pob cwestiwn er mwyn galluogi'r ymatebydd i roi ymateb ar sail gwybodaeth. Mae'r holl gwestiynau wedi'u rhestru gyda'i gilydd yn Atodiad A. Rhoddir gwybodaeth ychwanegol drwy'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol sydd wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn. Defnyddir troednodiadau i nodi cyfeiriadau lle bo angen ac mae rhestr lawn o'r ffynonellau i'w gweld tua diwedd y ddogfen hon yn Atodiad B.

Y man cychwyn ar gyfer unrhyw dreth yw penderfynu beth sy'n cael ei drethu ac at ba ddiben, a chwmpas y dreth (cwestiynau 1 a 2). Wedyn, bydd angen ystyried y fframwaith a'r rheolau y byddai'r dreth yn gweithredu ynddynt (cwestiynau 3-8). Yn dilyn hynny, byddwn yn ystyried cwmpas y dreth ymhellach, a'r amgylchiadau lle y dylai esemptiadau fod yn gymwys (cwestiynau 9-14). Rydym yn cydnabod bod gan drefniadau trwyddedu statudol ran i'w chwarae hefyd, a chaiff cysylltiadau rhyngddynt a'r cynnig ar gyfer ardoll ymwelwyr eu hystyried yn yr ymgynghoriad (cwestiynau 15 ac 16).

Wedyn, bydd yr ymgynghoriad yn symud ymlaen i drafodaeth am y cyfraddau y gellid eu codi, effeithiau posibl gwahanol gyfraddau a sut y dylai'r cyfraddau gael eu pennu (cwestiynau 17-26).

Ar ôl hynny, byddwn yn ystyried gofynion cadw cofnodion, effaith bosibl gwahanol gyfraddau ar ofynion cadw cofnodion a pha mor aml y dylai darparwyr llety ymwelwyr gyflwyno ffurflenni (cwestiynau 27-29). Bydd yr adran ddilynol yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â gorfodi a chydymffurfio ac yn bwrw golwg dros y pwerau y gall fod eu hangen ar yr awdurdod treth (cwestiwn 30).

Bydd yr adrannau tuag at ddiwedd yr ymgynghoriad yn ystyried sut y gellid defnyddio refeniw (cwestiynau 31 a 32), tryloywder ac ymgysylltu ar gyfer gwneud penderfyniadau yn lleol ynghylch defnyddio refeniw (cwestiynau 33-36) ac, yn olaf, bydd trafodaeth ar brosesau gwneud penderfyniadau a threfniadau pontio awdurdodau lleol (cwestiynau 37 a 38). Ar ôl hynny, caiff y modelau gweithredu posibl ar gyfer casglu ardoll eu hystyried (cwestiynau 39 a 40). Caiff yr effeithiau ar y Gymraeg eu hystyried ar ddiwedd y ddogfen (cwestiynau 41 a 42). Mae cwestiwn 43 yn rhoi cyfle i'r ymatebwyr roi unrhyw wybodaeth ychwanegol nad ymdriniwyd â hi gan y cwestiynau a ofynnwyd.

Diben a chwmpas y dreth

Caiff ardollau ymwelwyr eu defnyddio fel mater o drefn mewn cyrchfannau ymwelwyr ledled Ewrop ac mewn cyrchfannau rhyngwladol eraill. Ar y cyfan, cânt eu codi ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn ardal leol benodol a weinyddir gan awdurdodau lleol sydd wedi cael pwerau i roi'r ardoll ar waith. Fodd bynnag, bydd y ffordd y cânt eu rhoi ar waith yn amrywio o un cyrchfan i'r llall gan fod y mathau hyn o ardollau'n cael eu defnyddio ar lefelau daearyddol amrywiol (tref, dinas, rhanbarth, gwlad). Er enghraifft, gall awdurdodau lleol yn Ffrainc a'r Almaen ddewis cael ardoll ymwelwyr neu beidio (a elwir yn taxe de séjour neu dreth dwristiaeth yn Ffrainc a Kulturförderabgabe neu dreth ddiwylliant yn yr Almaen). Diben codi tâl yn uniongyrchol ar ymwelwyr yw helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r gwasanaethau a'r seilwaith lleol a ddefnyddir gan ymwelwyr a buddsoddi ynddynt. Mae cost gyhoeddus yn gysylltiedig â derbyn ymwelwyr yn ein cymunedau. Mae ardoll ymwelwyr yn cynnig sylfaen ar gyfer system decach lle mae ymwelwyr yn cyfrannu at dalu costau gwasanaethau a seilwaith lleol.

Lle y caiff y math hwn o dreth ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, gall y refeniw fod o fudd i amrywiaeth o fentrau, gwasanaethau a phrosiectau seilwaith lleol (caiff hyn ei drafod ymhellach yn yr ymgynghoriad). Mae rhai cyrchfannau'n defnyddio ardollau ymwelwyr fel ffordd o gyfyngu neu leihau niferoedd ymwelwyr. Lle y caiff ei defnyddio yn y modd hwn, bwriedir i'r dreth ddylanwadu ar ymddygiad, a chaiff ei dylunio yn unol â hynny. Rydym yn cynnig mai diben yr ardoll ymwelwyr a gyflwynir yn yr ymgynghoriad hwn yw darparu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol a system drethu decach. Ni fwriedir i'r ardoll gael ei ddefnyddio i gymell pobl i beidio ag ymweld â rhannau o Gymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod heriau lleol yn wynebu rhai ardaloedd o ran rheoli niferoedd mawr o ymwelwyr undydd â safleoedd neu atyniadau penodol yn yr ardal. Mewn trafodaethau â pharciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol, pwysleisiwyd rhai o'r heriau hyn y cyfeirir atynt yn aml fel ‘anghydbwysedd twristiaeth’.

Mae anghydbwysedd twristiaeth yn arwain at grynodiad uchel o ymwelwyr mewn ardaloedd daearyddol llai wrth iddynt ddewis ymweld ag un cyrchfan neu atyniad yn hytrach na rhai eraill. Gall rhannau o'r wlad brofi anghydbwysedd twristiaeth i wahanol raddau, a gall hyn fod yn hynod amrywiol yn dibynnu ar y tymhorau a'r tywydd. Yn aml, caiff ardollau a thaliadau sy'n targedu ymwelwyr undydd yn benodol eu defnyddio i reoli niferoedd ymwelwyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y byddai codi ardoll am weithgaredd penodol (aros dros nos) yn golygu na fyddai'n rhaid i bob ymwelydd dalu.

Er mwyn i ardoll dargedu ymwelwyr yn effeithiol, rhaid pennu gweithgaredd sydd â chysylltiad cryf ag ymweliadau. Mae'n bosibl y bydd ymwelydd ag ardal yn defnyddio amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau lleol, ond caiff y rhain eu defnyddio gan boblogaethau trigolion lleol hefyd. Mae'n debygol y bydd gan rai gweithgareddau gysylltiad cryfach ag ymwelwyr o gymharu â gweithgareddau eraill. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod cysylltiad cryf rhwng llety ymwelwyr a'r sylfaen drethu fwriadedig (ymwelwyr). Dyma pam y bydd ardollau ymwelwyr fel arfer yn targedu'r rhai sy'n aros dros nos mewn ardal. Yn ein trafodaethau cyn yr ymgynghoriad, mynegwyd diddordeb mewn codi ardoll ar weithgareddau eraill sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr hefyd.

Mae'r syniad o godi ardoll ar ‘ymwelwyr undydd’ wedi cael ei ystyried yn fanwl. Drwy ein gwaith ymchwil a'n gweithgarwch ymgysylltu â gwledydd eraill, gwelsom fod ardollau ar ‘ymwelwyr undydd’ yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd â ffiniau daearyddol caled a phwyntiau mynediad. Ardoll ‘ymwelwyr undydd’ a godir ar deithwyr llongau mordeithio neu fferïau fel arfer, am fod modd cysylltu teithwyr llongau mordeithio neu fferïau ag ‘ymweliad undydd’ yn effeithiol. Mae ardaloedd fel Amsterdam, Rotterdam a Catalonia yn codi ardoll ‘ymwelwyr undydd’ ar deithwyr llongau mordeithio a fferïau am fod llawer o ymwelwyr yn defnyddio'r dulliau teithio hyn i wneud eu hymweliad. Ledled y DU, mae gennym ryddid i symud ac mae gan Gymru ffin feddal â Lloegr ac, felly, heb bwyntiau mynediad penodol, byddai'n anodd iawn codi ardoll ymwelwyr ar ‘ymwelwyr undydd’.

Ymhlith y mathau eraill o drethi yn y maes hwn mae ‘trethi adloniant’. Mae ‘treth adloniant’ yn targedu ymwelwyr ag atyniadau a digwyddiadau mewn ardal leol. Ni welwyd llawer o enghreifftiau o'r math hwn o dreth yn rhyngwladol, ond mae Amsterdam yn enghraifft amlwg. Caiff y ‘dreth adloniant’ yn Amsterdam ei chodi ar weithredwyr teithiau cychod, rhentwyr canŵod a chychod pedal, trefnwyr teithiau a theithiau dinas (Treth adloniant ar gyfer cychod, ceir teithio a theithiau tywys - Dinas Amsterdam). O fis Ionawr 2023 ymlaen, bydd Amsterdam hefyd yn codi ‘treth adloniant’ ar gyfer digwyddiadau a gwyliau ochr yn ochr â'r ‘dreth dwristiaeth’ sydd eisoes yn cael ei chodi yno am aros dros nos. Yn gyffredinol, ystyrir bod y math hwn o dreth yn dreth ar wahân i ‘ardoll ymwelwyr’ a godir am aros dros nos. Lle y caiff trethi adloniant eu defnyddio, cânt eu codi ar bawb fel arfer. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn amhosibl codi treth ar ymwelwyr mewn modd detholus heb ddull o gadarnhau prif breswylfa unigolyn. Mae'n debygol na fyddai system o'r fath yn ddichonadwy oherwydd byddai'n golygu bod angen i unigolion fynd â phrawf adnabod gyda nhw ac y byddai'r busnesau wedyn yn gwirio'r wybodaeth hon.

Yn absenoldeb dulliau gwirio effeithiol, gall trethi adloniant effeithio ar drigolion, gan fynd yn groes i nodau ein polisi ar gyfer ardoll ymwelwyr. Y rheswm dros hyn yw bod cysylltiad gwannach â'r sylfaen drethu arfaethedig. Yn 2018, roedd bron hanner yr ymwelwyr ag atyniadau yng Nghymru yn ymwelwyr lleol (Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth: 2018 ar LLYW.CYMRU). Ceir llawer iawn o atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnwys gweithgareddau a digwyddiadau am ddim a rhai y codir tâl amdanynt. Mae'r effaith ar drigolion yn llai o broblem yn achos ardoll ar lety ymwelwyr oherwydd, er y bydd trigolion hefyd yn defnyddio llety ymwelwyr yn lleol, cyfran fach o gyfanswm y bobl sy'n aros dros nos fyddai'r rhain. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gynnig ar gyfer pwerau disgresiynol i awdurdodau lleol godi ardoll ar aros dros nos. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i glywed a yw'r ymatebwyr yn credu y dylai gweithgareddau eraill fod yn drethadwy a sut y gallai hyn weithio'n ymarferol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y mater hwn.

Ein dull o weithredu

Fel yr amlinellwyd, diben yr ardoll ymwelwyr yw galluogi trefniant tecach rhwng ymwelwyr a thrigolion. Byddai'r ardoll yn ffynhonnell refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer ailfuddsoddi'n lleol yn y gwasanaethau a'r nwyddau sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr.

Rydym yn cynnig y byddai ardoll dewisol ar ymwelwyr dros nos yn ffordd o gynhyrchu refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr. Byddai hyn yn cydnabod effaith ymwelwyr mewn rhai rhannau o Gymru ac yn cynnig sylfaen decach ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol rhwng trigolion ac ymwelwyr.

Gwyddom fod rhai rhanddeiliaid yn pryderu am effaith ymwelwyr undydd mewn rhai rhannu o Gymru. Byddai'r math o ardoll a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn cael ei godi ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i glywed eich barn ar godi ardoll ar ymwelwyr undydd a/neu weithgareddau eraill a sut y gallai hyn weithio'n ymarferol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y mater hwn.

Cwestiynau

  1. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai awdurdodau lleol gael pwerau disgresiynol i godi ardoll ymwelwyr er mwyn cynnig sylfaen decach ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol rhwng trigolion ac ymwelwyr?
  2. Oes gennych chi farn ynghylch a ddylid codi ardoll ar unrhyw fath arall o weithgaredd yn ogystal ag ymwelwyr dros nos (e.e. ymwelwyr undydd) a, os felly, pe weithgaredd rydych chi'n credu y dylid codi ardoll arno a sut rydych chi'n credu y byddai hyn yn gweithio yng nghyd-destun Cymru?

Fframwaith treth (deddfwriaeth)

Mae maint yr economi ymwelwyr yn amrywio o un ardal awdurdod lleol i'r llall yng Nghymru, gan fod mwy o ymwelwyr yn ymweld â rhai ardaloedd nag eraill. Felly, mae faint o fudd y gallai ardaloedd lleol ei gael o ardoll ymwelwyr yn cyfateb i nifer yr ymwelwyr â'r ardaloedd hynny. Fodd bynnag, mae mwy o ymwelwyr yn golygu bod y costau sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau a'r seilwaith i dderbyn yr ymwelwyr hyn yn uwch. Yn amlwg, mae'r amgylchiadau economaidd lleol yn amrywio o un ardal i'r llall. Gan gydnabod y gwahaniaethau rhwng ein cymunedau yng Nghymru, byddai awdurdodau lleol, fel y cyrff priodol sy'n atebol i'w poblogaethau lleol, yn gallu dewis arfer y pwerau ‘ardoll ymwelwyr’ arfaethedig a gaiff eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn. Byddai hyn yn rhoi'r awdurdod i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau yn unol ag anghenion eu cymunedau. Er mwyn i ardoll weithio, mae angen fframwaith sy'n pennu'r pwerau a'r cyfrifoldebau a roddir i awdurdodau lleol mewn perthynas â gweithredu'r ardoll. Y fframwaith hwn fydd yn rhoi'r ‘rheolau a rheoliadau’ y byddai ardoll yn gweithredu yn unol â nhw.

Gallai'r fframwaith y mae trethi lleol yn gweithredu ynddo roi mwy o annibyniaeth leol i allu gwneud mwy o benderfyniadau ar lefel awdurdod lleol. Fel arall, gallai fod llai o annibyniaeth leol, a allai sicrhau mwy o gysondeb yn y ffordd y bydd awdurdodau lleol yn rhoi'r ardoll ar waith. Mae fframweithiau ar gyfer trethi lleol eraill yn rhoi graddfeydd amrywiol o annibyniaeth leol. Er enghraifft, bydd cynghorau'n pennu'r tâl ar gyfer band D y dreth gyngor yn lleol, ond fframwaith cenedlaethol sy'n pennu'r cyfraddau cymharol ar gyfer bandiau eraill. Mae'r fframwaith treth yn cynnwys dewisiadau a all olygu bod modd gwneud mwy o benderfyniadau'n lleol, neu a all arwain at fwy o gysondeb yn genedlaethol. Er enghraifft, byddai'n rhaid i'r fframwaith treth ar gyfer ardoll ymwelwyr bennu'r canlynol:

  • Y broses o gyflwyno ardoll
  • Beth sy'n drethadwy
  • Pwy sy'n atebol i dalu
  • Esemptiadau neu ryddhadau 
  • Y math o gyfradd
  • Lefel(au) y gyfradd
  • Gofynion adrodd
  • Camau cydymffurfio neu orfodi a all wynebu trethdalwyr, gan gynnwys cosbau ariannol

Gallai'r ddeddfwriaeth arfaethedig naill ai bennu pob un o'r elfennau o fewn y fframwaith neu ganiatáu i bob awdurdod lleol bennu elfennau'r fframwaith. Gellid rhoi mwy o annibyniaeth i awdurdodau lleol drwy'r fframwaith, er enghraifft drwy alluogi awdurdodau lleol i benderfynu pa gyfradd i'w phennu a pha fath o gyfradd i'w defnyddio.

Yn y trafodaethau cychwynnol â rhanddeiliaid, tynnwyd sylw at y ffaith bod cysondeb o ran y ffordd y caiff ardoll newydd ei roi ar waith yn arbennig o bwysig. Mynegwyd y farn hon yn gryf gan fusnesau ledled Cymru. Byddai rhoi'r ardoll ar waith yn gyson yn golygu y byddai llai o annibyniaeth ar lefel awdurdod lleol. Er enghraifft, byddai'r un math o gyfradd yn cael ei chodi, byddai'r gofynion adrodd yr un fath i bob awdurdod lleol, a byddai lefel neu ystod y cyfraddau yr un fath i bob awdurdod lleol. Byddai dull cyson o roi'r ardoll ar waith yn lleihau'r cymhlethdod gweinyddol i fusnesau a'r rhai sy'n casglu ac yn gweinyddu'r ardoll. Byddai hyn hefyd yn lleihau unrhyw wallau posibl wrth roi'r ardoll ar waith. Hefyd, byddai'n lleihau cymhlethdod i lwyfannau trefnu ac asiantiaid ariannol. Felly, cynigir y bydd pobl sy'n ymweld ag ardaloedd lle y codir ardoll ymwelwyr yn ddarostyngedig i ddull gweithredu tebyg ac yn cael eu trin mewn ffordd debyg mewn perthynas â'r ardoll. Felly, y sefyllfa a ffefrir gennym yw bod mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud yn ganolog a bod yr ardoll yn cael ei roi ar waith yn fwy cyson drwy'r fframwaith.

Yn ystod y trafodaethau hyn, nid oeddem yn gweld sail resymegol dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol o fewn y fframwaith ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau ar yr ardoll. Fodd bynnag, gall fod teilyngdod i wneud mwy o benderfyniadau'n lleol mewn rhai meysydd, er enghraifft mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ddeall pa gyfradd fyddai'n briodol i'w hardaloedd a beth yw eu blaenoriaethau gwariant lleol. Felly, ceir sail resymegol dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol ynghylch pennu cyfraddau a phenderfynu sut y caiff refeniw ei ddefnyddio. Fodd bynnag, fel egwyddor sylfaenol, rydym yn anelu at gysondeb yn y ffordd y caiff yr ardoll ei roi ar waith yn y lle cyntaf. O ystyried mai ardoll lleol cwbl newydd fyddai hwn, credwn y byddai dull cyson o'i roi ar waith yn lleihau unrhyw faich gweinyddol. Byddai hyn hefyd yn golygu bod modd rhannu negeseuon ag ymwelwyr yn fwy effeithiol, gan leihau'r posibilrwydd o ddryswch a gwneud yr ardoll yn fwy effeithlon i'w weithredu. Ein barn ni yw y dylai'r ardoll gael ei godi ar yr un gweithgaredd, yn yr un ffordd ym mhob awdurdod lleol. Felly, yr un math o ardoll fyddai'n cael ei roi ar waith, ni waeth ym mha awdurdod lleol y byddai hynny. Fodd bynnag, gan mai pŵer disgresiynol yw hwn, yr awdurdod lleol fyddai'n penderfynu a yw am ei roi ar waith ai peidio.

