Ymwelodd yr Arglwydd Elis Thomas â bwyty Dylan’s yng Nghricieth yn ddiweddar i hyrwyddo bwyd a diod gorau Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
Yn ystod ei ymweliad, a drefnwyd dan nawdd Croeso Cymru: Bwyd a Diod Cymru, dywedodd y Gweinidog fod bwyd a thwristiaeth yn arbennig o bwysig yng Nghymru gan fod y ddau sector yn elfennau allweddol o economi Cymru, a bod Ffyniant i Bawb: y cynllun newydd ar gyfer yr economi, yn nodi bod bwyd a thwristiaeth yn sectorau sylfaen newydd yr economi ac yn asgwrn cefn yr economi leol mewn llawer o ardaloedd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas,
“Mae bwyd a diod Cymru yn rhan annatod o’r hyn y mae’r diwydiant twristiaeth yn ei gynnig yng Nghymru. Mae’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn gallu eu defnyddio i roi naws am le i ymwelwyr. Mae twristiaeth bwyd yn fodd i dynnu cryfderau cyrchfan leol at ei gilydd drwy greu perthynas rhwng y diwydiant lletygarwch ac arlwyo a chynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
Mae ymwelwyr am flasu bwyd a diod lleol a gwybod hanes eu tarddiad, p’un ai mewn café, bwyty, llety gwely a brecwast neu westy. Rydyn ni am floeddio’n hyderus am ein cynhyrchion a dweud y stori am eu siwrnai i’n platiau – hoffwn ni sicrhau bod ymwelwyr yn cael mwynhau blas go iawn ar Gymru a chysylltu Cymru â bwyd a diod rhagorol”.
2018 yw Blwyddyn y Môr yng Nghymru, felly roedd yr arddangosfa yn cynnwys gwybodaeth am fwyd môr a chynnyrch sydd â chysylltiad â’r môr, er mwyn rhoi syniadau i fusnesau twristiaeth ar sut i ddefnyddio’r thema hon i hybu eu cynhyrchion bwyd a diod yn ystod 2018.
Nod y digwyddiad oedd dod â chynhyrchwyr a busnesau twristiaeth a lletygarwch at ei gilydd er mwyn annog mwy o fusnesau i ddefnyddio bwyd a diod Cymru.
Dywedodd David Evans, Pennaeth Dylan’s:
“Roedden ni’n falch iawn o gael cynnal y digwyddiad bwyd a diod yn ein bwyty yng Nghricieth yn gynharach yr wythnos hon. Daeth dros 150 o ymwelwyr i’r digwyddiad ac roedd y staff i gyd wrth eu boddau’n gofalu amdanynt. Roedd yr amrywiaeth o gynhyrchion Cymreig, a’u hansawdd, wedi gwneud argraff fawr arnom. Mae Dylan’s wedi ymrwymo bob tro i hyrwyddo bwyd a diod gorau’r Gogledd, ac mae Blwyddyn y Môr yn rhoi cyfle gwych inni roi cyhoeddusrwydd i’r bwyd môr lleol a chynhyrchion sydd â chysylltiad â’r môr.”
Mae cyngor a chymorth i fusnesau ar y diwydiant bwyd yma (dolen allanol).