Ein dull o weithredu

Rydym yn cydnabod bod angen dull cyson o roi unrhyw ardoll ymwelwyr dewisol a gyflwynir yng Nghymru. Fodd bynnag, nodwn y gall fod sail resymegol gliriach dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol mewn perthynas â rhai agweddau ar y fframwaith treth.

Rydym wedi amlinellu'r agweddau allweddol ar y fframwaith treth yn yr adran hon o'r ymgynghoriad, a chaiff y rhain eu trafod yn fanylach drwy'r ddogfen hon. Yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu hyd yma, nid ydym wedi gweld sail resymegol dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol, ar wahân i benderfyniadau ynglŷn ag amrywio lefel y gyfradd a godir. Rydym yn awyddus i glywed eich barn ynghylch a ddylid gwneud mwy o benderfyniadau'n lleol ar unrhyw agwedd arall ar yr ardoll.

Cwestiynau

  1. Ein barn ni yw y byddai'r fframwaith treth (deddfwriaeth) sy'n nodi sut y byddai'r ardoll yn cael ei roi ar waith a'i weithredu yn sicrhau y caiff yr ardoll ei roi ar waith yn gyson ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, ceir rhai agweddau, megis pennu cyfraddau ac esemptiadau a phenderfynu sut y caiff refeniw ei ddefnyddio, lle y gall annibyniaeth leol fod yn fuddiol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r safbwynt hwn?
  2. A oes unrhyw agweddau eraill ar y fframwaith treth lle y byddai'n fuddiol cael mwy o annibyniaeth leol? Er enghraifft:

    • Esemptiadau neu ryddhadau
    • Y math o gyfradd
    • Lefel(au) y gyfradd
    • Defnyddio refeniw
    • Gofynion adrodd

Dyluniad y dreth ac atebolrwydd i'w thalu

Trethi a hunanasesir

Gall treth weithredu yn seiliedig ar gael ei hasesu gan awdurdod treth neu ei hunanasesu gan unigolyn neu fusnes (a'i chadarnhau/gwirio gan yr awdurdod treth). Yn ymarferol, mae'r gofynion ar gyfer y ddau fath hyn o drethi yn wahanol. Mae trethi a gaiff eu hasesu gan awdurdod yn fwy addas ar gyfer gwerthoedd unffurf neu ardrethol. Mae treth a hunanasesir yn seiliedig ar wybodaeth sy'n annhebygol o fod gan yr awdurdodau. Er enghraifft, rhaid i fusnesau sy'n cyrraedd y trothwy TAW gyflwyno ffurflenni TAW i CThEM. Mae hyn yn seiliedig ar gofnodion a gwybodaeth sydd ganddynt yn unig, er mwyn helpu i benderfynu faint o TAW sy'n ddyledus a faint o TAW y gellir ei hadhawlio. Fodd bynnag, mae gan yr awdurdod treth rôl allweddol i sicrhau dilysrwydd a chywirdeb trethi a hunanasesir er mwyn sicrhau y caiff uniondeb y system ei gynnal drwy leihau'r posibilrwydd o wallau ac atal pobl rhag osgoi a/neu efadu trethi.

Byddai'r math o fodel treth rydym yn ei gynnig yn seiliedig ar y nifer gwirioneddol o ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety.  Fel y nodwyd uchod, y darparwr llety ymwelwyr fyddai yn y sefyllfa orau i roi'r wybodaeth hon ac, felly, mae'n ymddangos y byddai treth a hunanasesir sy'n seiliedig ar yr wybodaeth honno yn fodel dichonadwy. Byddai'r ymwelwyr eu hunain hefyd yn gwybod y wybodaeth hon, ond mae'n annhebygol y byddai codi tâl yn uniongyrchol ar ymwelwyr yn gynnig dichonadwy. Y rheswm dros hyn yw na fyddai modd i'r awdurdod treth gadarnhau'r wybodaeth yn absenoldeb ffin sefydlog neu ddull arall o wirio gwybodaeth a roddir gan ymwelydd (er enghraifft hyd a lleoliad yr arhosiad). Pe bai tâl yn cael ei godi'n uniongyrchol ar ymwelwyr am aros dros nos, byddai angen dilysu'r wybodaeth o hyd, a'r ffordd fwyaf resymegol o wneud hyn fyddai drwy'r darparwyr llety ymwelwyr. Felly, ni fyddai'n ddichonadwy gorfodi trefniant lle y byddai'r awdurdod treth yn codi tâl yn uniongyrchol ar ymwelwyr heb y dulliau priodol o gadarnhau'r wybodaeth a roddir.

Un opsiwn arall fyddai ardoll a hunanasesir a gaiff ei godi ar elw neu drosiant busnes (megis treth gorfforaeth). Fodd bynnag, nid yw ardoll a hunanasesir sy'n seiliedig ar elw neu drosiant yn cael ei gynnig gan mai'r sail resymegol yw mai'r ymwelwyr fydd yn talu'r ardoll. Bydd hyn er mwyn helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r seilwaith a'r gwasanaethau sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr ac y bydd ymwelwyr yn eu defnyddio, a buddsoddi ynddynt.

Y dewis arall yn hytrach na threth a hunanasesir yw ardoll a gaiff ei gyfrifo a'i asesu gan yr awdurdod treth. Ar gyfer treth a asesir gan y wladwriaeth, ni allai'r gweithgaredd trethadwy fod yn arhosiad dros nos am na all yr awdurdod treth gadarnhau pwy a arhosodd dros nos na ble, gan mai dim ond y darparwr llety ymwelwyr fyddai'n gwybod hyn. Fel arfer, bydd trethi a asesir gan awdurdodau treth yn seiliedig ar werthoedd a bandiau unffurf am fod hynny'n golygu nad oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn codi'r dreth. Felly, mae'r dull trethu hwn yn wahanol i'r un a gynigir gennym, sy'n seiliedig ar wybodaeth na fydd neb ond darparwyr llety ymwelwyr yn meddu arni (e.e. pwy sydd wedi talu iddynt am gael aros dros nos, a chyfraddau defnydd llety). Mae'n debygol felly y byddai ardoll ymwelwyr a asesir gan awdurdodau treth yn seiliedig ar werth unffurf a godir ar yr holl fusnesau perthnasol heb gyfeirio'n uniongyrchol at nifer yr arosiadau dros nos y telir amdanynt yn eu llety. Er enghraifft, gallai hyn olygu codi tâl canrannol ychwanegol ar lety ymwelwyr drwy'r cynllun ardrethi busnes. Fodd bynnag, fel y pwysleisir yn yr ymgynghoriad hwn, y bwriad yw codi tâl yn uniongyrchol ar ymwelwyr, ond ardoll uniongyrchol ar fusnesau fyddai ardoll a asesir gan y wladwriaeth.

Rydym yn cydnabod y gall y galw ym maes twristiaeth amrywio o ganlyniad i nifer o wahanol ffactorau, felly bydd treth a hunanasesir sy'n seiliedig ar nifer gwirioneddol yr arosiadau dros nos yn ddull trethu tecach a mwy cywir sy'n adlewyrchu'r galw gwirioneddol a niferoedd yr ymwelwyr (ac felly'r galw ar wasanaethau a seilwaith lleol). Felly, treth a hunanasesir sy'n seiliedig ar nifer yr arosiadau dros nos yw'r sail a ffefrir gennym ar gyfer yr ardoll arfaethedig. Hon fyddai'r dreth leol gyntaf o'r natur hon yng Nghymru.

Atebolrwydd

Fel yn achos unrhyw dreth, mae angen penderfynu pwy fydd yn gyfrifol am asesu'r atebolrwydd a thalu'r arian hwn i'r awdurdod treth. Yn y pen draw, y sawl sy'n atebol fyddai â'r dyletswyddau cyfreithiol i gasglu'r dreth a'i dychwelyd i'r awdurdod treth perthnasol. Mae'r dreth a gynigir gennym yn un y byddai'n rhaid i ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr ei thalu ac y byddai'n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr ei chasglu a'i thalu i'r awdurdod treth (yn debyg i fodel TAW). Rydym yn cydnabod bod darparwyr llety ymwelwyr yn defnyddio amrywiaeth o lwyfannau i hysbysebu eu gwasanaethau a chymryd archebion. Yn ymarferol, byddai modd i drydydd parti gasglu'r dreth ar adeg archebu. Fodd bynnag, dim ond y darparwr llety ymwelwyr fyddai'n gwybod pwy yn union sy'n aros dros nos yn eu safleoedd, yn y bôn. Felly, ein barn ni yw mai'r darparwr llety ymwelwyr fyddai'n gyfrifol yn y pen draw am gasglu'r dreth gan ymwelwyr a'i thalu i'r awdurdod treth. Rhoi'r atebolrwydd i'r darparwr llety ymwelwyr yw'r dull arferol a ddefnyddir mewn modelau rhyngwladol. Felly, rydym yn cynnig y dylai'r darparwr llety ymwelwyr barhau i fod yn gyfrifol yn y pen draw, hyd yn oed os bydd asiant archebu trydydd parti yn casglu'r ardoll ar ran y darparwr llety ymwelwyr.

Pwynt treth

Yn unol â'r pwynt hwn, mae angen ystyried y pwynt treth priodol pan ddylid casglu'r ardoll. Mae rhai darparwyr llety ymwelwyr yn cynnal prosesau hunangofnodi i mewn ac felly nid oes ganddynt ddealltwriaeth gystal o union niferoedd yr unigolion sy'n aros yn eu hystafelloedd/llety. Ar y llaw arall, gall fod gan ddarparwyr llety ymwelwyr eraill brosesau cofnodi i mewn mwy ffurfiol lle y gellir casglu gwybodaeth gan unigolion sy'n aros dros nos. O ran talu, defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau archebu, ac mae rhai darparwyr yn cymryd blaendal a/neu daliad llawn cyn arhosiad. Y pwynt treth priodol fyddai pan fydd ymwelydd yn cyrraedd neu'n gadael ac yn cofnodi i mewn i'r llety neu allan ohono, gan mai dyma'r adeg pan fyddai modd cadarnhau manylion a hyd yr arhosiad, ac felly asesu'r atebolrwydd cyffredinol.

Hefyd, adeg cyrraedd y llety yw'r adeg pan gadarnheir mai ymwelydd â'r ardal yw'r unigolyn oherwydd, er enghraifft, gall yr arhosiad gael ei ganslo cyn hyn. Ar adeg gadael y llety, gellir asesu'n gywir sawl noson a dreuliwyd yno ac felly gyfanswm yr atebolrwydd. Fodd bynnag, yn ymarferol, rydym yn cydnabod y caiff ystafelloedd neu lety eu harchebu am gyfnod penodedig ac felly y gellir cyfrifo'r cyfanswm pan fydd yr ymwelydd yn cyrraedd. Felly, dyma'r pwynt treth rhesymegol. Serch hynny, o safbwynt ymarferol, rydym yn cydnabod y gall fod yn well gan rai ymwelwyr dalu ymlaen llaw ac felly dylid bod yn gwbl dryloyw ynglŷn â chyfanswm cost unrhyw ardoll fel rhan o arhosiad.

Pe bai'r ardoll yn cael ei dalu ymlaen llaw, byddai ymwelwyr yn mynd drwy brosesau ad-dalu arferol gan y darparwr llety ymwelwyr pe bai'r arhosiad yn cael ei ganslo. Ni fyddai talu'r ardoll ymlaen llaw fel rhan o archeb yn golygu na fyddai'r ardoll yn cael ei dalu ar unrhyw nosweithiau ychwanegol. Fodd bynnag, yn y pen draw, byddai'n rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr gyfrifo cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy a byddai'n parhau i fod yn atebol ac yn gyfrifol yn y pen draw am gynnal asesiad cywir a sicrhau tâl priodol.

Ein dull o weithredu

Gan y byddai'r ardoll ymwelwyr a gynigir gennym yn daladwy gan ymwelwyr ac yn seiliedig ar aros dros nos (sef y gweithgaredd trethadwy), byddai'n ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr godi a chasglu'r ardoll. Felly, mae'r math hwn o ardoll yn addas ar gyfer model treth a hunanasesir (yn debyg i TAW).

Gan mai'r darparwr llety ymwelwyr yw'r unig un a fyddai'n gwybod yn union pwy sy'n aros yn y llety dros nos ac, yn y model hwn, yn codi ac yn casglu'r ardoll, rydym yn cynnig y bydd yn gyfrifol yn y pen draw (yn atebol) am dalu'r dreth i'r awdurdod treth.

Cwestiynau

  1. Rydym yn cynnig y byddai'r ardoll yn dreth a hunanasesir ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr (yn seiliedig ar nifer yr arosiadau dros nos) ac y byddai'n rhaid iddynt godi'r ardoll ar ymwelwyr am aros dros nos, ei gasglu ganddynt ac yna ei dalu i'r awdurdod treth. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?
  2. Pryd y dylid casglu'r ardoll fel rhan o'r broses archebu?
  3. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno mai'r darparwr llety ymwelwyr a ddylai fod yn gyfrifol yn y pen draw am gasglu'r ardoll a'i dalu i'r awdurdod treth?

Ymwelwyr sydd o fewn y cwmpas

Mae egwyddor tegwch yn bwysig mewn systemau trethu. Credwn y dylai trethi fod yn deg, yn gymesur ac yn flaengynyddol. Gydag egwyddor tegwch yn fan cychwyn, bydd pob ymwelydd sy'n aros dros nos mewn ardal leol yn defnyddio amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau lleol. Felly, dylid ystyried pa ymwelydd sydd o fewn y cwmpas ar gyfer yr ardoll. Gwnaethom gyhoeddi data yn 2018 (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025) sy'n rhannu'r rhesymau dros aros dros nos yng Nghymru i'r categorïau a'r canrannau canlynol:

  • Gwyliau – 64%
  • Ymweld â theulu a ffrindiau – 25%
  • Busnes – 8%
  • Arall – 3%

Bydd y mwyafrif o'r bobl sy'n talu am gael aros dros nos mewn ardal yn gwneud hynny at ddibenion gwyliau. Fodd bynnag, bydd 36% o'r arosiadau’n gysylltiedig â rhesymau eraill. O ystyried mai'r sail resymegol dros yr ardoll y bod costau cyhoeddus yn gysylltiedig â derbyn ymwelwyr, ein barn ni yw y dylid ystyried bod yr holl ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol (ac nad ydynt wedi'u hesemptio) o fewn cwmpas yr ardoll, gan gynnwys y rhai sy'n teithio am resymau heblaw gwyliau. Nid ydym yn cynnig tâl ar bobl sy'n aros gyda theulu a ffrindiau yn eu cartrefi eu hunain. Fodd bynnag, byddai ardoll yn cael ei godi am unrhyw nosweithiau a gynigir am ddim neu am bris gostyngol mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol, fel rhan o arhosiad, lle y rhoddwyd cydnabyddiaeth am gostau llety am unrhyw ran o'r arhosiad.

Y dewis arall fyddai mai dim ond ar bobl sydd ar wyliau y byddai'r ardoll yn cael ei godi, ond ni fyddai gwahaniaeth amlwg o ran yr effaith leol yn dibynnu ar natur yr ymweliad. Byddai ceisio darganfod y rheswm dros ymweliad yn ychwanegu lefel o gymhlethdod at yr ardoll, er enghraifft, penderfynu sut i ddosbarthu ymweliad sy'n wyliau a hefyd at ddibenion busnes. Mae'n bosibl y bydd achos dros esemptio rhai mathau o lety neu ymwelwyr rhag yr ardoll (yn gysylltiedig ag esemptiadau penodol) a chaiff hyn ei ystyried yn yr adran nesaf. Er ein bod wedi nodi ein barn uchod, rydym yn croesawu barn ynghylch a ddylai unrhyw ddosbarthiadau cyffredinol o arosiadau dros nos gael eu heithrio o gwmpas yr ardoll arfaethedig.

Ein dull o weithredu

Mae costau cyhoeddus yn gysylltiedig â derbyn ymwelwyr, beth bynnag fo natur eu hymweliad. Rydym yn cynnig y dylid ystyried bod yr holl ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol (os nad ydynt wedi'u hesemptio) o fewn cwmpas yr ardoll, gan gynnwys y rhai sy'n teithio am resymau heblaw gwyliau.

Cwestiynau

  1. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylid ystyried bod yr holl ymwelwyr sy'n aros mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol o fewn cwmpas yr ardoll (oni bai eu bod wedi'u hesemptio fel arall)?

Esemptiadau

Cyflwyniad

Gall fod amgylchiadau lle y byddai codi ardoll yn anghymesur ac efallai'n wahaniaethol. Drwy ein hadolygiad o ardollau ymwelwyr yn rhyngwladol, gwelwyd tystiolaeth o amrywiaeth o esemptiadau rhag codi tâl ar grwpiau amrywiol. Ymhlith yr enghreifftiau o esemptiadau a welwyd yn rhyngwladol lle y defnyddir ardollau ymwelwyr mae: Pobl ddigartref, unigolion sy'n ffoi rhag trais neu gam-drin domestig, pobl sy'n ymweld er mwyn cael triniaeth feddygol, plant a phobl ifanc, a phobl anabl. Rhoddir rhagor o fanylion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol rhannol sy'n cyd-fynd â'r ymgynghoriad hwn.

Eithriad, yn hytrach na rheol, yw esemptiadau a rhyddhadau rhag unrhyw ardoll fel arfer. Fel arfer, nid yw systemau trethu yn ystyried nodweddion nac amgylchiadau unigolion ac maent yn deg yn yr ystyr bod y dreth yn cael ei chodi ar bawb (ond mewn modd cymesur). Fodd bynnag, cydnabyddir y gall fod rhai amgylchiadau lle y dylem ystyried cyflwyno esemptiad a byddem yn gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth yn hyn o beth.

Ein barn ni yw y bydd pob ymwelydd yn cael effaith ar ardal, ac felly byddai'n well gennym gyflwyno cyn lleied â phosibl o esemptiadau. Fodd bynnag, hoffem ystyried yr achos o blaid unrhyw esemptiadau penodol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Mae'r adran ganlynol yn nodi'r esemptiadau posibl rydym yn eu hystyried ar gyfer ardoll ymwelwyr yng Nghymru, yn ogystal â grwpiau eraill a mathau eraill o arhosiad y gellid eu hystyried ar gyfer esemptiad posibl.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Byddem yn dymuno esemptio prif safleoedd preswylio Sipsiwn, Roma a Theithwyr rhag yr ardoll am fod eu ffordd o fyw, yn ei hanfod, yn grwydrol am resymau diwylliannol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymweld ag ardal ar wyliau, at ddibenion busnes neu am resymau eraill ac aros ar neu mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol ymhlith ymwelwyr eraill. Yn y senarios hyn, ni fyddai esemptiad.

Arosiadau argyfwng a drefnir gan awdurdod lleol 

Mae dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu llety argyfwng i bobl y mae ei angen arnynt. Ymhlith yr enghreifftiau o'r grwpiau hyn mae:

  • Pobl ddigartref
  • Dioddefwyr cam-drin domestig

Dan rai amgylchiadau, gall hyn olygu rhoi unigolion i aros mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol. Yn aml, bydd y mathau hyn o arosiadau’n cael eu trefnu gan awdurdodau lleol ac felly dylai fod yn ymarferol eu hadnabod a'u hesemptio heb ddatgelu gwybodaeth sensitif. Yn y sefyllfaoedd hyn, ni fyddem am weld ardoll yn cael ei godi ar y grwpiau hyn yn anfwriadol, yn enwedig gan ei bod yn bosibl nad oes ganddynt arian. Felly, rydym yn cynnig y byddai'r grwpiau hyn yn cael eu hesemptio rhag talu'r ardoll.

Arosiadau a drefnir gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Un maes cymhleth arall yw ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n aros dros dro mewn llety ymwelwyr. Mae hwn yn faes a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Mae'r Swyddfa Gartref yn trefnu llety argyfwng naill ai i bobl sy'n gwneud cais am loches wrth iddynt aros am benderfyniad neu dros dro i bobl y mae eu cais am loches wedi cael ei wrthod ac sy'n aros i adael y wlad. Gwneir hyn ar y cyd â chonsortia lleol a/neu gontractau gyda darparwyr llety yn y sector preifat. Weithiau, gall llety argyfwng neu lety dros dro a drefnir dan yr amgylchiadau hyn fod mewn llety ymwelwyr megis hostelau a llety gwely a brecwast. O wybod na fydd gan geiswyr lloches lawer o arian, gallai codi ardoll arnynt gael effaith negyddol sylweddol. Yn y senarios hyn, byddem yn awyddus i sicrhau bod esemptiad. Er eglurder, byddai pobl sy'n aros gydag unigolion o dan gynllun ‘Cartrefi i Wcráin’ y tu allan i'r cwmpas (oherwydd, drwy ddiffiniad, arhosiad hirdymor mewn llety na chaiff ei osod yn fasnachol yw hwn).

Pobl sy'n ffoi rhag trais neu gam-drin domestig

Gall fod senarios eraill lle y bydd unigolion dan yr amgylchiadau hyn yn trefnu eu llety eu hunain. Fodd bynnag, byddai'n heriol iawn ac yn anymarferol, fwy na thebyg, i ddarparwyr llety ymwelwyr adnabod yr unigolion hyn er mwyn gwneud cais am esemptiad. Mae unigolion yn y senarios hyn mewn sefyllfa hynod fregus. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd rhywun sy'n ffoi rhag cam-drin domestig yn teimlo'n gyfforddus yn rhoi manylion personol neu'n datgelu natur ei ymweliad i'r darparwr llety ymwelwyr. Yn yr un modd, efallai na fydd y darparwr llety ymwelwyr yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn i unigolion ddatgelu'r math hwn o wybodaeth. Gall y math hwn o wybodaeth fod yn sensitif iawn ac mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i sicrhau y caiff ei chadw'n ddiogel ac na chaiff ei datgelu ar ddamwain, a allai beri niwed i'r unigolyn. Gall fod yn amhriodol disgwyl i ddarparwyr llety ymwelwyr fodloni gofynion o'r fath o ystyried natur y gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Hefyd, nid oes ffordd o ddilysu'r wybodaeth a roddir gan unigolion ac felly byddai hyn yn golygu bod angen i'r darparwr llety ymwelwyr arfer ei farn ynglŷn â rhoi esemptiad. Byddai'n anodd iawn gwneud hyn mewn ffordd briodol. Felly, rydym yn cynnig mai dim ond i'r mathau hyn o arosiadau a drefnir gan yr awdurdod lleol y byddai'r esemptiad yn gymwys.

Arosiadau argyfwng mewn safleoedd a weithredir gan sefydliadau elusennol neu nid-er-elw

Rydym yn cydnabod y gall fod rhai darparwyr llety ymwelwyr sy'n cynnig eu llety at ddibenion elusennol neu nid-er-elw gan godi tâl ar yr unigolyn (er mwyn adennill costau). Er enghraifft, arosiadau at ddibenion seibiant neu loches. Y sefyllfa a ffefrir gennym yw na chaiff llety ymwelwyr a ddarperir gan elusen neu sefydliad nid-er-elw at ddibenion seibiant, lloches neu noddfa ei gynnwys yng nghwmpas yr ardoll. Y rheswm dros hyn yw nad ydym yn credu y byddai'n briodol codi tâl ar bobl sy'n aros mewn llety ymwelwyr heb fod wedi ‘dewis’ aros yno oherwydd eu hamgylchiadau (e.e. rhywun sy'n ffoi rhag trais domestig ac sy'n aros mewn lloches), yn yr un ffordd â rhywun sy'n ymweld at ddibenion hamdden neu fusnes. Hefyd, ni fyddem am greu rhwystr ariannol i'r unigolion hynny sy'n defnyddio gwasanaethau sy'n atal neu'n lleihau'r risg o niwed.

Arosiadau eraill y tu allan i'r cwmpas drwy ddiffiniad – llety ymwelwyr na chaiff ei osod yn fasnachol ac arosiadau hirdymor

Rydym yn cydnabod bod amrywiaeth o fathau o lety ymwelwyr ac arosiadau dros nos ac, er mwyn osgoi amheuaeth, mae'r diffiniadau o ymwelydd, llety ymwelwyr a darparwr llety ymwelwyr a ddefnyddir yn y ddogfen hon yn sicrhau y caiff rhai mathau penodol o arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr eu heithrio o gwmpas yr ardoll. Er enghraifft, nid ydym yn ystyried bod arosiadau mewn llety na chaiff ei osod yn fasnachol nac arosiadau hirdymor (e.e. ysbytai, carchardai, myfyrwyr sy'n aros mewn llety myfyrwyr, unigolion sy'n aros gyda theulu a ffrindiau yn ei heiddo eu hunain) o fewn cwmpas ardoll ymwelwyr.

Materion eraill: arosiadau na chânt eu trefnu gan awdurdodau lleol ar gyfer weithwyr digartref/gweithwyr yn yr economi gìg o fewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol

ardoll ar bob cwsmer. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gweithwyr digartref a gweithwyr yn yr economi gìg a all fod yn defnyddio'r llety ymwelwyr dros dro am ei fod yn fforddiadwy. Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn fwy cyffredin ymhlith hostelau mewn ardaloedd trefol oherwydd natur eu lleoliad a chost y llety ymwelwyr. Yn gyffredinol, deallwyd nad oedd natur yr arhosiad na chefndir yr unigolyn bob amser yn hysbys, ond cydnabuwyd y bydd rhai unigolion yn datgelu'r wybodaeth hon i ddarparwr llety ymwelwyr o bosibl. Mae'n anodd adnabod y mathau hyn o arosiadau oherwydd eu natur, oni bai eu bod yn digwydd mewn safleoedd penodedig fel llochesi, a llety a ddarperir yn benodol ar gyfer pobl ddigartref.

Plant a phobl ifanc 

Mewn rhai cyrchfannau rhyngwladol, defnyddir esemptiad (neu gyfradd is) ar gyfer plant a phobl ifanc. Gall plant a phobl ifanc fod yn aros dros nos mewn llety ymwelwyr ar wyliau gyda'r teulu, neu at ddibenion addysgol neu gymdeithasol. Er enghraifft, bydd llawer o ysgolion a sefydliadau ieuenctid yn trefnu ymweliadau preswyl at ddibenion addysgol a datblygiad cymdeithasol. Yn naturiol, mae cost eisoes yn bodoli am y mathau hyn o deithiau a byddai ardoll yn gost ychwanegol i'w hystyried pe bai'n cael ei godi ar blant a phobl ifanc. Yn gyffredinol, mae'r trethi defnydd sydd eisoes yn bodoli yn defnyddio esemptiadau neu gyfraddau is ar gyfer plant a phobl ifanc, ond ceir anghysondeb yn y system dreth ynghylch diffiniad safonol o ‘blentyn’ neu ‘berson ifanc’. Er enghraifft, mae dillad babanod, dillad plant ac esgidiau plant ar gyfradd sero ar gyfer TAW. Fodd bynnag, yn nodedig ddigon, nid yw'r esemptiad hwn yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc. Enghraifft arall yw'r esemptiad rhag Toll Teithwyr Awyr i blant (os ydynt yn y dosbarth teithio isaf) ond, yn yr enghraifft hon, y diffiniad o blentyn yw rhywun o dan 16 oed. Ni chaiff plant a phobl ifanc eu hesemptio rhag talu TAW o fewn y costau presennol am lety ymwelwyr. Fodd bynnag, mae hwn yn faes cymhleth, gyda gwasanaethau ‘lles’ i blant yn cael eu hesemptio rhag TAW ond nid gwasanaethau ‘seiliedig ar weithgareddau’ (HMRC internal manual ar GOV.UK).

Mae trethu lleol sydd eisoes yn bodoli (y dreth gyngor) yn defnyddio esemptiad ar gyfer pobl o dan 18 oed. Fel y dangoswyd, ceir anghysondeb yn y ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu trin yn y system dreth, gydag esemptiadau a gostyngiadau'n cael eu defnyddio mewn ffyrdd amrywiol.

Yng nghyd-destun ardoll ymwelwyr, ni ddylai'r broses o gael gwybod a yw rhywun yn blentyn neu'n berson ifanc fod yn rhy gymhleth os caiff esemptiad ei roi ar waith. Yn gyffredinol, byddai plant a phobl ifanc yn teithio gydag oedolion, neu fel rhan o daith addysgol neu gymdeithasol a drefnwyd gan sefydliad trydydd parti. Ni fyddai hyn yn cael ei ystyried yn ddata sensitif; fodd bynnag, mae rheoliadau GDPR y DU yn dal yn gymwys a byddai angen eu hystyried pe bai esemptiad yn cael ei roi ar waith ar gyfer y grŵp hwn. Gall plant a phobl ifanc ymweld ag ardal am nifer o resymau; fodd bynnag, mae'n debygol y byddant yn cael eu hebrwng a'u goruchwylio gan oedolyn (rhiant/gwarcheidwad/gofalwr) a fydd yn dal yn gyfrifol eu diogelu nes byddant yn 18 oed. Yn dibynnu ar y math o gyfradd a ddewisir (trafodir hyn ymhellach yn yr ymgynghoriad hwn) byddai cynnwys plant a phobl ifanc o fewn cwmpas yr ardoll yn arwain at effeithiau amrywiol. Er enghraifft, byddai pobl â theuluoedd mawr yn wynebu cost uwch o gymharu â phobl heb deuluoedd mawr. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddai hyn yr un fath ar gyfer pob agwedd ar y daith. Hefyd, byddai codi ardoll yn cynyddu'r costau sy'n gysylltiedig â theithiau addysgol/teithiau ysgol sy'n cynnwys aros dros nos. Gan fod costau a thaliadau TAW eisoes yn bodoli ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n aros mewn llety ymwelwyr, ni fyddai o reidrwydd yn anghymesur codi ardoll ymwelwyr hefyd. Fodd bynnag, fel y nodwyd, bydd hyn yn rhwystr ariannol ychwanegol a allai effeithio ar deuluoedd mwy a'r rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is sydd â llai o incwm gwario.

Arosiadau ar gyfer triniaeth feddygol

Mae rhai gwledydd yn defnyddio esemptiad ar gyfer pobl a all fod yn ymweld ag ardal er mwyn cael triniaeth feddygol ac sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol. Yn aml, caiff yr esemptiad hwn hefyd ei estyn i gynnwys aelodau o'r teulu/gofalwyr/ffrindiau a all fod yn hebrwng yr unigolyn ac yn ei gefnogi neu'n gofalu amdano. Ystyrir bod gwybodaeth feddygol am unigolyn yn ddata categori arbennig (Special category data ar Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth) a byddai angen mesurau diogelu ychwanegol o ran cofnodi a storio'r wybodaeth hon. Felly, byddai'n anodd defnyddio esemptiad dan yr amgylchiadau hyn oherwydd natur y data dan sylw. Hoffem glywed eich barn ynghylch a ddylai esemptiad gael ei roi ar waith ar gyfer y mathau hyn o arosiadau. Rydym yn cydnabod y bydd pob ymwelydd yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau a seilwaith lleol ac felly bod sail resymegol dros godi tâl o hyd. Fodd bynnag, yn achos triniaeth arbenigol a lle bo angen teithio i ardal benodol o bosibl (a lle bo angen i aelod o'r teulu/ffrind/gofalwr deithio hefyd) ceir diffyg dewis ar lefel yr unigolyn ynglŷn â'r gofyniad i aros yn lleol. Yn nodedig ddigon, caiff rhywfaint o lety ei ddarparu'n wirfoddol yn y senarios hyn ac mae'n debygol y bydd nifer y mathau hyn o arosiadau yn fach.

Pobl anabl

Mae rhai enghreifftiau rhyngwladol yn dangos esemptiadau i bobl anabl. Unwaith eto, mae hwn yn faes lle mae'n anodd penderfynu a ddylai unrhyw esemptiadau gael eu rhoi ar waith. Mae ardollau ymwelwyr yn seiliedig ar ddefnydd unigolion ac felly ar ddewis ar gyfer ymweliad. Ni ddylai ardoll ymwelwyr fod yn fwy o rwystr i ymweliad person anabl na rhywun nad yw'n anabl. Byddai adnabod pobl er mwyn galluogi esemptiad yn her o hyd gan nad yw pob anabledd yn weladwy, a gallai esemptiad arwain at driniaeth anghyson i bobl anabl sy'n aros mewn ardaloedd lle y caiff ardoll ei godi. Fodd bynnag, rydym yn gofyn am safbwyntiau ar esemptiad penodol ar gyfer y grŵp hwn os oes sail resymegol neu dystiolaeth nad ydym wedi'i hystyried.

Cysondeb o ran rhoi'r ardoll ar waith

Fel y nodwyd yn yr adran ar fframwaith treth yn yr ymgynghoriad hwn, ffefrir cysondeb o ran y ffordd y caiff ardoll ymwelwyr ei roi ar waith mewn gwahanol awdurdodau lleol. Yn achos esemptiadau, byddai hyn yn sicrhau triniaeth deg ym mhob ardal sy'n defnyddio ardoll ymwelwyr. Credwn felly, os tybir bod angen esemptiad a'i fod yn cael ei roi ar waith, y byddai'r esemptiad hwn yn cael ei roi ar waith ym mhob ardal awdurdod lleol. Fel rhan o'r trafodaethau cychwynnol, nid oeddem yn gweld sail resymegol a fyddai'n golygu bod angen i awdurdodau lleol gael pwerau disgresiynol i esemptio. Fodd bynnag, byddai galluogi hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd yn y gwaith o weinyddu ardoll ymwelwyr, a gall fod amgylchiadau a senarios lleol unigryw lle y byddai'n fuddiol cael pwerau disgresiynol i esemptio.

Ein dull o weithredu

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod esemptiadau dan amgylchiadau lle y byddai codi ardoll yn anghymesur i gyd-destun a natur ymweliad unigolyn. Yn aml, bydd y mathau hyn o arosiadau yn digwydd o reidrwydd yn hytrach nag o ddewis ac, fel arfer, ni fydd gan yr unigolyn arian (neu ddim digon o arian) i dalu ardoll, felly byddai'n anghymesur codi ardoll.

Hoffem gyfyngu unrhyw esemptiadau i amgylchiadau penodol lle y byddai'n anghymesur codi ardoll. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ddeall a fyddai'r rhesymeg hon yn berthnasol i unrhyw fath arall o arhosiad ac a ddylem ystyried rhoi esemptiadau ar waith mewn unrhyw senario arall.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth, ein barn ni yw y dylai'r awdurdodau lleol sy'n dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr ei roi ar waith yn gyson. Felly, rydym yn cynnig y byddai unrhyw esemptiadau yn fandadol ac wedi'u nodi mewn deddfwriaeth. Gall fod amgylchiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt lle y gellid cyfiawnhau rhoi pwerau disgresiynol i esemptio i awdurdod lleol ac rydym yn awyddus i glywed barn ymatebwyr ar y mater hwn.

Cwestiynau

  1. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r esemptiadau arfaethedig canlynol:
    1. Arosiadau o fewn safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr (lle mae arosiadau byrhoedlog yn rhan hanfodol o'r diwylliant)
    2. Arosiadau a drefnir gan awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau statudol (megis dyletswyddau a gyflawnir fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014) [troednodyn 1] (e.e. darparu llety dros dro i bobl ddigartref)
    3. Arosiadau a drefnir drwy'r Swyddfa Gartref wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau statudol mewn perthynas â cheisiadau am loches a rhoi llety dros dro i ffoaduriaid
    4. Arosiadau mewn llety a ddarperir gan elusennau a sefydliadau nid-er-elw ar sail anfasnachol (e.e. at ddibenion lloches, seibiant neu noddfa – llochesi i bobl ddigartref)
  2. A oes unrhyw esemptiadau eraill y dylem eu hystyried? Dewiswch bob un a ddylai fod yn gymwys yn eich barn chi:
    • Plant a phobl ifanc
    • Arosiadau dros nos os mai diben yr ymweliad yw cael triniaeth feddygol
    • Pobl anabl
    • Esemptiad arall
  3. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai unrhyw esemptiadau gael eu sefydlu o fewn fframwaith mandadol a nodir mewn deddfwriaeth?
  4. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, credwn y dylai unrhyw esemptiadau gael eu rhoi ar waith yn gyson ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod amgylchiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt lle y gall fod angen i awdurdod lleol gael pwerau disgresiynol i esemptio. A ddylai awdurdodau lleol gael pwerau disgresiynol i esemptio?

Mathau o lety sydd o fewn y cwmpas

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar ymwelwyr sydd o fewn y cwmpas yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig y dylai'r rhan fwyaf o ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr fod o fewn y cwmpas ar gyfer codi'r ardoll. Felly, er eglurder, mae'n bwysig nodi'n glir pa fathau o lety ymwelwyr sydd o fewn cwmpas yr ardoll. Mae nifer o fathau o lety ymwelwyr ar gael ac rydym yn eu diffinio fel a ganlyn:

‘Ystafell, grŵp o ystafelloedd neu adeilad, llain o dir ar gyfer lleoli llety dros dro (carafán, cartref modur, pabell neu adeiledd dros dro arall), neu gwch preswyl (cwch cul), lle y gallai rhywun aros dros dro, nad yw'n gyfeiriad parhaol iddo.’

Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys (nid yw'r rhestr yn hollgynhwysfawr):

  • Llety gwely a brecwast
  • Meysydd carafannau
  • Meysydd gwersylla
  • Tai llety
  • Hostelau a thai bynciau
  • Gwestai
  • Llety hunanddarpar (tai, bythynnod, a rhandai)

Rydym yn cydnabod bod amrywiaeth eang o lety ymwelwyr ar gael i'w gosod ledled ein rhanbarthau yng Nghymru. Mae cyfansoddiad llety ymwelwyr yn amrywio yn dibynnu ar yr ardal leol. Er tegwch, credwn y dylai pob llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol fod o fewn cwmpas yr ardoll. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau penodol lle y gall fod yn anodd cynnwys llety o fewn cwmpas yr ardoll. Er enghraifft, llety a ddarperir yn anfynych, megis ambell noson y flwyddyn. Mae hyn yn heriol o safbwynt gorfodi.

Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai mathau o lety ymwelwyr sydd ar gael yng Nghymru yn llety ‘pris rhesymol’ y codir cyfradd is amdano o gymharu â mathau eraill o lety ymwelwyr. Felly, pe bai ardoll yn cael ei godi am aros mewn llety pris rhesymol, mae'n bosibl y bydd y refeniw treth a gesglir yn isel ac y bydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chasglu ardoll yn fwy nag unrhyw refeniw a geir mewn senarios o'r fath. Codwyd y pwynt hwn gan ddarparwyr llety yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu.

Rydym am archwilio a ddylai fod unrhyw esemptiadau ar gyfer mathau o lety ymwelwyr sydd o fewn y cwmpas, a'r rhesymau dros hyn. Gall fod yn anodd penderfynu ble mae'r ffin rhwng llety ymwelwyr a ddarperir yn anfynych a llety ymwelwyr a ddarperir yn fwy rheolaidd. Er mwyn helpu i bennu'r atebolrwydd i dalu trethi, caiff trothwyon eu pennu ar gyfer agweddau ar drethi lleol sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft diffinio llety hunanddarpar at ddibenion ardrethi annomestig (Ardrethi Annomestig ar gyfer Eiddo Hunanddarpar yng Nghymru ar Busnes Cymru). Ar gyfer ardoll ymwelwyr, rydym yn awyddus i ddeall a oes sail resymegol dros esemptio rhag mathau o lety ymwelwyr. Er enghraifft, gallai hyn fod yn seiliedig ar isafswm nifer y diwrnodau y mae'r eiddo ar gael i'w osod, neu bris y llety (neu'r ystafell). Byddai defnyddio trothwy a phennu'r lefel hon yn rhy uchel yn esemptio rhan fawr o'r sylfaen drethu ac yn creu system dreth annheg. Fodd bynnag, byddai trothwy uchel o ran pris yn esemptio llawer o unigolion a all fod yn defnyddio llety ymwelwyr pris rhesymol yn lle preswylfa barhaol (e.e.  pobl ddigartref) ac felly'n atal unrhyw rwystrau ychwanegol i'r grwpiau hyn. Fodd bynnag, gallai defnyddio trothwy yn seiliedig ar ddiwrnodau gosod a'i bennu'n rhy isel olygu y bydd llawer o unigolion yn atebol i godi a chasglu ardoll y gall fod yn anodd ei orfodi. Hefyd, gall trothwy arwain at effeithiau ystumiol os bydd busnesau'n newid y ffordd y maent yn gweithredu er mwyn osgoi unrhyw faich ychwanegol yn sgil codi a chasglu ardoll, er enghraifft drwy geisio osgoi croesi trothwy. Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos nad oes trothwy fel arfer (Ffrainc, Ynysoedd Baleares, yr Almaen, Philadelphia) oherwydd, mewn egwyddor, byddai trothwy ar gyfer yr ardoll yn creu annhegwch yn y sector llety ymwelwyr am fod ymwelwyr yn defnyddio pob math o lety ymwelwyr. Yn aml, yn hytrach na defnyddio trothwy, pennir cyfradd sy'n gymesur â chostau'r llety er mwyn adlewyrchu natur amrywiol yr hyn sydd ar gael. Felly, y sefyllfa a ffefrir gennym yw peidio â chael unrhyw fath o drothwy ar gyfer codi'r ardoll ac felly byddai pob math o lety ymwelwyr o fewn y cwmpas.

Ceir amrywiaeth eang o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru a byddai'r effeithiau posibl yn amrywio o un darparwr i'r llall, fel yr amlinellir yn ein hasesiad effaith rheoleiddiol drafft. Mae'n bosibl y bydd gan ddarparwyr llai (busnesau bach a microfusnesau) lai o adnoddau ac amser i addasu i newidiadau o gymharu â darparwyr mwy sy'n gallu rhoi swyddogaethau cyfrifyddu ar gontract allanol i drydydd parti. Yn ein trafodaethau, dywedodd rhai darparwyr ei bod yn bosibl na fyddant yn gwneud elw yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl sefydlu'r busnes. Felly, roedd y darparwyr hyn o'r farn y gall fod sail dros esemptio busnesau newydd neu ystyried cynnwys busnesau o fewn y cwmpas yn seiliedig ar elw neu drosiant. Rydym yn cydnabod bod hwn yn fater cymhleth, ond nid ydym yn ffafrio'r opsiwn o esemptio darparwyr ar sail maint neu berfformiad (boed yn drosiant, elw neu le ffisegol). Y rheswm dros hyn yw mai ymwelwyr fyddai'n atebol i dalu'r ardoll, a'r darparwyr llety ymwelwyr fyddai'n gyfrifol am godi a chasglu'r ardoll. Felly, byddai'n annheg peidio â chodi'r ardoll ar ymwelwyr oherwydd natur y llety y byddant yn aros ynddo.

Cafwyd adborth cyson gan amrywiaeth o randdeiliaid y dylai ardoll gael ei roi ar waith yn gyson ac y gallai esemptio unrhyw fathau o eiddo greu system anghyfartal ar gyfer ardoll ymwelwyr. Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y caiff ardoll ymwelwyr ei godi ar y rhan fwyaf o arosiadau gan ymwelwyr fel arfer (ac felly, rhaid i'r rhan fwyaf o ddarparwyr llety ymwelwyr, os nad pob un, godi a chasglu'r ardoll) er mwyn sicrhau tegwch rhwng darparwyr. Er mwyn bod yn deg, credwn y dylai pob arhosiad dros nos gan ymwelwyr fod o fewn y cwmpas ac felly y dylai pob math o lety ymwelwyr fod o fewn y cwmpas, ond byddem yn croesawu ymatebion i'r cwestiynau canlynol.

Ein dull o weithredu

Mae egwyddor tegwch yn bwysig wrth roi ardoll ymwelwyr ar waith. Byddai'r ardoll a gynigir gennym yn daladwy gan ymwelwyr ac yn cael ei gasglu gan ddarparwyr llety ymwelwyr. Gan y byddai pob ymwelydd (heblaw unrhyw rai a fydd wedi'u hesemptio) yn atebol i dalu'r ardoll, rydym yn cynnig felly y byddai pob darparwr llety ymwelwyr yn gyfrifol am godi a chasglu'r ardoll beth bynnag fo'i faint neu raddfa.

Fel yr amlinellwyd, yr hyn a ffefrir gennym yw i bob darparwr llety ymwelwyr fod o fewn cwmpas yr ardoll. Fodd bynnag, rydym am ystyried safbwyntiau ynghylch a ddylai fod unrhyw eithriadau i hyn, er enghraifft trothwy yn seiliedig ar ddiwrnodau gosod lle y dylid ystyried bod llety o fewn cwmpas yr ardoll, neu'n seiliedig ar isafswm pris llety neu ystafell, neu elw neu drosiant y darparwr llety ymwelwyr.

Cwestiynau

  1. Er mwyn sicrhau tegwch, cynigir y dylid ystyried bod pob llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol o fewn cwmpas yr ardoll hwn. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?
  2. A ddylai unrhyw lety ymwelwyr a osodir yn fasnachol gael ei esemptio rhag codi a chasglu ardoll ymwelwyr?

Cynigion trwyddedu statudol

Fel yr amlinellwyd yn yr adran sy'n trafod y mathau o lety ymwelwyr sydd o fewn cwmpas yr ardoll, rydym yn cynnig y byddai'r rhan fwyaf o lety ymwelwyr o fewn y cwmpas ar gyfer codi a chasglu'r ardoll. Cydnabyddir heriau ehangach o ran tegwch yn y sector hunanddarpar. Mae llawer o ddarparwyr llety ymwelwyr yn defnyddio llwyfannau archebu ar-lein i hysbysebu eu llety a'i roi ar osod am gyfnodau byr. Mae rhai o'r darparwyr hyn yn cynnig eu llety'n anfynych ar adegau penodol o'r flwyddyn, tra bo eraill yn gweithredu safle fel busnes amser llawn. Mewn awdurdodaethau eraill lle y defnyddir ardollau ymwelwyr, mae camau wedi cael eu cymryd i sicrhau chwarae teg i bob darparwyr llety ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cynllun trwyddedu neu gofrestru statudol lle y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cynnig llety ymwelwyr gael trwydded a/neu gofrestru ag awdurdod perthnasol cyn hysbysebu eu llety a'i roi ar osod (Airbnb newyddion). Mae hyn yn sicrhau y bydd awdurdodau llywodraethu yn trin pob darparwr llety ymwelwyr yn gyson o ran unrhyw ofynion posibl wrth ddarparu llety ymwelwyr. Hefyd, mae hyn yn helpu'r awdurdod treth i orfodi ardoll drwy sicrhau na fydd llwyfannau economi rhannu yn derbyn hysbysebion oni fydd darparwr yn bodloni'r rhagofynion perthnasol (e.e. cael trwydded).

Rydym yn cydnabod y gall cynllun trwyddedu gefnogi'r broses o roi ardoll ymwelwyr ar waith drwy roi darlun cliriach o bwy sy'n gweithredu ac yn darparu gwasanaethau llety ymwelwyr. Byddai hyn yn helpu i sicrhau chwarae teg drwy sicrhau bod darparwyr llety ymwelwyr yn cael eu trin yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i'r un gofynion o ran eu rhwymedigaethau mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr arfaethedig. Caiff ymgynghoriad llawn ei gynnal yn nes ymlaen eleni ynghylch cynigion ar gyfer cynllun trwyddedu statudol, ar ôl i'r bwriad i gyflwyno trwyddedau statudol gael ei gyhoeddi'n gynharach eleni (Pecyn newydd o fesurau i roi sylw i niferoedd uchel o ail gartrefi ar LLYW.CYMRU).

Bydd cynllun trwyddedu yn fuddiol i'r gwaith o weinyddu ardoll ymwelwyr drwy roi dealltwriaeth fwy cyflawn o ba fusnesau sy'n gweithredu mewn ardal. Mewn enghreifftiau rhyngwladol, y rhai y mae'n rhaid iddynt gael trwydded a/neu gofrestru yw'r un darparwyr sy'n atebol i godi a chasglu ardoll ymwelwyr hefyd. Ni fyddai modd defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn i wybod pwy yw'r holl ddarparwyr llety ymwelwyr anfynych oherwydd nid oes rhwymedigaeth ar hyn o bryd i roi gwybod i'r awdurdodau am weithgarwch o'r fath, na chael trwydded neu gofrestru er mwyn ymgymryd â'r gweithgarwch hwn. Felly, byddai cyflwyno ardoll ymwelwyr heb roi gofyniad o'r fath ar waith (neu sefydlu cynllun cofrestru ar gyfer treth yn y ddeddfwriaeth) yn creu heriau ychwanegol o ran gorfodi am fod awdurdodau'n llai tebygol o allu adnabod darparwyr anfynych a chymryd camau gorfodi os bydd angen. Dylid nodi y byddai gorfodi'n her o safbwynt trwyddedu (neu gofrestru ar gyfer treth) gan y byddai rhai darparwyr yn peidio â chael trwydded (neu gofrestru) ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau llety. Felly, mae'n debygol y byddai gorfodi'n her o safbwynt trwyddedu/cofrestru ac o safbwynt treth hefyd. Fodd bynnag, byddai rhoi gofynion ar waith i gael trwydded neu gofrestru (a defnyddio cosbau am beidio â gwneud hyn) yn cefnogi dull gorfodi ar y cyd.

Y dewis arall yn hytrach na defnyddio system drwyddedu er mwyn helpu i weinyddu ardoll ymwelwyr fyddai defnyddio system ar wahân i gofrestru ar gyfer y dreth, neu beidio â defnyddio system o'r fath o gwbl. Byddai system gofrestru ar wahân yn gosod gofynion statudol ar ddarparwyr llety ymwelwyr i gofrestru â'r awdurdod treth at ddibenion gweinyddu'r dreth. Byddai peidio â defnyddio system gofrestru yn golygu bod yr awdurdod treth yn dibynnu ar ddatblygu cronfa ddata o ddarparwyr drwy’r gofyniad i gyflwyno ffurflen dreth (yn y model a gynigir gennym) i'r awdurdod treth. Byddai her orfodi yn bodoli heb i system drwyddedu na chofrestru fod ar waith ar gyfer y dreth, ond mae'n bosibl y gallai setiau data a ddelir eisoes at ddibenion gweinyddu trethi lleol eraill ochr yn ochr â gwybodaeth leol helpu i adnabod darparwyr a phenderfynu ar gamau gorfodi. Fodd bynnag, byddai peidio â rhoi cynllun cofrestru neu drwyddedu ar gyfer y dreth ar waith at ddibenion treth yn golygu bod llai o gamau gorfodi y gellid eu cymryd er mwyn annog pobl i fodloni'r gofynion.

Hefyd, gan y byddai'r math o dreth a gynigir gennym yn seiliedig ar fodel a hunanasesir (fel y trafodwyd yn yr adran ar ddyluniad y dreth ac atebolrwydd i'w thalu yn y ddogfen hon), mae'r math hwn o dreth yn addas ar gyfer rhoi system gofrestru ar waith er mwyn i ddarparwyr roi eu manylion treth i'r awdurdod treth a chyflwyno ffurflenni. Os bydd y cwmpas yr un fath ar gyfer cynigion trwyddedu ac ardoll ymwelwyr (h.y. mae'n bosibl mai'r rhai a fydd o fewn y cwmpas ar gyfer yr ardoll fydd yr un rhai y bydd angen iddynt gael eu trwyddedu) bydd cyfle i gasglu'r wybodaeth hon mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn rhoi profiad gwell i'r trethdalwr. Fodd bynnag, os bydd cwmpas y polisïau'n wahanol, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru at ddibenion gweinyddu'r dreth yn benodol. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod yr awdurdod treth yn ymwybodol o'r holl ddarparwyr sy'n gweithredu a bod modd rhoi mesurau gorfodi effeithiol ar waith i atal pobl rhag ceisio osgoi neu efadu eu rhwymedigaethau.

Fel arfer, mae cynllun trwyddedu'n golygu bod angen cael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan awdurdod, ac mae angen adnewyddu'r drwydded bob hyn a hyn.  O dan gynllun cofrestru, mae'n bosibl na fydd angen cael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan awdurdod, ond gallai awdurdod ganslo cofrestriad os daw i'r amlwg yn nes ymlaen nad yw'r gweithredwr yn bodloni gofynion penodol.

Ein dull o weithredu

Hoffem glywed eich barn ynghylch sut y gall cynllun trwyddedu statudol helpu i roi ardoll ymwelwyr ar waith. Fel y nodwyd eisoes, gofyniad ar wahân i gofrestru at ddibenion treth, neu beidio â chofrestru o gwbl fyddai'r opsiynau amgen.

Cwestiynau

  1. A ddylai rhestr gynhwysfawr o ddarparwyr llety ymwelwyr fod ar gael i'r awdurdod treth er mwyn helpu i weinyddu'r ardoll, yn hytrach na bod dim gofynion cofrestru ar waith?
  2. A fyddai defnyddio'r cynllun trwyddedu statudol arfaethedig (yn hytrach na chreu cynllun cofrestru pwrpasol ar gyfer y dreth) yn cynnig dull priodol i awdurdod lleol sicrhau bod ganddo restr gynhwysfawr o ddarparwyr llety ymwelwyr ac y byddai'r wybodaeth hon yn helpu i roi ardoll ymwelwyr ar waith?

Math o gyfradd

Wrth ystyried sut y caiff yr ardoll ei godi o bosibl, bydd angen inni benderfynu pa fath o gyfradd y dylai ymwelwyr ei thalu. Ceir sawl model o godi tâl yn ôl cyfradd a all fod yn addas. Gan mwyaf, gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:

  • Ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety (£)
  • Ardoll fesul person, fesul noson (£)
  • Ardoll ar sail canran o'r tâl am lety (%)
  • Model sy'n cyfuno'r uchod

Un dull a ddefnyddir yn gyffredin yn rhyngwladol yw amrywio'r tâl yn unol ag ansawdd neu gost llety. Rydym yn deall y byddai'n anodd amrywio cyfradd yn ôl ansawdd am fod cynlluniau sydd eisoes yn bodoli, fel y rhai a ddarperir gan Croeso Cymru (Sêr Graddio Ansawdd ar Business Wales) a'r AA (AA: Quality assessment schemes) yn wirfoddol ac felly ni chaiff yr holl lety ymwelwyr ei raddio. Fodd bynnag, gall amrywio yn ôl cost fod yn ddirprwy defnyddiol i ansawdd. Er enghraifft, mae Hamburg yn codi ardoll fesul person, fesul noson sy'n amrywio yn unol â chost y llety. Er mwyn sicrhau tegwch, beth bynnag fo'r math o gyfradd, rydym yn cynnig na ddylai unrhyw ardoll fod yn anghymesur â chostau'r llety.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth, rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r un math o gyfradd ym mhob awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau dull gweithredu cyson ac yn lleihau dryswch wrth weinyddu'r ardoll. Hefyd, byddai ymwelwyr yn dod yn fwy cyfarwydd â'r math o dâl pe bai'r un math yn cael ei ddefnyddio bob tro. Mae hyn hefyd yn cynnig manteision i lwyfannau archebu a darparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol.

Byddai'r costau a'r manteision yn amrywio yn dibynnu ar y math o gyfradd a gynigir gennym, a chaiff hyn ei archwilio ymhellach yn ein hasesiad effaith rheoleiddiol rhannol. Fodd bynnag, rhoddir crynodeb o rinweddau ac effeithiau pob un o'r opsiynau yma er byrder ac er mwyn eich helpu i ymateb.

Ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety (£)

Byddai ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety yn golygu codi tâl ar ystafell neu lety cyfan yn dibynnu ar y math o lety ymwelwyr. Byddai hwn yn fath symlach o ardoll i'w weithredu gan mai un gyfradd fyddai'n gymwys, ni waeth sawl unigolyn sy'n aros yn yr ystafell neu'r eiddo. Felly, byddai angen i fusnesau gasglu llai o wybodaeth ychwanegol wrth gymryd archebion. Hefyd, gan y byddai'r math hwn o gyfradd yn cael ei chodi ar yr ystafell/llety, byddai'n cael ei chodi ar bawb sy'n ymweld fel rhan o'r arhosiad hwnnw. Mae hyn yn sicrhau y bydd yr ardoll wedi cael ei godi ar bob ymwelydd sy'n aros, sy'n gyson â sail resymegol y polisi. Fodd bynnag, bydd y dull hwn o godi tâl yn anuniongyrchol pan fydd mwy nag un unigolyn yn aros yn yr un ystafell/llety.

Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn yn wrthgynyddol o ran ei ddyluniad oherwydd byddai baich y dreth fel canran yn lleihau wrth i bris y llety gynyddu. Er enghraifft, byddai ardoll fesul ystafell/llety fesul noson o £1 am lety sy'n costio £25 y noson yn gyfradd dreth o 4%, ond pe bai'n cael ei godi ar lety sy'n costio £100 y noson, dim ond 1% fyddai'r ganran. Hyd yn oed wrth godi cyfradd amrywiadwy o'r fath ar sail bandiau costau fesul noson, byddai'n dal yn wrthgynyddol oherwydd gall cost y llety fesul noson ostwng tuag at ben isaf neu uchaf y bandiau (ac felly, fel canran, byddai'r rhai tuag at ben isaf band costau yn dal i wynebu cyfradd dreth uwch). Felly, mae'n bosibl y bydd pobl sy'n defnyddio llety cymharol ratach yn wynebu tâl anghymesur o uchel fel canran o gymharu â'r rhai mewn llety drutach.

Hefyd, ni fyddai'r math hwn o ardoll yn adlewyrchu newidiadau tymhorol i brisiau oni châi hynny ei ystyried wrth ei ddylunio. Er enghraifft, nodwn y bydd busnesau'n newid eu hamserlenni prisio yn ystod y flwyddyn er mwyn adlewyrchu'r galw a'r gystadleuaeth.

Ardoll fesul person, fesul noson (£)

Dyma'r math mwyaf cyffredin o gyfradd a ddefnyddir mewn cyrchfannau yn Ewrop. Mae'r math hwn o dreth yn dal yn wrthgynyddol o ran ei dyluniad am nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chyfanswm cost yr ystafell/llety (yn yr un modd ag ardoll fesul ystafell/llety fesul noson). Mae ardoll fesul person, fesul noson yn fodd i dargedu'r ardoll yn fwy os bydd gofyniad i roi esemptiadau neu ryddhadau ar waith yn seiliedig ar amgylchiadau unigol. Y rheswm dros hyn yw y byddai'r ardoll yn cael ei godi fesul unigolyn yn hytrach nag ar gyfanswm cost yr ystafell neu'r bil. Felly, gellir esemptio unigolion sy'n teithio mewn grŵp rhag talu (os oes esemptiad ar waith). Er mwyn rhoi esemptiad ar waith mewn senario lle y caiff ardoll ei godi ar y llety cyfan, byddai angen cyfrifo cyfran pob unigolyn o'r tâl. Yn aml, ni fydd hyn yn ddichonadwy am ei bod yn bosibl na fydd darparwyr yn casglu gwybodaeth am nifer y bobl sy'n aros. Hefyd, mae'n debygol y byddai'n haws i ymwelwyr ddeall y math hwn o gyfradd. Gellir dadlau mai'r math hwn o gyfradd sydd fwyaf cyson â bwriad polisi'r ardoll ymwelwyr gan y byddai'n sicrhau bod yr ardoll yn cael ei godi ar bob unigolyn sy'n aros fel rhan o'r un archeb.

Fodd bynnag, byddai'r math hwn o gyfradd yn fwy cymhleth nag ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety. Y rheswm dros hyn yw'r gofyniad i fusnesau gasglu gwybodaeth ychwanegol gan ymwelwyr sy'n archebu neu'n aros mewn llety. Nod y gofyniad hwn fyddai sicrhau bod modd cymharu unrhyw ffurflenni â gyflwynir i'r awdurdod treth â chofnodion o nifer yr ymwelwyr a arhosodd yn y llety fesul noson. Dan rai amgylchiadau, byddai dibyniaeth ar ymwelwyr i hunanddatgan y niferoedd sy'n aros yn y llety. Lle nad oes gweithdrefnau ffurfiol ar waith er mwyn i ymwelwyr gofnodi i mewn neu allan yn y fan a'r lle, byddai'n anodd gorfodi'r math hwn o dâl yn effeithiol mewn rhai senarios.

Fel y nodwyd ar gyfer yr opsiwn blaenorol, ni fyddai'r math hwn o gyfradd yn amrywio yn unol ag addasiadau tymhorol i brisiau oni châi hyn ei ystyried yn y broses ddylunio.

Ardoll ar sail canran (%) o'r tâl am lety

Tâl ar sail canran yw'r math mwyaf blaengynyddol o dâl oherwydd byddai'n uniongyrchol gysylltiedig â chost yr arhosiad a'r gallu i dalu. Hefyd, byddai'r math hwn o dâl yn ystyried unrhyw amrywiad tymhorol yng nghost llety, gan adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y galw. Byddai'r math hwn o dâl yn gymesur â chost y llety, gan gynnig sail decach i'r ardoll weithio rhwng gwahanol ddarparwyr.

Mae'n bosibl y bydd rhai heriau'n gysylltiedig â thâl ar sail canran. Er enghraifft, gall rhai darparwyr ddarparu gwasanaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r arhosiad, megis bwyd, diod a phecynnau hamdden. Mae rhai darparwyr, fel llety gwely a brecwast, yn cynnig y rhain fel elfen hanfodol o'r arhosiad. Felly, yn ymarferol, gall tâl ar sail canran beri anfantais i'r mathau hyn o ddarparwyr. Mae'n debygol y byddai'n ofynnol defnyddio dull o gofnodi a derbynebu gwasanaethau ychwanegol y tu allan i gost y llety er mwyn sicrhau y caiff y math hwn o dâl ei roi ar waith yn deg.

Model sy'n cyfuno'r opsiynau ar gyfer cyfraddau a ddisgrifir yn yr adran hon

Un opsiwn arall i'w ystyried fyddai cyfuniad o'r opsiynau a nodir yn yr adran hon. Er enghraifft, gallai fod yn gyfradd a godir fesul person, fesul noson, ochr yn ochr â chanran o gost y llety. Nid oes llawer o enghreifftiau o fodelau cyfunol yn rhyngwladol, ond mae Amsterdam yn defnyddio'r dull hwn ar gyfer ei hardoll ymwelwyr. Mantais yr opsiwn hwn yw y byddai cynnwys elfen ganrannol ochr yn ochr â chyfradd fesul person yn rhoi sail ar gyfer cyfradd fwy blaengynyddol. Fodd bynnag, yr anfantais yw y byddai'n fwy cymhleth i awdurdodau a darparwyr llety ymwelwyr ei roi ar waith. Gallai'r opsiwn hwn beri dryswch i ymwelwyr. Felly, ni ffefrir yr opsiwn hwn oherwydd byddai'n gwneud dyluniad yr ardoll yn rhy gymhleth.

Rydym yn cydnabod bod amrywiad tymhorol yn y galw am lety ymwelwyr ac y bydd darparwyr yn newid eu prisiau yn unol â hynny er mwyn adlewyrchu'r cynnydd a'r lleihad yn y galw drwy gydol y flwyddyn. Ceir cyfle wrth ddylunio'r ardoll i ddewis tâl a fyddai'n amrywio yn unol â'r newidiadau tymhorol hyn. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd galluogi amrywiad tymhorol ar gyfer yr ardoll yn creu mwy o faich gweinyddol i fusnesau ac i'r awdurdod treth. Gallai hyn gynyddu'r costau y bydd yn rhaid mynd iddynt wrth roi'r ardoll ar waith.

Rydym yn awyddus i archwilio rhinweddau ac effeithiau posibl yr opsiynau a nodir yn fanylach. Nid yw'r crynodebau uchod yn hollgynhwysfawr, a rhoddir rhagor o fanylion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol rhannol a gyhoeddir gyda'r ddogfen hon. Rhowch unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â'r pwyntiau hyn yn eich atebion i'r cwestiynau canlynol.

Ein dull o weithredu

Mae manteision ac anfanteision yr opsiynau ar gyfer math o gyfradd wedi cael eu crynhoi yn yr adran hon o'r ymgynghoriad. Nid ydym wedi dod o hyd i fath amlwg o gyfradd a ffefrir gennym, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn ar yr hyn a fyddai'n gweithio orau i Gymru.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth yn yr ymgynghoriad, byddai'n well gennym pe bai pob awdurdod lleol yn defnyddio'r un math o gyfradd er mwyn sicrhau y caiff yr ardoll ymwelwyr ei roi ar waith yn gyson. Rydym yn cynnig y byddai'r elfen hon yn cael ei phennu yn y fframwaith treth, heb opsiwn i wneud penderfyniadau yn lleol. Nid oeddem yn gweld sail resymegol dros amrywio'r math o gyfradd yn lleol yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu, ond mae croeso i chi dynnu sylw at unrhyw resymeg dros hyn yn eich ymateb os credwch y byddai'n fuddiol pe mai penderfyniadau ynghylch y math o gyfradd yn cael eu gwneud yn lleol.

Mae crynodeb cychwynnol o'r effeithiau yn dibynnu ar y math o gyfradd a ddewisir wedi cael ei gynnwys yn yr adran flaenorol. Mae ein hasesiad effaith rheoleiddiol rhannol yn archwilio effeithiau posibl y dewisiadau dylunio amrywiol mewn mwy o fanylder. Fodd bynnag, hoffem ddeall a oes unrhyw effeithiau nad ydym wedi'u hystyried o bosibl, neu a oes gennych ragor o wybodaeth am yr effeithiau posibl. Er enghraifft, effeithiau ynghylch: adnoddau ac amser staff, costau ariannol, costau gweinyddol eraill, yr amser a'r costau y byddai eu hangen i ddiweddaru unrhyw systemau digidol, newidiadau tymhorol i brisiau, ac unrhyw effeithiau eraill y dylem eu hystyried.

Cwestiynau

  1. Pa un o'r canlynol fyddai'r math mwyaf priodol o gyfradd ar gyfer yr ardoll hwn yn eich barn chi?
    1. Fesul noson, fesul ystafell/llety
    2. Fesul person, fesul noson
    3. Canran o'r tâl am lety
    4. Model sy'n cyfuno'r uchod
  2. Rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r un math o gyfradd ym mhob awdurdod lleol sy'n defnyddio ardoll ymwelwyr, yn hytrach na bod hyn yn cael ei benderfynu'n lleol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r dull gweithredu hwn?
  3. A oes effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried ar sail y math o gyfradd a ddewisir (er enghraifft, effeithiau ynghylch: adnoddau ac amser staff, costau ariannol, costau gweinyddol eraill, yr amser a'r costau y byddai eu hangen i ddiweddaru unrhyw systemau digidol, newidiadau tymhorol i brisiau, ac unrhyw effeithiau eraill y dylem eu hystyried)?

Cyfradd drethadwy

Un o'r cwestiynau allweddol i'w hystyried yw'r gyfradd briodol i'w phennu ar gyfer unrhyw ardoll ymwelwyr. Mae ymatebolrwydd prisiau defnyddwyr (elastigedd pris) yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau megis incwm gwario, argaeledd dewisiadau amgen, dewisiadau unigol, a pha mor unigryw yw'r cyrchfan (megis atyniadau neu weithgareddau penodol sy'n denu pobl i ranbarth). Mae lefel elastigedd incwm (sensitifrwydd, faint y bydd y galw'n amrywio yn unol â newidiadau i incwm gwario) ymwelwyr yn cyd-fynd â hyn. Bydd lefelau incwm gwario (elastigedd incwm) yn dylanwadu ar ymddygiad ochr yn ochr â chost nwyddau a gwasanaethau (elastigedd pris).

Mae deall elastigeddau pris ac incwm yn gymhleth oherwydd yr amrywiaeth eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad unigolion. Mae'r dadansoddiadau o elastigeddau ar lefel y DU yn amrywio. Mae rhai astudiaethau'n awgrymu bod yr economi ymwelwyr domestig yn sensitif i gynnydd mewn prisiau ac felly y bydd cynnydd mewn pris yn arwain at leihad mewn gwariant. Ar y llaw arall, mae astudiaethau eraill yn awgrymu bod yr economi ymwelwyr yn llai sensitif i gynnydd mewn prisiau. Fodd bynnag, mae'n anodd deall pa ymatebion ymddygiadol y byddai cynnydd mewn prisiau yn arwain atynt.

Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil annibynnol (mae'r gwaith ymchwil hwn ar gael ar-lein yn Ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU) i adolygu'r llenyddiaeth sy'n bodoli er mwyn deall sut y gall newidiadau mewn prisiau ac incwm effeithio ar y galw ym maes twristiaeth. Dewiswyd 33 o astudiaethau i'w hadolygu'n llawn fel rhan o asesiad cyflym o'r dystiolaeth. Er bod llawer o dystiolaeth ar gael, nid oes astudiaethau sy'n rhoi amcangyfrifon sy'n benodol i Gymru a dim ond nifer bach sy'n trafod marchnad y DU. Dangosodd y gwaith ymchwil ei bod yn debygol bod y galw cyffredinol am dwristiaeth yng Nghymru yn agos at fod ag elastigedd pris unedol, sy'n golygu bod newid canrannol mewn prisiau'n cyfateb yn fras i newid canrannol hafal yn y galw. Er enghraifft, byddai cynnydd o 1% mewn prisiau yn arwain at ostyngiad o 1% yn y galw am dwristiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd amrywiad mawr ym maint yr amcangyfrifon, gyda'r galw am dwristiaeth naill ai'n elastig o ran pris (newid mawr yn y galw mewn ymateb i newid mewn prisiau) neu'n anelastig (newid bach yn y galw mewn ymateb i newid mewn prisiau) yn dibynnu ar yr astudiaeth dan sylw. Mae'n debygol y bydd elastigedd pris y galw yn amrywio i wahanol gyrchfannau yng Nghymru ac yn ôl o ble y daw'r ymwelwyr. Yn fwyaf perthnasol i'r ardoll ymwelwyr arfaethedig, gwelwyd bod gan lety elastigedd pris y galw o -0.7 ar gyfartaledd, sy'n golygu bod y galw am lety yn gymharol anelastig o ran pris (yn llai sensitif i newid yn y galw yn sgil newidiadau mewn prisiau). Fel arfer, roedd yr amcangyfrifon o elastigedd incwm y galw yn bositif, sy'n awgrymu bod y galw am dwristiaeth yn cynyddu wrth i incwm ymwelwyr gynyddu.

Roedd y gwaith ymchwil a gomisiynwyd gennym yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd ac mae'n debygol y bydd ymatebolrwydd ymwelwyr i bris yn amrywio ar lefel ranbarthol ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu nodweddion yr economi ymwelwyr, oherwydd gall rhai ardaloedd godi prisiau uwch am fod ganddynt fwy o alw o ganlyniad i'r arlwy a'r atyniadau lleol. Bydd rhesymau unigolion dros deithio hefyd yn newid y sensitifrwydd i bris am fod teithwyr busnes yn debygol o fod yn llai sensitif i gynnydd mewn prisiau o gymharu â phobl sydd ar wyliau. Bydd elastigedd pris hefyd yn amrywio yn dibynnu ar y cyrchfan gwreiddiol yn y DU (er enghraifft, mae'n bosibl y bydd mwy neu lai o ddewisiadau amgen ar gael i unigolion ac felly gall eu sensitifrwydd i gynnydd mewn prisiau amrywio). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall darpar ymwelwyr â rhanbarthau yng Nghymru newid eu hymddygiad yn dibynnu ar gost eu harhosiad. Gallai hyn ddigwydd ar sawl ffurf wahanol, megis gwario llai ar weithgareddau ychwanegol, dewis aros mewn llety rhatach, amrywio hyd yr ymweliad neu ddewis aros mewn cyrchfan gwahanol. Ceir dealltwriaeth gyfyngedig o'r hyn sy'n ysgogi ymddygiad ymwelwyr ac, yn fwy penodol, effaith ardollau ymwelwyr ar ymddygiad (yn hytrach na newidiadau mewn prisiau yn fwy cyffredinol). Caiff mater elastigeddau prisiau ei archwilio ymhellach yn ein hasesiad effaith rheoleiddiol rhannol. Bydd deall yr elastigeddau ar gyfer yr economi ymwelwyr yng Nghymru yn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch cyfradd briodol (neu gyfraddau priodol) ac a ddylai'r cyfraddau gael eu pennu'n lleol.

Mae elastigeddau yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar lefel y gyfradd/cyfraddau. Un ffactor arall y dylid ei ystyried, yn dibynnu ar y math o dâl, yw'r gallu i dalu. Er enghraifft, bydd pobl sy'n aros mewn llety pris rhesymol yn fwy tebygol o fod o gefndir economaidd-gymdeithasol is ac felly o feddu ar lai o incwm gwario. Ar y llaw arall, mae'n debygol y bydd gan y rhai sy'n aros mewn llety moethus fwy o allu i dalu. Felly, mewn llawer o fodelau yn rhyngwladol, ceir amrywiad yn ôl ansawdd/math/cost y llety er mwyn sicrhau y caiff y gallu i dalu ei ystyried wrth bennu'r gyfradd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod tâl yn gymesur â chost yr arhosiad. Ymhlith y ffactorau eraill y gellid eu hystyried wrth bennu cyfradd mae'r hinsawdd facroeconomaidd ehangach a pherfformiad yr economi ymwelwyr. Er enghraifft, pe bai twf yn yr economi ymwelwyr, gallai fod yn well pennu cyfradd uwch ond, pe bai dirywiad, mae'n bosibl y byddai'n well pennu cyfradd is. Mae'n well pennu'r gyfradd yn fewnol i ddechrau er mwyn rhoi sicrwydd a chysondeb i'r broses o roi'r ardoll ar waith am gyfnod penodedig. Fodd bynnag, byddai'n well cael pwynt adolygu er mwyn sicrhau y bydd unrhyw daliadau'n parhau i fod yn gymesur ac yn gytbwys.

Fel y nodwyd eisoes, mae'n debygol y bydd elastigeddau'n amrywio fesul ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod mannau poblogaidd o fewn ardaloedd awdurdodau lleol sy'n denu llawer o ymwelwyr tymhorol. Yn ystod ein trafodaethau, gofynnwyd a ddylai fod amrywiadau o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, pe bai'r cyfraddau'n cael eu pennu'n lleol. Gallai hyn alluogi awdurdodau lleol i benderfynu pa gyfraddau a all fod yn briodol yn dibynnu ar leoliad daearyddol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y byddai hyn yn creu cymhlethdod ychwanegol yn y gwaith o ddylunio a gweinyddu ardoll. Y rheswm dros hyn yw y byddai'n arwain at newidynnau ychwanegol, gan wneud unrhyw waith cyfrifo, a'r broses o gadarnhau cywirdeb unrhyw ffurflen, yn fwy cymhleth. Ni chredwn fod rhinweddau amrywiadau o fewn ardaloedd lleol yn drech na'r costau a'r cymhlethdod posibl a fyddai'n gysylltiedig â galluogi hyn. Felly, y sefyllfa a ffefrir gennym yw peidio â galluogi amrywiadau o fewn ardaloedd lleol ac y bydd yr un gyfradd neu gyfraddau'n gymwys, beth bynnag fo'r lleoliad daearyddol o fewn ardal awdurdod lleol.

Un ffactor ychwanegol i'w ystyried yw TAW ac effaith hyn ar gyfanswm cost aros dros nos. Codwyd mater TAW yn ystod ein trafodaethau â darparwyr llety ymwelwyr a sefydliadau sy'n eu cynrychioli, gan fod cyrchfannau ymwelwyr eraill ledled Ewrop yn codi cyfradd TAW is ar gyfer llety ymwelwyr. Yn y DU, codir TAW ar gyfradd safonol o 20% ar gyfer llety ymwelwyr. Fodd bynnag, mae'r DU hefyd yn defnyddio trothwy TAW llawer uwch na chyrchfannau tebyg yn Ewrop, sydd o fudd i lawer o ddarparwyr llai yn y diwydiant am nad oes rhaid iddynt godi TAW ar gost y llety. Mae rhyddhad ardrethi busnes o fudd i lawer o ddarparwyr hefyd (Ardrethi Busnes yng Nghymru ar Busnes Cymru). Gellir codi TAW ar gyfanswm cost yr arhosiad gan gynnwys ar ardoll, fel y gwneir mewn gwledydd eraill. Llywodraeth y DU sy'n pennu cyfraddau a rheolau TAW, a byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau â swyddogion Llywodraeth y DU er mwyn deall sut y caiff yr ardoll arfaethedig ei drin at ddibenion TAW yn seiliedig ar unrhyw gynigion terfynol.

Caiff ymatebion ymddygiadol eu hystyried drwy gydol y broses o ddylunio'r ardoll ac wrth ystyried pa lefel o gyfradd a all fod yn briodol, a phwy a ddylai ei phennu. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd elastigeddau pris yn amrywiol, ac felly gall fod yn fuddiol i awdurdodau lleol allu pennu eu cyfraddau eu hunain. Byddai hyn yn rhoi mwy o annibyniaeth i awdurdodau lleol ac yn helpu i liniaru unrhyw effeithiau anfwriadol ar ymddygiad yn sgil pennu cyfradd nad yw'n cyd-fynd â'r elastigeddau pris ar gyfer yr ardal honno. Fodd bynnag, mae hyn yn peri risg o gael clytwaith o wahanol gyfraddau rhwng ardaloedd yng Nghymru. Gallai hyn fod yn gymhleth wrth weinyddu'r ardoll a'i roi ar waith. Hefyd, gallai'r gofyniad i dalu cyfraddau gwahanol yn dibynnu ar y cyrchfan beri dryswch i ymwelwyr â Chymru. Byddai hefyd yn cynyddu cymhlethdod gweinyddol i fusnesau sy'n gweithredu mewn mwy nag un awdurdod lleol wrth gyflwyno ffurflenni treth.

Pe bai awdurdodau lleol yn cael annibyniaeth i bennu cyfraddau, gellid cyflwyno terfynau uchaf ac isaf (ystodau) ar gyfer gwneud hynny. Er enghraifft, gallai awdurdodau lleol ddewis rhoi premiymau'r dreth gyngor ar waith ar gyfer mathau penodol o eiddo hyd at uchafswm canran o'r tâl safonol. Gellid pennu hyn o fewn fframwaith cenedlaethol neu ganiatáu disgresiwn lleol. At ddibenion ardoll ymwelwyr, gallai ystod fod yn seiliedig ar 50% yn uwch neu'n is na chyfradd benodedig. Er enghraifft, gallai ardoll fesul person, fesul noson o £1 gael ei amrywio yn lleol rhwng £0.50 a £1.50. Neu gallai tâl a bennir ar sail 2% o gost y llety gael ei amrywio'n lleol yn yr un modd (1 pwynt canran yn uwch neu'n is) rhwng 1% a 3%. Byddai hyn yn galluogi amrywiadau lleol ond o fewn fframwaith penodedig er mwyn sicrhau cysondeb. Byddai hyn yn darparu ar gyfer unrhyw amrywiadau lleol o ran sensitifrwydd i brisiau ac yn annog mwy o wneud penderfyniadau yn lleol. Fel man cychwyn, er mwyn sicrhau symlrwydd a chysondeb o ran rhoi'r ardoll ar waith, rydym yn cynnig defnyddio'r un gyfradd neu gyfraddau er mwyn rhoi'r ardoll ar waith yn gyson yn y gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol sy'n dewis ei ddefnyddio.

Y bwriad arfaethedig sy'n sail i'r polisi hwn yw galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ar ymwelwyr sy'n aros dros nos. Byddai'r ardoll yn gymwys o noson gyntaf yr arhosiad yn y llety. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd unigolion yn aros mewn llety ymwelwyr am gyfnodau amrywiol o amser o bosibl. Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n aros am fwy o amser yn cynnig budd economaidd ehangach i ardal. Felly, ein barn ni yw na ddylai'r ardoll fod yn gymwys mwyach ar ôl nifer penodol o nosweithiau. Mae llawer o wledydd eraill sy'n rhoi ardoll ar waith yn defnyddio terfyn uchaf lle y caiff cyfradd yr ardoll ei gostwng neu lle na fydd yn gymwys mwyach.  Er enghraifft, yn Ynysoedd Baleares, caiff y gyfradd ei gostwng 50% o nawfed diwrnod arhosiad yn yr un llety.  Yn Fflorens yn yr Eidal, ni chaiff y dreth gwesty ei chodi am fwy na saith noson yn olynol. Yn Catalonia, dim ond am saith noson gyntaf arhosiad y codir ardoll. Yn seiliedig ar ddata o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr 2019, bydd ymwelwyr domestig yn y DU yn aros dros nos am dair noson ar gyfartaledd. Bydd twristiaid rhyngwladol yn aros am saith noson ar gyfartaledd. Hoffem ddeall beth fyddai cap priodol lle na fyddai ardoll yn gymwys mwyach.

Ein dull o weithredu

Rydym yn cydnabod y dylai unrhyw gyfradd a bennir fod yn gymesur er mwyn osgoi unrhyw effeithiau andwyol ar ymddygiad, megis unigolion yn dewis peidio ag ymweld â Chymru. Mae'n bwysig penderfynu ar ba lefel i bennu'r gyfradd hon, ac mae'r ffactorau y dylid eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn yn bwysig hefyd.

Mae'r rhan fwyaf o ardaloedd sy'n defnyddio ardollau ymwelwyr yn dewis amrywio'r tâl yn unol â math/ansawdd neu gost y llety. Mae hyn yn sicrhau lefel o gymesuredd i unrhyw gyfradd a bennir ac yn helpu i sicrhau y caiff y dreth ei rhannu mewn ffordd flaengynyddol rhwng ymwelwyr, yn seiliedig ar y gallu i dalu.

Fel man cychwyn, er mwyn sicrhau symlrwydd a chysondeb o ran rhoi'r ardoll ar waith, rydym yn cynnig defnyddio'r un gyfradd neu gyfraddau er mwyn rhoi'r ardoll ar waith yn gyson yn y gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol sy'n dewis ei ddefnyddio. Rydym yn cydnabod y byddai'r gyfradd yn cael ei phennu ar adeg mewn amser ac o fewn cyd-destun penodol. Bydd amgylchiadau ac economïau yn amrywio dros amser ac felly byddai angen pwynt adolygu ar gyfer unrhyw gyfradd a bennir er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn briodol.

Hoffem ddeall eich barn ar yr hyn a fyddai'n gap priodol lle na fyddai ardoll ymwelwyr yn cael ei godi mwyach.

Cwestiynau

  1. Wrth bennu cyfradd, pa ffactorau a thystiolaeth y dylid eu hystyried er mwyn sicrhau bod cyfradd yr ardoll yn briodol? Er enghraifft, gallai hyn gynnwys elastigeddau pris ac incwm, galw tymhorol (ac felly newidiadau mewn prisiau) ac amgylchiadau economaidd ehangach.
  2. Wrth benderfynu pa gyfradd (neu gyfraddau) i'w phennu (neu eu pennu), a ddylid ystyried cyfradd sy'n gymesur â chost (neu fath/ansawdd) llety?
  3. Ar ôl sawl noson yn olynol y byddai'n briodol peidio â chodi'r ardoll ar unrhyw nosweithiau dilynol?
    1. 5 noson
    2. 7 noson
    3. 14 noson
    4. Nifer arall
  4. A ddylai'r un gyfradd neu gyfraddau fod yn gymwys ym mhob ardal awdurdod lleol yn hytrach na bod hyn yn cael ei benderfynu'n lleol?
  5. Pe bai'r gyfradd yn cael ei phennu'n lleol, a ddylai'r un gyfradd gael ei chodi beth bynnag fo'r lleoliad o fewn yr ardal awdurdod lleol?
  6. Pe bai'r gyfradd yn cael ei phennu'n lleol, a ddylid pennu cap neu ystod ar gyfer lefel y gyfradd y gellir ei chodi?
  7. Pa mor aml y dylid adolygu unrhyw gyfradd arfaethedig ar gyfer ardoll ymwelwyr?
    1. Bob blwyddyn
    2. Bob dwy flynedd
    3. Bob tair blynedd
    4. Bob pum mlynedd
    5. Arall

Cadw cofnodion a chyflwyno ffurflenni

Treth a hunanasesir fyddai'r math o ardoll a gynigir gennym. Mae hyn yn golygu y byddai'n ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr gadw cofnodion penodol er mwyn gallu cyfrifo hunanasesiad a chyflwyno ffurflenni treth (taliadau) i'r awdurdod treth perthnasol (naill ai awdurdod lleol neu awdurdod canolog). Ein nod yw dylunio'r ardoll mewn ffordd sy'n sicrhau cyn lleied â phosibl o faich gweinyddol ar fusnesau. Fel y trafodwyd yn gynharach yn yr ymgynghoriad hwn, byddai'r math o gyfradd yn effeithio ar y gofynion cadw cofnodion i fusnesau a'r manylion y byddai'n ofynnol iddynt eu cynnwys mewn ffurflenni a hunanasesir. Byddai'n rhaid i bawb dan sylw gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) (Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar Busnes Cymru) a chadw hyn mewn cof wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Byddai'r wybodaeth y bydd angen ei chasglu yn amrywio yn dibynnu ar y math o gyfradd a gyflwynir. Gall gofynion ychwanegol mewn perthynas ag esemptiadau olygu y bydd angen casglu gwybodaeth ychwanegol gan gwsmeriaid, megis natur eu harhosiad neu dystiolaeth a gyflwynwyd ac a gofnodwyd er mwyn galluogi esemptiad. Mae'r tabl canlynol yn rhoi amlinelliad o'r gofynion posibl o ran cadw cofnodion. Nid yw'n hollgynhwysfawr ac mae'n dibynnu ar ddyluniad terfynol y polisi:

Tabl 1: Gofynion o ran Cadw Gwybodaeth ar gyfer Darparwyr Llety Ymwelwyr
Math o Gyfradd Gwybodaeth ychwanegol y gall fod angen ei chasglu, ei chadw a/neu ei chyflwyno
Ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety
  • Math o lety
  • Nifer yr ystafelloedd a osodir fesul archeb
  • Yr ardoll a godir fesul archeb
  • Nifer yr archebion
  • Nifer yr archebion a gaiff eu hesemptio a'r rhesymau dros esemptio* (pe bai esemptiadau'n cael eu rhoi ar waith)
  • Cyfanswm yr ardoll a gesglir 
  • Unrhyw ad-daliadau ardoll a roddir oherwydd canslo
Ardoll fesul person, fesul noson
  • Math o lety
  • Nifer yr unigolion sy'n aros fesul archeb
  • Cyfradd yr ardoll a godir
  • Nifer yr archebion a gaiff eu hesemptio a'r rhesymau dros esemptio* (pe bai esemptiadau'n cael eu rhoi ar waith)
  • Cyfanswm yr ardoll a gesglir
  • Unrhyw ad-daliadau ardoll a roddir oherwydd canslo
Ardoll ar sail canran o'r tâl am lety
  • Math o lety
  • Nifer yr archebion
  • Cyfradd pob ystafell neu lety
  • Cyfradd yr ardoll a godir (yn seiliedig ar gyfrifo'r ganran a'i chymhwyso at gyfradd sylfaeno yr ystafell, heb gynnwys taliadau am wasanaethau ychwanegol megis bwyd a diod)
  • Cyfradd sylfaenol yr ystafell (heb gynnwys taliadau ychwanegol megis bwyd a diod)
  • Nifer yr archebion a gaiff eu hesemptio a'r rhesymau dros esemptio* (pa bai esemptiadau'n cael eu rhoi ar waith)
  • Cyfanswm yr ardoll a gesglir
  • Unrhyw ad-daliadau ardoll a roddir oherwydd canslo

* Byddai esemptiadau'n cael eu cadarnhau fel rhan o'r broses o gadarnhau'r cynigion polisi terfynol gyda chymorth yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn. Rydym wedi tynnu sylw at rai senarios lle rydym wedi nodi'r sefyllfa a ffefrir gennym. Felly, yn seiliedig ar fodel rhagdybiedig, byddai angen i wybodaeth nodi niferoedd yr archebion sydd wedi'u hesemptio ac i ba gategori y maent yn perthyn er mwyn sicrhau bod taliadau'r ardoll yn gywir.

Ein dull o weithredu

Mae'r math o ardoll a gynigir gennym yn seiliedig ar fodel treth a hunanasesir. Mae hyn yn golygu y bydd angen i fusnesau gadw cofnodion penodol er mwyn dangos cywirdeb unrhyw ffurflen dreth a hunanasesir. Mae hyn yn sicrhau uniondeb y system dreth drwy alluogi'r awdurdod treth i gadarnhau cywirdeb unrhyw daliadau a cheisio atal unrhyw un rhag osgoi neu efadu ei rwymedigaethau treth yn fwriadol.

Rydym yn cydnabod y byddai rhoi ardoll ar waith yn arwain at gostau gweinyddol i ddarparwyr llety ymwelwyr, gan gynnwys costau uwch yn sgil y canlynol: amser staff i weinyddu'r gwaith cadw cofnodion ychwanegol, newidiadau i systemau TG, newidiadau cyfrifyddu neu newidiadau i brosesau gweithredu eraill. Rydym yn cydnabod y bydd cyfle wrth ddylunio'r ardoll i sicrhau cyn lleied â phosibl o faich gweinyddol ar ddarparwyr llety ymwelwyr. Rydym yn awyddus i ddeall y costau posibl mewn mwy o fanylder er mwyn helpu i lywio'r broses o ddylunio'r polisi.

Byddai effaith ffurflenni a hunanasesir yn amrywio yn dibynnu ar y trefniadau presennol, seilwaith, a'r systemau y mae busnesau eisoes wedi'u rhoi ar waith er gyfer rheoli eu cyllid. Rydym yn ffafrio osgoi cael un adeg allweddol ar ddiwedd y flwyddyn i fusnesau a'r awdurdod treth. Hefyd, byddai cyflwyno ffurflenni yn amlach yn golygu y byddai modd cadw data mwy cyfredol, y byddai mwy o amser i ddatrys gwallau ac y byddai data'n cael eu cofnodi'n fwy prydlon at ddibenion gweinyddol. Felly, mae'n debygol y byddai cyflwyno ffurflenni yn amlach yn fwy buddiol i'r gwaith o weinyddu'r ardoll i bawb dan sylw. Byddai hyn yn golygu bod modd rhoi mwy o gymorth i fusnesau drwy gydol y flwyddyn wrth weinyddu'r ardoll. Ar y llaw arall, gall cyflwyno ffurflenni yn amlach fod yn feichus i rai busnesau.

Cwestiynau

  1. Yn Nhabl 1, rydym wedi amlinellu'r gofynion cadw cofnodion posibl i fusnesau yn seiliedig ar wahanol fathau o gyfraddau. Er mwyn ein helpu i ddeall y gofynion cadw cofnodion posibl i fusnesau yn fanylach, a fyddech cystal ag amlinellu pa wybodaeth y byddai angen i ddarparwyr llety ymwelwyr ei chasglu a'i chadw yn eich barn chi ar gyfer:
    1. Ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety
    2. Ardoll fesul person, fesul noson
    3. Ardoll ar sail canran o'r tâl am lety
  2. Rydym yn awyddus i ddeall effaith casglu a chofnodi'r wybodaeth a nodir yn Nhabl 1 (ac unrhyw wybodaeth arall a nodwyd gannych mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol) er mwyn helpu i hunanasesu'r atebolrwydd i dalu'r dreth. Beth fyddai effeithiau casglu'r wybodaeth hon ar adnoddau (amser staff a'r costau sy'n gysylltiedig â gwneud newidiadau i unrhyw brosesau a systemau)?
    1. Sut y gellid casglu'r data hyn (a oes proses neu system eisoes ar waith y gellid ei defnyddio fel rhan o'r broses archebu)?
  3. Pa mor aml y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr gyflwyno ffurflenni treth hunanasesu ar gyfer ardoll ymwelwyr, gan nodi y gall fod modd caniatáu eu cyflwyno'n amlach pe bai hynny'n addas i'r busnes?
    1. Misol
    2. Chwarterol
    3. Ddwywaith y flwyddyn
    4. Bob blwyddyn

Gorfodi a chydymffurfio

Yng Nghymru, rydym yn gweinyddu ein trethi ar egwyddor ymddiriedaeth a chyd-barch rhyngom ni â'n cymunedau. Rydym yn deall y bydd y rhan fwyaf o bobl am dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir. Un o'n prif nodau, fel yn achos unrhyw dreth, yw sicrhau lefel uchel o gydymffurfiaeth wirfoddol, a byddem yn bwriadu cyflawni hyn drwy ddylunio'r ardoll mewn ffordd sy'n gweithio'n dda i'n cymunedau. Fodd bynnag, byddai angen gallu troi at fesurau cydymffurfio a gorfodi, gan gynnwys cosbau, er mwyn sicrhau tegwch.

Er mwyn rhoi'r ardoll ar waith, byddai angen i'r awdurdod treth perthnasol allu adnabod darparwyr llety ymwelwyr yn ardal yr awdurdod lleol sy'n atebol i gasglu a thalu'r ardoll. Darparwyr llety ymwelwyr fyddai'n gyfrifol yn y pen draw am gasglu'r ardoll a chyflwyno ffurflenni. Byddem yn dewis addysgu pobl a chodi ymwybyddiaeth wrth roi'r ardoll hwn ar waith, er mwyn helpu busnesau i ddeall eu gofynion. Er y byddem yn rhoi cymorth yn y lle cyntaf, rydym yn cydnabod y gall rhai trethdalwyr wneud pethau yn anghywir, ac mae'n bosibl y bydd achosion o osgoi trethi yn fwriadol neu hyd yn oed efadu trethi. Byddai cofnodion sydd eisoes yn bodoli yn helpu i gefnogi'r broses adnabod er mwyn gallu hysbysu'r busnesau hynny sy'n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau i hunanasesu a thalu'r swm cywir o dreth, a chymryd camau yn eu herbyn. Byddai angen i'r awdurdod treth gael adnoddau a phwerau perthnasol – ynghyd â mesurau diogelu priodol – er mwyn sicrhau y caiff y swm cywir o dreth ei dalu a mynd i'r afael ag ymddygiad megis osgoi ac efadu.

Mae defnyddio system gosbi sy'n seiliedig ar ddirwyon yn y lle cyntaf yn osgoi troseddoli unigolion, ond gall fod yn ddull atal effeithiol er mwyn diogelu uniondeb y system dreth ac annog trethdalwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau. Mae hyn yn hybu triniaeth deg i drethdalwyr gan y byddai'r rhai sydd wedi talu eu trethi dan anfantais o gymharu â'r rhai na fyddant wedi'u talu. Hefyd, mae'r gosb ariannol yn atal y troseddwr ac eraill rhag ymddwyn yn debyg. Gellir defnyddio hyn fel rhan o ddull gorfodi ochr yn ochr â chamau i adennill unrhyw drethi heb eu talu a chodi llog ar symiau a delir yn hwyr. Fodd bynnag, gall cosb sifil sy'n rhy uchel fod yn anghymesur ac arwain at anawsterau ariannol i drethdalwyr. Gall hyn, yn ei dro, effeithio ar allu'r busnes i weithredu'n effeithiol lle y bydd cosbau'n effeithio ar gyfrifon ac yn arwain o bosibl at anallu i dalu cyflenwyr a staff pan fydd dirwyon yn cronni. Mae'n bosibl na fyddai cyfundrefn cosbau sifil yn unig, neu gyfundrefn â chosbau sy'n rhy isel, yn gwbl effeithiol o ran atal pobl sy'n ystyried osgoi neu efadu trethi rhag gwneud hynny.

Ymhlith y pwerau gorfodi posibl i'r awdurdod treth mae:

  • Pwerau arolygu a gwybodaeth sifil, gan gynnwys pwerau i ymchwilio i ffurflenni treth, archwilio cofnodion a gedwir gan ddarparwyr llety ymwelwyr, ac arolygu safleoedd
    • Byddai hyn yn galluogi'r awdurdod treth i ganfod unrhyw driniaeth dreth anghywir neu wahaniaethau rhwng yr ardoll a gesglir a'r ardoll a hunanasesir ac a delir
  • Pwerau sifil i godi llog, rhoi cosbau ac adennill treth heb ei thalu, os bydd darparwr llety ymwelwyr yn peidio â chyflawni ei rwymedigaethau statudol mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr. Fel arfer, mae'r rhwymedigaethau hyn yn cynnwys cadw cofnodion cywir, cyflwyno ffurflenni a thalu treth ar amser, a chydymffurfio â hysbysiadau gwybodaeth/arolygu ffurfiol gan yr awdurdod treth.
    • Byddai hyn yn sicrhau tegwch ac yn atal unrhyw un sy'n gobeithio osgoi neu efadu casglu, codi a thalu'r ardoll rhag gwneud hynny
  • Pwerau disgresiynol i ryddhau o ddyled, er enghraifft y gallu i leihau dyled i ddim neu i beidio â rhoi cosb
    • Mae'n bosibl y bydd amgylchiadau lle y bydd darparwr yn wynebu anhawster ariannol, neu efallai y bydd gan unigolyn salwch difrifol sy'n ei atal rhag cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas ag ardoll ymwelwyr. Byddai pwerau disgresiynol i ryddhau o ddyled yn fodd i drin trethdalwyr mewn ffordd fwy priodol yn y senarios hyn.

Byddai angen i bwerau a roddir i'r awdurdod treth gael eu cyflwyno ochr yn ochr â mesurau priodol i ddiogelu trethdalwyr, gan gynnwys hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a threfniadau ar gyfer gwneud iawn.

Ein dull o weithredu

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o drethdalwyr yn ceisio cyflawni eu rhwymedigaethau ac yn parchu rheolaeth y gyfraith ynghylch trethi. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau effeithiolrwydd unrhyw system dreth, mae'n ofynnol i'r awdurdod treth gael y pwerau digonol i blismona'r system er mwyn atal pobl rhag osgoi, efadu neu dwyllo pwrs y wlad a chanfod y rhai sy'n ceisio gwneud hynny. Rydym wedi amlinellu'r angen am bwerau i ymchwilio a rhoi cosbau sifil er mwyn gorfodi ardoll ymwelwyr yn effeithiol.

Cwestiynau

  1. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ardoll, mae'n debygol y byddai angen i'r awdurdod treth gael y pwerau gorfodi canlynol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r pwerau a restrir?
    1. Pwerau arolygu a gwybodaeth sifil, gan gynnwys pwerau i ymchwilio i ffurflenni treth, archwilio cofnodion a gedwir gan ddarparwyr llety ymwelwyr, ac arolygu safleoedd
    2. Pwerau sifil i godi llog, rhoi cosbau ac adennill treth heb ei thalu, os bydd darparwr llety ymwelwyr yn peidio â chyflawni ei rwymedigaethau statudol mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr
    3. Pwerau disgresiynol i ryddhau o ddyled, er enghraifft y gallu i leihau dyled i ddim neu i beidio â rhoi cosb dan amgylchiadau penodol

Defnyddio refeniw

Un maes pwysig y mae angen ei ystyried yw sut y gellir defnyddio'r refeniw a geir yn sgil ardoll ymwelwyr (gan gynnwys unrhyw refeniw a geir drwy'r gyfundrefn gosbi gysylltiedig). Bydd y potensial i gynhyrchu refeniw yn amrywio fesul ardal awdurdod lleol yn unol â maint yr economi ymwelwyr (ac felly nifer yr ymwelwyr). Er enghraifft, gall ardoll fesul person, fesul noson o £1 gynhyrchu miliynau i awdurdod lleol ag economi ymwelwyr fawr, ond miloedd yn unig i un sy'n cael nifer llawer llai o ymweliadau. Mae amcangyfrif cychwynnol ar gyfer Cymru gyfan wedi cael ei gynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol rhannol. Caiff gwaith modelu refeniw pellach ei wneud wrth i unrhyw gynigion gael eu datblygu er mwyn llunio amcangyfrifon manylach.

Un pwynt allweddol yw ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ddefnyddio unrhyw arian a godir drwy'r ardoll i ariannu gwariant awdurdodau lleol. Archwiliodd y baromedr twristiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 gwestiwn a ofynnwyd i fusnesau twristiaeth am y ffordd y gellid defnyddio refeniw o ardoll ymwelwyr (Baromedr Twristiaeth: cam yr Mehefin 2022 ar LLYW.CYMRU). Mae amrywiaeth yr ymatebion yn dangos y bydd materion lleol yn amrywio, ond dywedodd 45% o'r ymatebwyr y dylai refeniw fynd tuag at seilwaith cyhoeddus (er y dylid pwysleisio bod 19% wedi gwrthod ymateb am eu bod yn gwrthwynebu'r ardoll mewn egwyddor). Tynnodd y rhai a wnaeth ymateb sylw at yr angen i fuddsoddi mewn toiledau, ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a meysydd parcio. Hefyd, gwnaed rhai awgrymiadau ynglŷn â marchnata'r ardal mewn ffordd a arweinir yn fwy lleol. Yn ogystal â hynny, roedd rhai yn cydnabod y byddai'n fuddiol buddsoddi yn y gymuned leol, er enghraifft er mwyn mynd i'r afael â phrinder sgiliau yn lleol a chefnogi mentrau cyflogaeth. Mae'n debygol mai'r canlyniad delfrydol fyddai i unrhyw wariant amrywio fesul cyrchfan.

Mae rhai ardaloedd yn rhyngwladol yn defnyddio refeniw o'u hardoll ymwelwyr i ariannu mentrau trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy lleol. Er enghraifft, troi'r stoc bresennol o drafnidiaeth gyhoeddus yn opsiynau mwy ecogyfeillgar megis cerbydau trydan, a gwella hygyrchedd a chysylltedd cyrchfannau er mwyn annog mwy o ddefnydd o'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. Byddai defnyddio refeniw fel hyn yn helpu i gyflawni nodau cynaliadwyedd ehangach ac uchelgeisiau i gyrraedd sero net. Mae'n bosibl y bydd angen rhoi mwy o flaenoriaeth i fentrau lleol eraill, megis cynyddu neu hyrwyddo ymdrechion twristiaeth adfywiol. Yn y pen draw, bydd yr heriau'n amrywio fesul cyrchfan ac felly mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ddeall sut y dylid dyrannu refeniw.

Roedd y cysyniad o ‘neilltuo’ yn un a godwyd yn aml yn ein trafodaethau â'r diwydiant twristiaeth. Mae ardollau ymwelwyr ledled y byd yn tueddu i ddefnyddio dull ‘wedi'i neilltuo’ (wedi'i glustnodi) ar gyfer gwario refeniw a godir. Yn rhyngwladol, er enghraifft yn Ffrainc (Tourist tax in France: taxe de séjour). caiff refeniw o ardollau ymwelwyr yn aml ei neilltuo'n fras at ddibenion twristiaeth a'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae rhai cyrchfannau'n dewis gwario refeniw ar brosiectau neu fentrau penodol – un enghraifft dda o hyn yw Ardoll Cadwraeth Ymwelwyr Rhyngwladol a Thwristiaeth yn Seland Newydd (International Visitor Conservation and Tourism Levy). Gellir neilltuo mewn ffordd fras iawn neu mewn ffordd benodol iawn; byddai'r dulliau o roi hyn ar waith yn amrywio graddau'r rheolaeth ar wariant gan awdurdodau lleol (Combined authorities: Financial freedoms and devolution Cymdeithas Llywodraeth Leol). Er enghraifft, byddai dull bras yn caniatáu mwy o gwmpas o ran y ffordd y caiff refeniw ei wario, a byddai dull penodol yn cyfyngu'r gwariant i weithgareddau neu brosiectau penodol.

Nid yw trethu wedi'u neilltuo o reidrwydd yn fuddiol bob amser oherwydd gallant gyfyngu ar y gallu i benderfynu a blaenoriaethu sut y caiff refeniw ei wario yn lleol. Caiff awdurdodau lleol eu hethol yn ddemocrataidd ac maent yn atebol i'r boblogaeth leol, sy'n golygu bod angen gwneud penderfyniadau heriol ynghylch dyrannu adnoddau. Yn ymarferol, byddai'r lefel o dreth a gaiff awdurdodau lleol yn amrywiol a gallai'r cyd-destun economaidd ehangach arwain at dderbynebau treth is neu uwch. Felly, ni fyddai cysylltu gwariant ar faes neu wasanaeth penodol â threth benodol o reidrwydd yn effeithio ar gyfanswm y gwariant ar gyfer y maes hwnnw (Hypothecated taxation ar parliament.uk). Nid yw systemau trethu cyffredinol yn addas ar gyfer y ffordd hon o weithredu oherwydd caiff refeniw ei gydgasglu ac yna ei ddosbarthu yn unol â blaenoriaethau. Hefyd, gall gwariant mewn un maes fod o fudd anuniongyrchol neu uniongyrchol i faes arall. Er enghraifft, gall mentrau cyflogaeth lleol fod o fudd i'r sector twristiaeth drwy arwain at fwy nag un ymgeisydd mentrus ar gyfer swyddi. Neu, gall gwariant ar fentrau amgylcheddol wneud yr ardal yn lanach ac yn fwy croesawgar i ymwelwyr, a all roi hwb i dwristiaeth a llesiant trigolion ac ymwelwyr. Nid yw cyfyngu gwariant i un maes bob amser yn arwain at ganlyniad delfrydol. Felly, gall neilltuo gyfyngu ar y gallu i wneud penderfyniadau yn lleol, a gwneud penderfyniadau yn lleol a all arwain at ganlyniadau gwell.

Fodd bynnag, gallai neilltuo arwain at well ymwybyddiaeth o ddibenion yr ardoll (lle y caiff refeniw ei neilltuo at ddibenion twristiaeth) a gall greu cysylltiad cliriach rhwng yr ardoll a'r gwasanaeth a ddarperir (Hypothecated taxation ar parliament.uk). Mae hyn yn helpu i ategu'r negeseuon i ymwelwyr a thrigolion gan fod cysylltiad cryfach rhwng yr ardoll a'r gwasanaethau a ddarperir.

Yn fwy cyffredinol, mae uchelgeisiau o ran datblygu cynaliadwy yn croesi sawl maes gwariant. Felly, rydym yn cynnig y byddai'n fuddiol i awdurdodau lleol gadw pwerau i wneud penderfyniadau yn lleol ynghylch sut y gellir dyrannu refeniw. Fodd bynnag, dylai hyn fod yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r egwyddorion datblygu cynaliadwy (Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol: yr hanfodion ar LLYW.CYMRU).

Ein dull o weithredu

Bwriedir i refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei ailfuddsoddi'n lleol er mwyn cefnogi'r economi ymwelwyr leol. Rydym yn cydnabod y bydd y ffordd orau o wario refeniw o unrhyw ardoll ymwelwyr yn amrywio fesul ardal leol, a bydd blaenoriaethau gwario a'r galw yn amrywio fesul lleoliad. Hoffem glywed eich barn ar y ffordd y dylid defnyddio refeniw yn eich ardal leol er budd yr economi ymwelwyr leol.

Hefyd, nodwn fod clustnodi (neilltuo) wedi codi'n barhaus yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu. Fel y pwysleisiwyd, nid ydym yn ffafrio clustnodi oherwydd gall gyfyngu ar y gallu i wneud penderfyniadau yn lleol a phennu blaenoriaethau gwario lleol y mae swyddogion a etholwyd yn lleol yn atebol amdanynt.

Cwestiynau

  1. Sut y dylai refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei wario?
  2. A ddylai'r refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei neilltuo (ei glustnodi)?

Tryloywder ac ymgysylltu

Credwn yn egwyddorion cydgynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth gadarn â'n cymunedau a'n diwydiannau ledled Cymru. Mae gan ein cymunedau lleol wahanol anghenion, a bydd blaenoriaethau a phenderfyniadau ynghylch gwariant yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. O ran yr ardoll hwn, mae gwersi a ddysgwyd o ardaloedd eraill megis Ynysoedd Baleares  yn pwysleisio pwysigrwydd manteisio at bartneriaethau lleol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut y gellir gwario refeniw. Gall fforymau lleol a'r partneriaethau sydd eisoes yn bodoli fod yn sail ddefnyddiol ar gyfer ymgysylltu ynglŷn â gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau a mentrau posibl a allai fod yn gysylltiedig â refeniw a godir drwy'r ardoll arfaethedig.

Ar ben hynny, rydym yn ymrwymedig i egwyddor tryloywder er mwyn cefnogi atebolrwydd a dealltwriaeth o'r ffordd y mae ein trethi'n gweithio. Mae awdurdodau lleol eisoes yn cyflwyno adroddiadau ar eu cyllid bob blwyddyn drwy ddatganiad blynyddol o gyfrifon, a byddai unrhyw refeniw a geir drwy ardoll ymwelwyr yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau hyn. Serch hynny, nodwn fod cyfle i lunio adroddiadau pwrpasol ar yr ardoll newydd hwn. Er enghraifft, gallai adroddiad ar wahân ddisgrifio pa refeniw a godwyd a chynnig asesiad ansoddol o'r hyn y mae'r refeniw ychwanegol wedi galluogi'r awdurdod lleol i'w wneud. Gallai adroddiad pwrpasol amlinellu prosiectau, mentrau neu fanteision penodol y mae'r refeniw ychwanegol wedi'u galluogi, er mwyn dangos effeithlonrwydd yr ardoll. Gellid cyflwyno'r adroddiad hwn bob blwyddyn yn unol â'r flwyddyn ariannol.

Byddai llunio adroddiad i ddangos pa refeniw a godwyd a'r hyn y mae wedi galluogi awdurdodau lleol i'w gyflawni yn helpu i ddeall manteision ardoll ymwelwyr lle y caiff ei gyflwyno. Byddai angen archwilio manylion unrhyw adroddiad ymhellach a byddem am sicrhau bod adroddiad yn ychwanegu gwerth yn hytrach na baich gweinyddol. Rydym yn cynnig y byddai unrhyw adroddiadau'n safonedig er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu'n gyson.

Mae'n debygol y byddai ein hymwelwyr yn awyddus iawn i ddeall pam mae angen iddynt dalu ardoll, pwy sy'n ei gasglu ac ar beth y caiff y refeniw ei wario. Byddai argaeledd a thryloywder gwybodaeth yn bwysig wrth esbonio sail resymegol a manteision yr ardoll. Mae'n bosibl y bydd adegau amrywiol pan fydd modd rhannu gwybodaeth ag ymwelwyr, er enghraifft ar adeg archebu, wrth gyrraedd y llety neu wrth dalu'r ardoll.

Hefyd, rydym yn cydnabod, pe bai awdurdod treth (boed yn awdurdod lleol enwebedig neu Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdodau lleol eraill, y byddai angen ystyried y trefniadau llywodraethu ac adrodd ymhellach. Er enghraifft, byddai angen i drefniadau atebolrwydd a goruchwylio a chostau gweinyddol i gyd gael eu hystyried ymhellach. Mae'r rhain eisoes yn bodoli ar gyfer awdurdodau lleol ac Awdurdod Cyllid Cymru. Fodd bynnag, pe bai gwasanaeth yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn gweinyddu'r dreth hon, yna byddai angen trefniadau llywodraethu a goruchwylio digonol i reoli'r trefniant hwn. Bydd angen datblygu'r manylyn ychwanegol hwn wrth i'r cynigion gael eu datblygu gan ddefnyddio gwybodaeth ac ymatebion o'r ymgynghoriad hwn. Felly, nid ydym wedi cynnig unrhyw drefniadau penodol drwy'r ymgynghoriad hwn ar gyfer y posibilrwydd y bydd awdurdod treth yn gwneud gwaith gweinyddol ar ran awdurdodau lleol eraill, ond rydym yn cydnabod y bydd angen cynnal trafodaethau pellach ynglŷn â llywodraethu wrth i'r cynigion gael eu datblygu.

Ein dull o weithredu

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ymgysylltu ar lefel fwy leol wrth ystyried y ffordd orau o ddefnyddio refeniw o ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Gall cydberthnasau, partneriaethau a fforymau sydd eisoes yn bodoli fod yn fodd i ymgysylltu’n lleol.

Hefyd, mae trefniadau adrodd presennol awdurdodau lleol mewn perthynas â chyllid yn cynnig ffordd o adrodd ar yr ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, gan mai'r bwriad yw i'w ardoll fod o fudd i'r economi ymwelwyr, y byddai adroddiadau mwy pwrpasol a gwerthusiadau lleol yn gwella ymwybyddiaeth o fanteision ardoll a thryloywder ynglŷn â'r ffordd y caiff ei ddefnyddio. Rydym yn cynnig y byddai gofynion adrodd yn cael eu safoni rhwng pob awdurdod lleol a'u pennu drwy'r fframwaith treth (fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth). Mae hyn yn sicrhau dull gweithredu cyson.

Gan ei bod yn annhebygol y bydd ymwelwyr wedi talu'r math hwn o dreth o'r blaen yn y DU, byddai'n ofynnol bod gwybodaeth ar gael yn hawdd er mwyn i ymwelwyr ddeall dibenion a manteision ardoll ymwelwyr a godir yn lleol, a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio.

Cwestiynau

  1. Pa weithgarwch ymgysylltu lleol a ddylai ddigwydd wrth benderfynu sut y caiff refeniw ei ddyrannu?
  2. A ddylai fod adroddiad blynyddol ar wahân sy'n nodi'r refeniw a gasglwyd a manteision ardoll ymwelwyr ar lefel leol?
  3. Rydym yn cynnig y byddai trefniadau adrodd ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu nodi yn y fframwaith treth er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu'n gyson. Ydych chi'n cytuno â’r dull gweithredu hwn?
  4. Pa wybodaeth a ddylai fod ar gael i ymwelwyr am yr ardoll?

Amserlenni gweithredu

Fel y nodwyd, mae'r cynigion a gyflwynir yma yn yr ymgynghoriad yn rhagweld y caiff fframwaith ar gyfer ardoll ymwelwyr ei sefydlu, ac yna y caiff awdurdodau lleol ddewis a fyddant yn rhoi ardoll ar waith ai peidio. Gall y broses o greu, pasio a gweithredu deddfwriaeth gymryd blynyddoedd. Mae hyn yn gyfle i graffu'n effeithiol a chasglu tystiolaeth er mwyn helpu i lywio penderfyniadau.

Gan y byddai angen i bob awdurdod lleol benderfynu a hoffai roi ardoll ar waith ac, os felly, pryd, mae'n bwysig ein bod yn sefydlu trefniadau ac amserlenni pontio clir. Gall gymryd blynyddoedd i gynigion gael eu rhoi ar waith. Byddai unrhyw gynlluniau i'w cyflwyno'n lleol yn cael eu rhannu mewn da bryd er mwyn gallu cynllunio'n effeithiol. Cynigir y byddai'r penderfyniad i roi'r ardoll ar waith yn destun gweithdrefnau gwneud penderfyniadau sefydledig awdurdodau lleol (e.e. pleidlais fwyafrifol gan y cyngor neu'r cabinet). Mae gan awdurdodau lleol eisoes amrywiaeth o ddisgwyliadau a gofynion statudol i'w hystyried fel rhan o'u cyfrifoldebau, h.y. deddfwriaeth cydraddoldeb, ystyriaethau o ran gwerth am arian, disgwyliadau gwleidyddol – gallai gofynion yr ardoll gael eu hymgorffori mewn prosesau sydd eisoes yn bodoli. Byddai asesiadau effaith lleol yn helpu i wneud penderfyniadau yn lleol ac maent eisoes yn rhan annatod o drefniadau llywodraethu lleol. Hoffem glywed pa ofynion eraill a all fod yn addas cyn i awdurdodau lleol ddewis cyflwyno'r ardoll. Er enghraifft, a ddylid cynnal ymgyngoriadau lleol cyn i benderfyniad gael ei wneud yn lleol ynghylch cyflwyno'r ardoll? Rydym yn cydnabod y gall hyn gynyddu costau, amser a chymhlethdod i awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd materion lleol unigryw i'w hystyried, a ddaw i'r amlwg drwy'r broses ymgynghori.

Rydym yn cydnabod bod hefyd angen tryloywder o ran y costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r ardoll arfaethedig. Mae'r fframwaith a'r gofynion statudol sydd eisoes yn bodoli yn golygu bod swyddogion cyfrifyddu eisoes yn cyflwyno adroddiadau ar gostau sy'n gysylltiedig â chasglu trethi drwy ddatganiadau blynyddol o gyfrifon. Byddai ystyriaethau ynghylch gwerth am arian yn rhan o'r broses benderfynu ar lefel leol. Byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno ar y costau parhaus sy'n gysylltiedig â gweinyddu ardoll drwy brosesau sydd eisoes yn bodoli. Os caiff trefniadau newydd eu rhoi ar waith (megis awdurdod treth yn gweinyddu'r ardoll neu elfennau o ardoll ar ran awdurdodau lleol eraill) yna bydd angen i drefniadau llywodraethu, goruchwylio ac adrodd priodol ar gyfer y costau gweinyddol gael eu hystyried ymhellach. Caiff y trefniadau llywodraethu eu datblygu'n fanylach wrth i'r cynigion polisi gael eu datblygu.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd darparwyr llety eisoes wedi cymryd archebion ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn yr ardal awdurdod lleol. Dan yr amgylchiadau hyn, byddem yn awyddus i osgoi unrhyw atebolrwydd treth sylweddol i ddarparwyr llety ymwelwyr. Mae'n bwysig pennu amserlenni gweithredu clir ar gyfer unrhyw ardoll ar lefel awdurdod lleol a rhoi canllawiau ar y ffordd y dylid trin archebion sydd eisoes wedi'u gwneud. Mae hyn yn seiliedig ar degwch oherwydd dylai'r darparwr llety ymwelwyr a'r ymwelydd fod yn ymwybodol o'r holl gostau sy'n gysylltiedig ag arhosiad wrth wneud archeb.

Gellid ystyried esemptio archebion a oedd eisoes wedi'u gwneud rhag bod yn destun ardoll. Nodir rhinweddau'r dull gweithredu hwn isod:

  • Er mwyn i archebion gael eu hesemptio, byddai angen i ddarparwyr llety ddangos pryd y cawsant eu cymryd. Byddai hyn yn osgoi atebolrwydd i dalu treth, ond gall fod yn anodd gorfodi hyn yn ymarferol am ei bod yn bosibl nad yw dyddiad yr archeb yn cael ei gofnodi'n rheolaidd. Mae'n bosibl y bydd angen datganiad gan ddarparwyr llety ymwelwyr ynglŷn ag archebion a oedd eisoes wedi'u gwneud a thystiolaeth i ategu unrhyw ddatganiad o'r fath.
  • Gallai peidio ag esemptio archebion arwain at atebolrwydd i dalu treth a gofyniad i roi gwybod i gwsmeriaid ei bod bellach yn ofynnol iddynt dalu ardoll. Nid ydym yn ffafrio hyn oherwydd gallai arwain at ganslo archebion ac mae'n bosibl ei fod yn groes i egwyddorion tegwch a thryloywder.
  • Ceir risg o gamddefnydd os caiff archebion a oedd eisoes wedi'u gwneud eu hesemptio. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd pobl sy'n ceisio osgoi eu hatebolrwydd i dalu trethi yn cymryd neu'n annog llawer o archebion am flynyddoedd i'r dyfodol er mwyn osgoi talu'r swm ychwanegol. Felly, mae'n bosibl y bydd angen terfyn priodol, er enghraifft dim ond esemptio archebion a wnaed ymlaen llaw yn ystod yr un flwyddyn ariannol â chyflwyno'r ardoll neu ran ohoni.

Cwestiynau

  1. Rydym yn cynnig y byddai awdurdodau lleol yn gallu penderfynu drwy brosesau llywodraethu lleol a fyddant yn cyflwyno ardoll ymwelwyr ai peidio. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r dull gweithredu hwn?
    • A ddylid cynnal ymgyngoriadau lleol cyn cyflwyno ardoll ymwelwyr?
  2. Pa drefniadau pontio y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer llety a archebwyd cyn i awdurdod lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr?
    • Sut y gellid dylunio'r trefniadau pontio mewn ffordd sy'n atal achosion o osgoi neu efadu trethi yn fwriadol?

Modelau gweithredu

Pan fydd y rheolau (fframwaith/deddfwriaeth) ar gyfer gweithredu ardoll wedi cael eu pennu, bydd yn bwysig ystyried sut y byddai'r awdurdod treth yn casglu ac yn gorfodi'r ardoll. Mae amrywiaeth o fodelau gweithredu ar gael y gellir eu hystyried ar gyfer rhoi'r ardoll ar waith a'i weinyddu. Ystyr rhoi'r ardoll ar waith yw'r systemau, y prosesau a'r canllawiau y bydd angen eu dylunio a'u gweithredu er mwyn gallu gweinyddu'r ardoll. Ystyr gweinyddu'r ardoll yw rôl yr awdurdod treth o ddydd i ddydd wrth weithredu'r ardoll, er enghraifft rheoli ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid, cymryd camau gorfodi, adennill dyledion, cadw cofnodion, gwneud ad-daliadau a rheoli prosesau apelio. Gall y modelau hyn amrywio o gael eu rhedeg yn gwbl leol gan yr awdurdod lleol, i fodel mwy canoledig. Gallai model gweithredu mwy canoledig, er enghraifft, olygu bod awdurdod treth canolog megis Awdurdod Cyllid Cymru neu awdurdod lleol neu gydwasanaeth dynodedig yn cyflawni swyddogaeth ar ran awdurdodau lleol eraill. Mae cydweithio mewn partneriaeth yn arfer gyffredin rhwng awdurdodau lleol, er enghraifft mae gan fodel Rhentu Doeth Cymru un cyngor dynodedig (Caerdydd) sy'n cynnal y gwasanaeth ac yn cadw cofrestr ganolog ar ran y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru (Beth yw Rhentu Doeth Cymru? ar Rhentu Doeth Cymru). Mae hyn yn cynnig un awdurdod trwyddedu i landlordiaid ryngweithio ag ef. Mae hyn yn sicrhau model gweithredu sy'n gweithio'n fwy effeithlon a phrofiad gwell i ddefnyddwyr.

Byddai model gweithredu cwbl leol yn golygu y byddai angen i bob awdurdod lleol sy'n dewis rhoi ardoll ar waith sefydlu'r systemau, y canllawiau a'r prosesau y bydd eu hangen i gyflwyno'r ardoll. Wedyn, byddai angen i'r awdurdodau hynny ddarparu'r adnoddau angenrheidiol i weinyddu'r ardoll yn barhaus. Mae teilyngdod i'r dull gweithredu hwn am fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ddeall beth sy'n gweithio'n dda i'w cymunedau lleol, a gallant deilwra eu dull gweithredu yn unol â hynny. Gallent ddefnyddio'r arbenigedd sydd eisoes ganddynt ym maes casglu refeniw, ac integreiddio'n ddi-dor rhwng casglu'r ardoll a defnyddio'r refeniw sy'n deillio ohono. Yn amlwg, bydd cyfle hefyd i gydgysylltu dulliau gweinyddu a gorfodi ar lefel leol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y trethi lleol presennol. Byddai hyn yn fodd i weld gweithgarwch treth lleol mewn ffordd gyfunol ac i ddeall amgylchiadau lleol mewn ffordd fwy cynhwysfawr. Fodd bynnag, pe bai sawl awdurdod lleol yn dymuno cyflwyno'r ardoll, byddai cyfle'n cael ei golli i gydgysylltu gweithgarwch a darparu gwasanaeth mwy costeffeithiol i'r trethdalwr gyda model mwy canoledig.

Byddai model gweithredu cwbl ganoledig yn golygu bod un awdurdod treth yn rhoi'r ardoll ar waith ac yn ei weinyddu ar ran yr holl awdurdodau lleol sy'n dewis ei gyflwyno. Felly, byddai'r system, y prosesau a'r canllawiau yr un fath ni waeth ym mha awdurdod lleol y byddai darparwr llety ymwelwyr wedi'i leoli. O safbwynt gweinyddol, byddai'r trethdalwr yn rhyngweithio ag un awdurdod a system. Mantais hyn yw y gellir ystyried atebolrwydd y trethdalwr i dalu'r ardoll mewn ffordd gyfannol, er enghraifft gall busnes fod yn darparu llety ymwelwyr o fewn awdurdodaeth mwy nag un awdurdod lleol. Byddai hyn hefyd yn golygu mai un pwynt cyflwyno ffurflenni, talu a rhyngweithio y byddai pob darparwr llety ymwelwyr yn ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae heriau'n gysylltiedig â model cwbl ganoledig, yn enwedig o safbwynt rheoli a gorfodi treth. Y rheswm dros hyn yw bod gwybodaeth a dealltwriaeth leol yn allweddol i weinyddu a gorfodi trethi lleol. Mae deall y cyd-destun lleol ac amgylchiadau unigol yn fodd i deilwra'r dull gweithredu a all arwain at brofiad gwell i'r trethdalwr. Mae'n bosibl y caiff y cyfle i ddilyn dull gweithredu wedi'i deilwra ei golli os bydd y gweithgarwch yn digwydd yn fwy canolog. Gall cyfrifon a darparwyr mwy gael eu blaenoriaethu o dan unrhyw fodel gweithredu canolog. Gallai hyn arwain at lefelau uwch o ddiffyg cydymffurfio neu wallau ymhlith darparwyr llai am fod adnoddau'n cael eu cyfeirio at ddarparwyr mwy. Hefyd, gallai mwy o annibyniaeth leol fod yn addas ar gyfer model gweithredu mwy lleol. Mae'n debygol y byddai mwy o amrywiadau yn y ffordd y caiff ardoll ei roi ar waith gan awdurdodau lleol yn golygu costau uwch a mwy o bosibilrwydd o wallau i unrhyw swyddogaeth ganolog sy'n gweinyddu'r ardoll (oherwydd y posibilrwydd o fwy o amrywiadau o ran rheolau a chyfraddau).

O safbwynt gweithredol, ceir teilyngdod i ddull cyfunol sy'n cyfuno gwybodaeth ar arbenigedd lleol, e.e. model gweithredu hybrid. Er enghraifft, mae'n gwneud synnwyr dylunio un system TG gyson ar gyfer gweithredu'r dreth hon yn hytrach na bod gan awdurdodau lleol fersiynau niferus wedi'u teilwra. Gallai'r prosesau TG gael eu gweinyddu'n ganolog neu eu cynnig ar ffurf llwyfan i awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan ei ddefnyddio. Fodd bynnag, gall gwybodaeth leol gynnig profiad gwell i'r trethdalwr wrth ddelio ag ymholiadau a rhoi cymorth, o ystyried y bydd awdurdodau lleol yn deall yr ardal yn well ac mewn sefyllfa well i ystyried y wybodaeth hon wrth weithredu'r dreth. Gallai deall amgylchiadau a busnesau lleol yn well olygu bod modd ymgysylltu â threthdalwyr mewn ffordd fwy priodol. Byddai union natur y model gweithredu gorau yn dibynnu ar unrhyw ddyluniad polisi terfynol a gallai olygu mwy neu lai o rôl i awdurdod canolog yn y gwaith o weinyddu'r dreth.

Byddai angen rhoi prosesau newydd ar waith, a systemau newydd hefyd o bosibl, er mwyn helpu i weinyddu ardoll ymwelwyr. Fel y nodwyd yn yr adran ar fframwaith treth yn yr ymgynghoriad hwn, ffefrir cysondeb o ran y ffordd y caiff yr ardoll hwn ei ddylunio a'i roi ar waith mewn gwahanol awdurdodau lleol. Mae gan awdurdodau lleol brofiad helaeth o gasglu trethi lleol ac maent wedi meithrin arbenigedd unigryw drwy wneud hynny. Fodd bynnag, mae cyfle i ddilyn dull gweithredu gwahanol os oes teilyngdod i wneud hynny ar gyfer ardoll lleol newydd. Mae cyfleoedd i wneud arbedion effeithlonrwydd posibl drwy roi prosesau a systemau canolog ar waith er mwyn helpu i weinyddu'r ardoll. Mae hyn yn gyfle i ddatblygu ffordd Gymreig o weinyddu trethi sy'n manteisio ar y cydweithio sydd eisoes yn digwydd rhwng awdurdodau canolog a lleol.

Gellid ystyried model posibl sy'n cyfuno arbenigedd a dealltwriaeth leol gyda systemau TG, seilwaith a chymorth canoledig. Mae trefniadau cydwasanaeth a phartneriaeth yn gweithio'n effeithiol mewn meysydd polisi eraill ac yn cyfuno cryfderau timau cyflawni lleol a chanolog. Gall y mathau hyn o drefniadau arwain at system sy'n gweithio mewn ffordd fwy costeffeithiol. Rydym yn ceisio barn ar yr egwyddor y bydd awdurdod canolog yn rhan o'r broses o roi'r ardoll ar waith, yn hytrach na chynnig model. Bydd hyn yn helpu i lywio penderfyniadau am y ffordd y gallai'r ardoll weithio o bosibl.

Ein dull o weithredu

Rydym yn cynnig y bydd cyfle i weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau treth canolog a lleol wrth roi'r ardoll arfaethedig hwn ar waith. Gallai hyn gyfuno cryfderau modelau gweithredu lleol a chanoledig. Rydym yn ceisio barn ar y ffordd orau o weithredu'r ardoll ymwelwyr arfaethedig ac a ddylai fod rôl i awdurdod canolog ei peidio.

Cwestiynau

  1. Beth yw'r ffordd orau o roi'r ardoll ymwelwyr arfaethedig ar waith a'i weinyddu?
    1. Ei roi ar waith a'i weinyddu'n gwbl lleol
    2. Ei roi ar waith a'i weinyddu'n gwbl ganoledig
    3. Cymysgedd o'i roi ar waith a'i weinyddu'n lleol ac yn ganoledig
  2. Beth fyddai manteision ac anfanteision pob opsiwn?
    1. Ei roi ar waith a'i weinyddu'n gwbl leol
    2. Ei roi ar waith a'i weinyddu'n gwbl ganoledig
    3. Cymysgedd o'i roi ar waith a'i weinyddu'n lleol ac yn ganoledig

Y Gymraeg

Cwestiynau

  1. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
    1. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?
    2. Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol?
    3. Sut y gellid lliniaru'r effeithiau negyddol?
  2. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r polisi arfaethedig ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  3. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol drwy'r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 13 Rhagfyr 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Troednodiadau

1. Digartrefedd ar Cyfraith Cymru

Er enghraifft, llety interim a ddarperir:

‘Pan fydd person yn cyflwyno fel person sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd i’r awdurdod lleol, mae’n bosibl bod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu llety interim tra’i fod yn ystyried cais person ac yn penderfynu pa ddyletswydd sydd ganddo, os o gwbl, mewn perthynas â’r person. Mae adran 68 o HWA 2014 yn darparu bod yn rhaid darparu llety interim os oes gan yr awdurdod lleol reswm i gredu bod ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety (isadran (2)).’